coleg catholig chweched dosbarth dewi sant st david’s catholic … · 2015. 2. 27. · economeg a...

8
Ble maen nhw nawr? Where are they now? Rydym wrth ein boddau clywed beth mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud ar ôl gadael y Coleg. Isod mae ambell i stori. Fy enw i yw Jimmy a wnes i fynychu Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Ar ôl cwblhau fy TGAU wnes i benderfynu astudio fy Lefelau A yng Ngholeg Dewi Sant. Wnes i roi cynnig ar ambell i sesiwn flasu ym mlwyddyn 11 a hoffais y dull dysgu ac amgylchedd y Coleg. Wnaeth rhan fwyaf o fy ffrindiau dod yma i Goleg Dewi Sant, ond roedd cyfle i mi gwrdd â llawer o bobl newydd hefyd. Gwnaeth y Coleg gwneud yn siŵr fy mod yn gallu cael mynediad at fy holl wersi a’r ffreutur, sy’n bwysig pan rydych yn defnyddio cadair olwyn. Cefais fy nghefnogi hefyd gan y Ganolfan Cefnogaeth Dysgu ac roedd y staff yn barod i helpu os oeddwn ei angen ar bob amser. Roeddwn yn gallu astudio ar gyfer yr arholiad Cambridge Pre-U fel rhan o’r Rhaglen Anrhydedd, cefais y cyfle i dreulio diwrnod a noson ym Mhrifysgol Rhydychen ar gyfer diwrnod agored. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ddinas a’r cwrs ac felly penderfynais wneud cais. Ges i lawer o gymorth i gwblhau fy natganiad personol a wnaeth fy nhiwtoriaid helpu mi i baratoi ar gyfer fy nghyfweliad. Diolch i’r cymorth a gefais, roeddwn yn llwyddiannus yn fy Lefelau A, ac wrth ymgeisio i Rydychen ac yr wyf yn awr yn astudio Economeg a Rheoli yng Ngholeg Balliol, Rhydychen. Diolch yn fawr i’r holl athrawon a thiwtoriaid yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi a Choleg Dewi Sant a wnaeth fy helpu i gyflawni hyn. - Jimmy Webster, dosbarth 2014 Roedd Coleg Dewi Sant yn apelio i mi oherwydd maent yn annog eu myfyrwyr i feddwl yn annibynnol, yn debyg i sut mae angen i fyfyrwyr meddwl yn y brifysgol, sy’n gwneud y coleg yn bont ddelfrydol rhwng yr ysgol ac addysg uwch. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael y cyfle i fod yn rhan o’r Rhaglen Anrhydedd sydd wedi cyfrannu’n fawr i fy natblygiad yng Ngholeg Dewi Sant. Mae’r rhaglen wedi fy ngalluogi i brofi pynciau diddorol ymhell ymlaen na’r cwricwlwm Lefel A ac hefyd wedi gwella fy hyder a sgiliau cyfathrebu trwy sesiynau dadlau diddorol dros ben. Wnaeth yr athrawon a staff yng Ngholeg Dewi Sant fy ngwthio i fod y gorau gallaf yn fy ngwaith dosbarth, gwaith cwrs ac arholiadau a wnaethant fy helpu i lwyddo gyda’r graddau oedd angen i fynd i fy newis gyntaf o brifysgolion. Ar hyn o bryd rwyf yn astudio BSc Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ar daith i Ddwyrain Affrica fel gweithiwr prosiect gyda Phartneriaeth Addysg Affrica (ERAfrica), elusen o’r DU sy’n gweithio i wella ansawdd addysg i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yng Nghenia ac Uganda. Yn y dyfodol, hoffwn ddefnyddio’r wybodaeth a phrofiad yr wyf wedi derbyn yn ystod fy addysg i helpu fy ngwaith mewn datblygiad economaidd cynaliadwy mewn gwledydd llai datblygedig. - Olivia Miller, Dosbarth 2014 Wnes i ddewis Coleg Dewi Sant ar ôl Ysgol Mary Immaculate gan fy mod i wedi ymweld â’r coleg pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd. Daeth fy chwaer yma hefyd, a wnaeth hi fwynhau yn fawr iawn. Rwyf yn gweithio ar hyn o bryd fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd mewn cartref gofal sydd yn anodd, ond yn swydd wych. Mae’r coleg wedi fy nghefnogi fel myfyriwr, ond hefyd ers i mi adael y coleg. Rwyf yn ymgeisio i’r brifysgol ar hyn o bryd ac mae fy hen diwtoriaid yn fy helpu trwy ddarllen fy natganiad personol a fy nghais UCAS. Y peth wnes i fwynhau fwyaf am Goleg Dewi Sant oedd ymuno a Grŵp ‘Lourdes’. Bydden yn cychwyn y daith i Lourdes bob blwyddyn heb nabod ein gilydd braidd o gwbl, ond yn ystod ein amser yna yn gweithio fel tîm i gofalu am yr henoed a’r anabl yn treulio gymaint o amser gyda’n gilydd, ar y daith adref roeddwn ni fel teulu mawr. Ym mis Medi hoffwn fynd i’r brifysgol i hyfforddi i fod yn nyrs. - Sarah Carpenter, Dosbarth 2014 Os hoffech gadw mewn cysylltiad gyda ni ar ôl cwblhau eich cyrsiau, plîs cysylltwch â ni ar ymholiadau@ colegdewisant.ac.uk neu trwy ein gwefan. Winter 2014/15 Gaeaf 2014/15 DYDDIADAU PWYSIG IMPORTANT DATES Mawrth 2il– 6ed Wythnos Cymraeg Mawrth 7fed Sesiynau Arweiniad Bore Agored (ewch i’n gwefan) Mawrth 30ain – Ebrill 10fed Gwyliau Pasg Mai 11eg Arholiadau’r Haf yn dechrau Cyfnod Adolygu UG yn dechrau Mai 25ain Gŵyl y Banc Cyfnod Adolygu Safon Uwch yn dechrau Mai 25ain – 29ain Hanner Tymor Mai Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College

Upload: others

Post on 07-Mar-2021

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Ble maen nhw nawr?Where are they now?Rydym wrth ein boddau clywed beth mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud ar ôl gadael y Coleg. Isod mae ambell i stori.

Fy enw i yw Jimmy a wnes i fynychu Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Ar ôl cwblhau fy TGAU wnes i benderfynu astudio fy Lefelau A yng Ngholeg Dewi Sant. Wnes i roi cynnig ar ambell i sesiwn flasu ym mlwyddyn 11 a hoffais y dull dysgu ac amgylchedd y Coleg.

Wnaeth rhan fwyaf o fy ffrindiau dod yma i Goleg Dewi Sant, ond roedd cyfle i mi gwrdd â llawer o bobl newydd hefyd. Gwnaeth y Coleg gwneud yn siŵr fy mod yn gallu cael

mynediad at fy holl wersi a’r ffreutur, sy’n bwysig pan rydych yn defnyddio cadair olwyn. Cefais fy nghefnogi hefyd gan y Ganolfan Cefnogaeth Dysgu ac roedd y staff yn barod i helpu os oeddwn ei angen ar bob amser.

