“dewch at eich gilydd - llais ogwan ionawr 2015.pdf · 2019. 1. 25. · frwydrau y mae’r...
TRANSCRIPT
Ionawr 2015 Rhif 451 50c
Blwyddyn Newydd Dda i’n Holl Ddarllenwyr
“Dewch at eich gilydd...
Y Côr Unedig Llun: Heulwen Roberts
...a bloeddiwch ynghyd”
Ahithau’n nos Sul cyn y Nadolig, daeth cynulleidfa deilwng iawn iGapel Jerusalem i’r Gwasanaeth Cymunedol, sydd erbyn hyn wedidod yn draddodiad yn y fro. Hyfryd oedd gweld plant ac oedolion y
Dyffryn yn dod at ei gilydd i ddathlu Gŵyl y Geni. Yn ogystal âdarlleniadau gan Alun Llwyd, Angharad Llwyd a John Ogwen, cafwydeitemau cerddorol gan yr unawdydd Elliw Mai, y telynor Dylan Cernyw, adim llai na phedwar côr – Côr y Dyffryn, Côr Meibion y Penrhyn, a ChôrIau a Chôr Hŷn Ysgol Dyffryn Ogwen. Beti Rhys oedd wrth yr organ.
Uchafbwynt y noson oedd datganiad gan y corau o ‘Bachgen a Aned’allan o’r ‘Meseia’ gan Handel, gyda’r gynulleidfa’n llawn gwerthfawrogiad.’Roedd pawb a oedd yn cymryd rhan yn gwneud hynny’n ddi-dâl, a byddy casgliad anrhydeddus iawn o £432.87 a wnaed yn cael ei ddyblu ganlywodraeth San Steffan. Felly, bydd £865.74 yn cael ei drosglwyddo igronfa apêl anffodusion Syria.
Meddai Menai Williams, trefnydd y noson, “Hoffwn ddiolch o galon i bawbam eu cefnogaeth i'r Gwasanaeth Nadolig Cymunedol.”
Lluniodd Dilwyn Owen yr englyncanlynol ar gyfer rhaglen yGwasanaeth Nadolig Cymunedola gynhaliwyd yng NghapelJerusalem:
Y NadoligDyro hedd yw ein gweddi, - i ni oll
Â’r un naws eleniUno drwy ddathlu’r GeniA dod at Dy breseb Di.
Marchnad Ogwen
Blwyddyn Newydd Dda bawb.Diolch i bawb a ddaeth i'r FarchnadNadolig fis Rhagfyr. Diwrnod i'w gofio!Diolch i Siôn Corn (a'i wraig) am daro imewn a rhannu melysion i'r plantos ac i'rBoncathod am y naws Nadoligaidd hyfryd.Llawer o ddiolch.
Stondinau bwyd newydd yw'r pwyslais arddechrau 2015 ac mae rhai da ac o safonuchel ar y gweill gennym.
Croeso mawr i Stondin Oinc Oink iFarchnad Ogwen. Cewch brynu cig mochffres gan Ela o'r stondin yma - sydd ynbroffesiynol iawn gan ei bod yn oergellhefyd! Mae'n gwerthu pob math oddanteithion sydd wedi eu cynhyrchu ar yfferm yn Llithfaen yn ogystal â chig moch obob math. Mae'r cwmni wedi ennill gwobryn y Sioe Aeaf yn Llanelwedd am eucynnyrch ac rydym yn ffodus iawn eu caelyn fisol yn y Farchnad.
Mae Popty Hadau Pwmpen wedi dechraugyda ni ym Marchnad Ionawr. Dyma eichcyfle i brynu bara cartref o bob math ynogystal â nwyddau crwst megis quiches anwyddau pob. Croeso i Claire oBorthaethwy.
Mae gobaith da y bydd Caws Rhyd y Delynyn ôl gyda ni ym Marchnad Chwefror. Bu newid yn nhrefn Stondin Elusen, Côr yPenrhyn yn Ionawr a Haf Thomas yn dodyn Chwefror. Yr un nesaf sy'n rhydd ywAwst.
Edrychwn ymlaen am eich croesawu ar y14eg o Chwefror.
Gwybodaeth gyfredol ar ein gwefanwww.marchnadogwen.co.uk a hefyd arFacebook
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 1
Llais Ogwan 2
Llais Ogwan
Derfel Roberts [email protected]
ieuan Wyn [email protected]
Lowri Roberts [email protected]
Dewi Llewelyn Siôn 07901 [email protected] 913901
fiona Cadwaladr Owen [email protected]
Siân Esmor Rees [email protected]
Neville Hughes [email protected]
Dewi A Morgan [email protected]
Trystan Pritchard [email protected] 373444
Walter W Williams [email protected]
SWYDDOGiONCadeirydd:Dewi A Morgan, Park Villa,Lôn Newydd Coetmor, Bethesda,Gwynedd LL57 3DT [email protected]
Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]
Ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]
Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ [email protected],uk
Y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN [email protected]
PANEL GOLYGYDDOL
Golygydd y Mis
DYDDiADUR Y DYffRYN Rhoddion i’r Llais
Llais Ogwan 2
Clwb Cyfeillion Llais OgwanGolygwyd y mis hwn gan Ieuan Wyn.
Golygydd mis Chwefror fydd DewiLlewelyn Siôn, Tafarn y Sior, 35-37 Ffordd Carneddi, Bethesda,LL57 3SE Ffôn: [email protected]
Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher,4 Chwefror, os gwelwch yn dda.
Plygu nos Iau, 19 Chwefror, yng NghanolfanCefnfaes am 6.45.
£100.00 Er cof am Emlyn Evans, Rhos y Nant, Bethesda.
£10.00 Carys O’Connor, Godre’r Parc, Sling.
£20.00 Er cof am Kate Rosser, Penisarwaun, (Rhiwlas gynt), oddi wrth y teulu.
£20.00 Er cof annwyl am Rhiannon Rowlands, oddi wrth Arthur, Olwen, Myrddin, Huw a’r teulu.
£200.00 Cyngor Cymuned Llandygái.£300.00 Cyngor Cymuned Pentir.£5.00 Mair Jones, Bryn Onnen, Bethesda.£20.00 Ifor a Beti Lewis, Abergynolwyn,
er cof am Richard a Sylvia Robertsac Iris Jones.
£10.00 Dr Gwen Gruffudd, Aberystwyth. £10.00 Dr Elwyn Hughes, Ystradgynlais.£10.00 Mr DW Thomas,
Barrow in Furness.£50.00 Bryn Roberts, Caerdydd a Mrs Jois
Snelson, Dinbych er cof am eu rhieni, Caeron a Nancy Roberts, Erw Faen, Tregarth.
Diolch�yn�Fawr
Gwobrau�Ionawr
£30.00 (1 ) Angharad Huws, 14Ffordd Pant, Bethesda.£20.00 (98) Godfrey D. Northam, 4Llwyn Bedw, Rachub.£10.00 (139) Eirlys Edwards, 23 PentrefLlandygái.£5.00 (189) A. Ray Davies, 9 HeolIfor, Caerdydd.
2015Ionawr24 Bore Coffi Cronfa Tracy Smith.
Cefnfaes. 10.00 – 12.00.
27 Cangen Plaid Cymru Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.00.
27 Te Bach Eglwys y Gelli, Tregarth am 2.00.
28 Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.
29 Theatr. Mr Bulkeley o’r Brynddu. Neuadd Ogwen am 7.30.
29 Merched y Wawr Bethesda. Marian Hughes – Taith i’r India. Cefnfaes am 7.00.
31 Pesda Roc – Dafydd Iwan a gwestai arbennig. Neuadd Ogwen am 7.30.
Chwefror
02 Merched y Wawr Tregarth. Bet Jones, Rhiwlas. Festri Shiloh am 7.30.
05 Sefydliad y Merched Carneddi. Parchg. Marcus Robinson. Cefnfaes am 7.00.
09 Cymd. Hanes D. Ogwen. James Griffiths. Festri Jerusalem 7.00.
12 Cymdeithas Jerusalem. Dafydd Jones Morris. Y Festri am 7.00.
14 Marchnad Ogwen. Neuadd Ogwen. 9.30 – 1.30.
17 Te Crempog Eglwys y Gelli, Tregarth am 2.00.
19 Plygu Llais Ogwan. Canolfan Cefnfaes am 6.45.
25 Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.
26 Merched y Wawr Bethesda. Pedwarawd y Fenai. Caffi Coed y Brenin am 7.00.
27 Cyfarfod Blynyddol Plaid Cymru Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.00.
28 Marchnad Pesda. Neuadd Ogwen
28 Pesda Roc – Steve Eaves a Lleuwen Steffan. Neuadd Ogwen am 7.30.
Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan
@Llais_Ogwan
Cysodwyd gan Tasg, 50 Stryd Fawr Bethesda,
LL57 3AN 07902 362 [email protected]
Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY
01248 601669
Nid yw pwyllgor Llais Ogwan na’rpanel golygyddol o angenrheidrwyddyn cytuno â phob barn a fynegir ganein cyfranwyr.
Ariennir yn rhannolgan Lywodraeth Cymru
-Gwledydd Prydain - £20Ewrop - £30Gweddill y Byd - £40
Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]
01248 600184
Archebu Llais Ogwan drwy’r Post
Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:
Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853
Llais Ogwan ar Dâp
Hysbysebu yn y Llais
I hysbysebu yn Llais Ogwan ac i drafodtelerau a’ch holl anghenion cysylltwch â:
Neville Hughes, 14 Pant,
Bethesda LL57 3PA 600853
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 2
Llais Ogwan 3
AnnwylDdar l l enwyr
Annwyl�Ddarllenwyr,Diolch i Gareth Jones am hanesdifyr drwy'r Llais am bêl-droedym Methesda dros gymaint oflynyddoedd. Rwy’n cytuno nawêl neb amser yr un fath eto, a’rcofion cyntaf i mi oedd hogiaulleol yn chwarae am bleser, a’ullwyddiant yn trafaelio yn eang.Daeth y newid yn rhy fuan gydachwaraewyr yn trafaelio o ochrauLerpwl am bres, ac ond lle i unneu ddau o’r ardal fel RegWilliams, Emrys Owen neuCemlyn Jones yn y tîm.
Er hynny cafodd pawb blesermawr gyda lefel y pêl-droed, a’rllwyddiant yn enwedig dan ofalTommy Jones, yn y chwech a’rsaithdegau. Rwy’n cofio fy nhad,Emlyn Davies, a fu’n rhedeg ylein am flynyddoedd, yn fy ngalwo swyddfa ym Mharc Ninian ar ôli’r tîm cael eu trechu 6 - 1 gan uno dimau gorau Cymru. Yn sicr, felmae Gareth wedi dweud, hi oeddy gêm fwyaf erioed i’r Clwb, adiolch i bawb a wnaeth hynny agweddill o’r stori hir hon ynbosib.
Rhaid cofio hefyd am gyfraniad yBingo.
Pob dymuniad da i’r Llais yn2015.
Yn�gywir,John�Ffrancon�Davies
7�Winkfield�Road,�Windsor�
01753�862599
Annwyl�Gyfeillion,Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar lyfr sy’n dwyn y teitl Gwlado Gofebau, er fy mod hefyd yn ystyried ei alw yn Colli’r Hogiau.Bwriad Gwlad o Gofebau yw edrych ar y Rhyfel Mawr o onglwahanol. Er mai Gwlad o Gofebau yw teitl y gyfrol arfaethedig ar hyno bryd, nid y cofebau eu hunain sy’n bwysig, ond y rhai a enwirarnynt. Pwy oedd y miloedd hyn o fechgyn a enwir ar y cofebau? Adyna sy’n wahanol yn y gyfrol hon. Amlinellir y cefndir hanesyddol,yn naturiol, ond nid ar hanes y rhyfel ei hun nac ar hanes y gwahanolfrwydrau y mae’r pwyslais, ond, yn hytrach, ar y bechgyn a gymeroddran yn yr ymladd. Ar hanesion personol y mae prif bwyslais y gyfrol,ac nid hanesion y bechgyn yn unig ychwaith. Mae’r bennod‘Ymgeledd Gwragedd y Groes’ yn y gyfrol yn adrodd hanes ymerched hynny o Gymru a fu’n gweini ar y cleifion ar y FfryntGorllewinol a’r Ffrynt Dwyreiniol, sef merched y Groes Goch.
Ar ôl cyflwyno hanes rhai o’r cofebau, yn fyr, adroddir hanes rhai o’rbechgyn a enwir arnynt, gan ganolbwyntio ar y straeon mwyafdiddorol, ond gan roi darlun cyffredinol o effaith y rhyfel ar deuluoeddCymru ar yr un pryd. Dyfynnir o’u llythyrau a’u dyddiaduron.Dyfynnir englynion a cherddi coffa iddynt. Rhoir wyneb i’r enw, athrwy adrodd hanes rhai unigolion, daw trasiedi’r rhyfel yn fyw. Osafbwynt lluniau, bwriedir cynnwys ffotograffau gwreiddiol yn y llyfryn ogystal â hen luniau o’r milwyr a’u teuluoedd, ac yn y blaen.
Bwriad y llythyr hwn yw apelio am ddeunydd. Os oes gennychlythyrau neu ddyddiaduron gan rai a fu’n gwasanaethu mewn rhywfodd neu’i gilydd yn y rhyfel, neu luniau ohonynt, neu’r ddau, byddwnyn ddiolchgar iawn ichi am gysylltu â mi. Os nad ydych yn awyddus iollwng gafael ar y deunydd gwreiddiol sydd yn eich meddiant, gellwchanfon llungopïau ataf neu drosglwyddo deunydd imi drwy gyfrwng fynghyfeiriad ebost.
Hoffwn ddiolch ichi ymlaen llaw am eich cymorth a’chcydweithrediad. Rhoir cydnabyddiaeth i bawb a roddodd ddeunyddimi yn y gyfrol.
Yn�gywir�iawn,Alan�Llwyd
71�Ffordd�Pentrepoeth,�Treforys,�
Abertawe,�SA6�6AE.�
Ffôn:�01792�[email protected]
Annwyl�Ddarllenwyr,
Canolfan�Hanes�UwchgwyrfaiYn y flwyddyn newydd hon byddCanolfan Hanes Uwchgwyrfai yngNghlynnog yn parhau gyda’r gyfresarloesol, ‘Ein Gwir Hanes’. Eisoestrefnwyd tri chyfarfod i edrych ynfanylach ar gyfnodau allweddol ynhanes ein gwlad ac fe hyderwn ybydd gan ein cyd-Gymryddiddordeb mawr mewn clywedamdanynt. Dyma’r dyddiadau i’chdyddiaduron:
Chwefror�7fed�2015Thomas Gee a Rhyfel y Degwm.
