cymunedau yn gyntaf newyddlen -...

6
Help yn eich cymuned: Dysgu, Iechyd, Swyddi ac Arian Hydref 2014 Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN 1 SIOP DROS DRO YN AGOR YN SWYDDOGOL YM MAE COLWYN GYDA BORE COFFI MACMILLAN Lansiwyd y Siop Dros Dro ar 24 Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn ar ddydd Gwener 26 Medi, gyda Maer Bae Colwyn, Y Cynghorydd Val Smith yn agor y siop yn swyddogol. Mae’r siop, sy’n cael ei rhedeg fel menter ar y cyd rhwng Prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, Cymunedau yn Gyntaf Conwy a Gwasanaethau Busnes Affinity, yn rhoi cyfle i bobl fasnach brofi eu syniadau manwerthu gyda’r gost ariannol lleiaf posibl. Mae 24 Ffordd yr Orsaf eisoes wedi helpu nifer o fusnesau fasnach brofi, gan gynnwys Chrissy Smith sy’n ddylunydd gweuwaith rhyngwladol ar gyfer cwmni gweuwaith adnabyddus, ac sydd bellach yn gwerthu gweuwaith a gwaith gwehyddu â llaw ei hun yn y siop dros dro. Fel rhan o’r dathliadau agoriadol cynhaliwyd bore coffi Macmillan a gododd £171.87 ar gyfer yr elusen cymorth canser. Oes gennych ddiddordeb yn y cyfle i fanwerthu yng nghanol tref gyda’r risg ariannol lleiaf posibl? Masnach brofi am 2-12 wythnos (a hyd yn oed hirach yn dibynnu ar ein rhestr aros). Mae cymorth busnes a chyngor ar gael hefyd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd eisiau masnach brofi busnes neu gynnyrch newydd. Ydych chi ar hyn o bryd yn gwerthu ar-lein ac yn edrych i gael presenoldeb ar y stryd fawr? Cysylltwch â ni i gael eich ffurflen gais heddiw. E-bost [email protected] neu cysylltwch â’r Tîm Cymunedau Ffyniannus ar 01492 338914.

Upload: dinhtuyen

Post on 26-Apr-2018

218 views

Category:

Documents


1 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN - spp.conwy.gov.ukspp.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/622/comm_1st_newslettes...Apwyntiadau CV Un i Un - ffoniwch Jen ar 01492 338914 Os hoffech

Help yn eich cymuned: Dysgu, Iechyd, Swyddi ac ArianHydref 2014

Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN

1

SIOP DROS DRO YN AGOR YN SWYDDOGOL YM MAE COLWYN GYDA BORE COFFI MACMILLANLansiwyd y Siop Dros Dro ar 24 Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn ar ddydd Gwener 26 Medi, gyda Maer Bae Colwyn, Y Cynghorydd Val Smith yn agor y siop yn swyddogol.

Mae’r siop, sy’n cael ei rhedeg fel menter ar y cyd rhwng Prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, Cymunedau yn Gyntaf Conwy a Gwasanaethau Busnes Affinity, yn rhoi cyfle i bobl fasnach brofi eu syniadau manwerthu gyda’r gost ariannol lleiaf posibl.

Mae 24 Ffordd yr Orsaf eisoes wedi helpu nifer o fusnesau fasnach brofi, gan gynnwys Chrissy Smith sy’n ddylunydd gweuwaith rhyngwladol ar gyfer cwmni gweuwaith adnabyddus, ac sydd bellach yn gwerthu gweuwaith a gwaith gwehyddu â llaw ei hun yn y siop dros dro.

Fel rhan o’r dathliadau agoriadol cynhaliwyd bore coffi Macmillan a gododd £171.87 ar gyfer yr elusen cymorth canser.

Oes gennych ddiddordeb yn y cyfle i fanwerthu yng nghanol tref gyda’r risg ariannol lleiaf posibl?