Roeddwn yn gallu astudio ar gyfer yr arholiad Cambridge Pre-U fel rhan o’r Rhaglen Anrhydedd, cefais y cyfle i dreulio diwrnod a noson ym Mhrifysgol Rhydychen ar gyfer diwrnod agored. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ddinas a’r cwrs ac felly penderfynais wneud cais. Ges i lawer o gymorth i gwblhau fy natganiad personol a wnaeth fy nhiwtoriaid helpu mi i baratoi ar gyfer fy nghyfweliad. Diolch i’r cymorth a gefais, roeddwn yn llwyddiannus yn fy Lefelau A, ac wrth ymgeisio i Rydychen ac yr wyf yn awr yn astudio Economeg a Rheoli yng Ngholeg Balliol, Rhydychen.

Diolch yn fawr i’r holl athrawon a thiwtoriaid yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi a Choleg Dewi Sant a wnaeth fy helpu i gyflawni hyn.

- Jimmy Webster, dosbarth 2014

Roedd Coleg Dewi Sant yn apelio i mi oherwydd maent yn annog eu myfyrwyr i feddwl yn annibynnol, yn debyg i sut mae angen i fyfyrwyr meddwl yn y brifysgol,

sy’n gwneud y coleg yn bont ddelfrydol rhwng yr ysgol ac addysg uwch.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael y cyfle i fod yn rhan o’r Rhaglen Anrhydedd sydd wedi cyfrannu’n fawr i fy natblygiad yng Ngholeg Dewi Sant. Mae’r rhaglen wedi fy ngalluogi i brofi pynciau diddorol ymhell ymlaen na’r cwricwlwm Lefel A ac hefyd wedi gwella fy hyder a sgiliau cyfathrebu trwy sesiynau dadlau diddorol dros ben.

Wnaeth yr athrawon a staff yng Ngholeg Dewi Sant fy ngwthio i fod y gorau gallaf yn fy ngwaith dosbarth, gwaith cwrs ac arholiadau a wnaethant fy helpu i lwyddo gyda’r graddau oedd angen i fynd i fy newis gyntaf o brifysgolion.

Ar hyn o bryd rwyf yn astudio BSc Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ar daith i Ddwyrain Affrica fel gweithiwr prosiect gyda Phartneriaeth Addysg Affrica (ERAfrica), elusen o’r DU sy’n gweithio i wella ansawdd addysg i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yng Nghenia ac Uganda. Yn y dyfodol, hoffwn ddefnyddio’r wybodaeth a phrofiad yr wyf wedi derbyn yn ystod fy addysg i helpu fy ngwaith mewn datblygiad economaidd cynaliadwy mewn gwledydd llai datblygedig.

- Olivia Miller, Dosbarth 2014

Wnes i ddewis Coleg Dewi Sant ar ôl Ysgol Mary Immaculate gan fy mod i wedi ymweld â’r coleg pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd. Daeth fy chwaer yma hefyd, a wnaeth hi fwynhau yn fawr iawn.

Rwyf yn gweithio ar hyn o bryd fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd mewn cartref gofal sydd yn anodd, ond yn swydd wych. Mae’r coleg wedi fy nghefnogi fel myfyriwr, ond hefyd ers i mi adael y coleg. Rwyf yn ymgeisio i’r brifysgol

ar hyn o bryd ac mae fy hen diwtoriaid yn fy helpu trwy ddarllen fy natganiad personol a fy nghais UCAS.

Y peth wnes i fwynhau fwyaf am Goleg Dewi Sant oedd ymuno a Grŵp ‘Lourdes’. Bydden yn cychwyn y daith i Lourdes bob blwyddyn heb nabod ein gilydd braidd o gwbl, ond yn ystod ein amser yna yn gweithio fel tîm i gofalu am yr henoed a’r anabl yn treulio gymaint o amser gyda’n gilydd, ar y daith adref roeddwn ni fel teulu mawr.

Ym mis Medi hoffwn fynd i’r brifysgol i hyfforddi i fod yn nyrs.

- Sarah Carpenter,

Dosbarth 2014

Os hoffech gadw mewn cysylltiad gyda ni ar ôl cwblhau eich cyrsiau, plîs cysylltwch â ni ar [email protected] neu trwy ein gwefan.

Winter 2014/15Gaeaf 2014/15

DYDDIADAU PWYSIGIMPORTANT DATESMawrth 2il– 6edWythnos Cymraeg

Mawrth 7fed Sesiynau Arweiniad Bore Agored (ewch i’n gwefan)

Mawrth 30ain – Ebrill 10fedGwyliau Pasg

Mai 11egArholiadau’r Haf yn dechrau Cyfnod Adolygu UG yn dechrau

Mai 25ainGŵyl y BancCyfnod Adolygu Safon Uwch yn dechrau

Mai 25ain – 29ainHanner Tymor Mai

Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College

Page 2: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Neges Y Pennaeth Principal’s Message Croeso i bennod Gaeaf 2015 o Gylchlythyr Coleg Dewi Sant. Rwyf yn falch i rannu llwyddiant ein myfyrwyr, ac yn gobeithio y byddech yn mwynhau eu darllen.

Mae’r bennod yma yn amlygu rhai o’r gweithgareddau cyffroes sydd wedi cymryd lle ers dechrau’r flwyddyn academaidd, yn ogystal ag amlinellu ambell i ddigwyddiad sydd i ddod. Yn ystod y tymor, mae’r myfyrwyr wedi rhagori ar brofiad gwaith, yn ystod heriau busnes, wrth gynrychioli’r Coleg gar deithiau ac ymweliadau, trwy berfformio’n gelfyddydol a’u campau chwaraeon, a llawer mwy.

Hoffwn hefyd diolch i bob myfyriwr, rhiant a gwarchodwr am eu cefnogaeth cyson i’r Coleg. Mae’n ddangos yr holl gwaith caled mae pawb sy’n gysylltiedig i Goleg Dewi Sant yn gwneud, ei fod yn parhau i dyfu, gwella a parhau i fod yn coleg chweched dosbarth poblogaidd.

Mark LeighfieldPennaeth

Sialens Cemeg Caergrawnt Cambridge Chemistry ChallengeLlongyfarchiadau mawr i’r 8 o fyfyrwyr o flwyddyn 12 wnaeth ceisio Sialens Cemeg Caergrawnt. Mae’r papur 90 munud o hyd yn cynnwys cwestiynau sydd llawer uwch na’r safon UG arferol ac rydym yn ymhyfrydu fod myfyrwyr, yn ffres o’r arholiadau UG, yn barod i eistedd y papur yma. Rhaid sôn yn arbennig am Amber Martin a Luke Morgan sydd wedi sicrhau sgôr wnaeth ennill y Wobr Efydd.

