briffio ymgeiswyr ac asiantau
DESCRIPTION
Briffio ymgeiswyr ac asiantau. Etholiadau llywodraeth leol. Pynciau. pwy ’dy pwy amserlen yr etholiad cymwysterau gwaharddiadau enwebiadau asiantau pleidleisiau drwy’r post y diwrnod pleidleisio cyfrif pleidleisiau treuliau ymgeiswyr cysylltwyr. Pwy ’dy pwy. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Briffio ymgeiswyr ac asiantiaidEtholiadau llywodraeth leol
Pynciau • pwy yw pwy• dyddiadau allweddol amserlen yr etholiad• cymwysterau • gwaharddiadau• enwebiadau• asiantiaid• pleidleisiau post• y diwrnod pleidleisio• cyfrif pleidleisiau • treuliau ymgeiswyr• cysylltiadau
Pwy yw pwy • Y Swyddog Canlyniadau yw’r sawl sy’n gyfrifol am redeg yr etholiadau. Y Swyddog Canlyniadau yw [nodwch yr enw]
• Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy’n gyfrifol am gynnal y gofrestr o etholwyr a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol. Y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw [nodwch yr enw]
• Ceir manylion cyswllt yn ddiweddarach
Dyddiadau allweddol
Cyhoeddi’r Hysbysiad o Etholiad Dim ar ôl [E-25]
Enwebiadau’n dechrau
Cau enwebiadau 4pm - [E-19]
Cyhoeddi datganiad o'r personau a enwebwyd
4pm – [E-18]
Hysbysu penodi asiantiaid etholiadol 4pm – [E-19]
Cyhoeddi hysbysiad o bleidlais/lleoliad gorsafoedd pleidleisio
[E-6]
Amser cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisiau post newydd/ newidiadau i drefniadau pleidleisiau post neu drwy ddirprwy presennol
5pm[E-11]
Amser cau ar gyfer ceisiadau i gofrestru i bleidleisio
Canol nos - [E-12]
Dyddiadau allweddol
Amser cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisiau newydd drwy ddirprwy
5pm– [E-6]
Penodi asiantiaid cyfrif a phleidleisio [E-5]
Y diwrnod pleidleisio [dyddiad] – 7am i 10pm
Amser cau ar gyfer gwneud cais newydd i bleidleisio drwy ddirprwy oherwydd argyfwng meddygol neu os gelwir i ffwrdd yn annisgwyl oherwydd gwaith neu wasanaeth
5pm – diwrnod pleidleisio
Amnewidiadau ar gyfer pleidleisiau ar goll/a ddifethwyd yn dod i ben
5pm – diwrnod pleidleisio
Newidiadau i’r gofrestr i gywiro camgymeriad clercyddol
9pm – diwrnod pleidleisio
Darparu manylion treuliau etholiad + 35 diwrnod ar ôl y canlyniad
Cymwysterau • Rhaid i ymgeiswyr fodloni meini prawf ar ddiwrnod eu henwebu ac ar y diwrnod pleidleisio:– bod yn 18 oed o leiaf– naill ai fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd
Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd cymwys y Gymanwlad
• Hefyd o leiaf un o’r canlynol:– Etholwr llywodraeth leol cofrestredig ar gyfer ardal
awdurdod lleol– Perchennog neu tenant unrhyw dir neu eiddo yn yr ardal
awdurdod leol yn ystod y 12 mis cyfan cyn enwebu– Prif neu unig le gwaith (gan gynnwys heb gyflog) yn
ystod y 12 mis diwethaf yn yr awdurdod lleol– Wedi byw yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod y 12 mis
diwethaf
Gwaharddiadau • Ni all person fod yn ymgeisydd os:
– Ydynt wedi’u cyflogi gan yr awdurdod lleol neu’n dal swydd wedi’I thalu yn yr awdurdod (gan gynnwys cyd-bwyllgorau neu bwyllgorau). Gall ymgeiswyr fod wedi’u ‘cyflogi gan yr awdurdod lleol’ os ydynt yn gweithio mewn rhai ysgolion, gwasanaethau tân, gwasanaethau’r heddlu neu iechyd
– Yn destun Gorchymyn Cyfyngiadau Methdaliad (neu orchymyn interim) yng Nghymru neu Lloegr
– Wedi’ch dedfrydu i gyfnod o garchar o dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd wedi’i gohirio) heb ddewis o ddirwy, yn ystod y 5 mlynedd cyn y diwrnod pleidleisio
– Wedi’ch gwahardd yn unol â Deddf Comisiwn Archwilio 1998
– Yn destun gwaharddiad o ganlyniad i’ch cael yn euog o arfer llwgr neu anghyfreithlon gan lys etholiadol
– Yn dal swydd cyfyngedig yn wleidyddol
Cyflwyno papurau enwebu
• Rhaid cyflwyno dau bapur pleidleisio gan bob ymgeisydd erbyn 4pm [E-19]:– Y ffurflen enwebu– Y cydsyniad i’r enwebiad
• Hefyd bydd angen i ymgeiswyr dros bleidiau gyflwyno erbyn 4pm [E-19] :– dystysgrif yn awdurdodi defnyddio enw plaid/
disgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio – cais ysgrifenedig i ddefnyddio un o
arwyddluniau’r blaid ar y papur pleidleisio (dewisol)
Cyflwyno papurau enwebu
• Byddwch yn ofalus wrth gwblhau eich papurau enwebu gan y gall camgymeriadau wneud eich enwebiad yn annilys.