Masnach brofi am 2-12 wythnos (a hyd yn oed hirach yn dibynnu ar ein rhestr aros). Mae cymorth busnes a chyngor ar gael hefyd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd eisiau masnach brofi busnes neu gynnyrch newydd. Ydych chi ar hyn o bryd yn gwerthu ar-lein ac yn edrych i gael presenoldeb ar y stryd fawr? Cysylltwch â ni i gael eich ffurflen gais heddiw.

E-bost [email protected] neu cysylltwch â’r Tîm Cymunedau Ffyniannus ar 01492 338914.

Page 2: Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN - spp.conwy.gov.ukspp.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/622/comm_1st_newslettes...Apwyntiadau CV Un i Un - ffoniwch Jen ar 01492 338914 Os hoffech

2

Yr Union Swydd - Os ydych yn chwilio am waith, mae cymorth wrth law!Rydym wedi bod yn cynnig sesiynau ‘Yr Union Swydd’ ledled ardal Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Conwy. Gallwn eich helpu i lunio CVs o ansawdd da, cynorthwyo gyda cheisiadau am swyddi a sgiliau cyfweld a chefnogi pobl i gofrestru ar y system ‘Universal Jobmatch’.

Dewch o hyd i ni yn:Llandudno - Canolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn, bob dydd Iau 10am-3pmBae Colwyn – Sesiwn galw heibio ‘Universal Jobmatch’, bob dydd Mercher 3.30pm - 5pmBae Cinmel - Clwb Swyddi, bob dydd Llun yng Nhŷ Cymunedol Bae Cinmel 3pm – 5pm

Apwyntiadau CV Un i Un - ffoniwch Jen ar 01492 338914

Os hoffech fynychu cwrs anffurfiol ar ‘Sut i ddefnyddio ‘Universal Jobmatch’ yn fwy effeithiol’ cysylltwch â ni er mwyn i ni allu archebu lle i chi ar un o’n cyrsiau sydd ar y gweill mewn lleoliad cyfagosYr Union Fusnes – Cymorth i’ch helpu i ddatblygu eich busnes Gallwn eich helpu gyda’ch menter newydd! Dewch i gael sgwrs anffurfi-ol yn ein sesiynau Menter ‘Yr Union Fusnes’ misol i gael gwybod beth sydd ar gael. Rydym bellach yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Busnes Affinity yn cynnig cymorth busnes 1-1 a rhaglen dreigl o gyrsiau anffurfiol i’ch helpu i sefydlu neu wella eich busnes. • Bae Colwyn - Clwb Menter, dydd Mawrth cyntaf y mis yn y Siop Dros Dro, 24 Ffordd yr Orsaf Bae Colwyn. 1pm - 3pm• Llandudno – Clwb Menter, trydydd dydd Llun o’r mis yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Tŷ Hapus 9.30 - 11.30am

GWNEUD Y GORAU O’R HYN SYDD GENNYCH A THRWSIO V GWARIO YNG NGHANOLFAN GYMUNEDOL TAN LAN.

YMUNWCH Â NI AM GOFFI A’R CYFLE I DDYSGU CREFFTAU NEWYDD A SUT I WNEUD I’CH ARIAN FYND YMHELLACH! Uwchgylchu hen eitemau a dodrefn! Byddwch yn greadigol ac arbed arian! Darperir yr holl ddeunyddiau ac mae croeso i bawb. Bydd help a chyngor ariannol i Gynilo’r Ceiniogau ar gael hefyd.Ffoniwch y Tîm Ffyniannus ar 01492 338914.

Bydd teledu Samsung 40 LED Smart 3D yn eich siop taliad wythnosol lleol yn costio £1,381.75 i brynu ar unwaith, neu ad-daliad yn gyfanswm o £2,652, £17 yr wythnos am 156 wythnos os byddwch yn tynnu cytundeb credyd allan*

Os gallwch chi fforddio prynu’r eitem hon yn syth o archfarchnad electronig lleol bydd yn costio £599. Fel arall, gallech wneud cais am fenthyciad undeb credyd i dalu’r gost. Mae hyn yn gweithio allan ar gyfanswm ad-dalu o £689.04, £17 yr wythnos am 41 wythnos!