Diwrnod Cemeg Prifysgol De Cymru University of South Wales Chemistry DayFel rhan o’r fenter newydd, wnaeth grŵp bach o fyfyrwyr UG mynychu Prifysgol De Cymru ar gyfer digwyddiad o’r enw ‘Cemeg UG i Safon Uwch’ ar ddiwedd tymor yr haf. Caiff y myfyrwyr daith o amgylch yr adran Cemeg gyda’r cyfleusterau dadansoddol o’r radd flaenaf, yn ogystal ag ymgymryd â gweithgareddau ymarferol organig yn y labordai dysgu.

Archwiliwyd i elfennau o’r maes llafur CH4 gan gynnwys synthesis o esterau, a ddefnyddir yn gyffredin mewn blasau a phersawrau, yn ogystal a polyester. Rhoddir gwobr i’r myfyrwyr wnaeth llwyddo i greu’r ffibrau polymer hiraf!

Diolch eto i Brifysgol De Cymru am gynnal y digwyddiad yma, edrychwn ymlaen at gydweithio eto yn y dyfodol.

Ysgol Haf i’r Ieithoedd Languages Summer School Daeth myfyrwyr blwyddyn 8 a blwyddyn 10 o ysgolion St Teilo, St Illtyd, Mary Immaculate a Corpus Christi i Goleg Dewi Sant ym mis Gorffennaf ar gyfer Ysgol Haf i’r Ieithoedd.

Roedd yr Ysgol Haf, wedi’i drefnu ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd, yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a oedd y seiliedig ar ieithoedd i godi diddordeb y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol ac i ddewis cwrs iaith ar gyfer TGAU, Safon

Uwch ac ymhellach. Roedd sesiynau blasu ar gael o Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg i Bortiwgaleg, Eidaleg a llawer mwy. Wnaeth y diwrnodau hefyd cynnwys cyflwyniadau gan benaethiaid busnesau am sut mae ieithoedd yn hanfodol yn y farchnad gwaith rhyngwladol. Wrth dargedu pobl ifanc cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniadau pynciau TGAU a Lefel A rydym yn rhoi blas ar ieithoedd mae’n bosib nad ydynt wedi gweld o’r blaen ond hefyd yn rhoi’r wybodaeth iddynt am bwysigrwydd fod yn aml-ieithog yn y byd cyfoes.

Dywedodd Chloe Cummins, disgybl blwyddyn 8 o Ysgol Uwchradd Gatholig Mary Immaculate: “Mae heddiw wedi dangos i ni sut gall dysgu iaith gwella ein gyrfaoedd - rydych yn fwy tebygol o gael gyrfa well os ydych yn gwybod iaith ychwanegol.”

Dywedodd Mrs Hilary Griffiths, Pennaeth Cynorthwyol: “I’r myfyrwyr ifanc mae’r digwyddiad yn un hwylus a chyffroes er bod y ffocws ar ddysgu gyda neges ddifrifol. Mae’r digwyddiad wedi llwyddo yma yng Ngholeg Dewi Sant a hoffai’r coleg diolch i’r holl ymwelwyr a siaradwyd gwnaeth mynychu’r cwrs. Hoffwn ddiolch yn arbennig i GILT Cymru llysgenhadon myfyrwyr wnaeth helpu i sicrhau fod yr Ysgol Haf wedi rhedeg yn esmwyth. Da iawn pawb!”

Ymgyrch Plentyn y Nadolig Operation Christmas ChildDangosir y myfyrwyr eu natur elusennol y Nadolig yma trwy roi bocs esgidiau llawn anrhegion i Ymgyrch Plentyn y Nadolig. Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, wnaeth myfyrwyr Coleg Dewi Sant rhoi dros 75 o focsys esgidiau llawn teganau a dillad. Mae Ymgyrch Plentyn y Nadolig, sydd wedi’i drefnu gan Bwrs y Samariaid, yn dosbarthu bocsys ar draws y byd, a’u rhoi i’r plant sydd eu hangen mwyaf gan gynnwys plant yn Affrica, Canol Asia a Dwyrain Ewrop.

Page 3: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Diwrnod Diogelwch Ar-leinSafer Internet DayTrefnir Diwrnod Diogelwch Ar-lein yn flynyddol gan Insafe i hyrwyddo defnydd mwy diogel a chyfrifol o dechnoleg ar-lein a ffonau symudol. Mae’r digwyddiad yn cael ei dargedu tuag at blant a phobl ifanc ar draws y byd. Is-bennawd eleni oedd “Gadewch i greu rhyngrwyd gwell gyda’n gilydd”.

Yn ystod wythnos Chwefror 9fed - 13eg, caiff bob un o fyfyrwyr Coleg Dewi Sant gwers benodol ar y pwnc yma fel rhan o’r ddarpariaeth Bagloriaeth Cymru. Yn ystod y gwersi hyn, wnaeth y myfyrwyr edrych yn ddadansoddol ar eu presenoldeb ar-lein, a sut hoffan nhw gael ei weld 10 blwyddyn o nawr. Cafwyd cyfle hefyd i ystyried pethau megis sut gall cyflogwyr eu canfod os oeddent yn gweld eu proffiliau gwefannau cymdeithasol, neu ar blatfform megis Snapchat, Instagram neu Drydar.

Wnaeth y gwersi yma crynhoi gyda’r myfyrwyr yn gwneud addewid am sut, yn unigol, gallent gyfrannu i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel, ai trwy feddwl yn fwy am yr hyn oeddent yn rhoi ar y we, danfon neges gadarnhaol tuag at ffrind, neu helpu brawd neu chwaer, neu aelod arall o’r teulu i ddysgu am ddiogelwch ar y we, neu am y problemau all godi wrth chwarae gemau cyfrifiadurol ar-lein.

Ar ddydd Mercher, Chwefror 4ydd, caiff y grŵp tiwtorial Cymraeg y pleser o gael y sesiwn wedi’i ffilmio yn ystod y wers diogelwch ar-lein ar gyfer rhifyn arbennig o’r rhaglen Hacio ar S4C. Caiff y rhaglen ei dangos ar Ddiwrnod Diogelwch Ar-lein (Chwefror 10fed) am 9.30yh ar S4C. Cyflwynwyd y sesiwn gan ei Hyrwyddwr Dysgu Erin Symons a Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg, Bethan Davies.

Yn ogystal â ffilmio’r sesiwn, wnaeth y myfyrwyr recordio ‘vox pops’ ar gyfer y rhaglen, yn siarad am eu profiadau, a’u barn ar sut i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar-lein.

