childrens rights speech
DESCRIPTION
Childrens rights speechTRANSCRIPT
Beth nesaf i hawliau plant yng Nghymru?
Rhian Croke, Cydgysylltydd Grŵp Monitro Confensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 5
Gorffennaf 2011.
Cyflwyniad
Heddiw rwy’n siarad ar ran Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig
ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) Cymru a sefydlwyd yn 2002 ychydig cyn
yr 2il broses adrodd reolaidd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r
Plentyn. Mae Grŵp Monitro’r Confensiwn yng Nghymru yn gynghrair
genedlaethol o sefydliadau anllywodraethol ac academaidd. Prif waith y grŵp
hwn yw paratoi adroddiad amgen y cyrff anllywodraethol i Bwyllgor y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Fodd bynnag, ers 2002, mae Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi cynyddu mewn maint a grym gan arwain at
nifer cynyddol o asiantaethau’n ymgysylltu a datblygu eu dealltwriaeth eu
hunain yn ogystal â dealltwriaeth partneriaid eraill o bwysigrwydd y
Confensiwn. Mae’r asiantaethau hyn hefyd yn datblygu llais adeiladol pwysig
ond beirniadol sy’n monitro dyletswydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU i sicrhau hawliau’r plentyn. Mae dylanwad adroddiad Grŵp 2006 y cyrff
anllywodraethol, sef Cywiro’r Cam: realiti hawliau plant yng Nghymru gan
Grŵp Monitro’r Confensiwn yn tystio i hyn, ynghyd ag adroddiad amgen y cyrff
anllywodraethol swyddogol i’r Pwyllgor sef, Aros, Edrych, Gwrando: sut mae
gwireddu hawliau plant yng Nghymru. Roedd y ddau adroddiad yn erbyn
Sylwadau Crynhoi’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn 2002.
Mae deinameg proses adrodd y Confensiwn Ar Hawliau’r Plentyn a Sylwadau
Crynhoi’r DU sy’n seiliedig ar awdurdod y fframwaith hawliau dynol
rhyngwladol wedi dod yn ddull digyffelyb ar gyfer ysgogi trafodaeth yng
Nghymru a rhoi pwysau ar lywodraeth i fynd i’r afael yn llwyr â’r Confensiwn
ar Hawliau’r Plentyn a gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisïau.
Ers 2002, mae’r gwaith o lunio polisïau strategol yng Nghymru wedi bod yn
gynyddol seiliedig ar y Confensiwn. 1 Mae’r Grŵp a’u partneriaid wedi bod yn
allweddol yn y gwaith o gynghori a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu strwythurau effeithiol i gefnogi persbectif hawliau plant ar draws
peirianwaith y Llywodraeth.
1 Examples of WAG policy underpinned by the CRC, National Service Framewok for Children, Young People and Maternity Services (NSF), National Youth Offending Strategy, Sexual Health and Well-being Strategy, Rights to Action, Extending Entitlement and Fairer Future for Our Children.
Ar ôl bron i flwyddyn o lobïo dyfal gan Grŵp Monitro’r Confensiwn, gan
ddadlau o blaid gwneud Llywodraeth Cymru’n atebol i blant wrth iddynt
sicrhau eu hawliau, efallai i hyn gael ei amlygu wrth i Rhodri Morgan, y Prif
Weinidog ar y pryd, gyhoeddi’r posibilrwydd o sicrhau bod egwyddorion
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plant yn cael eu gwneud yn
rhan annatod o’r gyfraith ar ran plant Cymru. Manteisiodd y Grŵp ar y cyfle
hwn gan gynghori ar y dull gorau o ddatblygu Mesur, gan fynd ati’n ddygn i
lobïo a chynghori gydol y cyfnod ymgynghori a thaith ddeddfwriaethol y Mesur
yn 2010.
Hawliau plant yn cael eu diystyru yng Nghymru
Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod yn y fan hon bod yr her o sicrhau
hawliau dynol plant yn dal i fodoli ac nid yw realiti presennol profiad plant yr
hyn y dylai ei fod mewn cenedl ffyniannus, ddatblygedig.