Arbediad siopwr craff o dros £1962*Mae’n cynnwys yswiriant 3 blynedd gorfodol gallai hwn gael ei ychwanegu at eich pryniant archfarchnad electronig am £6.50 y mis neu £234 am 3 blynedd.Prisiau’n gywir ar 28 Awst 2014

storfa taliad wythnosol

archfarchnad ElEctronig

cyfanswm y gost prynu

llwyr

cyfanswm y gost mEwn taliadau

wythnosol

£1381.75 £2652.00

£599.00 £689.04

Awgrymiadau i

allwch chi ei fforddio? Ewch i www.moneymadeclearwales.org.uk am gyngor a theclynnau cyllido gwych

stopiwch a meddyliwch! ydych chi angen yr eitem

Am fanylion pellach am eich Undeb Credyd lleol, neu i wneud cais ar-lein ewch i www.northwalescu.co.uk neu cysylltwch 0333 2000 601

Os ydych mewn dyled ac yr hoffech help drwy

Cyngor ar Bopeth cysylltwch â Llinell Gyngor

cymru-0844 477 2020 neu Llinell ffôn Ateb

01745 828708.

os ydych yn talu’n wythnosol neu’n benthyca faint mae’n mynd i gostio i gyd? Cofiwch gynnwys yr holl daliadau!

allech chi ‘uwchraddio’ drwy gael eitem ail law? Ewch i ganolfan adferiad lleol a chael bargen

cael gwybod mwycael gwybod mwy

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am Gyfri’r Ceiniogau’... gwneud y gorau o’ch arian a chyllidebu mewn ffyrdd hwyliog a chreadigol cysylltwch â Chymunedau yn Gyntaf ar 01492 338914 neu anfonwch e-bost at [email protected]

Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg mewn cytundeb ariannol gallwch gwyno trwy fynd i www.financial-ombudsman.org.uk O linell dir ffoniwch 0800 023 4 567 neu 0300 123 9123 o ffôn symudol

Sc

meddyliwch cyn

prynu neu fenthygByddwch yn super siopwr craff...

Scsiopwch o gwmpas... allwch chi ei

gael yn rhatach o rywle arall?

craffSiopwrcraffSiopwr

Byddwch yn super siopwr craff...

Page 3: Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN - spp.conwy.gov.ukspp.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/622/comm_1st_newslettes...Apwyntiadau CV Un i Un - ffoniwch Jen ar 01492 338914 Os hoffech

3

Cynllun Grantiau Cymunedol yn agored nawr

Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol mis o hyd a gynhelir ledled Cymru ym mis Mai bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn.Mae Gwanwyn yn dathlu oedran hŷn fel cyfle i adnewyddu, i dyfu a bod yn greadigol. Ein nod yw cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gymryd mwy o ran yn y celfyddydau, boed yn gelfyddydau gweledol, drama, adrodd straeon, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffotograffiaeth, dawns neu ffilm. Mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i bobl hŷn gael eu hysbrydoli, i ymdrwytho ac i gymryd rhan.

Mae’r ŵyl yn gweithredu cynllun grantiau cymunedol sy’n cynnig symiau hyd at £500 i alluogi grwpiau ledled Cymru i drefnu digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau, ar gyfer yr ŵyl yn 2015. Mae pob mathau o grwpiau’n gallu cymryd rhan (corau, cartrefi gofal, grwpiau cymunedol, grwpiau celfyddydol, dawns a theatr, clybiau ysgrifenwyr). Mae’r cynllun yn gallu cefnogi amrywiaeth o arddangosfeydd, digwyddiadau a pherfformiadau ledled y wlad. Yn 2013, bu dros 65 o grwpiau’n cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ymwneud â mwy na 9,000 o bobl.Gwahoddir ceisiadau nawr, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 5 Rhagfyr 2014.