Os hoffech gael cyngor am ddiogelwch ar-lein i chi, neu eich plant, ewch i

www.saferinternet.org.uk hwb.wales.gov.uk/pages/eSafety-Indexwww.bbc.co.uk/webwise

Seremoni Gadael Leavers’ Ceremony Ar Fedi 11eg, cynhaliwyd y Seremoni Gadael flynyddol yn Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant. Rydym yn anrhydeddu fod gymaint o staff, llywodraethwyr, myfyrwyr a’u teuluoedd wedi dod i ddathlu eu hamser yng Ngholeg Dewi Sant.

Rhoddwyd gwobrau ai’r myfyrwyr wnaeth rhagori tra yn y Coleg, boed am ganlyniadau Lefel A gwych, am ymdrech arbennig neu am oresgyn adfyd yn ystod ei astudiaethau. Rydym yn falch o’n holl fyfyrwyr, rydym wedi eu gweld yn tyfu ac yn datblygu i oedolion ifanc rhagorol.

Eleni rhoddwyd nifer o wobrau newydd. Am y tro cyntaf, mae Coleg Dewi Sant yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr newydd; nail ai am gyrhaeddiad academaidd neu am ei chyfraniad tuag at y gymuned. Roedd enillwyr yr ysgoloriaethau ar gyfer 2014/15 wedi’i chael ei gwahodd i’r seremoni er mwyn casglu eu tystysgrifau.

Rhaid rhoi a diolch yn arbennig i ein gwesteion uchel ei barch a rhai sy’n rhoi gwobr. Diolch i chi am eich amser i gwrdd a llongyfarch ein myfyrwyr.

‘Gap Medics’ Gap Medics

Mae pump o’n myfyrwyr 6ed Isaf (Blwyddyn 12), Molly Evans, Emily Viggers, Hannah Wakeham, Huw Chadwick and Calum Spiteri wedi ymgeisio am leoliad gwaith meddygol tramor ym mis Awst yn Nhansanïa trwy ‘Gap Medics’. Mae bob un o’r myfyrwyr yn awyddus i ennill profiad sy’n cefnogi eu ceisiadau i’r brifysgol i astudio meddyginiaeth.

Mae’r dysgwyr wedi’u cofrestru ar ein Rhaglen Anrhydedd, cynllun arbenigol ar gyfer dysgwyr galluog iawn. Bydd y lleoliad gwaith yma yn cynnig cyfle iddyn nhw ennill profiad uniongyrchol tra’n cysgodi meddygon proffesiynol mewn amgylchedd ysbyty go iawn. Bydd cyfle hefyd iddynt profi rhai o’r heriau sy’n glwm a darparu gofal meddygol yn y rheng flaen mewn gwlad sy’n datblygu. Ar wahân i’r manteision y bydd hyn yn dod i’w ceisiadau prifysgol ac wrth gefnogi eu hastudiaethau, bydd y profiad, yn sicr, yn brofiad personol sy’n newid eu bywydau. Bydd ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dysgu trwy brofiad a byddant yn cael y cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau personol, gan gynnwys adeiladu tîm a datrys problemau. Bydd rhaid i’r myfyrwyr codi £7,200 i gyd i dalu cost eu lleoliadau cyn iddyn nhw adael ym mis Awst. Ar hyn o bryd maent yn gweithio ar brosiectau megis gwerthu cacennau a threfnu parti yng Nghlwb Rygbi Llanisien i godi’r arian hwn. Bydd y myfyrwyr yma yn gwneud meddygon gwych yn y dyfodol, ac os hoffwch eu cefnogi i wireddu eu huchelgeisiau, ewch i http://bit.do/gapmedicsdonate I gael gwybod mwy am Gap Medics, ewch iwww.gapmedics.co.uk

Page 4: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Cyflawniad Academaidd – Enillydd yr Ysgoloriaeth 2014 Academic Achievement - Scholarship Winner 2014

Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig nifer o bethau pwysig sy’n cyfrannu tuag at sicrhau eich bod yn datblygu yn annibynol fel unigolyn. Dewisais i fynychu’r coleg gyda’r wybodaeth gefndir yma am y rhyddid a’r cyfrifoldebau sy’n cael eu rhoi i chi yma. Rwyf yn ddiolchgar i ddweud fy mod i wedi ennill Ysgoloriaeth Cyrhaeddiad Academaidd wrth fynychu’r coleg, o ganlyniad i fy

ngraddau uchel TGAU o’r ysgol. Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi hawl i fwrsariaeth o £ 2,000 y flwyddyn academaidd, sy’n cael ei wario ar wella fy mhrofiad academaidd.

Cyn y cynnig hwn, cefais fy nerbyn hefyd i Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Caerdydd. Fodd bynnag, mae cydnabyddiaeth hon o’r ymdrech a wnes i roi i mewn i fy arholiadau TGAU wedi gwneud y penderfyniad yn haws, a dewisais astudio fy Lefelau A yng Ngholeg Dewi Sant.

Mae Bywyd coleg yma yng Nholeg Dewi Sant yn fwy cyffrous nag yr oeddwn erioed yn disgwyl iddo fod. Mae maint y coleg yn ei gwneud yn amhosibl peidio â gwneud ffrindiau newydd! Er bod fy newisiadau o bynciau Safon Uwch yn heriol, mae yna bob amser cefnogaeth ddiderfyn gan y staff yma. Gyda’r holl gefnogaeth a fy mhenderfyniad personol, ar ôl fy amser yma yng Ngholeg Dewi Sant, yr wyf mewn lle gwych i symud ymlaen i’r Ysgol Feddygol ac i greu llwybr fy hun mewn bywyd.

- Emily Viggers, cyn Prif Ferch Ysgol Uwchradd St Illtyd

Enillydd Ysgoloriaeth yn Helpu i Godi £900 i Hosbis i Blant Tŷ HafanScholarship Winner Helps Raise £900 for Ty Hafan Children’s HospiceMae ennillydd ysgoloriaeth Coleg Dewi Sant, Ibby Abdi, sy’n myfyriwr chwaraeon yma, yn gwirfoddoli fel hyfforddwr pêl-droed gyda Ymddiriedolaeth Pêl-droed Dinas Caerdydd. Mae’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 8-25 mewn canolfannau ieuenctid o gwmpas Caerdydd. Mae Ibby yn hyfforddi ac yn trefnu twrnameintiau i gynyddu cyfranogiad ac i helpu pobl ifanc i fyw bywydau iach ac actif.

Ym mis Hydref, Cymerodd Ibby ran mewn Twrnamaint Pêl-droed 5-bob-Ochr Cymunedol Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd, ochr yn ochr â 14 o grwpiau cymunedol a ffydd arall o bob rhan o Gaerdydd, mewn ymgais i hyrwyddo trafodaeth a dealltwriaeth ar draws y cymunedau amrywiol ein prifddinas. Roedd y digwyddiad yn nodi dechrau’r ymgyrch “Show Racism the Red Card”, a oedd yn ddigwyddiad Ewrop gyfan.

