cariad a chasineb
DESCRIPTION
Cariad a Chasineb. Pa mor aml ydych chi wedi dweud neu meddwl y rhain?. Tecsia fi. Allai ddim dy ddiodda di !. Dwi’n dy garu di !. Dwi’n dy gasau di!. Secsi!. Ti’n ffrind gret ! . Ti mor gas!!!!. Diawl !. Ti’n lyfli ;). Bitch!. Allwch chi feddwl am fwy?. CARIAD. CASINEB. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Cariad a Chasineb
Pa mor aml ydych chi wedi dweud neu meddwl y rhain?
Dwi’n dy garu
di!
Ti’n lyfli ;
)
Secsi!Ti mor gas!!!!
Allai ddim dy
ddiodda di!
Diawl!
Bitch!
Tecsia fi
Dwi’n dy
gasau di! Ti’n
ffrind gret!
Allwch chi feddwl am fwy?CARIAD CASINEB
Dyma luniau sydd yn dangos Cariad a Chasineb mewn gwahanol ffyrdd.
Ewch ati i restru ansoddeiriau ac emosiynau i ddisgrifio’r lluniau.
DADANSODDI LLUNIAU
GWAHANOL FATHAU O GARIAD A CHASINEB
Gwaith grŵpDewisiwch un llun rydych chi’n ei weld yn ddiddorol.Trafodwch y canlynol:
Pwy sydd yn y llun?
Sut berthynas sydd rhyngddynt?
Beth sy’n digwydd?
Lle maen nhw?
TASG YMARFEROL Gwaith grŵp:
1) Ewch ati i greu LLUN LLONYDD o’r llun. Meddyliwch am....• sefyllfa a lleoliad yr olygfa • teimladau’r cymeriadau• y berthynas rhyngddynt• beth sydd wedi digwydd cyn y llun?• beth sydd am ddigwydd wedi’r llun?
2) Datblygiad : Dewch â’r llun yn fyw drwy waith BYRFYFYR.
3) Ychwanegwch y dechneg TRACIO’R MEDDWL tuag at eich gwaith byrfyfyr. Bydd hyn yn eich helpu i feddwl am sefyllfa pob cymeriad yn unigol.
Casglu SyniadauLlenwch y tabl isod gan ddefnyddio eich gwaith
ymarferol fel sbardun.Pwy sydd yn y llun?Beth yw’r berthynas rhyngddynt?
Beth sydd wedi digwydd?
Lle maen nhw?
Beth sy’n mynd i ddigwydd?
CYNLLUNIO
Gwaith grŵp
Trafodwch beth mae Cariad a Chasineb yn ei olygu i chi.
Gan ddefnyddio’r darlun a’ch gwaith ymarferol fel sbardun trafodwch blot posibl ar gyfer eich drama dyfeisiedig.
Taflen waith
Datblygu eich syniadau (CREU SGRIPT)
CAMAU
1) Rhannwch eich plot yn unedau llai (golygfeydd.)
2) Trafodwch prif ddigwyddiadau pob uned a gwnewch luniau llonydd ohonynt.
3) Dewch â’r lluniau llonydd yn fyw drwy dechneg fyrfyfyr neu tracio meddyliau.
4) Ewch ati i sgriptio’r olygfa gan ddefnyddio’r gwaith yymarferol fel sbardun.
Datblygu Cymeriad
Mae angen i actor ddeall ei gymeriad yn llawn cyn mynd ati i’w berfformio felly mae angen i chi ddadansoddi eich cymeriad.
Mae dadansoddi yn golygu eich bod yn gwybod ffeithiau syml a chymleth am eich cymeriad. Felly mae gofyn i chi fel actor feddwl yn ddwys am yr hyn mae’r cymeriad yn ei ddweud, yr is-destun (yr hyn sydd yn mynd drwy feddwl y cymeriad), sut maent yn teimlo ac yn ymateb i gymeriadau eraill a digwyddiadau’r ddrama.
Un ffordd dda o wneud hyn yw casglu gwybodaeth ffeithiol am eich cymeriad o’r testun ac yna defnyddio eich dychymyg a’ch profiadau chi mewn bywyd i greu cymeriad llawn byw ar lwyfan.
Dyma fydd ein nod yn ystod y tasgau nesaf.
Llinell Emosiwn
Meddyliwch am daith emosiynol eich cymeriadyn ystod eich drama.
Rhaid meddwl am y prif ddigwyddiadau sy’n effeithio ac yn newid emosiynau eich cymeriad.