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a phecyn gwybodaeth gyda manylion sut i wneud cais o wefan Gwanwyn: http://gwanwyn.org.uk/; neu gallwch ofyn am becyn drwy’r post – ffoniwch Age Cymru ar 029 20 431 555.

CYNLLUNIAU BWYD CYDWEITHREDOL CYMUNEDOL

Mae Cymunedau yn Gyntaf Conwy yn falch o gefnogi’r fenter wych hon drwy helpu i godi ymwybyddiaeth o gynlluniau bwyd cydweithredol yn lleol, gan helpu sefydliadau cymunedol i recriwtio gwirfoddolwyr ac i sefydlu cysylltiadau â’u gweithwyr datblygu lleol.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda Karen Robertson, Gweithiwr Datblygu Bwyd Gogledd a Chanolbarth Cymru, i ddod â bwyd cost isel i’ch cymuned. Un o lwyddiannau nodedig yn ein hardal clwstwr lleol yw Cynllun Bwyd Cydweithredol Tŷ Hapus yn Llandudno sydd wedi mynd o nerth i nerth diolch i waith yr arweinydd gwirfoddol Jo Entwistle (heb anghofio ei cynorthwy-ydd ffyddlon sef ei gŵr Matt) a chefnogaeth gweinyddwr Canolfan Adnoddau Cymunedol Tŷ Hapus, Jayne Black. Un o elfennau allweddol eu llwyddiant yw’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan eu bod yn postio gwybodaeth yn rheolaidd ar dudalen Canolfan Adnoddau Cymunedol Tŷ Hapus ar Facebook (www.facebook.com/pages/Ty-Hapus-Community-Resource-Centre).

Mae’r cynllun bwyd cydweithredol wedi’r sefydlu ers haf 2013 ac mae bellach yn cyflenwi dewis eang o lysiau, cig a chynhyrchion becws. Mae archebion yn cael eu cymryd drwy’r wythnos a dosberthir y bagiau yn ystod amser cinio dydd Iau. Rydym hefyd wedi helpu canolfan gymunedol Tan Lan yn ddiweddar i sefydlu eu cynllun bwyd cydweithredol – mae hi’n ddyddiau cynnar ond gobeithio, fel gyda Thŷ Hapus, y bydd yn datblygu i fod yn brosiect llwyddiannus sy’n cynnig arbedion mawr i drigolion Hen Golwyn.

Sut i archebu

Yn syml mae cwsmeriaid yn mynd draw i’r cwmni bwyd cydweithredol o’u dewis ar yr amser/diwrnod a bennwyd ac yn rhoi eu harcheb wythnos o flaen llaw i’r gwirfoddolwr sy’n rhedeg y cynllun bwyd cydweithredol. Maent yn gallu archebu cymaint neu cyn lleied o fagiau ag y dymunant ac mae’n rhaid talu am eu bagiau wrth archebu. Yna maent yn dychwelyd yr wythnos ganlynol i gasglu eu bagiau ac o bosib yn archebu ar gyfer yr wythnos ganlynol ar yr un pryd os ydynt yn dymuno. Gall prisiau bag amrywio yn ôl cyflenwr, ardal a maint y bag, gyda bag o ffrwythau, llysiau neu salad ar gyfartaledd yn costio oddeutu £2.50 - £4.00Gallwch chwilio am eich cynllun bwyd cydweithredol agosaf fan hyn: http://www.foodcoopswales.org.uk/find_a_coop.php

Page 4: Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN - spp.conwy.gov.ukspp.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/622/comm_1st_newslettes...Apwyntiadau CV Un i Un - ffoniwch Jen ar 01492 338914 Os hoffech