Cododd y digwyddiad £400, ac aeth yr holl elw i’r elusen a ddewiswyd gan yr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr, yr hosbis plant lleol, Tŷ Hafan. Fel enillydd un o ysgoloriaethau ‘Cyfraniad i’r Gymuned’ Dewi Sant, rhoddodd Ibby £500 at elusen a ddewiswyd. Dewisodd Ibby ychwanegu’r arian hwn at y swm a godwyd, gan ddod â’r cyfanswm a roddwyd i Dy Hafan i £ 900.

Canmolwyd Ibby yn ystod y twrnamaint am ei gyfraniad hael.

Yng Ngholeg Dewi Sant, rydym yn credu bod addysg yn ymwneud â thrawsnewid bywydau a chaniatáu i ddysgwyr gyflawni eu llawn botensial, ac rydym wedi ymrwymo i ddenu dysgwyr mwyaf talentog ac ymroddedig, beth bynnag fo’u cefndir daearyddol, cymdeithasol neu ariannol.

Canllawiau

Rydym yn cynnig dau fath o ysgoloriaeth ar gyfer 2015/16; un ar gyfer cyflawniad academaidd ac un ar gyfer cyfraniad i’r gymuned. Mae’r ffurflen gais ar gyfer yr ysgoloriaethau yma ar gael i’w lawr lwytho o ein gwefan ar www.colegdewisant.ac.uk/ysgoloriaethau. Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un ysgoloriaeth a bod eich cais yn llwyddiannus, byddwch ond yn llwyddiannus ar gyfer un ysgoloriaeth.

Nid oes angen i chi ddanfon copïau o’ch cymwysterau gyda’r ffurflen gais, ond fydd angen i chi profi eich cymwysterau

yn ystod y cyfnod cofrestru. Gallwch, fodd bynnag, ddarparu dogfennaeth gefnogol. Sicrhewch fod eich cais yn glir ac yn ddarllenadwy. Gellir gwneud ceisiadau yn electronig os ydych yn dymuno.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Mawrth 1 Medi 2015. Mae’n bosib fydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad fel rhan o’r broses ddethol.

Mae manylion am sut i gyflwyno eich cais ar gael ar ein gwefan.

Rhesymau i Ymgeisio am Ysgoloriaeth yng Ngholeg Catholig Dewi Sant:

Mae ambell i fyfyriwr yn meddwl fod ysgoloriaethau ar gyfer dysgwyr sydd angen cefnogaeth ariannol. Nid yw hyn yn wir. Gall ennill ysgoloriaeth darparu llawer o fanteision, hyd yn oed ar ôl i chi orffen astudio yma.

Os ydych yn llwyddo i ennill ysgoloriaeth

mae’n dangos i eraill eich bod yn sefyll allan ymhlith eich cyfoedion yng Ngholeg Dewi Sant. Pan rydych yn ymgeisio i’r Brifysgol ac am swyddi yn y dyfodol, bydd gennych dystiolaeth eich bod yn medru gwahaniaethu eich hun gan eich cyfoedion ac wedi medru “sefyll allan oddi wrth y dorf”. Bydd y wybodaeth yma yn eich cymell i herio dy hun i gyrraedd nodau uwch yn y dyfodol.

Efallai y byddwch am ddefnyddio’r arian i brynu adnoddau a fydd o fudd i’ch dysgu, er enghraifft, tanysgrifiadau i gylchgronau a chyfnodolion a fydd yn hyrwyddo eich darllen, neu liniadur a fydd yn eich galluogi i weithio’n fwy hyblyg. Gallai olygu nad oes angen i chi gael swydd ran-amser ac yn gallu defnyddio’r amser hwn ar gyfer eich astudiaethau neu ddewis gyfleoedd gwirfoddoli sy’n fwy ystyrlon ac yn ychwanegu gwerth at eich gradd neu gyflogaeth yn y dyfodol.

YSGOLORIAETHAU YNG NGOLEG DEWI SANT SCHOLARSHIPS AT ST DAVID’S COLLEGE

Page 5: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Cenhadaeth: Drysau AgoredMission: Open DoorsDigwyddiad yw ‘Cenhadaeth: Drysau Agored’ a threfnir ar y cyd gan Bright Futures a MyKindaCrowd, cwmnïau sy’n gweithio gyda dros 4,500 o ysgolion ac sydd gan dros 50 o gymdeithasau ar gampysau brifysgolion, sy’n ceisio newid y ffordd mae pobl ifanc yn cysylltu gyda’r byd gwaith .

Cynlluniwyd i ysbrydoli pobl ifanc i gyrraedd eu potensial gyrfaol heb ots am beth yw eu amgylchiadau, mae Cenhadaeth: Drysau Agored yn benderfynol o sicrhau mynediad teg i dalent ifanc drwy herio normau a’r rhwystrau sy’n sefyll yn eu ffordd.

Mynychodd deg o fyfyrwyr Coleg Dewi Sant y digwyddiad ym mis Medi, a gynlluniwyd fel profiad rhyngweithiol ar gyfer myfyrwyr er mwyn iddynt ddysgu mwy am fyd gwaith, y cyfleoedd proffesiynol sydd ar gael, ac am y gwahanol bwyntiau mynediad i fewn i fusnes mawr. Roedd gan y myfyrwyr fynediad i ystod o weithdai gan gynnwys: ‘Brandio eich Hun’, Chwalu Chwedlau’, ac ‘Ôl Troed Cyfryngau Cymdeithasol’.

Cafodd myfyrwyr y cyfle i weithio gyda deuddeg o gwmnïau mawr gan gynnwys BT, Barclays, RBS, KPMG, Channel 4 a llawer mwy. Roedd y myfyrwyr yn gallu gofyn cwestiynau ac am gyngor gan brentisiaid a graddedigion o gwmnïau hyn.

Cynhadledd STEM, Mehefin 2015STEM Conference, June 2015Mae Cynhadledd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr Coleg Dewi Sant unwaith eto’r flwyddyn academaidd hon a bydd yn digwydd ar 19 Mehefin at 2015.