Mae’n gwbl annigonol bod 1 plentyn o bob 3 (36% o blant Cymru) yn byw
mewn tlodi (cartrefi sydd 60 % yn is na’r incwm canolrifol), bod plant tlawd 5
gwaith yn llai tebygol o gael mynediad at le chwarae diogel yn yr awyr agored,
bod plant Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu disgrifio gan Gymdeithas Feddygol
Prydain fel y grŵp sydd yn y “perygl mwyaf” yn y system iechyd, bod gan
blant sy’n derbyn gofal ganlyniadau llawer is na’u cyfoedion, bod adroddiad
diweddar gan Barnardo’s yn dweud ei fod yn ymwybodol o 2,756 o blant sy’n
ddioddefwyr troseddau cam-fanteisio’n rhywiol fel meithrin perthynas
amhriodol a masnachu, bod pobl ifanc yng Nghymru (rhwng 16 a 29 oed) yn
llawer mwy tebygol o ddioddef gwahaniaethu, aflonyddu neu
droseddu na thrigolion dros 40, bod plant anabl yn aml yn ofidus nad yw eu
llais yn cael ei ystyried o ddifrif, a’u bod yn cael trafferth defnyddio
gwasanaethau maen nhw wirioneddol eu hangen.
Rhaid i ni hefyd gofio y gall plant gael eu taro a’u niweidio’n gyfreithlon gan
oedolion o hyd, bod plant sy’n ceisio lloches yn dal i gael eu cadw ac yn aml
iawn yn cael eu halltudio’n ôl i wledydd anniogel, a bod y DU yn dal i garcharu
plant ar gyfradd uwch na gweddill gwledydd Gorllewin Ewrop. Mae’r rhain yn
feysydd polisi nad ydynt wedi’u datganoli ond mae angen i ni barhau i ystyried
sut y gallwn ddylanwadu’n effeithiol er mwyn newid y sefyllfa i blant mewn
perthynas â’r meysydd hyn lle mae hawliau plant yn cael eu diystyru.
Mae’r holl resymau uchod yn dangos bod yn rhaid i ni yng Nghymru barhau i
ymdrechu i roi gwedd ffurfiol ar hawliau dynol plant a’u prif ffrydio, gan
sylweddoli y dylid cydnabod plant yn yr un modd ag oedolion, yn bobl sydd â
hawliau dynol. Mae angen i ni barhau i berffeithio’r strwythurau a fydd yn
gwneud hyn yn realiti.
Beth nesaf i hawliau plant yng Nghymru?
Mae’r datblygiad radical a blaengar a geir ym Mesur Hawliau Plant a Phobl
Ifanc (Cymru) 2011 yn gyfle pwysig i ni fwrw ymlaen ymhellach â’r gwaith o
sefydlu agwedd seiliedig ar hawliau dynol ar gyfer plant. Os yw’n cael ei
weithredu’n effeithiol, gall helpu’r Llywodraeth i ddatblygu gwell cyd-
ddealltwriaeth gyfannol o hawliau dynol plant a’r gwaith o’u gweithredu. Mae’n
rhoi’r cyfle i ni greu mecanwaith atebolrwydd cyfreithiol cadarn nad yw’n
bodoli yn unman arall yn y DU ar gyfer gwarchod hawliau sifil, gwleidyddol,
cymdeithasol, economaidd a diwylliannol plant. Mae’n gyfle i dorri tir newydd!
Er mwyn i’r ddeddfwriaeth lwyddo, ni all fod yn rhywbeth a geir mewn llyfr
statud yn unig gan fod angen adnoddau effeithiol i’w gweithredu (o ran pobl
ac arian). Dyma pam mae dealltwriaeth o’r Confensiwn ei hun a dealltwriaeth
o’r testunau atodol a chyfreitheg Pwyllgor Hawliau’r Plentyn mor bwysig. Yn ôl
Jane Williams a Simon Hoffman, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe, mae
angen sefydlu cymuned sy’n medru dehongli er mwyn cynorthwyo’r
Llywodraeth i gydymffurfio â’r egwyddor ‘sylw dyledus’. Mae cynnwys
Comisiynydd Plant Cymru yn ffurfiol (a gydnabyddir gan y ddeddfwriaeth ei
hun), y sector Gwirfoddol a’r plant a’r bobl ifanc eu hunain yn rhan hanfodol
o’r gwaith o gynnig cyngor, meithrin gallu a chynorthwyo i ddehongli beth yn
union y mae cydymffurfio ag erthyglau’r Comisiwn yn ei olygu yng nghyd-
destun Cymru.