4

‘Up your Arts’ - Cefnogaeth busnes i artistiaid a chrefftwyr

Mae ‘Up your Arts’ yn ôl oherwydd galw mawr ac yn fwy ac yn well nag erioed!Mae Cymunedau yn Gyntaf a Cherddoriaeth a Ffilm TAPE wedi bod yn cefnogi artistiaid, crefftwyr a grwpiau creadigol ledled clwstwr Conwy ers cryn amser gyda phrosiect celfyddydol cydweithredol llwyddiannus. Sefydlwyd ‘Up your Arts’o’r angen a dynnwyd sylw ato gan artistiaid a gwneuthurwyr lleol am gymorth wrth archwilio a datblygu eu sgiliau creadigol ac i droi hobi yn fusnes a chreu dyfodol cynaliadwy wrth wneud hynny ar gyfer eu hunain ac i wneud y mwyaf o incwm. Rydym yn darparu gweithdai anffurfiol rhagorol sy’n canolbwyntio ar gelf ac yn ymwneud â chynnyrch tynnu lluniau a chyflwyno cynnyrch i’r farchnad ar-lein, astudiaethau achos o fusnesau creadigol sy’n bodoli eisoes a chyngor ar gyllid a datblygu gan sefydliadau celfyddydol penodol yng Nghonwy.

Mae presenoldeb gweithdy blaenorol wedi bod yn dda ac mae’r adborth wedi bod yn wych ac yn gadarnhaol iawn ac mai un o’r prif nodweddion oedd creu

canolbwynt oedd wir ei angen i bobl sy’n symud yn yr un cylchoedd i gwrdd a chefnogi ei gilydd a rhoi hwb i’w hyder i ddatblygu eu sgiliau creadigol a mentrau.

Mae adborth yn cynnwys: “Ysbrydoli, rhwydweithio, annog, gorwelion newydd” “Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus am fy ngwaith a fy ngallu i hyrwyddo fy hun.” “Y peth gorau i mi ei wneud ers amser maith” “Wedi bod yn gyfle i gwrdd â llawer o bobl o’r un cefndir ac i ddysgu pethau newydd”Eleni mae gennym modiwl dylunio gweuwaith ychwanegol gyda’r artist lleol Chrissy Smith sydd yn ymateb i’r angen yn lleol. Rydym nawr yn cynnig sesiynau ffotograffiaeth mwy cynhwysfawr hefyd. Mae cyfle ychwanegol eleni i bobl rhedeg gweithdy yng Ngŵyl Cyfnos y Nadolig yng nghanol tref Bae Colwyn hefyd. Mae lleoedd yn llenwi’n gyflym, felly cysylltwch â ni heddiw i gadw eich lle. Ffôn: 01492 575550 neu e-bost [email protected]

I ddod yn fuan yn LlandudnoDiwrnod Blasu Sgiliau Sylfaenol Dewch draw i ddysgu sut y gall pawb elwa o wella ein Saesneg a Mathemateg. Gwella sgiliau atalnodi a chyfathrebu a chynyddu hyder mewn mathemateg a sgiliau cyllidebu. Dyddiad a lleoliad i’w gadarnhau, am fwy o wybodaeth ar y diwrnod blasu neu ar unrhyw un o’r cyrsiau eraill, cysylltwch â Mary ar 01492 531996.

Page 5: Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN - spp.conwy.gov.ukspp.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/622/comm_1st_newslettes...Apwyntiadau CV Un i Un - ffoniwch Jen ar 01492 338914 Os hoffech

MICROSGLODI EICH CI AM DDIM!Dim apwyntiad - dewch â’ch ci draw ar y dydd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:Laura yn yr Ymddiriedolaeth Cŵn ar 07443 981713

neu Louise yn yr Ymddiriedolaeth Cŵn ar 07443 981793Cyfraddau ffôn symudol yn berthnasol. Gallwn eich ffonio yn ôl.