Mae hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr profi bywyd prifysgol ar y campws ac i ddysgu am bynciau STEM a gyrfaoedd STEM. Gellir gweld profiad y myfyrwyr o gynhadledd y llynedd yma http://bit.do/STEMvideo

Clwb STEM 2014-15 STEM Club 2014-15Yn ogystal â’r Gynhadledd STEM, mae digwyddiadau STEM yn cael eu trefnu trwy’r flwyddyn. Welwch isod am fwy o fanylion:

Menter Coleg Dewi Sant Enterprise at St David’sErs dod i Goleg Dewi Sant rwyf wedi bod yn rhan o’r ‘Fenter’ sydd wedi bod yn brofiad newydd sbon i mi. Y mwyaf cyffrous o’r profiadau yma oedd cael mynediad i

‘Trading Places’, sydd yn gystadleuaeth debyg i’r ‘Apprentice’. Yn gyntaf roedd rhaid i ni ymgeisio drwy ffurflen gais Campws Cyntaf lle cefais fy newis i symud ymlaen i’r rownd nesaf. Roedd hyn yn golygu mynd i’r Brifysgol a mynd

drwy nifer o heriau lle’r bu’n rhaid i ni ddangos ein sgiliau gan ddefnyddio’r model ACPT (Agwedd, Creadigrwydd, Perthnasau a Threfniadaeth). Gyda phob tasg roeddem yn cael ein harsylwi a nodiadau yn cael eu gwneud arnom. Y dasg olaf oedd cyflwyno i Mrs Wigley pam yr oeddem am gael ein dewis ar gyfer y rownd derfynol. Cefais fy newis a byddaf yn awr yn symud ymlaen i’r rownd derfynol. Bydd hwn yn ddigwyddiad tri diwrnod sy’n arwain at lunio siop ‘pop-up’ yn Morgans Arcade yng Nghaerdydd ar gyfer y diwrnod. Y tîm sy’n gwerthu’r mwyaf sy’n ennill!

Rwyf wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn ac mae’n gyfle da i mi ennill cymaint o sgiliau newydd. Mae’n wych fy mod i’n gallu rhoi hyn ar fy ffurflen cais UCAS a fy CV a sefyll allan oddi wrth y dorf. Mae’r profiad wedi rhoi blas go iawn o fenter i mi ac yr wyf wedi datblygu sgiliau doeddwn i byth yn gwybod fod gen i, yn ogystal â helpu i adeiladu fy hyder.

- Bethan Moule

Page 6: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Pam Astudio Ieithoedd: Safbwynt Cyflogwr Why Study Languages: An Employer View

Mae Capital Law a Chandler KBS yn ymwelwyr rheolaidd i’r Coleg ac yn cefnogi ac yn annog ein myfyrwyr iaith i barhau gyda’u hastudiaethau iaith y tu hwnt i UG a Safon Uwch. Mae Marlies Hoecherl a Karin Hicks wedi treulio amser gydag ein myfyrwyr yn egluro’r angen gan fusnes i gyflogwyr allu siarad ieithoedd eraill i gyfathrebu yn yr economi fyd-eang a’r pwysigrwydd chwilio am y sgiliau iaith gan bob busnes. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gael lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr hyn.

Noson Gyrfaoedd STEM, Mawrth 24 2015STEM Careers Evening, 24 March 2015Bydd myfyrwyr yng Ngholeg Dewi Sant sy’n astudio pynciau STEM (Gwyddorau, Daearyddiaeth, Mathemateg, Cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth) yn cael cyfle i glywed am amrywiaeth o yrfaoedd, cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant i addysg uwch mewn digwyddiad STEM Gyrfaoedd cyntaf y Coleg a gynhaliwyd ar 24ain o Fawrth rhwng 18:00-20:30. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a chyflogwyr yr ardal leol. Bydd ein myfyrwyr yn cael cyfle i siarad â chyflogwyr o ystod o feysydd a fydd yn cynnwys parafeddygon, gyrfaoedd y GIG, cyfrifiadura a chwmnïau dylunio ar y we, peirianwyr awyrennol, ffisiotherapyddion, fferyllwyr diwydiannol, llawfeddygon, a llawer mwy. Bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn cefnogi myfyrwyr a chynnig cyngor am symud ymlaen i gyrsiau gradd ar ôl cwblhau eu cymwysterau Safon Uwch. Mae gan Goleg Dewi Sant ymrwymiad cryf i hyrwyddo a gwella pynciau STEM i’n myfyrwyr a hefyd i fyfyrwyr yn ein hysgolion partner. Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a chyflogwyr lleol mae’n cynorthwyo’r coleg i wneud ein myfyrwyr yn ddymunol iawn i sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr.

Gwersi Meistr Iaith Lefel A ym Mhrifysgol CaerdyddA Level Language Masterclasses at Cardiff UniversityBydd myfyrwyr sy’n astudio ieithoedd (Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg) yn mynychu gweithdai Lefel A yn ystod tymor y gwanwyn sy’n cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd a Llwybrau at Ieithoedd. Bydd y gweithdai meistr canlynol yn digwydd:

Ffrangeg – 11eg o ChwefrorSbaeneg – 25ain o ChwefrorAlmaeneg – 4ydd o Fawrth Bydd y gweithdai yn seiliedig ar ffilmiau sy’n cael eu haddysgu fel rhan o’r cwricwlwm Safon Uwch ac yn anelu at gryfhau dealltwriaeth y myfyrwyr o’r ffilmiau a chynhyrchu meddwl a thrafodaeth bellach. Mae’r gweithgaredd hwn yn un o’r gweithgareddau sydd wedi eu trefnu ar gyfer ein myfyrwyr iaith Safon Uwch i hyrwyddo a gwella iaith.

Profiad Gwaith ‘New Law’New Law Work Experience

Yr haf diwethaf, wnaeth pedwar o’n myfyrwyr Blwyddyn 12 ymuno a’r cwmni cyfreithwyr ‘New Law’ yng Nghaerdydd am dri diwrnod o brofiad gwaith. Wnaeth Olivia Paterson, Daniel Hart, Alysha Malyszczuh ac Alex Davis gwneud cais i fod yn rhan o’r rhaglen agoriadol profiad gwaith NewLaw@NewInsight ac yn ddigon ffodus i gael eu dewis allan o nifer o fyfyrwyr.

Wnaeth pob myfyriwr cael y cyfle i redeg prosiect cyfryngau cymdeithasol ac i weithio gyda gwahanol adrannau o amgylch y busnes. Roedd y cwrs byr wedi ei gynllunio i ychwanegu sgiliau allweddol, adeiladu eu hyder a’u profiad, y maent yn gallu ychwanegu at eu CV a ffurflenni cais UCAS.

Mae 73% o fusnesau ar draws y DU angen cyflogai sy’n siarad iaith tramor

Gellir cyfuno ieithoedd ar lefel gradd gydag amrywiaeth o

bynciau arall e.e. Busnes, Gwyddoniaeth a.y.b.

Geisir ar ôl gan gyflogwyr mewn ystod eang o fusnesau

Sgiliau Trosglwyddadwy

CfBT-diffyg sgiliau iaith yn atal busnes

Premiwm ar reolwyr sy’n siarad ieithoedd

Panto NadoligChristmas PantoFel dosbarth chweched uchaf, o dan gyfarwyddyd Mr Crowley, cawsom y dasg o greu pantomeim ar gyfer plant, yn y pantomeim wnes i chwarae gwas doniol y Frenhines Ddrygionus, Timothy. Roedd actio rôl comedi, ac fel dyn, yn her newydd i mi.