Mai�16eg�2015���Y Brythoniaid a’r Hen Ogleddmewn Hanes a Llên.
Hydref�17eg�2015����Tuduriaid Penmynydd : MeibionDarogan?
(Pob cyfarfod yn dechrau am 10.30ac yn dod i ben tua 2.30pm)
Fel arfer, rydym wedi sicrhausiaradwyr brwd o’r safon uchafsydd yn dra hyddysg yn eumeysydd.
Y cyn-Aelod Cynulliad a DirprwyBrif Weinidog Cymru, Ieuan WynJones, a’r hanesydd a’r awdurtoreithiog Bob Morris fydd yn ein
Annwyl�Ddarllenwyr,Yn ystod misoedd Tachwedd aRhagfyr, cynhaliodd PrifysgolBangor gyfres o ddarlithoeddcyhoeddus yn Neuadd Ogwen.Nod Cyfres 6 oedd darparudarlithoedd gwreiddiol, cyfrwngCymraeg, yn trafod ystod eang obynciau a hynny ar gyfer cyhoeddardal sydd â chysylltiadauhanesyddol hysbys â'r Brifysgol.Cafwyd darlithoedd ar zombis yMabinogi, defnydd o'r Gymraeg arFacebook, seicoleg plant, sinema'rEidal wedi'r Ail Ryfel Byd, hanes ybrwydro cyfreithiol ynghylchllongddrylliad y Titanic a darlith arlên Cymry Llundain. Traddodwydy cyfan dros gyfnod o chwe nosIau yn Neuadd Ogwen - canolfansy'n adnodd arbennig ac yngaffaeliad mawr i'r ardal - a phleseryw nodi i'r gyfres lwyddo'nrhyfeddol, gyda chyfanswm o 125o bobl yn mynychu'r darlithoedd a'rgyfres yn derbyn sylw ar RadioCymru, ym mhapurau wythnosol ydalgylch ac ar y gwefannaucymdeithasol.
Hoffwn ddiolch o waelod calon ibawb a gefnogodd y gyfres agobeithiaf yn fawr eich bod wedimwynhau ac wedi cael budd ohoni.Yn dilyn yr ymateb cadarnhaol agafwyd i'r gyfres gyntaf, braf ywgallu cyhoeddi bod cynllunio argyfer ail gyfres eisoes ar waith.Diolch unwaith eto a dymuniadaugorau ar gyfer 2015.Yn�gywir,
Rhodri�Ll.�EvansPrifysgol�Bangor
harwain yn ystod cyfarfod misChwefror.
Yn y bore, Ieuan Wyn Jones fyddyn cloriannu bywyd a dylanwad ynewyddiadurwr radical ymneilltuolThomas Gee a fu mor allweddol ynhanes Rhyfel y Degwm. Ieuan ywawdur y cofiant ardderchogdiweddar i Thomas Gee. Cawngefndir a hanes cyffrous Rhyfel yDegwm gan Bob Morris. Achos ywerin bobl yn gwrthryfela’n ddewryn erbyn anghyfiawnderau ydywac er bod cymaint o sylw wedi eidalu i ‘Helynt Beca’ yn ne Cymru,yma yn y gogledd helyntion Rhyfely Degwm oedd y digwyddiadmawr. Ni chafodd hanner y sylw ahaedda ac nid ydyw mor hysbys i’ncenedl ag y dylai fod.
Felly, dyma gyfle gwych i chiymgyfoethogi yn ein gwir hanes ynystod ail hanner y bedwareddganrif ar bymtheg.
Rhan gyson o genhadaeth arloesolCanolfan Hanes Uwchgwyrfaiyw’r cyfarfodydd ‘Ein GwirHanes’, a ni chodir tâl o gwbl.Darperir paned a chroeso cynnes,ond rhaid i fynychwyr ddod â bocsbwyd gyda nhw.
Am ragor o fanylion, cysylltwch âni: 01286�660�546/853/655E-bostiwch:[email protected] Yn�gywir,
Jina�Gwyrfai
Cofadail�y�Milwyr,�Bethesda.�Llun:�Emyr�Roberts
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 3
Llais Ogwan 4
Yr Eglwys UnedigBethesdafiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW 601592
Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas, Bethesda 601902
Dymuna Swyddogion Yr Eglwys Unedig FlwyddynNewydd Dda i’n holl aelodau, cyfeillion ac i ddarllenwyry Llais. Anfonwn ein cofion cynhesaf at y rhai sydd ynwael ac unig yn eu cartrefi, mewn cartref preswyl, mewnprofedigaeth neu arall. Deallwn fod Megan Phillips aGlenys Clarke mewn Cartref Preswyl ac anfonwn eindymuniadau gorau atynt.
Cynhaliwyd Cyfarfod Gweddi ddechrau mis Rhagfyr danarweiniad Walter a Menai ar y thema ‘Heddwch.’ Bu’rdarlleniadau o waith yr Athro Gwyn Thomas ‘Mae gen ifreuddwyd’ a hefyd o waith y Prifardd Mererid Hopwoodar y thema obeithiol o fyd heddychlon. Cawsom gyfarfodhyfryd.
Ar yr 11eg cynhaliwyd Y Gymdeithas gyda’r parti canulleol Boncathod yn ein difyrru. Cafwyd noson o ganuNadoligaidd ardderchog ganddynt.
Y Boncathod
Ar y 14eg, cawsom wledd a phleser yn gwrando ar blantyr Ysgol Sul yn cynnal Gwasanaeth Nadolig. Fewnaethpwyd casgliad o £101 tuag at waith yr Ysgol Sul.Diolchwn i’r athrawon am eu hyfforddi mor drwyadl adarparu lluniaeth ar ein cyfer. Diolch i Siôn Corn hefydam gofio amdanynt.Nos Sul, yr 21ain cynhaliwyd Gwasanaeth CymunedolNadolig am 7 gyda Chôr y Penrhyn, Côr y Dyffryn, CorauYsgol Dyffryn Ogwen ac artistiaid eraill yn cymryd rhan.Bu’r noson yn llwyddiant ysgubol.
Cydymdeimlwn â Tecwyn Hughes, Ffordd Gerlan syddwedi colli ei frawd yn ddiweddar.
Estynnwn longyfarchion i Jennie Jones sydd wedi dod ynhen nain unwaith yn rhagor.
O�‘Salm�y�Genedl’: Argyhoedda ni, O Arglwydd, o’ngwyro gwamal, fel y gwelom ffolineb ein ffyrdd, a throidrachefn at uniondeb dy lwybrau. (Jennie Eirian Davies).
Plant�Ysgol�Sul�Jerwsalem�yn�eu�gwasanaeth�Nadolig
Babi�NewyddLlongyfarchiadau i Rhodri a RhianEvans, Rhos-y-nant ar achlysurhapus genedigaeth eu merch fach,Llio Gwyn, chwaer fach i Bleddyn.
Taid�a�nainLlongyfarchiadau i Mr a Mrs ArfonEvans, Erw Las, ar ddod yn daid anain i Llio Gwyn.
Hefyd i Mrs Phyllis Evans ar ddodyn hen nain a Mr Joe Evans ar ddodyn hen daid.
CydymdeimloDrwg iawn oedd gennym glywed amfarwolaeth Tom Morgan, 9 Glanogwen. Anfonwn eincydymdeimlad cywiraf at Vera,Gwyn, Dylan, Nerys a’r teulu oll yneu profedigaeth.
Priodas�RuddemPob dymuniad da a llongyfarchiadaui Mr a Mrs Dafydd Roberts, MaesCoetmor ar achlysur dathlu eupriodas ruddem ar 14 Rhagfyr.
CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad at ddaudeulu a fu mewn profedigaeth ynddiweddar, o golli eu hewythr, MrLlew Hughes, Bylchau, ar 17Rhagfyr, sef Arwel, Linda a’r teulu,Garneddwen, ac Anwen, Gareth a’rteulu, Bryn Caseg.
DiolchiadauDymuna Jean Thomas, 39Abercaseg, ddiolch o galon i bawbam yr holl ddymuniadau da adderbyniodd ar achlysur eihymddeoliad o’i gwaith yn YsgolAbercaseg yn ddiweddar. Diolch ynfawr am y cardiau a’r anrhegion.Diolch yn arbennig i holl staff yrysgol ac i’w ffrindiau i gyd.
Dymuna Angharad Huws, 14 Pant,ddiolch i bawb am yr holl gardiau acanrhegion a dderbyniodd ar ei phen-blwydd arbennig yn ddiweddar.Diolch o galon i bawb am eucaredigrwydd!
YsbytyCofion cynnes a phob dymuniad dai’r rhai a fu yn yr ysbyty ynddiweddar, a da deall eich bod yngwella:-Mrs Janet Hughes, Ystâd Coetmor;Gethin Saynor, Maes Coetmor;Mrs Ann Parry, Adwy’r Nant;Mrs Megan Phillips, Rhes Gordon;Mr Tom Morgan, Glanogwen;Mrs Eleanor Jones, Bryn Caseg;Mr Billy Williams, Maes-y-garnedd;Mrs Mair Jones, Ffordd Bangor;Mr Colin Williams, Adwy’’r Nant.
Cyfeillion�Ysbyty�GwyneddNos Sul, 7 Rhagfyr 2014, yn Eglwys
y Santes Fair, Porthaethwy,cynhaliwyd ein Gwasanaeth Carolau,wedi ei drefnu gan un o’r aelodau, sefMr Norman Evans. Cafwyd gair ogroeso a gweddi agoriadol gan y Ficer,y barchedig Angela Williams.
Cafwyd darlleniadau gan aelodau’rCyfeillion, sef Geraint Roberts, GlenysMorgan, Dewi Morgan, Iona Jones,Ann Roberts a’n llywydd, MairGriffith. Cafwyd darlleniadau hefyd arran Merched y Wawr gan EleriEdwards, ar ran Cyngor Porthaethwygan y Maer, Michael Davies, ac ar ranEglwysi’r Borth gan y ParchedigGeraint Roberts. Cyflwynwyd unawdgan Norman Evans a dau ddatganiad osafon uchel iawn gan ddisgyblionYsgol David Hughes. Diolchwyd ibawb am eu cyfraniad gan gadeirydd ycyfeillion, Joe Hughes. Wedi’rgwasanaeth cafwyd paned a mins peitrwy drefniant Eirlys a Caroline gydachyfraniad gan yr aelodau.
MarwolaethDydd Mawrth, 30 Rhagfyr, gartrefwedi salwch blin, bu farw Mrs JoanMary Morris, 38 Adwy’r Nant yn 72oed. Priod annwyl Mr Meirion Morris,mam a mam-yng-nghyfraith Alison,Verna a Darren. Nain hoffus Amy,Klara, Daniel a Chloe a chwaer achwaer-yng-nghyfraith Eric a SueRoberts, Ty’n y Maes a modryb Katie,Richard a Rebecca.
Cynhaliwyd ei hangladd ddydd Iau, 8Ionawr gyda gwasanaeth yn EglwysCrist, Glanogwen ac amlosgfa Bangor.Anfonwn ein cydymdeimlad atoch chi,Meirion, a’r teulu i gyd yn eichprofedigaeth.
Gorffwysfan,�Stryd�Fawr,�9�Rhagfyr�2014
Te�NadoligAeth yr aelodau i Ysgol DyffrynOgwen ar wahoddiad caredig AdranArlwyo a Lletygarwch Blwyddyn 10dan ofal Miss Ceri Ogwen Jones igael te prynhawn Nadoligaidd acadloniant ysgafn. Cafwyd croesocynnes iawn gan y pennaeth, MrAlun Llwyd, ac aelodau o’r staff.Cafwyd te ardderchog, gyda’rdisgyblion ar eu gorau. Yna cafwydadloniant gan gôr yr ysgol gyda MrHefin Evans yn arwain a Mr AlunLlwyd yn cyfeilio. Cafwyd raffl acyna canu carolau. Prynhawn i’wgofio, gyda diolch i chi i gyd yn yrysgol.
Dathlu’r�NadoligEleni aeth aelodau Gorffwysfan iGlwb Criced Bethesda i ddathlu’rNadolig ddydd Mercher, 17 Rhagfyr.Wedi gair o groeso gan y cadeirydd,Mr Elfed Bullock, cafwyd cinioNadolig ardderchog wedi ei baratoigan Karen a’r staff o Gaffi Coed yBrenin. Wedi cinio cafwyd gêm oFingo gyda Dilwyn Owen yn galw’rrhifau. Cafwyd darlleniadauNadoligaidd gan Linda Brown a rafflgan Vernon a Dafydd.
Diolchodd y cadeirydd i bawb ambrynhawn difyr iawn, a braf oeddcael croesawu Mrs MargaretPritchard a Mrs Nancy Williams ynôl wedi salwch!
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 4
Llais Ogwan 5
Y GerlanAnn a Dafydd fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan 601583
Rachub a Llanllechid
Dilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW 601880
Carmel,�LlanllechidTrefn�Gwasanaethau
Ionawr�18 - Parch. Dewi T. Morris 2.0025 - Ein Gweinidog 5.00
Chwefror�01 - Ein Gweinidog 5.0008 - Oedfa 5.00 15 - Canon Idris Thomas 5.00
Ysgol Sul 10.30 Dwylo Prysur, Nos Wener 6.30.
Croeso�cynnes�i�bawb
Capel�CarmelDWYLO�PRYSURBu'r bobl ifanc yn gwnïo clustogau wedi eu haddurno yn ystod misRhagfyr. Dyma lun o Beca a Hannah yn arddangos eu clustogau.
Beca�a�Hannah
YR�YSGOL�SUL
Mair�a�Joseff,�y�bugeiliaid,�yr�angylion�a'r�doethion
Thema Gwasanaeth Nadolig y Plant a'r bobl ifanc eleni oedd 'YrAnrheg Gorau Un.' Cymerodd y plant eu rhan yn ardderchog ganganu’r carolau'n frwdfrydig.
Roedd y genod ynactio mynd i'rgwely gan ddisgwylymweliad SiônCorn gyda'ranrhegion. Fore'rNadolig roedd rhaididdynt deithio iFethlehem i roi euhanrhegion i'r babanIesu. Beth oedd euhanrhegion tybed?Wel, am roi o'ucalonnau yroeddynt.Darlleniadau o'rBeibl a chanucarolau oeddcyfraniad aelodau'rClwb DwyloPrysur. Gwnaethanteu gwaith yn raenusa chanmoladwyiawn. Bu'nwasanaethbendithiol yngnghwmni'r planta'r bobl ifanc.