• Cwblhewch eich papurau enwebu yn gynnar a threfnwch i ni ddarparu gwiriad anffurfiol.
• Mae'n rhaid i'r papurau enwebu gael eu danfon yn bersonol
Ffurflen enwebu
• Cynhwyswch eich enw llawn a’ch cyfeiriad cartref
• Dewisol: defnyddiwch y blwch/blychau enwau a ddefnyddir fel arfer os mai dyna ydych chi fel arfer yn cael eich galw yn lle’ch enw llawn a’ch bod eisiau defnyddio’r enw a ddefnyddir fel arfer
• Maes disgrifiad – 3 opsiwn: • ei adael yn wag• Independent ac/neu Annibynnol• gall ymgeiswyr dros blaid ddefnyddio enw’r
blaid neu ddisgrifiad y mae tystysgrif sydd wedi’i chyhoeddi gan neu ar ran y Swyddog Enwebu yn ei awdurdodi
Ffurflen enwebu
• Llofnodwyr: mae angen cael 10 llofnodwr o’r etholaeth.
• Mae’n rhaid iddynt lofnodi a phrintio’u henwau. Cymharwch fanylion y llofnodwyr â’r manylion ar y gofrestr etholiadol.
• Peidiwch â gofyn i’r llofnodwyr lofnodi hyd nes eich bod wedi llenwi’r meysydd enw a disgrifiad ar y ffurflen.
Ffurflen cydsynio i enwebu
Rhaid i’r ffurflen hon gynnwys:
•Enw a chyfeiriad•Pa ardal yr ydych yn sefyll ynddi•Cadarnhau cymhwyster(au) sy’n berthnasol (o leiaf 1, ond dewiswch bob un sy’n berthnasol)•Dyddiad geni a llofnod•Enw, cyfeiriad a llofnod tystion
Tystysgrif awdurdodi
• Mae’n rhaid i ymgeiswyr dros blaid gael caniatâd ysgrifenedig i ddefnyddio enw/disgrifiad y blaid gan y Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi’i benodi weithredu ar eu rhan)
• Gall y dystysgrif:– ganiatáu defnyddio enw’r blaid neu ddisgrifiad– caniatáu i’r ymgeisydd ddewis p’un a yw am
ddefnyddio enw’r blaid neu unrhyw un o’r disgrifiadau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Etholiadol
• Rhaid ei chyflwyno gyda’r papurau enwebu eraill erbyn 4pm ar [E-19].
Ffurflen cais am arwyddlun
• Gall ymgeiswyr dros blaid ofyn am gael argraffu arwyddlun ar y papur pleidleisio
• Rhaid cyflwyno ffurflen gais am arwyddlun erbyn 4pm ar [E-19]
• Dylai ymgeiswyr dros blaid gyflenwi fersiwn electronig o’r arwyddlun i’r Swyddog Canlyniadau os oes angen
Ymgeiswyr dros bleidiau ar y cyd
• Wedi’u henwebu gan fwy nag un blaid
• Gallant ddefnyddio cyd-ddisgrifiadau cofrestredig– rhaid cael cefnogaeth tystysgrif awdurdodi
oddi wrth bob plaid
• Gallant ddefnyddio un arwyddlun un o’r pleidiau ond nid oes unrhyw arwyddluniau ar y cyd
Asiant etholiad • Yn gyfrifol am reoli'ch ymgyrch etholiad yn briodol; yn enwedig rheolaeth ariannol.