Nod y Mesur yw annog y llywodraeth i fynd ati’n ddyfal yn hytrach na rhoi
atebion unigol ymatebol os oes achosion a hawliau’n cael eu diystyru. Bydd
cydymffurfio â’r ddyletswydd yn golygu sicrhau rheolaethau mewnol digonol,
addysgu (gweision sifil yn benodol), casglu a monitro data, asesiadau effaith -
yn union fel roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn erfyn amdanynt ac
rydym eisoes wedi cyfeirio atynt heno wrth sôn am y mesurau cyffredinol o
ran gweithredu. Mae rheolaethau allanol yn dod ar ffurf heriau o dan gyfraith
gyhoeddus, gan herio pa mor gyfreithlon yw camau a gymerir gan y cyfreithiol
cyhoeddus o ran cyfreithlondeb gweithredu’r llywodraeth, cwynion
gweinyddol, arolygiadau, archwiliadau gan gomisiynwyr, a phrosesau craffu
archwilio a seneddol (Williams J, 2011).
Gan ddychwelyd nawr i’r mesurau cyffredinol eraill o ran gweithredu
sy’n rhan annatod o waith gweithredu llwyddiannus y mesur. Mae angen
i ni gael:
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Cadarn y mae Llywodraeth Cymru,
Awdurdodau Lleol a Chyrff Cyhoeddus yn gyfrifol amdano.
Mae polisïau a strategaethau da iawn ar gael, a chydnabuwyd hyn ym
mhroses adrodd ar y Confensiwn yn 2008, ond mae’r bwlch sylweddol rhwng
polisi a gweithredu yn parhau. Mae angen gweithredu clir erbyn hyn. Mae
Llywodraeth Cymru eisoes wedi cychwyn ar y gwaith yn llwyddiannus, ond
mae angen adolygu’r cynllun gweithredu cyfredol er mwyn cael fframwaith
monitro clir gyda chanlyniadau clir ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn anad dim,
mae’n rhaid cyflawni’r cynllun gweithredu mewn partneriaeth ag awdurdodau
lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Ni all Llywodraeth Cymru sicrhau newid i blant
ar ei phen ei hun, mae’n rhaid i’r rhai sy’n ceisio sicrhau hawliau plant gymryd
cyfrifoldeb a gweithio mewn partneriaeth.
Llywodraeth Gydgysylltiedig
Rydym wedi gweld peth dirywiad yng Nghymru mewn perthynas â hyn yn
ddiweddar. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod strwythurau ar waith sydd
ag adnoddau digonol i lywio’r gwaith cydgysylltu a monitro’n effeithiol o ran
gweithredu’r Confensiwn ar draws y Llywodraeth. Ar un adeg, roedd gennym
Weinidog dros Blant ym mhortffolio’r Uwch Weinidog, ond erbyn hyn mae
gennym Ddirprwy Weinidog sydd â chylch gorchwyl llawer ehangach. Mae’r
rôl hon yn haeddu mwy o awdurdod a dylid cael cyfrifoldeb clir am weithredu’r
Confensiwn. Mae angen cryfhau Pwyllgor y Cabinet ar gyfer plant a phobl
ifanc a’i wneud yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o weithredu’r Confensiwn yn
effeithiol. Bu peth torri ar y gyllideb o ran nifer y gweision sifil sy’n gyfrifol am
weithredu hawliau. Nid yw hyn yn dderbyniol chwaith ac mae angen uned
hawliau plant trawsbynciol yn Llywodraeth Cymru sydd ag awdurdod ac
adnoddau digonol.
Yn union fel gyda Llywodraeth Cymru, mae angen i Lywodraeth
gydgysylltiedig ar gyfer plant hefyd fod yn rhan o gylch gwaith awdurdodau
lleol o ran eu dulliau o ymdrin â llywodraethu corfforaethol. Mae angen
cynnwys atebolrwydd y Confensiwn ym mhob swydd-ddisgrifiad. Dylid
datblygu polisïau a chanllawiau ar gyfer staff er mwyn dangos sut y gallant
ymgorffori agweddau ar hawliau dynol plant yn eu harferion gwaith. Dylid
hefyd ymgorffori amcanion a thargedau hawliau plant yn eu trefniadau rheoli
perfformiad gan gynnwys targedau CAMPUS mewn cynlluniau busnes
rhanbarthol. Yn olaf, mae angen i awdurdodau lleol sicrhau mai uwch reolwyr
sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r gwaith o weithredu’r Confensiwn.