Carmel,�Llanllechid
Te�BachPnawn�Llun�19�Ionawr
2.30�-�4.00�
Croeso�cynnes�i�chiymuno�â�ni�yn�Ionawr��2015
Y�genod�yn�disgwyl�am�Siôn�Corn
Ysbyty�Anfonwn ein cofion am wellhadbuan i Seren, Ffordd Llanllechidsydd yn anffodus wedi gorfodtreulio amser yn Ysbyty Alder Hey.
Ymddiheuriadaui Myrddin Hughes wedi i'w enwgael ei adael allan mewncamgymeriad o adroddiad yn yrhifyn diwethaf.
Llongyfarchiadaui Siân Williams, Ffordd Llanllechidar achlysur dathlu ei phen-blwyddyn 21 mlwydd oed ar Ionawr 2,2015.
Cydymdeimlo�Anfonwn ein cydymdeimlad at Iaina Janet Scott, Y Swyddfa Bost arachlysur marwolaeth tad Janet arddechrau'r flwyddyn. Hefyd dros yrŴyl bu farw Mrs Pick, Stryd Fawr.Yr un yw ein cydymdeimlad at yteulu.
Clwb�Hanes�Rachub,Caellwyngrydd�a
LlanllechidCroesawyd yr aelodau i FestriCarmel gan y Cadeirydd, MrDilwyn Pritchard, i gaelcyflwyniad o hanes y cerddor EosLlechid [1828 - 1898] gan MrsHelen Williams, a gwefreiddiwydpawb gan ddoniau’r gŵr o Gae’rFfynnon, Llanllechid.
Er mai prin oedd yr addysg agafodd, dangosodd ddiddordebmewn cerddoriaeth yn ifanc iawn,a chyn iddo gyrraedd 17 oed roeddwedi cyfansoddi anthem! Bu’narwain Côr [enwog ar y pryd]Eglwys Llanllechid, ac ym 1859,ef oedd arweinydd côr aberfformiodd i’r FrenhinesFictoria yng Nghastell y Penrhyn!
Cyfansoddodd nifer o anthemauac emyn-donau, gan gynnwys uno’r enw ‘Rachub’. Cafwydperfformiad o’r emyn gan MrsHelen Williams ei hun. Ynacafwyd cwis diddorol a heriol amyr ardal - wedi ei baratoi gan MrsLynda Pritchard, a lluniaethNadoligaidd a baratowyd gan MrsMargaret Owen a Fiona.
Nos Fercher, Ionawr 28am 7 o’r gloch yn Festri CapelCarmel bydd y Prifardd IeuanWyn yn trafod ‘Enwau�diddorol�ar�gaeau’rardal�sydd�rhwng�Ty’n�Ffridd�aBryn�Eithin’
CROESO CYNNES!
Capel�BethelTrefn�Gwasanaethau
Ionawr�18: Dr Tudor Ellis25: Mr Islwyn Hughes
Chwefor.�01: Parchg Dewi Morris08: Y Gweinidog15: Parchg Eleri Lloyd Jones22: Parchg Richard O. Jones
Oedfaon�am�2.00�o’r�glochCroeso�cynnes�i�bawb
PriodasRydym yn llongyfarch Rhian aGwyndaf Roberts, Ffordd Gerlan areu priodas yn ddiweddar. Pobdymuniad da i chi’ch dau.
CydymdeimloRydym yn estyn ein cydymdeimladgyda Tecwyn Hughes, Ffordd Gerlanyn ei brofedigaeth o golli ei frawd, ydiweddar Llew Hughes, oedd yn bywyn Nyffryn Clwyd. Rydym ynmeddwl amdanoch yn eich colled.
Pen-blwyddDathlodd Meurig Griffith, Stryd yFfynnon ei ben-blwydd yn 30 oedddiwedd y flwyddyn. Pen-blwyddhapus iawn iti, Meurig; gobeithio itifwynhau’r dathlu.
Newid�cartrefMae Nerys Williams a’i merch, Cara,wedi symud o’u cartref yn Stryd yFfynnon i fyw yn y Carneddi.Dymuniadau gorau a phob hwyl chiyn eich cartref newydd
Dymuniadau�Rydym yn gobeithio eich bod wedimwynhau gwyliau’r Nadolig, adymunwn Flwyddyn Newydd Dda ichi i gyd.
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 5
Eglwys�Maes�y�Groes
Naw�Llith�a�CharolCynhaliwyd ein gwasanaethNaw Llith a Charolau ar 21Rhagfyr. Arweiniwyd ygwasanaeth gan ein ficer, yParchedig John Matthews, gydarhai o aelodau’r eglwys yndarllen y llithoedd a Geraint Gillyn cyfeilio i’r carolau. Diolch iCatrin Hobson am y lluniaethysgafn yn dilyn y gwasanaeth.
Gwasanaeth�UndebolAr fore Sul olaf y flwyddyncynhaliwyd gwasanaeth undeboldan arweiniad ein HoffeiriadCynorthwyol, y BarchedigChristina McRae, gyda GeraintGill wrth yr organ. Braf oeddgweld aelodau o EglwysiLlandygái a Thregarth wediymuno â ni.
YsbytyTreuliodd Taliesin Dafydd, mabBethan a Trystan, 4 Tanrallt,Talybont ychydig ddyddiau ynYsbyty Gwynedd yn ddiweddar.Balch o ddeall iddo gaeldychwelyd adref i dreulio eiNadolig cyntaf gyda’i deulu.
Capel�BethlehemOedfa�Nadolig
Dyma blant yr Ysgol Sul, rhai ohonynt yn ifanc iawn, a gymrodd ranyn yr Oedfa Nadolig a gynhaliwyd brynhawn Sul 14 Rhagfyr.Cawsant de parti yn y festri wedyn. Anfonwyd y casgliad, sef £89.25,at Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol.
Bwrlwm�BethlehemBu criw ohonom ar ymweliad â Galeri Caernarfon am dipyn o“Donig Nadolig” brynhawn Iau, 18 Rhagfyr. Roeddem i gyd ynteimlo’n well ar ôl mwynhau orig ardderchog o adloniant yngnghwmni Band Jazz Ysgol Tryfan a’u harweinydd amryddawn,Owain Arwel Davies. Mwynhawyd y baned a’r mins peis hefyd.Agorodd tymor y Bwrlwm am 2.15 yn festri Bethlehem ddydd Iau, 8Ionawr. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 22 Ionawr. Croeso i bawb.
TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda 600853
LlawdriniaethMae Glenys Owen, 42 Bro Emrys wedicael clun newydd yn yr ysbyty ynddiweddar. Dymunwn wellhad llwyr abuan iddi.
ProfedigaethAnfonwn ein cydymdeimlad at Mr aMrs Unstead, Dolhelyg ar farwolaetheu nai ym Mangor.
Pen-blwydd�ArbennigLlongyfarchiadau a phob dymuniad dai Bethan Griffiths, Ardudwy, BroEmrys ar achlysur dathlu pen-blwyddarbennig ym mis Rhagfyr. Mae Bethanyn dymuno diolch o galon i bawb am ycardiau, yr anrhegion a’r galwadau ffôna dderbyniodd ar yr achlysur arbennig.
Pen-blwydd�ArbennigLlongyfarchiadau i Wil Kendrick, 4Lôn Ddŵr, ar ddathlu ei ben-blwydd yn21ain ar 8 Ionawr. Pob dymuniad da argyfer y dyfodol Wil!
Llandygái Ethel Davies, Pennard,Llandygái 353886
Roedd Mr Jim Hughes, Yr Elen, Llandygái, yn falch iawn o dderbynei fedal arian er iddo aros 70 mlynedd amdani. Roedd Rwsia ynanrhydeddu Feteraniaid Llynges yr Artig yng Nghastell Bodelwyddanbrynhawn dydd Mawrth 2 Rhagfyr. Roedd 17 o Ogledd Cymru wediderbyn medal Ushakov hefyd – yr anrhydedd forwrol uchaf. RoeddJim yn gwisgo sawl medal arall ond roedd yn ymfalchïo yn hon hefyd.Mae ein dyled yn fawr i Jim ac i’r dynion a merched dewr eraill, ac nafoed i ni anghofio hyn.
Anrhydeddu
GwaeleddRydym yn cofio y mis hwn am ycleifion sydd yn wael yn y Bryna’r pentref:- Ernie a NerysColeman, Beryl a Jim Hughes, DrPam Jones, Moyra Muir, OlwenLatham, Cassie Tindall, BettyWilliams a Dorothy Proudley-Williams. Balch oeddem o glywedfod Dian Hughes, Drws y Coed,Parc Penrhyn yn gwella ar ôl bodyn wael cyhyd yn YsbytyGwynedd. Ni allwn ni ond
Eglwys�Sant�Tegai
GwaeleddDymunwn adferiad llwyr a buan i Mrs Jane Couch, Wynne Edwards,Harry Gross, Joy Radcliffe, Siân Evans, Jackie Williams, Ben Cramba Chaerloyw Stevens.
Mae ein gweddïau yn mynd hefyd at Mrs Aubrey McSorley sydd ynYsbyty Eryri ar hyn o bryd ac mae’n amser pryderus iawn i Kevina’r teulu.
Gwasanaeth�Naw�Llith�a�CharolauYn Eglwys Sant Tegai nos Sul, 21 Rhagfyr, cynhaliodd y ParchedigJohn Matthews wasanaeth yng ngolau cannwyll gyda Geraint Gillwrth yr organ. Roedd yr eglwys yn llawn a phawb wedi cydweithioyn rhagorol, gyda’r eglwys wedi ei haddurno yn hyfryd gan Hazel a’iffrindiau. Diolch i’r ficer, Edmond, Ann, Rhian a Geraint amdrefnu’r gwasanaeth ac i bawb arall a gymerodd ran.
Ar ddiwedd y noson daeth pawb ynghyd yn y neuadd i gael blasugwin mwl Hefina a mins peis. Diolch i Nerys am drefnu popeth ac iferched yr eglwys am roi help llaw.
Bu’r Parchedig John Matthews yn brysur iawn Noswyl Nadolighefyd yng ngwasanaeth y cymun yn Eglwys Sant Tegai am 11.15 yrhwyr. Diolch yn fawr John. Rwy’n siŵr fod Sue a chwithau yn falcho weld bore Gwener yn gwawrio, i chi gael rhyw egwyl fach amwynhau ychydig ddyddiau yn y De gyda’r teulu.
Gwasanaeth�ar�y�cydCynhaliwyd y gwasanaeth Cymun Undebol yn Eglwys Maes y Groesfore Sul, 28 Rhagfyr, gyda’r Barchedig Christina McCrea yn arwainy gwasanaeth a Geraint Gill wrth yr organ. Diolch i Christina acaelodau Maes y Groes am eu croeso a diolch hefyd i Nerys am fyndâ ni yno ar fore mor hyfryd.
GwerthiantDiolch o galon i Dorothy Hanks, Nerys, Rhian ac Ann a phawb arallfu’n helpu drwy’r dydd ar y stondin yn Ysbyty Gwynedd ar 13Mehefin – gwnaed £88 o elw i’r eglwys.
BingoCynhelir Bingo yn Neuadd Talgai nos Fawrth, 27 Ionawr am 7.00 yrhwyr. Croeso cynnes i bawb. Bydd yr elw yn mynd tuag at yreglwys.
gobeithio y bydd 2015 yn wellblwyddyn i bawb ohonoch.
Parti�NadoligCafodd yr henoed eu parti Nadoligyn Neuadd Talgai ddydd Mawrth 16Rhagfyr. Daeth nifer dda i’rdathliad ac roedd digonedd i’wfwyta a chafodd pawb brynhawnhwyliog dros ben. Diolch i Myfi aphawb a fu’n paratoi a gweini ynystod y dydd – roedd yr hollwahoddedigion yn ddiolchgar iawn.
Llais Ogwan 6
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 6
Glasinfryn CaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor LL57 4UP 01248 [email protected]
Blwyddyn Newydd Dda i hollddarllenwyr y Llais yng Nglasinfryn,Waen Wen a Chaerhun. Diolch i chiam gefnogi Llais Ogwan. Cofiwchanfon eich newyddion ata’ i yn ystod2015!
CydymdeimladAr y 1af o Ragfyr daeth y newyddam farwolaeth annisgwyl MrsMargaret Beryl Williams, TyddynHeilyn, oedd yn newyddion trist iawni drigolion ardal Caerhun aGlasinfryn. Yr oedd Mrs Williams ynweddw i Glyn Williams, TyddynHeilyn a fu farw dair blynedd yn ôl.Er mai fferyllydd oedd hi cyn priodi,fel gwraig i amaethwr yr adnabyddidhi ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd ynwraig hynod o addfwyn ac yn fam iDavid, sy’n ffermio Tyddyn Heilynheddiw ac i’r diweddar Mair a fufarw'r llynedd ar ôl gwaeledd blin. Yroedd hi’n gefnogol iawn i bobmudiad lleol ac yn un o’r aelodaucyntaf o Sefydliad y MerchedGlasinfryn gan fod yn Llywydd aThrysorydd y gangen amflynyddoedd. Yn nyddiau SioeGlasinfryn byddai yn hynod oweithgar a chefnogol bob amser. Buhefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli’rGanolfan.
Yn yr angladd yn Amlosgfa Bangorar 10 Rhagfyr gwasanaethwyd gan yParchedig Dr Carol Roberts,Llanberis a’r Barchedig ChristinaMcCrea, Pentir. Estynnir pobcydymdeimlad i’w mab David, eimerch yng nghyfraith Carol, a’ihwyrion, Huw a Luned, yn eu colleda’u hiraeth.
DiolchDymuna David, Carol, Huw a Luned,Tyddyn Heilyn, gydnabod yn dradiolchgar pob amlygiad ogydymdeimlad mewn gair, gweddi agweithred tuag atynt ar ôl colli mam a nain annwyl.
Capel�Bethlehem,�Talybont
Oedfaon�y�Sul
Ionawr 18: Y Parchg Pryderi Llwyd Jones; Ionawr 25: Gweinidog, Y Parchg John Pritchard; Chwefror 1: Y Parchg Dafydd Coetmor Williams; Chwefror 8: Y Gweinidog; Chwefror 15: Y Parchg Dafydd Lloyd Hughes, Caernarfon; Chwefror 22: Y Gweinidog.
Oedfaon�am�2.00�oni�nodir�yn�wahanol.�Croeso�cynnes�i�bawb
Clwb�Cant�y�Ganolfan
Enillwyr�Rhagfyr£20 8 Nesta Parry£10 134 Ann Williams£5 106 Mair Parry
Gohirio’r�Clwb�CantMae Pwyllgor Rheoli’rGanolfan yng Nglasinfrynwedi penderfynu gohiriocasglu taliadau Clwb Cant yGanolfan am y tro. Ni fyddarian yn cael ei gasglu'r misyma, felly. Bydd y Pwyllgor yntrafod dyfodol y Clwb Cant yneu cyfarfod ym mis Chwefror.