Ewch ati i greu graff llinell i ddangos y newidiadau
emosiynol yma.
Enghraifft o Linell Emosiwn
Corff MarwMae gwneud Corff Marw yn gyfle i chi gasglu llawer iawn o wybodaetham eich cymeriad.
Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o lewni’r corff marw.
Un ffordd yw rhoi ffeithiau am y cymeriad tu fewn i’r corff marw, yn ogystal â theimladau eraill amdano/amdani tu allan i’r corff.
PROFFIL CYMERIAD
Rydych wedi casglu ffeithiau o’r testun ynglŷn â’ch cymeriad y
cam nesaf yw defnyddio eich dychymyg er mwyn dod â’r cymeriad yma yn fyw. Un ffordd o wneud hyn yw creu
proffil i’ch cymeriad.
Drwy wneud proffil fe fydd gofyn i chi ddefnyddio’r ffeithiau rydych wedi eu casglu yn barod. Mae’n rhaid i chihefyd ddefnyddio eich dychymyg i ateb ambell gwestiwn
gan feddwl beth sydd yn gweddu’r cymeriad, gan gadw i gof yr hyn rydych yn ei wybod yn barod.e.e. Rydym yn gwybod bod Mari yn ferch dawel a swil felly ni fuasai mynd allan bob nos Sadwrn yn un o’i diddordebau.
Enw : Oed: Teulu: Diddordebau: Hoff beth: Cas beth: Hoff film: Uchelgais : Ofn mwyaf: Beth sydd yn dy wneud i wenu: Atgof gorau: Cas Atgof: Ffobia : Alli di feddwl am fwy o gwestiynau?
Mae actor yn eistedd ar gadair fel ei gymeriad. Mae’r gynulleidfa yn gofyn cwestiynau iddo/iddi ac mae angen iddo/iddi eu hateb. Bydd rhaid cadw mewn cymeriad a meddwl yn gyflym gan ddefnyddio ffeithiau a dychymyg i ateb y cwestiynau. Bydd yr ymarfer yn eich helpu i ddod i adnabod eich cymeriad yn well.
Cadair Goch / Holli Hallt
Gwaith Grŵp: Trafodwch
Y Llwyfan ?Rhaid meddwl am sut lwyfan ydych am ei ddefnyddio a phaun fyddai mwyaf addas ar gyfer eich drama.
(Bwa Proseniwm, Cylch, Arena, Traws, Gwth.)
Y Set ?Ydych am ddefnyddio set NATURIOLAIDD neu un mwy SYMBOLAIDD.
LLWYFANNUCYNLLUNIO SET
1) Rhaid cynllunio set o’r awyr (Edrych i lawr arno.)
2) Mae angen nodi lleoliad y gynulleidfa yn glir.
3) Defnyddio ALLWEDD er mwyn egluro beth yw’r gwahanol symbolau/gwrthrychau sydd ary llwyfan.
Camau Cynllunio Set
Allwedd Cynllunio Set
ByrddauGrisiau
Cadair Feddal
Cadair Galed
Gwely sengl
Drws
Ffenestr
Lle tan
Wal
Mae’n bwysig gwerthuso ar waith ein hunain ac eraill yn gyson,er mwyn myfyrio ar eich datblygiad, llwyddiannau a gwendidau.
TASGGwyliwch berfformiadau’r grwpiau eraill a phenderfynwch ar actor i’w werthuso.Llenwch y daflen adborth i’r actor yn gwerthuso ei berfformiad.(Symudiadau, llais, cymeriadu, lleoliad ar y llwyfan a chanolbwyntio.)
Cofiwch fod yn onest ond hefyd yn adeiladol – bydd hyn yn eu helpu ar gyfer paratoi at y perfformiad terfynnol.
GWERTHUSO’R PERFORMIAD
Rydych bellach wedi creu, datblygu a pherfformio eich drama o flaen cynulleidfa.
Dyma gyfle i chi fyfyrio dros eich datblygiad a’chllwyddiannau yn ystod yr uned.
Dyma rai pwyntiau i chi feddwl amdanynt.......
Oedd eich proses o greu a datblygu’r ddrama yn
llwyddiannus?
Beth oedd prif
gryfderau’r perfformiad?
Pam?
Beth oedd prif wendidau’r
perfformiad? Pam?
Pa dargedau hoffech chi
weithio tuag atynt nesaf?
Oedd y perfformia
d yn un llwyddiann
us?
A lwyddoch chi i gyfathrebu cynnwys y ddrama i’r gynulleidfa’n llwyddiannus?