Yn ogystal â chwarae rhan, rydym i gyd yn cael y cyfle i archwilio rolau gwahanol o

fewn cynhyrchiad y sioe, megis dylunydd gwisgoedd, dylunydd props a set, rheolwr cynnyrch, cyfarwyddwr cerdd, goreograffydd, sain a golau, marchnata, a golygydd sgript . Fy rôl oedd dylunydd gwisgoedd. Roeddwn wrth fy modd gyda’r cyfle hwn gan fy mod yn mwynhau ffasiwn a dylunio. Roeddwn i’n hoffi ymchwilio i’r cymeriadau i greu eu gwisgoedd ac yn mwynhau gweld y canlyniad ar y llwyfan.

Roedd yn her gweithio gyda’r dosbarth i greu’r pantomeim, ond gyda chanlyniad gwych. Roedd yn brofiad dysgu gwych

i berfformio pantomeim ein bod wedi ysgrifennu a chynhyrchu ein hunain, yn enwedig gan ei fod yn gymaint o lwyddiant.

- Paige Jones

Page 7: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Llwyddiant Cyn-fyfyrwyr Astudiaethau TheatrTheatre Studies Alumni SuccessMae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn hynod o lwyddiannus yn eu gyrfaoedd dewisiol. Dyma sampl o lwyddiannau mae rhai o’n myfyrwyr Astudiaethau Theatr wedi mwynhau ers iddynt adael Coleg Dewi Sant.

David Murphy (1999-2002) mae David wedi bod mewn llu o gynyrchiadau theatr yn y ‘West End’ yn Llundain, yn ogystal â rhannau elfennol yn y sioeau teledu megis ‘The Inbetweeners’ a ‘Game of Thrones’. Ar hyn o bryd mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn Los Angeles lle mae’n ffilmio’r ail dymor o raglen gomedi yr UDA. Cymerwyd llun ohono yn ddiweddar ar y carped coch yn ystod y gwobrau ‘Golden Globes’.

Catrin Stewart (2004-2006) gellir gweld Catrin yn rheolaidd yn Dr Who (Jenny) a Stella (Emma), mae hi newydd cwblhau cynhyrchiad yn y ‘West End’ gyda ‘Shared Experience’, cwmni theatr a astudiwyd gan ein myfyrwyr Safon Uwch. Mae wedi cael ei cyhoeddi yn ddiweddar ei bod ymddangos yn ei dymor cyntaf yn y RSC yn Stratford Upon Avon, yn chwarae’r prif cymeriad benywaidd yn un o’r dramâu yn Theatr Swan, tra’n ymddangos yn y llall - yn unol â natur theatr repertoire.

Lucy Jones (2007-2009) Ar ôl ymddangos ar y sioeau byw ar X Factor (2009) ac yn ymuno â’u taith, aeth Lucy ymlaen i chwarae Cosette yng nghynhyrchiad y ‘West End’ o Les Miserables am flwyddyn. Mae hi’n chwarae Meatlof yn daith stadiwm pen-blwydd 10 mlynedd o We Will Rock You, ac yn ymddangos mewn sioeau yn Edinburgh Fringe Festival.

Ar hyn o bryd mae’n ymarfer sioe gerdd newydd sbon tra’n parhau gyda’i gyrfa modelu, a pherfformio m e w n amrywiaeth o

g y n g h e r d d a u , digwyddiadau a sioeau teledu. Yn fwyaf

diweddar mae hi’n ymddangos mewn un o raglenni Midsomer Murders, fel cymeriad yn y rhaglen a recordio cân ar gyfer y trac sain.

Sian King (2009-2011) graddiodd o Brifysgol Bath Spa haf diwethaf ac aeth ymlaen i gyflwyno rhaglen gerddoriaeth ar-lein. Mae’r sioe yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn gyfres ar gyfer y teledu, gyda Sian yn parhau fel cyflwynydd.

Annelies Kruidenier (2010-2012) wnaeth Annelies rhyddhau albwm cerddoriaeth glasurol yn hwyr yn 2013 ac mae hi wedi canu Anthem Genedlaethol yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Rygbi Rhyngwladol ers 2014. Mae hi i fod i ymddangos ar y gyfres The Voice ar BBC1 cyn bo hir.

Lucy Jones, XFactor 2009

Noswaith o Gerddoriaeth An Evening of Music

Ar ddydd Iau, Tachwedd 27ain, wnaeth myfyrwyr Uwch Gyfrannol a Safon Uwch cynnal noswaith o gerddoriaeth ar gyfer eu teuluoedd a ffrindiau. Mae Nicole Placide yn son am y digwyddiad.

Rydym wedi penderfynu gynnal noson perfformiad oherwydd nad yw llawer o’r myfyrwyr wedi cael brofiad perfformio a roedden ni’n gyffrous iawn i ddangos ein gilydd, yn ogystal â’r gynulleidfa, ein sgiliau a doniau.

Beth wnaeth gwneud y noson mor wych oedd yr amrywiaeth o offerynnau

ac arddulliau. Cawsom piano clasurol, unawdau a deuawdau lleisiol, gitâr clasurol a roc, trwmped, bysellfwrdd, drymiau yn chwarae mewn arddull roc, a chwarae reggae ar y padelli dur.

I gychwyn y noson, roedd gennym Josh Dickins ar gitâr drydan yn chwarae ‘Little Wing’ gan Jimi Hendrix a gafodd ei chwarae’n hyfryd ac roedd yr agoriad perffaith i’n sioe. Yn dilyn Josh yn hanner cyntaf y sioe, chwaraeodd Shu-Ying Gan darn piano o’r enw ‘Canzonetta’ gan Frank Bridges. Mae’r darn a chwaraeir gan Shu-Ying yn 2 gradd yn uwch na’r safon sy’n ofynnol ar gyfer Safon Uwch. Ar hyn o bryd mae Shu-Ying yn astudio gyda Conservatoires Frenhinol Cymru, rhywbeth yr ydym i gyd yn falch iawn ohono.

Yna cawsom amryw o berfformiadau gwych ar y drymiau, bysellfwrdd a’r trwmped. Yr wyf yn perfformio ‘Three Little Birds’ gan Bob Marley ar y padelli dur, yng nghwmni fy nhad, perfformiad a aeth i lawr yn dda gyda’r dorf.

Yn ogystal â caneuon sydd eisioes yn bodoli, wnaeth Wojciech Przybylski perfformio gyfansoddiad ei hun ar y piano. Wnaeth

ambell i fyfyriwr arddangos rhai o’r darnau y byddant yn perfformio am eu arholiad perfformio yn nhymor y gwanwyn. Ar y cyfan roedd y noson yn llwyddiant mawr ac yn pleserus iawn ar gyfer y perfformwyr a’r gynulleidfa, diolch i’n athrawes gerdd wych Miss York. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y perfformiad nesaf, a fydd yn digwydd adeg y Nadolig ar gyfer ein gwasanaeth carolau a gynhaliwyd yn nghapel Coleg Dewi Sant.