Tan y Marian Community Centre,Swn y Don, Old Colwyn,Colwyn Bay. LL29 9LLThurs 27th Nov 11.30am – 3.30pm

Farm and Pet Place, Rhuddlan Road,Abergele. LL22 7HZFri 24th & Sat 25th Oct11am – 3.30pm

Ty Llywelyn, Ffordd YrOrsedd, Llandudno. LL30 1LAFri 31st Oct 11am – 3.30pm

CYRSIAU THEMÂU IECHYD AR Y GWEILLMaterion yn ymwneud â phwysau - Colli pwysau a rhaglen ymarfer corff Dydd Mercher yng nghanolfan Dewi Sant ym Mhensarn LL22 7RG. Yn dechrau ar ddydd Mercher 22 Hydref am 9 wythnos o 1pm i 3pm.

Dydd Iau yng nghanolfan Cerddoriaeth a Ffilm TAPE ym Mae Colwyn LL29 9SD. Yn dechrau ar ddydd Mercher 16 Hydref am 10 wythnos o 9.30am i 11.30am.

Dewch i Goginio – Sgiliau coginio a maeth Dydd Mawrth yng Nghanolfan Ieuenctid Douglas Road, Bae Colwyn LL29 7PE. Sesiwn y Bore: 9.30am tan 12.30am, Sesiwn y Prynhawn: 1.00pm tan 4.00pm

Bydd y ddwy sesiwn yn rhedeg am 7 wythnos.Bydd trigolion ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn cael y flaenoriaeth wrth neilltuo llefydd.

Cwrs Diogelwch Bwyd Lefel 2Dydd Gwener 28 Tachwedd yn yr Interchange, Hen Golwyn, 9.30am tan 4pm. Yn agored i wirfoddolwyr a phartneriaid sy’n gweithio ar y cwrs coginio a maeth Dewch i Goginio

Page 6: Cymunedau yn Gyntaf NEWYDDLEN - spp.conwy.gov.ukspp.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/622/comm_1st_newslettes...Apwyntiadau CV Un i Un - ffoniwch Jen ar 01492 338914 Os hoffech

6

BEICIO DROS YR HAF YN LLWYDDIANT YSGUBOL!Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y Prosiect Beicio dros yr Haf eleni. Cymerodd dros 40 o bobl ran yn y sesiynau wythnosol a gynhaliwyd yn Llandudno, Bae Colwyn a Phensarn. Cafodd y teithiau beicio eu mynychu gan deuluoedd ac unigolion o bob oed a gallu. Roedd y teithiau yn mynd yn hirach wrth i’r sesiynau fynd rhagddynt ac roedd cyfle hefyd i bobl ddysgu sgiliau beicio, sut i gynnal a chadw eu beiciau a gwybodaeth am yr amgylchedd.

Roedd y cynnydd yn lefel ffitrwydd a hyder pawb o wythnos un i wythnos chwech wedi gwneud y sesiynau yn llwyddiant ysgubol. Fel dilyniant i’r sesiynau yma, rydym ni wedi cynnal diwrnod cynnal a chadw ac wedi trwsio 15 o feiciau cymunedol nad oeddent yn cael eu defnyddio. Mae’r beiciau yma wedi eu rhoi yn ôl i’w perchnogion neu wedi eu rhoi i gyfranogwyr eraill gael eu defnyddio.

Diolch yn fawr i 1mtb1 am ddarparu’r sesiynau a’r beiciau a diolch hefyd i Chris Rooney am ei gefnogaeth werthfawr yn ystod y sesiynau. Welwn ni chi i gyd eto’r flwyddyn nesaf - cadwch eich llygaid ar agor am fwy o newyddion beicio cyn bo hir!

NADOLIG YN EICH CYMUNEDNadolig HapusCanolfan Gymuned Tŷ HapusFfordd Penrhyn, Llandudno, LL30 1HB

Coffi, crefftau a mins peisDydd Gwener, 12 Rhagfyr gan ddechrau am 10am

Gŵyl Nadolig MIN NOSCanol Tref Bae Colwyn

Siopa hwyr, coffi, crefftau a mins peis.

Dechrau mis Rhagfyr. Manylion i’w cadarnhau.