Merched�y�WawrCawsom ein swper Nadolig yngNgwesty Gardd Fôn yn yFelinheli ac roedd pawb wedi’uplesio a bu dipyn o gloncianhefyd. Estynnwyd eindymuniadau da i Sali ar ddod ynnain unwaith eto ac i Bet argyhoeddi llyfr i blant. Fe’nhatgoffwyd mai ym misChwefror y bydd ein cyfarfodnesaf a diolchwyd i Annes amdrefnu’r noson ar ein rhan.
Clwb�Rhiwen��Mae sawl un o’n haelodau wedibod yn cwyno yn ddiweddar, abraf oedd gweld Beryl wedigwella ac wedi dod atom i’ncinio Nadolig. Buom yn gwleddayn y Boathouse yn Hirael ac ynei habsenoldeb diolchwyd i Annam wneud y trefniadau.
Yn ein cyfarfod olaf o’rflwyddyn buom yn canu carolaua thrafod cefndir rhai ohonynt.Cawsom baned a mins peis ar ydiwedd, a Pam oedd yn gyfrifolamdanynt. Anfonwyd ein cofionat y rhai na allai fod gyda nioherwydd gwaeledd. Fe fydd eincyfarfod nesaf ar Ionawr 14.
Llongyfarchiadau��Llongyfarchiadau i Sali a DafyddWhyte, Llanor ar ddod yn nain a
iona Jones 17 Bro Rhiwen, Rhiwlas01248 355336
Rhiwlas
thaid unwaith eto, wyres fach ytro yma. Ar Ragfyr 1af ganwydmerch fach, Nan Fflur, i Catrin eumerch a’i gŵr Iestyn sy’n byw ynWrecsam. Pob dymuniad da i’rteulu.
“Cyfrinach�Craig�yr�Wylan”�yw teitl llyfr diweddaraf BetJones, Bryn Seiriol. Nofel i blantydyw a daeth yn agos iawn i’rbrig yng nghystadleuaeth GwobrGoffa T Llew Jones 2013. Llongyfarchiadau Bet acedrychwn ymlaen at y llyfr nesaf!
Côr�Ysgol�Dyffryn�OgwenBraf iawn oedd gweld pump oenethod y pentref yn aelodau ogôr yr ysgol yn y Gwasanaeth
Nadolig Cymunedol yng nghapelJerusalem. A phwy oedden nhw?Dyma eu henwau: MeganWilliams, Ceri Williams, Nia acErin George a Hannah Cooke sywedi dysgu Cymraeg ynarbennig o dda. Da iawn chigenod a dwi’n sicr i chifwynhau’r profiad yn enwedigpan oedd Côr yr ysgol yn ymunoâ Chôr y Penrhyn a Chôr yDyffryn i ganu Teilwng yw’rOen a chael “encore” hefyd!
Blwyddyn�Newydd�DdaBu 2014 yn flwyddyn eithafdyrys i sawl teulu yn y pentref.Anfonwn ein cofion atynt acwrth gwrs ein dymuniadau gorauam flwyddyn newydd dda ibawb.
Dal�i�DeithioY mae Ifan, Llifon, y ddau o’r Rhiwlas, a’u ffrind Gethin oFethesda yn awr wedi cyrraedd Seland Newydd ac wedi treulio’rNadolig yno. Maent yn mwynhau eu hunain yn arw ond yn ôl pobsôn roedd chwith am ginio Dolig mam!
Diwrnod�ola'r�hogia'�yn�Seland�Newydd�cyn�teithio�i�Fiji�i�ddathlu'r�Flwyddyn�Newydd.
DiolchDymuna’r Clwb Ieuenctid ddiolchi bawb a ddaeth i’r Bingo i godiarian ar barti Nadolig y plant.Ymhen wythnos cafwyd parti, agalwodd Siôn Corn gydag anrhegi bob un o’r plant. Diolch o Iola aphawb a ddaeth i helpu. Hefyd,mawr ddiolch i Siôn Corn amalw!
Clwb�y�MynyddBydd y clwb yn ail-ddechrau arChwefror 18 (dydd Mercher) amddau o’r gloch. Edrychwn ymlaenat eich gweld. Enwau ymlaen llawi’r te prynhawn mor fuan ag y bomodd.
MynyddLlandygáiTheta OwenGwêl y Môr, Mynydd Llandygái. 600744
GwasanaethauIon. 18: Boreol WeddiIon. 25: CymunChwef. 1: Gwasanaeth TeuluolChwef. 8: CymunChwef. 15: Boreol Weddi
Dechreuir y gwasanaethau am9.45 y.b.Estynnwn groeso cynnes i bawbymuno â ni yn ein gwasanaethauboreol.
Diolch i bawb a'n cefnogodd ynystod y flwyddyn, a dymunwnFlwyddyn Newydd Dda i chwioll.
Cofiwn am bawb sy'n sâl ar hyno bryd ac anfonwn ein cofioncywiraf atoch i gyd.
Rhybudd: Nid yw adeilad henEglwys St. Ann na'r tir oddiamgylch iddi o danberchnogaeth yr Eglwys yngNghymru bellach. Gofynnwn yngaredig felly i bawb sy'nymweld â'r fynwent gadw'n gliro'r adeilad. Diolch yn fawr.(Cyngor Eglwysig St. Ann a St.Mair).
Eglwys y Santes Anna’r Santes fair
Llais Ogwan 7
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 7
Cyfraniad�Gwenda�Davies
Ddiwedd y flwyddyn 2014, penderfynoddGwenda Davies (Anti Gwenda i lawer!)ymddeol o’i gwaith yn arwain Ysgol SulShiloh, Tregarth. Bu’n siarad â FfionRowlinson, un o olygyddion Y Gwyliedydd, amei phrofiadau gyda’r Ysgol Sul.
Y�Gwyliedydd: Mae llawer iawn o blant wedimwynhau bod yn Ysgol Sul Shiloh efo chi arhyd y blynyddoedd, Gwenda. Dros gyfnod oddeugain mlynedd rŵan. I fynd yn ôl i’rdechrau’n deg, pa atgofion sydd gennych o fodyn yr Ysgol Sul eich hun yn blentyn? Lleroeddech chi’n byw bryd hynny?
Gwenda: Wel, fel merch i weinidog gyda’rPresbyteriaid, John Owen, does gen i ddim cofo gwbl o fynd i’r Ysgol Sul am y tro cyntaf.Cyn fy ngeni i roedd fy rhieni wedi bod ynbyw yn Llangynog, Sir Drefaldwyn, lle ganedfy mrawd hynaf, Alun. Wedyn fel teulu symudi weinidogaethu ym mhentref Groes, gerDinbych, lle cefais i fy ngeni. Mae’n sicr ’modinnau wedi bod yn aelod o’r Ysgol Sul acmae’n siŵr mai fy mam, Myfanwy Rhys,fyddai wedi bod yn athrawes gyntaf arnaf yno.Does gen i ddim llawer o gof o’r Ysgol Sul ynGroes a’r unig gof clir sydd gennyf yw cael fynharo i lawr gan gar pan redais dros y fforddo’n tŷ ni i efail y gof, John Edwards! Ganed fymrawd ieuengaf, Geraint, yn 1950 a phan oeddo yn dri mis oed fe symudon fel teulu iLanbedr yn Ardudwy. Roedd fy nhad ynweinidog ar Gapel Moriah, Capel y Gwynfryna chapel bach Cwm Nantcol. Roedd Ysgol Sulgref ym Moriah ac mae gen i atgofion lu o’rgwmnïaeth hyfryd yn y capel a’r Ysgol Sul.Roedd gen i athro Ysgol Sul penigamp yno, sefMeirion Arthur. Gŵr a ddylanwadodd yn fawrarnaf yn ystod y cyfnod hwnnw. Mwynheaisfod yn rhan o’r Ysgol Sul nes daeth yr amser imi fynd i Goleg y Drindod, Caerfyrddin yn1965.
Y�Gwyliedydd: Beth wnaethoch chi wedyn? Aphryd ddaethoch chi i Ddyffryn Ogwen?
Gwenda: Mi ddois i Ddyffryn Ogwen yn 1971wedi i mi briodi, gan mai brodor o Lanllechidoedd Glyn y gŵr. Roeddwn wedi bod ynathrawes yn Ysgol Rhoscolyn ym mhen drawMôn am y tair blynedd flaenorol ac yn byw ynLlanfwrog yng nghartref y Parchedig JohnRoberts ac yn ddiweddarach yng Nghaergybi.Yn ystod yr amser ym Môn doeddwn i ddimyn rhan o unrhyw Ysgol Sul ond fe fyddwn ynachlysurol yn mynd i’r gwasanaethau yngNghapel Hyfrydle.
Y�Gwyliedydd: Pryd gawsoch chi gyfle iddysgu plant yn yr Ysgol Sul am y tro cyntaf?
Gwenda:Yn Shiloh pan ddaeth fy merchieuengaf, Iona Rhys, yn ddigon hen i fynychu’rYsgol Sul. Roedd gan amryw o fy ffrindiaublant yr un oed ac roedden ni newydd sefydluYsgol Feithrin yn Nhregarth yn 1975 fellyroedd yn naturiol fod y plant yn aros gyda'igilydd ac fe ddaethant i gyd yn aelodau runpryd. Wedyn pan aned dau frawd Iona, sef
TregarthOlwen Hills (Anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth 600192
GwasanaethauIonawr�25: Cymun Bendigaid
Chwefror01: Boreol Weddi08: Cymun Bendigaid15: Boreol Weddi22: Cymun Bendigaid
Clwb�Cant�-�Tachwedd£10 63 Margaret Hughes£10 17 Daphne Russell£5 37 Babs Roberts
Clwb�Cant�-�Rhagfyr£10 33 Myra Jones£10 50 James Griffiths£5 19 Peter Roberts
Pob gwasanaeth am 9.45 y.b.
Byddwn yn cynnal te bach ar Ionawr 27 am2.00 y.p. - dowch heibio am banad a sgwrs!Hefyd te crempog ddydd Mawrth, 17Chwefror.
Eglwys y Santes fair
Capel Shiloh
DiolchDymuna Carys O’Connor, Godre’r Parc, Slingddiolch o galon i bawb am eu caredigrwydd yndilyn llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd.Diolch am y blodau, y cardiau, yr anrhegiona’r galwadau ffôn.
Cangen�Tregarth�o�Ferched�y�WawrDathlodd aelodau o Ferched y Wawr CangenTregarth eu cinio Nadolig eleni yng NghlwbGolff Caernarfon. Rhoddwyd croeso i’rmerched gan y llywydd, Myfanwy Harper, amethodd ei chyd-lywydd Alison Carden â bodyn bresennol oherwydd gwaeledd un o’r teulu.Llongyfarchwyd Gwenda Davies ar ddod ynNain i Mali Non Glyn a dymunwyd yn dda irai oedd yn cael penblwyddi arbennig a rhaioedd yn methu â bod yn bresennol oherwyddsalwch. Anfonwyd cofion at Glenys Clarkeoedd yn yr Ysbyty wedi iddi syrthio a thorri eichlun. Mwynhawyd y bwyd ac roedd cyfle amsgwrs hamddenol cyn troi am y bws i gludopawb yn ôl i Dregarth a Dyffryn Ogwen.Diolch o galon i’r ddwy fu’n gwneud yr holldrefniadau.
Cofiwch am gyfarfod mis Ionawr fydd yn caelei gynnal yn Festri Capel Shiloh am 7.30 nosLun, Ionawr 5, sef noson yng nghwmni AlanPritchard fydd yn sgwrsio am ei waith gydaPharc Cenedlaethol Eryri. Croeso cynnes iawni aelodau newydd i ymuno yn ogystal â’raelodau presennol yn yr hwyl a’r gwmnïaeth.
Gwasanaethau
Ysgol�Sul�am�10.30Oedfa’r�hwyr�am�5.00Ionawr�04 Parch. Gwynfor Williams, Caernarfon11 Parch. Philip Barnett18 Parch. Olaf Davies, Llandegfan25 Diacon Stephen Roe
Chwefror�01 Parch. Philip Barnett08 Parch. Dafydd Coetmor Williams,
Llanllechid15 Glyn Owen, Llanwnda22 Parch. Gwynfor Williams, CaernarfonGwasanaeth�Nadolig�Plant�a�Phobl�Ifancyr�Ysgol�Sul
Pnawn Sul, Rhagfyr 14, cynhaliwyd OedfaNadolig yr Ysgol Sul. Daeth cynulleidfadeilwng iawn i wrando ar aelodau’r YsgolSul a rhai o’r rhieni yn cymryd rhan ynNrama’r Geni. Drwy gyfrwng darlleniadau,sgript, caneuon, carolau, unawdau adatganiad offerynnol cafwyd gwledd yngwrando ar gyfraniadau'r holl gyfranwyr.Cymerwyd rhan gan Gwenllïan, Morus,Osian ac Elin Sanderson; Esme, Luke aBethan Crowe; Myfi, Nel ac Ifan Cooke;Siwnamis, Caleb, Elysteg a Gwenan Efans;Hannah Williams; Gwenno, Iestyn a SionedRoberts; Huw a Christine Morris Jones;Aziliz a Gwenno Kervegant. Yn cyfeilioroedd Christine Morris Jones a WynWilliams.
Cartref�NewyddPob dymuniad da i Iolo a Nesta Wyn Williams,Y Fenallt, Tal y Cae, sydd wedi symud i fyw iGae Garnedd, Penrhosgarnedd ychydigddyddiau cyn y Nadolig. Gobeithio eich bodwedi cartrefu yn dda erbyn hyn yn eich cartrefnewydd.
LlongyfarchionLlongyfarchiadau i Siôn Glyn ac Eli, ei wraig,ar enedigaeth merch, Mali. Mae Siôn yn fab iGlyn a Gwenda Davies (Tal-y-cae gynt) acwedi ymgartrefu yn y Gerlan.
CroesoCroeso i Ceri Jones a Gerwyn i 7 Tan Rhiw.Mae Ceri yn ferch i Susan Roberts, Llawr yNant a Phil Jones, Bethesda.
LlongyfarchionLlongyfarchiadau i Dewi Lloyd a FfionRoberts, 2 Tan Rhiw ar achlysur eu priodas ar30 Rhagfyr yng ngwesty’r Cei, Deganwy. MaeDewi yn fab i Tudor ac Olwen, Coed Hywel, aFfion yn ferch i Dafydd Alun a GlendaRoberts, Bethesda. Pob dymuniad da iddynt.
PriodiAr 6 Rhagfyr yng Nghapel Shiloh, priodwydLlinos Wyn Edwards, merch Meinir ac Arwel,Tir Tegla, ac Owen Bracegirdle o Lanrug.