Mewn perthynas â chraffu ar benderfyniadau a pholisïau Gweinidogion
Cymru, mae angen i Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru a Phwyllgorau eraill
y Cynulliad Cenedlaethol sicrhau eu bod yn craffu ar y gwaith o weithredu’r
cynllun gweithredu cenedlaethol ar hawliau plant. Mae angen iddynt hefyd
graffu ar y gwaith o weithredu Sylwadau Crynhoi 2008 yn ogystal â datblygu
eu rôl atebolrwydd wrth graffu ar benderfyniadau a pholisïau Gweinidogion
gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc
(Cymru).
Ar lefel awdurdodau lleol, dylai pwyllgorau craffu hefyd graffu ar
benderfyniadau cabinet awdurdodau lleol er mwyn pennu a ydynt yn
cydymffurfio â’r Confensiwn.
Cyllidebu ar gyfer Hawliau Plant
Unwaith eto, mae’n galondid gweld fod Cymru ar y blaen o ran Cyllidebu ar
gyfer Plant ac mae ganddi ddulliau tryloyw o ddangos cyfran y gwariant ar
blant.
Erbyn hyn, mae cyllidebu tryloyw yn bwysicach nag erioed yn y cyfnod hwn o
gyni ariannol. Os gall y Llywodraeth ddangos ei bod yn cyflawni ei
hymrwymiad yn erthygl 4 i wario ‘hyd eithaf yr adnoddau sydd ar gael iddi’ ar
sicrhau hawliau plant, yna ni fydd angen i’r gymuned anllywodraethol ei
herio’n gyfreithiol dan y ddeddfwriaeth newydd mewn perthynas â’r
Llywodraeth yn cydymffurfio ag erthygl 4.
Dylem barhau i wella’r systemau angenrheidiol a fydd yn golygu bod modd
dadansoddi holl wariant y Llywodraeth yn rheolaidd ym mhob un o’i
chyllidebau yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod y broses gynllunio ac
adrodd yn gwneud cysylltiadau gwell rhwng cyllidebau a chanlyniadau ar
gyfer plant a phobl ifanc. Dylid sicrhau fod hyn yn digwydd ar lefel
awdurdodau lleol hefyd.
Asesiadau effaith ar hawliau plant
Un o’r ffyrdd gorau o graffu ar y Confensiwn a sicrhau ei fod yn sail i’r
penderfyniadau a wneir yw defnyddio’r dull Asesiadau Effaith ar Hawliau
Plant. Mae’r dull hwn yn meithrin proses o brofi polisïau, deddfwriaeth,
penderfyniadau cyllidebu a phenderfyniadau yn rheolaidd er mwyn pwyso a
mesur eu heffaith ar blant a gweld a ydynt yn cydymffurfio â’r Confensiwn.
Dyma fan cychwyn persbectif hawliau plant systematig mewn prosesau
gweithio a gwneud penderfyniadau ar gyfer gweithgareddau sy’n effeithio ar
blant a phobl ifanc. Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r
dull hwn er bod asesiadau effaith wedi’u cynnal mewn perthynas â
chynaliadwyedd, cydraddoldeb a chynllun yr iaith Gymraeg, ond mae’n
ymddangos eu bod wrthi’n comisiynu contractwr i ddatblygu dull o’r fath, sy’n
gam cadarnhaol. Hefyd o ddiddordeb ar lefel awdurdodau lleol, mae
Awdurdod Lleol Caerdydd wrthi’n ymchwilio i’r model gorau o asesiadau
effaith ar hawliau plant er mwyn ei ddefnyddio i sefydlu’r Confensiwn yn ei
brosesau gwneud penderfyniadau ei hun.