- Nicole PlacideWojciech Przybylski

Nicole Placide

Shu-Ying

Page 8: Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic … · 2015. 2. 27. · Economeg a Rheolaeth yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn yr haf, rwy’n mynd ... Cynorthwyydd

Chwaraeon ac Addysg GorfforolDyddiadur Pêl-droediwr Rhyngwladol CymreigThe Diary of a Welsh International FootballerPan nad yw’n mynychu’r Coleg, mae Ffion Price wrthi’n cystadlu ar ran Gymru mewn cystadlaethau pêl-droed ar draws y byd. Dyma ei stori.

Derbyniais fy Nghap Gymru gyntaf pan oeddwn i wedi cael fy newis i chwarae i Sgwad Dan17 Menywod Cymru ym mis Mai 2014. Cynhaliwyd y twrnamaint yn Lithuania. Yn ystod y twrnamaint enillais i Fenyw’r Gêm.

Derbyniais fy ail Gap pan oeddwn i wedi cael fy newis i chwarae i’r Sgwad Dan19 Menywod Cymru ym Medi 2014. Cefais fy newis i fynd i Dwrci am 9 diwrnod i gystadlu er mwyn cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth UEFA. Cefais fy nethol ar gyfer pob gem, a chwaraeais am y 90 munud llawn. Enillais Fenyw’r Gêm a ges i gadw baner Kazakstan. Roedd yn ddiddorol dros ben i brofi chwarae tramor yn erbyn gwledydd y byd. Ges i gyfle i adnabod a datblygu technegau newydd o werthuso fy hun, ac arsylwi ar eraill.

Does dim byd tebyg i’r teimlad o gynrychioli eich gwlad - mae’r profiad yn anhygoel. Byddaf yn parhau i weithio’n galed i wella ac i gynnal y safon yma. Rwyf yn gobeithio parhau i chwarae dros Gymru ac i gael fy newis ar gyfer y tîm gyntaf. Hoffwn hefyd ddod yn athrawes Ymarfer Corff. Mae gen i ddiddordeb i ddysgu amrywiaeth o chwaraeon ac yn benodol i hyrwyddo pêl-droed i ferched. Mae’r Coleg wedi fy nghefnogi trwy gydol fy amser yma. Wnaeth fy athrawon Ymarfer Corff fy helpu i ennill sgiliau a thechnegau newydd. Mae hwn yn fy ngalluogi i wella gan fy mod i’n medru defnyddio’r sgiliau yma i adnabod fy ngwendidau a chreu sesiynau hyfforddiant penodol i wella. Ar hyn o bryd, rwyf yn astudio Diploma Atodol BTEC Lefel 3 Datblygiad Chwaraeon, Hyfforddi a Ffitrwydd. Mae’n haws defnyddio’r hyn rwyf wedi dysgu fel rhan o’r cwrs a’i addasu i helpu fy natblygiad. Yn y dyfodol, rwyf yn bwriadu chwarae pêl droed i’r safon uchaf posib.

-Ffion Price

Ers ysgrifennu, mae Ffion wedi cael ei ddewis ar gyfer Tîm Menywod Cymru ar gyfer cwrs hyfforddi. Cyflawniad gwych ar gyfer rhywun 17 mlwydd oed. Dyma ei thro gyntaf yn rhan o’r Sgwad Uwch.

Tîm Pêl-droed 5-bob-ochr Merched Coleg Dewi SantSt David’s Girls 5-a-Side Football TeamWnaeth tîm pêl-droed 5-bob-ochr i ferched cystadlu yn y Bencampwriaeth Colegau Cymru ym mis Tachwedd. Roedd safon y gystadleuaeth yn uchel dros ben a wnaeth y merched perfformio’n arbennig o dda, ond yn colli allan ar y rownd gynderfynol ar wahaniaeth goliau.

Tîm Pêl-droed Bechgyn Coleg Dewi Sant 2014-15St David’s Boys Football Team 2014-15Mae Tîm Pêl-droed Bechgyn Coleg Dewi Sant yn dathlu llwyddiant eto eleni. Ar hyn o bryd maent yn dal y 5ed safle yn nhabl Rhanbarth Cymru o Gynghrair Colegau Lloegr, gyda phedwar gêm wrth gefn, gyda’r potensial i godi i’r ail safle. Yn gyffredinol, mae’r tîm wedi ennill chwech allan o’r deg gêm, gyda’r llwyddiant gorau o 8-0 yn erbyn Coleg Penfro. Canlyniad y gêm ddiweddaraf oedd ennill 2-0 yn erbyn Coleg Castell-nedd, sydd ail yn y Cynghrair ar hyn o bryd. Ein prif sgoriwr yw’r Capten Arron Owen.

Jordan Viggers yn helpu Cymru curo Lloegr Jordan Viggers helps Wales beat England

Ar ôl cyflawni graddau gwych yn ei lefelau A mewn Cemeg, Daearyddiaeth a Mathemateg yng Ngholeg Dewi Sant llynedd, mae Jordan Viggers

wedi mynd ymlaen i chwarae i dîm rygbi dan-20 Cymru. Mae ganddo lle ar hyn o bryd yn y sgwad dan-20 ar gyfer twrnamaint y chwe gwlad a hefyd yn rhan o academi’r Gleision. Wnaeth Jordan, sy’n chwarae yn y rheng ôl, chwarae i dîm uwch y gleision yn y gêm wnaeth curo’r London Wasps (45-42).

Ar ddydd Sadwrn, Chwefror 7fed, gafodd ei ddewis fel eilydd ar gyfer tîm dan-20 Cymru yn erbyn Lloegr ym Mae Colwyn. Roedd yn allweddol yn llwyddiant y tîm, wrth wneud nifer o daclau, cyn cicio’r bêl dros yr ystlys ar ddiwedd y gêm i sicrhau buddugoliaeth 21-15 i Gymru yn erbyn pencampwyr byd Dan-20.

Cwrdd â’r Hyfforddwyr Pêl-droed Newydd – Aled WilliamsMeet Our New Football Coach - Aled WilliamsYn raddedig o Brifysgol Cymru, Caerdydd gyda BSc Hyfforddi Chwaraeon, ac yn gôl-geidwad talentog, wnaeth Aled Williams dechrau hyfforddi timoedd lleol cyn symud ymlaen i hyfforddi pobl ifanc fel rhan o gynllun gan dîm proffesiynol Cardiff City FC.

Yn 2009 wnaeth Aled benderfynu hyrwyddo ei ddatblygiad proffesiynol yn Academi’r ‘Red Bulls’ Efrog newydd yn y Cynghrair Pêl-droed Mawr. Ar ôl 5 blwyddyn lwyddiannus yn Efrog Newydd, wnaeth Aled symud yn ôl i Gaerdydd i barhau i hyfforddi gydag Academi Cardiff City FC a Choleg Dewi Sant fel prif hyfforddwr pêl-droed. Mae gan Aled Trwydded B UEFA mewn hyfforddi pêl-droed.