Clwb�100�Canolfan�Tregarth
Mis�Tachwedd6 David Hadfield £1544 Lynda Owen £1024 Gwenda Davies £5
Mis�Rhagfyr8 Margaret Jones £15
16 Angharad Williams £1556 Peter Roberts £1051 Eleri Jones £5
Pant�yr�ArddMae Pant yr Ardd wedi ail-agor wedi misoeddynghau, a hynny o dan berchnogaeth newyddHarry a Melita Evans. Gobeithio y byddcefnogaeth i’r dafarn. Heb hynny bydd Pant yrArdd yn cau am byth.
Llais Ogwan 8
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 8
Dyfed a Siôn Glyn, roeddent hwythau gyda’u ffrindiau yn rhan o gwmni’rFestri. Weithiau fe fyddai yna brotest yn tŷ ni fel yr aent yn hŷn ond dwi’nfalch iawn eu bod nhw a gweddill y plant a’r ieuenctid wedi cael cyfle ifod yn rhan o fywyd y capel.
Y�Gwyliedydd:�A chithau’n athrawes lawn amser drwy’r wythnos oeddechchi’n ei chael hi’n anodd cael amser i arolygu’r Ysgol Sul hefyd?
Gwenda: Pan gychwynnais yn yr Ysgol Sul yn Shiloh roeddwn wedirhoi’r gorau i ddysgu ond yn gweithio ar ddau fore yr wythnos yn yrYsgol Feithrin leol. Wedi cyfnod o ddeuddeg mlynedd adre yn magu’rplant mi es i weithio fel athrawes lanw am ddwy flynedd cyn cael swyddlawn amser yn dysgu yn Ysgol y Garnedd ym Mangor ac yno y bûm ambron i ugain mlynedd yn athrawes Blwyddyn 3 a 4 (7 i 9 oed) Mae caelgweithio gyda phlant yn brofiad unigryw a rhywbeth newydd yn digwyddbob dydd. Roedd mynd i’r Ysgol Sul yn ychwanegiad hyfryd i’r gwaith.Roedd llawer o fy arweiniad yn deillio o’m gwaith bob dydd. Dwi’n dal ifeddwl fod plant mewn ysgolion heddiw yn colli llawer iawn gan nadydi’r Cwricwlwm bondigrybwyll yn rhoi llawer o le i AddysgGrefyddol/Moesol. Roedd cael dysgu yn Ysgol y Garnedd yn rhoi cyfle imi ac eraill o’r athrawon rannu ein gwerthoedd a rhoi’r cyfle i blantfynegi eu barn ar bynciau mawr bywyd.
Y�Gwyliedydd:Allwch chi gofio pethau arbennig o ddoniol addywedodd rhai o’r plant/troeon trwstan ?
Gwenda: Mae bod yng nghwmni plant yn well na ffisig. Maen nhw’ngallu bod mor ddigri a llawn dychymyg. Weithiau roedd pethau’n mynddros ben llestri. Dwi’n cofio un bore Sul yn arbennig pan ddaeth un o’rbechgyn i mewn drwy ddrws y Festri a dyma’r arogl mwyaf ffiaidd yncwmpasu’r ystafell. Roedd wedi dod â ‘bom ddrewllyd’ yn ei sgil ac wediei thaflu ar lawr pren y Festri.
Mae gen i un atgof a roddodd loes i mi am flynyddoedd yn dilyn ydigwyddiad. Fel y gŵyr darllenwyr y Gwyliedydd mae Capel Shiloh arfin y ffordd sy’n arwain o bentref Tregarth i Felin Hen. Gall fod yn fanperyglus ar y naw gan fod ceir yn gwibio heibio a does dim pafin rhwnggiât y capel a’r ffordd. Y bore arbennig yma roedd pawb wedi mynd adrea minnau gyda Dyfed a Siôn yn cloi drws y capel. Am ryw reswm fesleifiodd Dyfed (5 oed) o’m llaw a rhedeg i’r ffordd a chael ei daro gangar oedd yn gyrru braidd yn gyflym. Roeddwn wedi dychryn am fymywyd a Siôn yn sgrechian ac allan o bob rheolaeth o weld ei frawd ar yffordd yn dawel a heb gynhyrfu dim. Daeth ambiwlans i’w gludo i’rYsbyty ac roedd wedi torri ei goes. Allwch chi ddim bod yn rhy ofalusyng nghwmni plant. Tydi hanes yn ailadrodd ei hun! Mi benderfynais o’rbore hwnnw na fyddai’r un plentyn arall yn cael gadael y capel heb i uno’r rhieni ddod i’w nôl. Ydi, mae Shiloh’n gapel hardd ond mae’n berygbywyd tu allan i giât y capel. Mae’r swyddogion wedi ceisio droeon caely Cyngor Sir i roi palmant ond rydan ni’n dal i ddisgwyl amdano!
Y�Gwyliedydd: Beth oedd eich hoff adeg o’r flwyddyn yn yr Ysgol Sul ?
Gwenda:�Y Nadolig. Y plant a’r ieuenctid bob amser ar eu gorau yncyflwyno’r hen, hen stori i gynulleidfa sydd wedi bod yn gwylio agwrando ar y stori wyrthiol ers blynyddoedd maith ond yn dal i gaelgwefr flynyddol.
Y�Gwyliedydd:�Beth am y trip Ysgol Sul ?
Gwenda: Pan oedd y plantos braidd yn fach i fynd ar drip mewn bws mifyddem yn mynd i draeth Llanfairfechan a chael picnic yn yr haul ger ypwll bach yn agos i’r traeth. Byddem ni fel oedolion yn mwynhaugymaint â’r plant a fyddai’n cael modd i fyw yn sblasio yn nŵr cynnesmis Gorffennaf. Ond ers blynyddoedd bellach rydan ni fel plant, ieuenctida rhieni’r Ysgol Sul yn gorffen dros yr Haf gyda thaith i Gwm Idwal.Pleser pur oedd mwynhau gwylio’r plant yn chwarae yn nŵr oer LlynIdwal. Mae gen i lu o atgofion braf a llawer o luniau wedi’u tynnu o’nteithiau i Gwm Idwal. Mi synnech faint o rieni a phlant yr ardal sydd hebfod yn y man hudolus hwn!
Y�Gwyliedydd: Roeddem yn arfer canu ers talwm ‘Am yr Ysgol rad,sabothol, clod, clod i Dduw’. Ym mha ffordd y mae’r Ysgol Sul ynwerthfawr i blant yn ein hoes ni, ydach chi’n meddwl ?
Gwenda:Ydi, mae’r Ysgol Sul yr un mor werthfawr i’n plant a’nhieuenctid heddiw ag yr oedd i ninnau pan oeddem yn blant. Mae ynalawer wedi newid. Mae digonedd o lyfrau lliwgar hyfryd ar gyfer gwaithyr Ysgol Sul. Emynau a chaneuon hwyliog ond heb anghofio’r hen raiwrth gwrs. Mae gennym ein hoffer technegol sy’n ychwanegu cymaint aty gwaith o ddiddori a rhoi addysg ychwanegol sydd mor hanfodol ymmywyd pawb. Dwi’n gweld yr Ysgol Sul yn gyfle arbennig i blant ddod atei gilydd mewn awyrgylch lle gallant roi eu barn a lle gallant gydweithioa chyd-chwarae gyda phlant nad ydynt efallai yn mynd i’r un ysgol.Byddwn yn treulio rhai boreau yn cyd-chwarae gemau a chael cyfle iddod i nabod cyfoedion o fewn addoldy. Ydi, mae’r Ysgol Sul ynsefydliad pwysig a dylem ofalu fod y drws yn dal ar agor.
Diolch�i�Ffion�Rowlinson�am�ganiatâd�i�gyhoeddi’r�cyfweliad�uchod�–�gol.
Cwmni Pendraw yn cyflwyno:
Mr Bulkeley o’r Brynddu
gan Wyn Bowen Harries NEUADD OGWEN,
NOS IAU 29 IONAWR,7.30pm.
cwmnipendraw.comTheatr, Hanes, Gwyddoniaeth a
Cherddoriaeth
Llais Ogwan 9
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 9
Llais Ogwan 10
Cystadleuaeth�Ffenest�Nadolig�Orau
Barbwr Ogwen oedd yn fuddugol eleni. Yn y llun gwelir Alison,gan y Cynghorydd Godfrey Northam, Cadeirydd y Cyngor.
Teulu�Graiglwyd,�Sling,Tregarth.
Annwyl�Ddarllenwyr,Rwy’n gwneud ymchwil i’r teuluuchod ar ran un o’r aelodau, abyddwn yn falch o dderbynunrhyw wybodaeth am y teuluneu am gysylltiadau teuluol.
Roedd Richard ac Ann Williamsyn byw yno yn 1851. Bu iddyntbump o blant, sef Ruth (ganed1849), Jacob (1854), Esther(1858), Arthur (1860) a Thomas(1864).
Erbyn 1881 roedd Ruth ynweddw ifanc yn byw yn Sling, aWilliam Griffith, gweinidogCapel Amana yn lodjio gyda hi.Yn ddiweddarach aeth i fyw at eibrawd di-briod, Thomas, i’rGraiglwyd. Yno hefyd roeddAnne Jones, nith iddynt a anwydym Mhentir. Yn yr un flwyddyn,mae bachgen o’r enw RhysWilliams yn byw gyda’i daid a’inain yn Graiglwyd. Mab Ruthoedd Rhys.
Doedd Rhys ddim yn y cartrefyn 1901 sef cyfnod Streic Fawr yPenrhyn, ond ceir cofnod o’ibriodas ym Methesda yn 1903gyda Jane Hughes. Erbyn 1911mae Rhys, Jane a dau o blant ynbyw yn Graiglwyd. SymudoddRhys o’r cartref tua dechrau’rRhyfel Mawr, ac aeth y teulu ifyw i Fangor. Roedd yn aelodgweithgar o Eglwys y SantesFair yno. Yn ddiweddarachcafodd ei benodi yn ArchwiliwrMwynfeydd a Chwareli, ac yn1937 fe’i anrhydeddwyd â’rMBE am ei waith yn tynnu sylwat effeithiau llwch ar chwarelwyr(silicosis). Tua diwedd yr AilRyfel Byd symudodd at ei fab iLundain, ac yno y bu farw yn1957. Fe’i claddwyd ymmynwent y Gelli, Tregarth.
Credai rhai o’r teulu fod Thomaswedi byw am gyfnod yn yFelinhen, ac mae son ganddyntam wraig arall a fu’n byw yno aelwid yn ‘Nain Felinhen’ – Ruthoedd honno, a symudodd iFangor i fyw yn ddiweddarach.Tybir fod Thomas wedi symudo’r Graiglwyd i Fangor er mwynbod yn nes at Rhys a’r teulu.Tybed oes rhai o ddisgynyddionteulu Graiglwyd yn dal yn yrardal? Oes rhywun efo mwy owybodaeth am Ruth, ‘NainFelinhen’? Os oes unrhywwybodaeth gennych, byddwn ynfalch o’i dderbyn.
Gyda diolch,
Dafydd�Whiteside�Thomas,Bron�y�Nant,
Llanrug,Caernarfon.�
Ffon:�01286�673515�[email protected]
AnnwylDdar l l enwy r
Ariannu�Myfyrwyr�Meddygol�iAstudio�trwy’r�Gymraeg
Annwyl�Ddarllenwyr,Bydd modd i fyfyrwyr astudioMeddygaeth yn rhannol trwy gyfrwngy Gymraeg am y tro cyntaf yn 2015, ahynny ym Mhrifysgolion Caerdydd acAbertawe. Bydd darlithwyr abenodwyd o dan Gynllun StaffioAcademaidd y Coleg CymraegCenedlaethol yn dysgu ac yn cefnogidarpar fyfyrwyr meddygol sy’ndymuno dilyn rhan o’u cwrs trwy’riaith.
Bydd Sara Whittam ym MhrifysgolCaerdydd a’r Dr Heledd Iago ymMhrifysgol Abertawe yn sicrhau bodmyfyrwyr yn datblygu sgiliau clinigol aphroffesiynol yn y Gymraeg ac yn caeltrin a thrafod elfennau o’u cyrsiau ynGymraeg. Bydd pwyslais ar sgiliauymarferol yn ogystal ag ymchwil yn yddwy brifysgol. Bydd pob myfyriwr yncael cefnogaeth tiwtor personol ac ynelwa o ddysgu ar leoliad gydameddygon a chleifion cyfrwngCymraeg.
Mae galw cynyddol am fwy o weithwyrdwyieithog ym maes gofal iechyd ardraws Cymru a meddygon sydd â’rgallu i ddarparu gwasanaeth trwy’rGymraeg er mwyn ennynymddiriedaeth a chynnal perthynas glòsâ’r claf. Yn ôl Dr Heledd Iago, fydd ynarwain darpariaeth cyfrwng Cymraegcwrs mynediad i raddedigion o dannawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaetholym Mhrifysgol Abertawe:‘’Mae’n holl bwysig bod ein myfyrwyrmeddygol yn ymwybodol bod euCymraeg yn sgil ychwanegol, all gaelei defnyddio i gynnig gwasanaeth oansawdd uwch i gleifion yng Nghymru.Bydd profiadau clinigol cyfrwngCymraeg yn cynorthwyo ein myfyrwyri fagu a meithrin hyder i drin a thrafodgyda chleifion a chydweithwyr yn yGymraeg yn ogystal â’r Saesneg.’’
Bydd y cyrsiau yn gymwys ar gyferYsgoloriaeth Cymhelliant y ColegCymraeg Cenedlaethol felly byddmodd i fyfyrwyr sy’n dymuno astudiocyfran o Feddygaeth trwy’r Gymraegymgeisio am gymorth ariannol o£1,500 erbyn 8 Mai 2015.
Un oedd yn falch o glywed amddarpariaeth newydd cyfrwng CymraegPrifysgol Caerdydd a’r gefnogaethariannol fydd ar gael trwyysgoloriaethau’r Coleg CymraegCenedlaethol oedd Mari Davies oYsgol Dyffryn Ogwen:‘‘Trwy’r Gymraeg yn unig y mae rhaicleifion yn gallu cyfathrebu euhanghenion yn effeithiol felly mae’nbwysig bod ganddynt y dewis i dderbyny gofal gorau posibl trwy eu mamiaith.Byddaf yn manteisio ar y cyfle i wneudrhan o Feddygaeth trwy’r Gymraeg hebanghofio ymgeisio am YsgoloriaethCymhelliant y Coleg CymraegCenedlaethol.’’