Casglu Data
Mae Llywodraeth Cymru’n haeddu cael ei llongyfarch am ei Monitor Lles Plant
a Phobl Ifanc gan ei fod yn dangos bod modd i Lywodraeth gael dealltwriaeth
gywir o fywydau plant a sut i wella canlyniadau i blant. Mae casglu’r data hwn
yn gyson yn hanfodol er mwyn i’r Llywodraeth wneud penderfyniadau priodol
er budd plant a phobl ifanc ledled Cymru. Gellir hefyd canmol yr ail fonitor a
gyhoeddwyd yn 2011 oherwydd ei fod yn cynnwys barn plant am eu bywydau
gan gefnogi, am y tro cyntaf, y persbectif hawliau dynol y dylid cydnabod mai
plant yw’r arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain ac y dylai eu profiadau
ddylanwadu ar y gwaith o lunio polisïau. Mae’n amlwg fod ganddo le i wella ac
y dylai gynnwys data sydd wedi’i ddadgyfuno ymhellach a dangosyddion ar
hawliau plant. Fodd bynnag, mae’n gasgliad cadarnhaol o ystadegau yn erbyn
y saith nod craidd ac mae’n cydnabod fod lles plant a phobl ifanc yn ddibynnol
ar fyrdd o ffactorau.
Codi ymwybyddiaeth o hawliau plant
Nid wyf am fanylu ar hyn gan fod Louise wedi crybwyll rhai o’r datblygiadau
cadarnhaol mewn perthynas â gweithredu erthygl 42 (codi ymwybyddiaeth o’r
Confensiwn) yng Nghymru. Fodd bynnag, hoffwn ategu pa mor bwysig yw
hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Confensiwn a pha mor bwysig yw
mynd ati ar sail y Confensiwn er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei weithredu’n
llwyddiannus yng Nghymru. Fel y nododd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig,
“os nad yw’r oedolion sydd ymysg plant… yn deall goblygiadau’r Confensiwn,
ac yn bwysicach fyth, yn deall ei fod yn cadarnhau statws cyfartal y plentyn fel
un sydd â hawliau, mae’n annhebygol iawn y bydd yr hawliau a nodir yn y
Confensiwn yn cael eu gwireddu”.
Mae angen i’r Llywodraeth nawr lunio strategaeth gynhwysfawr i hyrwyddo
gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Confensiwn yng Nghymru, gyda
chyfarwyddebau clir i gyrff proffesiynol ymgorffori’r Confensiwn yn eu
cwricwlwm a’u safonau galwedigaethol. Mae angen hefyd i’r holl weithwyr
proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ac ar eu rhan dderbyn hyfforddiant
statudol cynhwysfawr parhaus ar y Confensiwn cyn ac ar ôl cymhwyso a dylid
dysgu’r Confensiwn yn yr ysgol.
Dylai Atodlen 5 y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) gynnig
cyfleoedd sylweddol i ddatblygu’r uchod ymhellach.
Y Camau nesaf ar gyfer Grŵp Monitro’r Confensiwn
Yn olaf, bydd Grŵp Monitro’r Confensiwn yn parhau gyda’i rôl o fonitro’r
Llywodraeth a’i gwneud yn atebol am weithredu’r Confensiwn. Prif
flaenoriaethau’r grŵp, cyn adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn 2014,
fydd cynnal cyfres o adroddiadau rheolaidd am Sylwadau Crynhoi 2008 a’r
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Hawliau Plant. Byddant hefyd yn
cynnwys cynnal seminarau ac annog trafodaethau gyda’r Llywodraeth, llunio
adroddiadau ar ble mae’r diffygion cyfredol o ran hawliau plant yn cael eu
diystyru a sicrhau eu bod yn ymateb ganddynt.
Mae’r grŵp yn benderfynol hefyd o gefnogi a dylanwadu ar y gwaith o
weithredu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), a bydd yn parhau i
weithredu fel ffrind beirniadol ac yn cynnig cymorth trwy feithrin gallu a
dehongli’r Confensiwn. Yn ogystal, bydd rôl a swyddogaeth bwysig is-grŵp
Erthygl 42 y grŵp monitro yn parhau i gynnal trafodaethau gyda’r Llywodraeth
a gweithwyr proffesiynol ar y ffordd orau o hyrwyddo gwybodaeth a
dealltwriaeth o’r Confensiwn ledled Cymru.
Ar hyn o bryd mae’r gymuned ryngwladol yn gwylio cynnydd Cymru’n eiddgar
mewn perthynas â gweithredu mesurau cyffredinol y Confensiwn. Beth am i ni
barhau i’w synnu trwy weithio mewn partneriaeth a manteisio ar bob cyfle i
sicrhau bod hawliau dynol wrth wraidd ein holl waith gyda phlant a phobl
ifanc.