• Rhaid i hysbysiadau o benodiad gyrraedd y Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm ar - [E-19]. Mae’r ffurflen wedi’i chynnwys yn y pecyn enwebu.
• Byddwch yn dod yn asiant i chi eich hun fel mater o drefn os nad oes asiant wedi’i benodi.
Asiantiaid eraill • Gellir penodi asiantiaid eraill i fod yn bresennol ar eich rhan wrth agor pleidleisiau post, mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y cyfrif:
– Mae'n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig am unrhyw bobl a benodir yn asiantiaid pleidleisio a chyfrif erbyn [E-5].
– Rhaid penodi’r asiantiaid pleidleisio drwy’r post a fydd yn mynychu sesiwn agor benodol cyn dechrau’r sesiwn. Byddwn yn rhoi rhybudd o 48 awr
Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestrau pleidleiswyr absennol
• Ar gael i ymgeiswyr – cyn gynted ag y dewch yn ymgeisydd yn swyddogol:– y cynharaf, ar [dyddiad cyhoeddi hysbysiad o
etholiad] os ydych chi neu eraill wedi datgan eich bod yn sefyll fel ymgeisydd ar neu cyn y dyddiad hwn
– ar ôl 30 Mawrth, unwaith y byddwch chi neu eraill wedi datgan eich bod yn sefyll fel ymgeisydd neu eich bod yn cyflwyno eich papurau enwebu, p’un bynnag sydd gyntaf
• Gwnewch gais ysgrifenedig i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol – mae ffurflenni ar gael o’r swyddfa gofrestru wedi eu cynnwys yn eich pecyn enwebu.
Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestrau pleidleiswyr absennol
• Dim ond i ddibenion a ganiateir y cewch ddefnyddio’r data– i lenwi’r ffurflen enwebu– i’ch helpu i ymgyrchu– i wirio bod rhoddion/benthyciadau’n ganiataol
Cofrestru • Fel ymgeisydd yr ydych mewn sefyllfa unigryw i annog pobl i gofrestru i bleidleisio.
• Dylech annog pobl i gofrestru cyn gynted â phosibl.
• Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar gyfer yr etholiad yw [rhowch y dyddiad].
• Mae cofrestru wedi newid o system aelwyd i system unigol. Erbyn hyn gall unigolion hefyd gofrestru ar-lein ar https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd.
Cofrestru • Wrth drafod cofrestru i bleidleisio gydag unigolion, bydd angen i chi roi gwybod iddynt y byddant angen:– eu rhif Yswiriant Gwladol,– dyddiad geni a chyfeiriad i gofrestru.
• Gall pobl nad oes ganddynt / na allant gael gafael ar eu Rhif Yswiriant Gwladol barhau i gofrestru, ond efallai y bydd angen iddynt ddarparu gwybodaeth bellach. Os felly, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu â nhw.
Pleidleisio absennol
• Os ydych yn annog pobl nad oes ganddynt bleidlais bost (neu ddirprwy) i wneud cais am un, gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro bod rhaid iddynt fod wedi'u cofrestru’n unigol i fod yn gymwys am un.
• Byddant yn cael eu cofrestru yn unigol os: – ydynt wedi gwneud cais i gofrestru ar ôl [10
Mehefin (C & Ll) / 19 Medi (Yr Alban) 2014], neu
– os ydynt wedi eu trosglwyddo i'r cofrestrau newydd oherwydd bod eu manylion wedi cael eu paru â’r cofnodion swyddogol. Byddent wedi derbyn cadarnhad o’r trosglwyddiad hwn yn [nodwch y mis].
Gair i gall wrth ymgyrchu
• Defnyddiwch argraffnodau ar eich holl ddeunydd ymgyrchu
• Cydymffurfiwch â'r rheolau cynllunio yn ymwneud â hysbysfyrddau a baneri mawr
• Gwnewch yn siŵr bod posteri awyr agored yn cael eu tynnu i lawr bythefnos ar ôl yr etholiad
• Peidiwch â chynhyrchu deunydd sy'n edrych fel cerdyn pleidleisio
• Peidiwch â thalu i bobl arddangos eich hysbysebion (oni bai eu bod yn arddangos hysbysebion fel rhan o'u busnes arferol).
Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, ond ni ddylai eu gweithgareddau fwrw amheuaeth ar hygrededd y broses etholiadol •Ceisiadau cofrestru etholiadol a phleidlais absennol:
– Sicrhewch bod ffurflenni yn cydymffurfio'n llawn â gofynion y gyfraith etholiadol
– Cynhwyswch gyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer dychwelyd ffurflenni
– Sicrhewch bod y ceisiadau heb eu newid yn cael eu hanfon at Swyddog Cofrestru Etholiadol o fewn dau ddiwrnod gwaith
– Gwnewch yn siŵr bod etholwyr yn deall goblygiadau gwneud cais am bleidlais absennol
– Peidiwch ag annog ailgyfeirio pecyn pleidleisio drwy'r post
– Peidiwch ag annog etholwyr i benodi ymgyrchydd fel dirprwy.
Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr
• Pecynnau pleidleisio drwy'r post:– Peidiwch byth â chyffwrdd papur pleidleisio drwy'r
post – Peidiwch byth ag edrych ar etholwyr yn cwblhau
eu pleidlais drwy'r post – Peidiwch byth â thrin neu gymryd unrhyw bapur
pleidleisio sydd wedi’i gwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post gan bleidleiswyr.
• Ymgyrchu y tu allan i orsafoedd pleidleisio:– Caniateir i chi roi eich negeseuon i bleidleiswyr ar
y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus y tu allan i fannau pleidleisio
– Cadwch y mynediad i fannau pleidleisio a'r palmentydd o amgylch mannau pleidleisio yn glir er mwyn caniatáu i bleidleiswyr fynd i mewn.
Y diwrnod pleidleisio
• Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.
• Bydd y swyddfa ar agor rhwng[x]am a [x]pm ar gyfer ymholiadau neu broblemau sy’n ymwneud â gweinyddu’r etholiad– yn achos ymholiadau sy’n ymwneud â materion
ariannol yr etholiad, cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol (dangosir y manylion cyswllt yn ddiweddarach)
• Gall pleidleiswyr sydd yn yr orsaf bleidleisio neu sydd mewn ciw y tu allan i'r orsaf bleidleisio am 10pm wneud cais am bapur pleidleisio.
• Gellir danfon pleidleisiau drwy'r post i orsafoedd pleidleisio yn y ward/dosbarth neu eu danfon i’r swyddfa etholiadol hyd at 10pm.
• Gall person sydd mewn ciw mewn gorsaf bleidleisio am 10pm yn disgwyl i roi ei bleidlais bost i mewn wneud hynny ar ôl 10pm.
Cyfrif pleidleisiau
• Cynhelir y cyfrif yn:– [nodwch leoliad/cyfeiriad y ganolfan gyfrif]
• Bydd y ganolfan gyfrif ar agor i asiantiaid ac ymgeiswyr o [X]
• Mae gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad, asiantiaid cyfrif ac un person arall sydd wedi’i benodi gan yr ymgeisydd hawl i fod yno - cyfyngiadau o ran asiantiaid cyfrif : [X]
Materion yn ymwneud â gwariant
Gwariant ymgeiswyr
• Diffinnir gwariant ymgeiswyr fel y treuliau penodol ‘a ddefnyddir at ddiben etholiad yr ymgeisydd’ yn ystod y cyfnod a reoleiddir
• Cyfrifoldeb yr asiant etholiad• Cyfyngiad ar dreuliau:
– £740 +6c am bob etholwr yn y ward/dosbarth ar y gofrestr sydd mewn grym ar [rhowch y dyddiad]
– Wedi lleihau ar gyfer ymgeiswyr ar y cyd• Rhaid cael derbynebau a’u cadw (dros £20)
Manylion gwariant ymgeiswyr
• Mae’n rhaid cyflwyno manylion treuliau 35 diwrnod calendr ar ôl canlyniad yr etholiad
• Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn sicrhau bod y manylion ar gael i’r cyhoedd
• Mae’n bosibl y bydd y Comisiwn Etholiadol yn adolygu sampl o fanylion treuliau
• Mae methu â chyflwyno manylion treuliau'n drosedd y gellir ei gorfodi gan yr heddlu
• Ni ad-delir unrhyw wariant.
Cysylltiadau
Cysylltiadau • Y swyddfa etholiadau – [nodwch]
• Yr adran briffyrdd – [nodwch]
• Cysylltu â’r Comisiwn Etholiadol– Am gwestiynau ynglŷn â sefyll am etholiad neu
weinyddiad yr etholiad, cysylltwch â’r Comisiwn ar 029 2034 6800
– Am gwestiynau ynglŷn â chyllid etholiadol, ffoniwch y Comisiwn ar 029 2034 6800
Cwestiynau
Diolch yn fawr
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â’ch pecyn ymgeisydd gyda chi fel canllaw