Yn�gywir,Manon�Llwyd
Swyddog�Datblygu�Marchnata�aChyfathrebu���01267�610414
Bernard�ar�Wib�i�Gefnogi�Tŷ�Gobaith
Llongyfarchiadau i Bernard Jones o Benrhosgarnedd (gynt oDdyffryn Ogwen) ar ei orchest yn codi dros £2,000.00 tuag at TŷGobaith. Gwnaeth hyn wrth wneud taith noddedig ar y WeirenWib fore Sadwrn, 20 Rhagfyr. Mae'r arian yn dal i ddod i mewnac efallai y cawn wybod beth oedd y swm terfynol yn y rhifynnesaf. Yn y llun gwelir Bernard ychydig cyn ei antur fawr, gydathri o gefnogwyr: (o'r chwith) ei wraig, Buddug, y cynghoryddsir lleol, Ann Williams, a'i weinidog, y Parchedig Olaf Davies.
Plaid Lafur Dyffryn Ogwen
Ar ddechrau Mis Tachwedd aeth nifer o aelodau i nosongymdeithasol ym Methel i wrando ar Marian Hughes yn einhannerch am ei hymweliad ag India. Ar ddiwedd y cyfarfodmwynhawyd lluniaeth ac fe godwyd swm parchus o arian tuag atdreuliau’r etholiad.
Yna, yng nghanol y mis aeth rhai o’r aelodau i gyfarfod o’r BlaidLafur ym Mhorthmadog i dderbyn adroddiad am GyngorGwynedd ac i drafod materion perthnasol, gan gynnwys ad-drefnu cynghorau sirol.
Ar ddiwedd y mis cynhaliwyd cyfarfod misol y gangen yngNghanolfan Cefnfaes i dderbyn adroddiadau ac i baratoi ar gyferFfair Nadolig y gangen yn Neuadd Ogwen. Yn ystod y mis roeddAlun Pugh, sef yr ymgeisydd seneddol, ac eraill yn dal i ganfasioo ddrws i ddrws gyda thimau o aelodau’n canfasio ar y teliffon.
Llais Ogwan 10
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 10
Pwy�Sy’n�Cofio�Ddoe?©�Dr�J.�Elwyn�Hughes
Dyddiadur�Digwyddiadau�1903-1904�
1903• 03/1903: Yr Arglwydd Penrhyn yn dod agachos o athrod yn erbyn W. J. Parry yn yrUchel Lys yn Llundain. Dyfarnwyd o blaidPenrhyn gyda £500 o iawndal a £2000 tuagat ei gostau. Sefydlwyd Cronfa Amddiffyn (yDefence Fund) ym Methesda, danlywyddiaeth William George a phwyllgor oardalwyr y tu allan i’r chwarel. LlwyddoddWilliam George i dalu’r ddyled i gyfreithwyrPenrhyn a chael archeb i daflu allan ddeisebyr Arglwydd Penrhyn i wneud Parry ynfethdalwr. Cafodd aelodau’r Pwyllgor fedal âP v P arni.• 22/05/1903: Yn Llyfr Cofnodion YsgolGenedlaethol Tregarth (Tregarth NationalSchool): ‘The attendance has only been fairduring the week. The parents break the lawwith impunity and nothing is done to punishthem. Since a few of the children from theBethesda district have attended this schoolthe attendance has been very muchdeteriorated.’• 19/06/1903: Yn Llyfr Cofnodion YsgolGenedlaethol Llanllechid (LlanllechidNational School): ‘Four children werewithdrawn this week and sent to the BritishSchool. No reason was given for so doing,but it is known that pressure was put uponthe mother to act thus.’• 01/09/1903: Yn Llyfr Cofnodion YsgolFrutanaidd Llanllechid (Llanllechid BritishSchool): ‘School re-opened, 5 childrenadmitted, 4 of them having come from theArgentine Republic. They know onlySpanish and Welsh.’• 02/09/1903: Yn Llyfr Cofnodion YsgolFrutaniadd Carneddi (Carneddi BritishSchool): ‘The bad feeling caused by theStrike caused some half dozen children toremove to the Church school. I am gratifiedto find that, with one exception, the children
of Strikers and Secessionists fraternizetogether. I have repeatedly warned thechildren that I will not tolerate any molestingand they seem to have acted accordingly. Butsome parents seem to apprehend danger ereit comes and remove their children. Somehave removed from the neighbourhood,others are over age and leave. Our lossesabout 10 in all.’• 6 ac 13/11/1903: Yn Llyfr CofnodionYsgol Genedlaethol Tregarth (TregarthNational School): ‘Two old scholars were re-admitted during the week … One old scholarwas re-admitted on Monday morning.’• 10/11-1903: Streic Fawr y Penrhyn yn dodi ben.
1903-1904• 01/08/1903-10/10/1904: Gweithwyr ynChwarel Pantdreiniog wedi symud 630,736tunnell o rwbel o dwll y chwarel ac oddeutu9000 tunnell o lechfaen da, ac wedicynhyrchu gwerth £9,750 o lechi.
1904• 03/11/1904: Geni Caradog Prichard ynLlwyn Onn, Pen-y-bryn.• Penodi David Thomas Ffrancon Daviesathro yn y Royal Academy of Music. • 11/1904: 76 o ddynion yn gweithio arBonc Gray yn Chwarel Moel Faban, 160 ynChwarel Pantdreiniog ond dim ond 7 ynChwarel Tan-y-bwlch (‘engaged inpreliminary operations’).• 06/1904: Achos llys ym Mangor.Gwysiwyd Ernest Henry Tanner, chauffeur, oLundain, am yrru ei fodur yn ddiofal drwyFethesda ar Fehefin 30, 1904. Dywedodd uno’r tystion ei fod yn gyrru ‘at a furious pace’(er nad oedd ganddo syniad o’r cyflymder,dim ond ei fod yn beryglus i’r cyhoedd).Roedd R. J. Ellis, Gordon Terrace, ynystafell ffrynt ei gartref, a Sarjant Rowlandsefo fo, pan aeth y modur heibio ‘at a greatrate of speed’. Cytunodd y Sarjant fod ymodur wedi mynd i fyny’r Stryd Fawr argyflymder anghyfrifol - ‘the pace wasfurious, dangerous to the public’. Gyrrodd ySarjant wire i’r heddlu ym Metws y Coed iatal y gyrrwr gwyllt. Er i’w dwrnai haeru yny llys fod rhagfarn hurt gan bobl Bethesda ynerbyn ceir, cafwyd Mr Tanner yn euog a’iddirwyo £5 a’r costau. Roedd ei gyflymder,yn ôl un o’r tystion, rywle rhwng 20 a 30milltir yr awr!• 21/11/1904 (Llun): CyfarfodyddDiwygiad ym Methesda. (Dyma’r cofnodcyntaf allan o 13 am gyfarfodydd Diwygiadyn nyddiaduron David D. Evans, Glanrafon,Gerlan - cofnodir 8 yn ystod mis Tachwedd a4 ym mis Rhagfyr ond ni fu sôn o gwbl wedihynny!)
1904-1905• Y Diwygiad
I’w�barhau
Mae’r Dr J. Elwyn Hughes wedi bod yn YsbytyGobowen ychydig cyn y Nadolig ac wedi bod danlawdriniaeth i gael pen-glin newydd. Da clywed eifod yn gwella. Mae ei gyfeillion yn Nyffryn Ogwenyn dymuno gwellhad llwyr a buan iddo.
Dymuna Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel,ddiolch yn ddiffuant i bawb am y cardiau a’rgalwadau ffôn niferus a dderbyniodd yn dilyn yllawdriniaeth a gafodd ym mis Rhagfyr i gael pen-glin newydd. Gwerthfawroga ymweliadau eigymdogion, ei gyfeillion a’i gydnabod panddychwelodd o Ysbyty Gobowen ychydig ddyddiaucyn y Nadolig.
Nyth y GânBydd ein darllenwyr yn falch iawn fodDafydd Morris wedi ail-gydio yn y sgwennuac wedi llunio cân am hen chwarelwr yndwyn i gof y cymeriadau a fu’n gwmni iddoerstalwm.
Yr Hen Chwarelwr
Un faith oedd y sgwrs a diddorolA gawsom â’r gŵr wrth y tân,
Adroddodd sawl stori fach symlGynhwysai'r mawr efo’r mân.
Ei feddwl a grwydrai ar brydiauÂ’r chwarel o hyd ddaeth i’w ran,
A’r llu cymeriadau oedd yno,Y cadarn yn gymysg â’r gwan.
Rhai lleddf a rhai llon a ddôi ynoMor fyw ac mor iach ar eu taith,
Ac yntau’n creu darlun ohonyntFel pe baent yn cerdded i’w gwaith.
Mor fywiog siaradai amdanyntRoedd pob un fel pe bai yn fyw
Fel defaid yn dringo’r hen lwybrauYn dilyn ei gilydd yn griw.
Ymlaen yr aeth ef â’i storїauYn sôn am y caban a’r graig,
Am flinder y curo mor galed,A’r bywyd a rannodd â’i wraig.
Mor hyfryd oedd gwrando storïau Chwarelwr hen ffasiwn â’i ddawn
Tra’n eistedd yn braf yn ei stafellAc yntau â’i hwyliau yn llawn.
Dafydd�Morris
Ionawr
Daw’r enw ‘Ionawr’ o’r Lladin ‘Janus’, un odduwiau’r Rhufeiniaid. Duw dechreuadau athrawsnewidiadau oedd Janus yn eumytholeg ac felly roedd yn cael eigynrychioli gan ddelw a chanddo ddauwyneb, y naill yn edrych i’r gorffennol a’rllall i’r dyfodol. Enw addas iawn ar gyfermis cyntaf y flwyddyn.
IonawrMae Ionawr ar y mynydd, - a gwelwach
Yw golwg y meysydd;Ond daw yn newid tywydd,Ac yn y fan, gwanwyn fydd.
John�Penry�Jones,�Y��Foel
Buddugwyr�LlênEisteddfod�Dyffryn
Ogwen
Llongyfarchiadau i DilwynPritchard, Bron Arfon, Rachub ar
ennill cystadleuaeth y stori fer.Hefyd i John Ffrancon Griffith,Abergele (gynt o Fethesda) ar
ddod yn fuddugol yngnghystadleuaeth yr englyn.
Llais Ogwan 11
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 11
Côr Meibion y PenrhynCymeriadau’r�Côr�
Gwyn�Burgess
Cyfres yw hon sy’n rhoi manylion am rai oaelodau Côr meibion y Penrhyn. Yr aelod ymis hwn yw Gwyn Burgess sy’n swyddogmewn llywodraeth leol gyda ChyngorGwynedd.
Gyda thristwch mawr y cofnodwn farw uno hoelion wyth Côr Meibion y Penrhyn.Daeth y newyddion am farw Tom Morganyn sydyn ac yn annisgwyl yn y diwedd ahynny pan oedd Llais Ogwan ar fin myndi’r wasg. Roedd Tom wedi bod yn aelodo’r côr ers dechrau’r pumdegau ac yn yblynyddoedd diwethaf ef oedd y llywydd.Meddai ar lais bas/bariton cyfoethog a bu’nunawdydd gyda’r côr am rai blynyddoedd.
Roedd Tom yn aelod brwdfrydig a ffyddlonyng Nghôr y Penrhyn ac yn gymeriadhoffus a phoblogaidd gan bawb. Brodor oSir Aberteifi ydoedd ac mae llawer yncofio amdano ef a’i dad, y diweddar EmrysMorgan, cantor nodedig arall, yn codi canuyng Nghapel y Gerlan.
Bydd bwlch enfawr ar ei ôl yn rhengoedd ycôr a gobeithiwn gyhoeddi teyrngedlawnach iddo y mis nesaf.
Cydymdeimlwn yn ddwys gyda’i briodVera, a’r plant Gwyn, Dylan a Nerys,ynghyd â’r teulu oll yn eu profedigaethlem.
Be’�ydi�dy�enw�llawn?��Gwyn Royden Burgess
Oed��63
Lle�wyt�ti’n�byw?�Bryn Coetmor, Bethesda.
Un�o�le�wyt�ti’n�wreiddiol?�Bethesda
Pa�dri�pheth�fasai’n�dy�ddisgrifio�orau?Hapus, Mwynhau Bywyd a Tawel.
Ers�faint�wyt�ti’n�aelod�o’r�Côr?44 o flynyddoedd. Mi wnes i ymuno ymMawrth 1971.
Pa�lais�wyt�ti?�Ail denor.
Pam�wnest�ti�ymuno�â�Chôr��y�Penrhyn?Mi wnes i glywed y Côr yn canu am y trocyntaf mewn cyngerdd yng NghapelJerwsalem tua 1970. Dwi’n meddwl mai hwnoedd un o’r cyngherddau cyntaf o danarweinyddiaeth Menai Williams ac mibenderfynais i’r adeg honno y buaswn yn hoffibod yn rhan ohono.
Pa�un�ydi�dy�hoff�gân�yn�rhaglen�y�Côr?��Mae gen i amryw. Ar hyn o bryd mi faswn i’ndweud mai Benedictus a’r trefniadau o’rcaneuon Affricanaidd gan Arwel yr arweinydd.
Ar ôl seibiant dros y Nadolig a’r flwyddynnewydd ail afaelodd y côr yn yr ymarferion ynnechrau Mis Ionawr. Bydd 2015 yn flwyddynhynod o brysur gyda nifer o gyngherddau apherfformiadau mawr a phwysig yn dod i’nrhan dros y misoedd nesaf. Y mis hwn byddgennym gyngerdd yn Henllys yn ogystal âdathlu Noson Dwynwen yn Neuadd y Dref,Llanfairfechan ac mae tocynnau ar gael inoson honno am £10 sy’n cynnwys bwyd.Bydd bar ar gael yno hefyd.
Côr�SeiriolYn nechrau Mis Mawrth byddwn ynperfformio yng Nghapel Jerwsalem gyda ChôrSeiriol, un o’r corau merched gorau yn ydeyrnas. Bydd tocynnau i’r noson honno yn£7 i oedolion ac yn £4 i blant. Gwnewch ynsiŵr o’ch lle rŵan!
Black�DykeMae’r trefniadau ar gyfer y cyngerdd ynLlandudno gyda’r band byd enwog o SwyddCaerefrog yn mynd rhagddynt yn dda. Maenifer o docynnau wedi eu gwerthu eisoes ac osydych chi am wledd o ganu corawl gyda bandarian gorau’r byd holwch unrhyw un oaelodau’r côr am docyn nawr. Maen nhw arwerth am £20 ac £17 yr un. Bargen!
Llais Ogwan 12
CYMORTHfEYDDOs oes gennych fater yr hoffech eidrafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa ymMangor neu yng Nghaernarfon
Alun ffred JonesAelod CynulliadEtholaeth Arfon
Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948
Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076
Hywel WilliamsAelod SeneddolEtholaeth Arfon
CYMORTHfEYDDOs oes gennych fater yr hoffech eidrafod gyda’ch AS mewn cymhorthfa,yna cysylltwch ag ef yn ei swyddfaym Mangor neu yng Nghaernarfon:
Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948
Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076
Pwy�ydy�dy�hoff�ganwr/gantores?��Gan mai tenor ydw i mae’n rhaid i mi ddweudRhys Meirion a Gwyn Hughes Jones.
Beth�ydy�dy�farn�di�am�ganu�pop?�Mi wnes i stopio dilyn caneuon pop ar ôl yr80au.
Oes�gen�ti�atgof�difyr�am�ryw�ymweliadefo’r�Côr?��Dyna beth sy’n dda am fod yn aelod o Gôr.Mae rhywun yn cael amryw o wahanolbrofiadau difyr. Rhaid i mi ddweud mai’rteithiau gorau oedd y teithiau dramor i’rAlmaen at y band yn Notzingen yn enwedig yrymweliad cyntaf â’r pentre’. Bryd hynnyroedd cyfnewidiadau rhwng bandiau a chorauac aros yn eu cartrefi yn rhywbeth newydd achyffrous.
Pa�ddiddordebau�eraill�sy�gen�ti�y�tu�allani’r�Côr?��Cerdded, garddio a choginio.
Oes�yna�rywbeth�faset�ti’n�hoffi�gweld�y�Côryn�ei�wneud?�Dal i annog hogia ifanc i ymuno â’r Côr.Rydym yn ffodus fod aelodaeth y Côr wedi eisefydlogi ers rhai blynyddoedd bellach gydagoddeutu 65 ar y gofrestr. Braf hefyd ydy gweldbod dros 50 o aelodau yn mynychu’rymarferion bob nos Lun. Mi faswn i’n dweudfod hyn oherwydd y weledigaeth a’r gwaithcaled mae’r Arweinydd a’r pwyllgor o dangadeiryddiaeth Alun Davies wedi ei wneuddros y blynyddoedd diwethaf i godi proffil ycôr. Drwy hynny mae’r côr yn rhoi profiadaua chyfleoedd newydd i’r aelodau. Diolchhogia!
Braichmelyn
TŶ i’W OSOD AR RENT
2 lofftGwres CanologLlosgwr Coed
Lle Parcio
£500 y mis heb gynnwys biliau
(Dim DHSS, dim ysmygu,dim anifeiliaid)
07503660037
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 12
01248 361044 a 07771 634195
Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -
tripiau, priodasau, partïon ac ati.
Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens
Blodau�Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda
602112 (gyda’r nos 602767)Blodau ar gyfer pob achlysur
Priodasau,�Angladdau�ayybFfres�a�Sidan
Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’Modurdy�Central
Ceir�ail-law�ar�werthM.O.T.�ar�gael
HefydTrwsio�a�Gwasanaeth
Ar�Allt�Pen-y-bryn, Bethesda�601031
Elwyn�Jones�& Cohefyd�yn�masnachu�fel
Parry�Davies�Clwyd-Jones�& Lloyd�LLP
-�Cyfreithwyr�-
123 Stryd FawrBangor
Gwynedd(01248) 370224
Ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiolGwasanaeth dwyieithog personol a chyfeillgar
Swyddfeydd eraill:
Llangefni Amlwch Benllech(01248) 723106 (01407) 831777 (01248) 852782
Caernarfon Pwllheli(01248) 673616 (01758) 703000)
Cerbydau PenrhynCabiau a bysiau mini
ffôn: (01248) 600072
Meysydd awyr PorthladdoeddContractau
Contractwyr i Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru
Blodau RaccaPENISARWAUN
Planhigion gardd a basgedi crog o’ransawdd gorau
Ffôn: 01286 870605
Arbenigwr mewn lloriau coed caled
Arbenigwr mewn gosod aselio lloriau coed caled,
adnewyddu lloriaugwreiddiol a chyweiriolloriau sydd wedi eu
difrodi.Andrew G. Lomozik B.A.
Ffôn: 01248 602117 Symudol: 07835487909
Un sesiwn am ddim os dewchâ’r hysbyseb hwn hefo chi
Croeso i bawb, yn arbennig dysgwyr
Manylion gan Jake neu ElenaFitzpatrick - 01248 602416
neu galwch heibio’r dosbarth
Dosbarthiadau
yng Nghanolfan
Gymdeithasol
Tregarth bob
nos Fercher
6.30 tan 8.30
WU SHU KWANBocsio Cic Tsieineaidd (Kung Fu)
Llais Ogwan 13
Pob Math o Waliau Cerrig,
Ffensio, Tarmacio a Thirlunio.
Gwaith gyda peiriant tyrchu bach.
07770 900531
01248 600282
Ymgymerwr adeiladu agwaith saer
Ronald JonesBron Arfon, Llanllechid
Bethesda 01248 601052
CONTRACTWYR TOi2 Hen Aelwyd, Bethesda
600633 (symudol) 07702 583765
Arbenigo mewn gwaith ffelt a pitsio.
Hefyd toeau llechi a gwaith yswiriant.
Gadewch i ni gynnig pris rhesymol am
waith diguro.
m.hughesa’i�fab
Sefydlwyd 1969
MODURDY FFRYDLAS
PerchennogA. Ll. Williams
Stryd fawr, Bethesda PROfiON M.O.T.
GWASANAETH ATGYWEiRiOTEiARS A BATRiS
GWASANAETH TORRi i LAWRNEU DDAMWAiN
600723 Ffacs: 605068
ProfionM.O.T.
Os am gynnal bore coffi neuddigwyddiad arall yn Neuadd
Ogwen cysylltwch gyda Dilwyn Llwyd drwy e-bost
[email protected] neudrwy ymweld â’r neuadd i drafod.
D. Hughes a S. Roberts
Seiri MaenBob math o Waliau Cerrig
ffensio : Tirlunio
ffôn : 07766 895352
Llais Ogwan 13
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 13
AR�DRAWS
1 Pryniant rhad, ac roedd llawer ohonyntyn y chwareli llechi erstalwm (6)
4 Aderyn ‘tir y lord’ yn ôl R. Williams Parry (6)
7 Llofruddiaeth anfwriadol (9)9 Chianti, Chablis neu Rioja (4)
10 9 Ar Draws (4)11 Y pluog siaradus (5)13 Pentref morwrol ym Mhenfro a man
geni Meic Stevens (6)14 Camp athletwr sy’n mynd yn hir neu’n
uchel (6)15 Carreg Cennen, Y Bere neu Ddinas
Brân (6)17 Tipyn llai na 12 I LAWR (6)19 Gosod mewn safle (5)20 Prif offeiriad eglwys gadeiriol wedi’r
esgob (4)22 Cerrig ----, beddfeini (4)23 Cyflwr o ymwrthod ac ymatal (9)24 Ma efô yng nghanol paradwys (6)25 Ceinciau a melodïau (6)
I�LAWR
1 Brau a hawdd ei dorri (6)2 Ai dyma cyw y frân (4)3 Hunangofiant merch am ei
phlentyndod ym Mhatagonia, “--- --- y Bwcs”1992 (3,3)
4 Yn driw hyd y diwedd (6)5 Cyflwr ; nifer o dai ar yr un safle (4)6 Nyrsio a gofalu (6)7 Syrffed (9)8 Arteithiol a phoenus tu hwnt (9)
Croesair�Ionawr�2015
Atebion erbyn dydd Mercher, 31Rhagfyr 2014 i: ‘CroesairRhagfyr’, Bron Eryri, 12 Garneddwen, Bethesda LL57 3PD.
11 Mi ges fy chwythu i’r Eil-O-Man mewn un o’r rhain (5)
12 Afon enwog y coryglau (5)15 Yr ail o lwon yr Urdd,
ffyddlondeb i’ch --- --- (3-3)16 Llethr, mewn chwarel yn
‘Stiniog efallai (6)17 Y fwyaf o ran maint o holl
daleithiau America (6)18 Gro (6)21 Negesydd Cynan o ‘bro y clwyf
a’r clefyd’ i ‘ardaloedd hedd a chân’ (4)
22 Atalnodiad (4)
ATEBION�CROESAIRRHAGFYR�2014
AR DRAWS 1 Melchior, 5 Llety,9 Bethlehem, 10 Gwr Y, 11 Arfogi,
13 Anti, 15 Ael, 17 Ciosg, 19 Hi,20 El, 21 Cacen, 23 Nil, 26 Awyr, 27 Syrcas, 30 Pawb, 31 Llyncu Mul,32 Rand, 33 Gorchwyl
I LAWR 2 Eithaf, 3 Chweugain,4 Oren, 6 Edwino, 7 Ynysig, 8 Abram, 12 Ie, 13 Ail, 14 TSB 16 Lôn, 17 Celyn Coch, 18 Llaw, 19 Her, 21 Caspar, 22 Cychwyn, 24 Is, 25 Y Silff, 28 Cymry, 29 Wylo
Blwyddyn Newydd Dda i chi oll, a diolch i rai ohonoch am eich dymuniadau dadros yr Ŵyl. Cafwyd nifer o gamgymeriadau bychain yng nghroesair Rhagfyr;‘lan’ a ‘las’ yn lle ‘lôn’, ‘sil’ yn lle ‘Nil’, ‘fi’ yn lle ‘hi’a ‘far’ yn hytrach na ‘her’. Ond cafwyd atebion hollol gywir gan y canlynol :Dilys A. Pritchard-Jones, Abererch; Dafydd Evans, Penisarwaun; Jean Hughes,Talybont; Gaynor Elis-Williams, Carneddi; Emrys Griffiths, Rhosgadfan; DorisShaw, Bangor; Rosemary Williams, Elizabeth Buckley, Sara a GarethOliver; Dulcie Roberts, Tregarth; Anne Smith a David, Rita Bullock, Bethesda;
Derek a Mai Jones, Rhiwlas; Karen Williams, Elfed Evans, Llanllechid. Ond ynfuddugol y tro hwn y mae ymgais Jean Vaughan Jones, 12 Hafod Lon, Rhiwlas,Bangor LL57 4GD. Llongyfarchiadau calonnog i chi.
Daeth dau yn gyfartal am y teitl ‘Pencampwr 2014’ am lwyddo i ateb pob un ogroeseiriau’r flwyddyn gyfan yn gywir, sef Gaynor Elis-Williams, Carneddi acElfed Evans, Llanllechid. Tipyn o gamp yn wir. Da iawn chi !
CHWiLAiR iONAWR 2015ENWAU CYMRAEG AR DREFI A LLEFYDD ERAILL YN LLOEGR
Yn y chwilair y mis yma mae deuddeg o ENWAUCYMRAEG AR DREFI A LLEFYDD ERAILL YNLLOEGR. Mae un cliw wedi ei ddangos yn barod. A oesmodd i chwi ddod o hyd i’r gweddill? (Mae LL, CH, DD,TH, ayb, yn un llythyren yn y Gymraeg, ond i bwrpas ychwilair dangosir hwynt fel dwy lythyren ar wahân).
Atebion gydag enw a chyfeiriad i Andre Lomozik,Zakopane, 7 Rhos y Coed, Bethesda, Bangor, GwyneddLL57 3NW, erbyn Chwefror 4. Bydd gwobr o £10 i’r enwcyntaf allan o’r het. Os na fydd unrhyw un wedi canfod ydeuddeg, yna’r rhif agosaf fydd yn cael y wobr.
Gobeithio eich bod wedi cael amser i ymlacio dros yNadolig a’ch bod yn edrych ymlaen at y flwyddynnewydd. Diolch hefyd am y cardiau Nadolig a’rdymuniadau gorau. Enwau Cymraeg ar drefi a llefydderaill yn Lloegr sydd yn y chwilair y mis yma i’ch diddori.Pob lwc! Yn anffodus, roedd sawl un ohonoch wedi gweld“cog” yn chwilair y mis diwethaf, ond nid oedd yn un o’radar ’roeddwn wedi eu henwi.
Dyma atebion Rhagfyr:- Aderyn Drycin y Graig (Fulmar);Aderyn y Bwn (Bittern); Alarch Dof (Mute Swan); BarcudCoch (Red Kite); Bwncath (Buzzard); Cynffon Sidan(Waxwing); Eryr Euraid (Golden Eagle); Grugiar Ddu(Black Grouse); Gwalch y Pysgod (Osprey); Gŵydd Wyllt(Greylag Goose); Hwyaden Wyllt (Mallard); TorchyddGyddfgoch (Red-throated Diver).
Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir:- ElizabethBuckley, Tregarth; Rosemary Williams, Tregarth; DorisShaw, Bangor; Elfed Bullock, Maes y Garnedd; Dilys A.Pritchard-Jones, Abererch; Jean Vaughan Jones, Rhiwlas;Merfyn a Laura Jones, Halfway Bridge, Bangor. EnillyddRhagfyr oedd:- Dilys A. Pritchard-Jones, Ynys, Abererch,Pwllheli, LL53 6YP.
Llais Ogwan 14
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 14
Malinda Hayward(Gwniadwraig)
Awel DegPenygroes, Tregarth.
Am unrhyw waith gwnïo- trwsio, altro ac ati -
ffoniwch 01248 601164
DEWCH�I�WELDEICH
CYFREITHIWRLLEOL
SGWâR�BUDDUGSTRYD�FAWRBETHESDAGWYNEDDLL57�3AG
BETHESDA01248�600171
CyfreithwyrY�CYNGOR�CYNTAF�
AM�DDIM
EWYLLYSIAU�APHROFIANT
SYMUD�TŶ
Tudur�Owen,�Roberts,�Glynnea’u�cwmni
Torri GwalltiauDynion a Phlant
gan Alison
MODURON PANDY Cyf.MOT Diesel a ChatalyddAtgyweirio MOTGwasanaethu CerbydauCydbwyso TeiarsBatrisTracio
01248 600619
Tregarth, Bangor,Gwynedd LL57 4AY
L.�Sturrsa’i�feibionsefydlwyd yn 1965
ADEILADWYRHen�Iard�Stesion,�
Ffordd�y�Stesion,�Bethesda
Ffôn:�600953Ffacs:�602571
OWEN’S TREGARTH
Cerbydau 4, 8 ac 16 seddArbenigo mewn meysydd awyr
Cludiant Preifat a Bws Mini
01248 602260
www.owenswales .co.uk
Contractwyr Trydanol
Jones�&�Whitehead�Cyf
Swyddfa GofrestredigPenrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU
Ffôn: 01248 601257Ffacs: 01248 601982
E-bost: [email protected]
Angen Dreifar Proffesiynnol
Siop OgwenCownter Gwasanaethau
Dydd Llun 10.00-4.00: Cymorth i FerchedDydd Llun 9:30-11:30: Banc Bwyd (Derbyn Talebau)
Dydd Mawrth 10.00-2.00: Wardeiniaid YnniDydd Mercher 12.00-2.30: Banc Bwyd (Dosbarthu Bwyd)
Siop Grefftau ar agor Llun - Sadwrn
01248 602131 [email protected]
Llais Ogwan 15
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 15
Gair o’r dosbarth
Llais Ogwan 16
Ysgol Dyffryn Ogwen
Llais Ogwan 16
Te�prynhawn�Nadolig�Ysgol�Dyffryn�Ogwen�2014
Eto y flwyddyn hon bu’r te prynhawn yn llwyddiant. Croesawyd dros90 o’r henoed lleol i’r ysgol am y prynhawn o luniaeth ysgafn acadloniant. Roedd y lluniaeth wedi cael eu baratoi gan grŵp Lletygarwchblwyddyn 10, a bydd eu perfformiad yn cyfrif tuag at eu cymhwysterlefel 2 BTEC. Diolch o galon i fusnesau lleol am gyfrannu tuag at ybwyd a’r raffl sef Caffi Seren, Mabinogion, Serena, Tesco, BecwsDwyran, Bwydydd Harlech, Cigydd Dafydd Jones, Caernarfon a’r DynLlysiau. Heb eu cyfraniad ni fuasem wedi gallu cynnal y te Nadolig.
PantomeimBu holl ddisgyblion blwyddyn 7 yn gweld perfformiad o’r pantomeim‘Cinderella’ yn Llandudno yn ystod yr wythnos olaf. Yr oedd ynberfformiad lliwgar, bywiog a swnllyd yn unol â thraddodiad ypantomeim Nadoligaidd, ac yr oedd y disgyblion a’r aelodau o staff,wedi cael bore difyr iawn. Diolch i’r adran Saesneg am drefnu.
Côr�yr�Ysgol�Bu corau'r ysgol yn brysur yn cyfrannu at ddathliadau'r Nadolig ynddiweddar. Gwahoddwyd aelodau o'r gymuned i fwynhau te prynhawnyn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 9. Cyflwynodd y côr iau raglenfer o adloniant gan gynnwys 'Cân y Bugeiliaid' gan Gareth Glyn ynghydâ threfniant Mari Pritchard o 'Dod ar fy mhen'. Ymunodd y côr hefydgyda'r gynulleidfa i cyd-ganu amrywiol garolau. Yn ogystal â'r côr, fegyflwynodd grŵp llinynnol o ddisgyblion iau yr ysgol garolau hefyd.Roedd Elin, Bess, Jasmine a Miriam ar y feiolin a Gwydion a Thalia ynchwarae'r soddgrwth (cello).
Nos Sul, Rhagfyr 21 cafodd yr ysgol wahoddiad i ymuno ynnathliadau'r gymuned yn y gwasanaeth carolau yng Nghapel Jerusalem.Cyflwynodd y côr iau ddwy gan ac roedd ensemble o gantorion ifancwedi canu 'Breuddwydiaf Freuddwydion' a oedd yn disgrifiosyfrdandod a chyffro bore’r Nadolig. Fe ganodd y côr hŷn gândeimladwy gan Eric Whitacre o'r enw 'Hwiangerdd y Morlo'. Daeth ygwasanaeth i ben yn fawreddog gyda'r corau yn cyd-ganu 'Bachgen aAned' o 'Teilwng yw'r Oen' gyda Chôr y Penrhyn a Chôr y Dyffryn.Roedd hyn yn brofiad gwefreiddiol i’r disgyblion.
Casglu�Arian�Achub�y�PlantDiolch i bawb am gyfrannu tuag at diwrnod siwmper Nadolig 2014.Roedd yr arian a godwyd yn mynd tuag at elusen Achub yr Plant.
Diwrnod�Sector�TreftadaethGwahoddwyd deuddeg o ddisgyblion Blwyddyn 9 yr ysgol i fynychudiwrnod yn hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector Treftadaeth. Prif nôd ydiwrnod oedd cynyddu ymwybyddiaeth y disgyblion o’r sectorTreftadaeth sy’n prysur dyfu yng Ngwynedd. Cawsant gyfle iamlygu’r cyfleoedd gwaith a busnes sy’n bodoli’n lleol yn y sectorTreftadaeth ac roedd cyfle i’r disgyblion gyfarfod pobl sy’n gweithio yny sector Treftadaeth a cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau fyddyn helpu iddynt ddeall gwaith amrywiol yr Amgueddfa Lechi.
Adran�Addysg�GorfforolTaith�ManceinionAr Ragfyr 17eg bu nifer o ddisgyblion blynyddoedd 8, 9 a 10 ar daith iweld sioe gerdd ‘Shrek’ yn y Palace Theatre ym Manceinion. 'Roedd ydisgyblion wedi cyffroi yn lân yn cael mynd i siopa a chael cinio yng
Nghanolfan Siopa Trafford yn ystod y bore. Roeddent wedi gwirionimwy fyth wrth gael profiad bythgofiadwy yn gwylio'r sioe gerdd enwoggan William Steig yn ystod y prynhawn.
LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau mawr i Nia George (bl9) am ddod yn gyntaf yn ygystadleuaeth gymnasteg (4 offer) yng nghlwb gymnasteg Eryri ynddiweddar. Bydd Nia a'i chwaer Erin ynghyd a Sophie Pipe yncynrychioli'r ysgol ym mis Ionawr yng nghystadleuaeth gymnastegUrdd Eryri. Pob lwc i chi ferched!
Llongyfarchiadau i Esme Crowe am ddod yn ail yng ngala nofio'r Urdd,rowndiau Eryri yn ddiweddar. Mae Esme yn hyfforddi gyda clwbCaernarfon yn gynnar yn y bore a gyda'r nos ar nifer o ddyddiau'rwythnos ac mae'n arbenigo yn y dull broga.
Nia�George�ac�Esme�Crowe
RygbiMae'r tîm rygbi merched yn mynd o nerth i nerth gyda oddeutu 30 oferched yn mynychu'r ymarferion yn y clwb ar nos Fercher. Dydd Iau,Rhagfyr 18fed cafodd y garfan iau gyfle i chwarae yn ei gem gyntaf ynerbyn Ysgol Tryfan gyda nifer o chwaraewyr newydd o flwyddyn 7. Ysgôr terfynol oedd 20-5 i Ysgol Dyffryn Ogwen gyda Sophie Ellis ynsgorio pedwar cais.
Ysgol Llanllechid
Blwyddyn�Newydd�Dda!
Blwyddyn Newydd Dda i`r holl ddarllenwyr! Dyma`r plantos wedi creuafalau calennig yn nosbarth Mrs Parry Owen!
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 16
Llais Ogwan 17Llais Ogwan 17
CofiwchBydd yr ysgol ar gau ar Ionawr 27 a Chwefror 13, oherwyddhyfforddiant mewn swydd i`r athrawon.)
CydymdeimloCydymdeimlwn â theulu Ms Leanne yn eu profedigaeth o golli nainannwyl, Mrs Annie Parry ar ddechrau`r flwyddyn. Derbyniwch eincydymdeimlad llwyraf fel ysgol.Yn yr un modd, cydymdeimlwn â Ms Rachel a Ms Medi. Bu farw eumodryb, sef Mrs Bethan Jones cyn y Nadolig. Cofion atoch i gyd felteulu.
LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i ddau o`n cyn-ddisgyblion, sy`n bresennol ynddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Ogwen, ar gael cynnig lle yn Rhydychen;Gwynfor Rowlinson yng Ngholeg yr Iesu a Bethan Hughes ym Merton.Gwych!
Llwyddiant�ym�Myd�ChwaraeonLlongyfarchiadau i Emma Hughes are i llwyddiant ym maes criced.Cafodd Emma ei dyfarnu fel y bowliwr gorau yn y tim o dan 12 ymMangor. Llongyfarchiadau i Ila Clark ar dderbyn ei gwobr efydd mewngymnasteg a Louis Revilles ar dderbyn gwregys felen mewn bocsiocicio.
Ben�DantLlongyfarchiadau i Gwen, William, Daniel a Gwion ar ymddangos arraglen Ben Dant ym mis Rhagfyr.
Clwb�yr�HenoedCroesawyd aelodau o Glwb yr Henoed i’r ysgol yn ôl ein harfer, acunwaith eto cawsant wledd; adloniant gan y plant yn ogystal â lluniaethNadoligaidd. Trist yw meddwl am farwolaeth disymwth Mr TwmMorgan, a ganodd unawd, sef carol, i ni yn ystod y bore hwn. Bydd yratgof hwn yn aros yn ein cof am amser maith. Anfonwn ein cofionannwyl at y teulu yn eu hiraeth o golli gŵr bonheddig arbennig iawn.
Bore�Coffi��NadoligDiolch i bwyllgor y clwb am gael cynnal ein Bore Coffi Nadoligaiddeto yn y Clwb Criced a diolch o galon i`r Pwyllgor Cyfeillion YsgolLlanllechid am eu gwaith di-flino. Mae eich holl ymdrechion yn cael eugwerthfawrogi`n fawr. Rhaid canmol Siôn Corn am ei ffordd hamddenolgyda`r plant; roedd hi`n fraint clywed y sgyrsiau difyr. Diolch hefyd ichi rieni a ffrindiau`r ysgol am ddod draw i`n cefnogi. Gwnaethpwydelw o £521.16 i gronfa`r ysgol, sy`n tystio i lwyddiant y bore!
Siwmperi�NadoligYn ystod mis Rhagfyr, daeth llawer o`r disgyblion i`r ysgol yn gwisgosiwmperi Nadoligaidd ac anfonwyd cyfraniad i elusen Achub y Plant.
Pili�PalasDdydd Mawrth, Rhagfyr 9fed, cafodd plant y Dosbarth Meithrin fynd ardrip i Bili Palas i gael cwrdd â’r dyn ei hun – Siôn Corn! Cafodd pawbgyfle i ddweud wrtho eu bod wedi bod yn blant bach da. Cawsant hefydgyfle i gwrdd â rhai o’r anifeiliaid a thrychfilod yn ogystal â chaelchwarae yn yr ardal deganau meddal, cyn dychwelyd i’r ysgol yn y bwsmawr gwyrdd gyda Mr Derfel Ownes! Trip gwerth chweil, a diolch istaff Pili Palas am y croeso.
Sioe�Nadolig�y�Dosbarth�Meithrin�a’r�Cylch�MeithrinBraf oedd gweld y neuadd yn llawn yn ystod sioe Nadolig y DosbarthMeithrin a’r Ysgol Feithrin. Cawsant wledd wrth wrando ar y plantifanc yn perfformio ‘Stori’r Geni’. Roeddent wedi dysgu casgliad da oganeuon amrywiol ac yn edrych yn ddigon o sioe yn eu gwisgoeddcrand. Yn wir, roedd naws y Nadolig yn sicr yn bresennol y borehwnnw.
Cyngerdd�Nadolig��y�Dosbarth�DerbynYn nosbarth Mrs Wilson, yr hyn oedd yn achosi problem oedd fod yseren druan wedi colli ei sglein! A wyddoch chi beth?! Gwaith blinedigy ceirw oedd chwilio`n ddyfal am y sglein ym mhob twll a chornel! Yrhen dylwyth teg, o waelod yr ardd, oedd ar fai. Yn ystod y perfformiad,cafwyd gornest ddawnsio lle`r oedd y tylwyth teg a’r ceirw yn dawnsioyn erbyn ei gilydd, yn union fel yn ‘’Strictly Come Dancing’’. SiônCorn ddaeth i achub y dydd, gyda’i symudiadau anhygoel! Wedi hyn,cafodd pawb Nadolig yn llawn ‘sglein a sbri!
Cyngerdd�Nadolig�Dosbarthiadau�Blynyddoedd�1�a�2Wedi i Siôn Corn gael ei herwgipio gan griw o bobl Oes y Cerrig, a’igadw mewn ogof yn Llanddona gyda’r gwrachod a’r pryfed cop, ynffodus iawn roedd William Ellis Williams yn hedfan ei awyren ar ytraeth hwnnw am y tro cyntaf erioed! Gyda chymorth Sian Owen Tŷ’n yFawnog (a llawer o gymeriadau adnabyddus eraill), llwyddodd Williami achub Siôn Corn, ac achub y Nadolig i blant y byd! Roedd y plant ynactio ac yn canu’n werth chweil! Diolch i’r rhieni am eu cymorthgyda’r gwisgoedd.
Pws�mewn�BŵtsAeth disgyblion y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 i’r GaleriCaernarfon i weld pantomeim ‘Pws Mewn Bwts’. Roedd hi`n sioeardderchog gyda Martyn Geraint gyda pob un o`r cast ar eu gorau. Brafoedd gweld pob un o’r plant yn chwerthin nes oedd eu hochrau ynbrifo!
Pip�y�Pengwin
Pip y Pengwin – dyna oedd teitl sioe Nadolig yr adran iau eleni, yn dilyn hynt ahelynt Pip druan wrth iddo geisio canfod ei ffordd yn ôl at ei ffrindiau ynAntarctica. Ar ôl dioddef casineb y Warden yn Sw Rachub cafodd Pip gymorthgan ei ffrind Sam i ddianc o’r sw. Ym Methesda sylwodd Pip ar y criw rygbi a’rwifren wib, cyn mentro draw i Sbaen i ganol y senoritas a’r matadors. Yn olaf,gyda chymorth Siôn Corn fe arweiniodd y sled yn ddiogel i Antarctica lle daethPip o hyd i’w deulu. Diolch i’r plant am drio eu gorau glas yn ystod yrymarferion ac yn enwedig ar noson y cyflwyniad. Cafodd y gynulleidfa wleddyn eu gwylio a diolch yn ogystal i’r rhieni am baratoi gwisgoedd mor fendigedigac am bob air o gefnogaeth a chanmoliaeth; llawer un yn dweud mai hon oedd ysioe orau eto! Diolch i Mr Alun Llwyd am gael defnyddio Ysgol Dyffryn Ogwener mwyn i ni gael llwyfanu r perfformiad.
Panto�PatagoniaBraf iawn yw cael cerdded i lawr i Stryd Fawr Bethesda a chael mynd i NeuaddOgwen, i fwynhau sioe. Mae`n adnodd anhygoel i r Dyffryn ac yn un y byddwnyn sicr yn manteisio llawer arno fel ysgol. Aeth disgyblion yr Adran Iau i NeuaddOgwen i fwynhau cyflwyniad cwmni Mega o Patagonia. Roedd y panto yn unbyrlymus ac egnïol ac roedd y plant wedi mwynhau anturiaethau’r cymeriadauyn fawr.
Trên�Siôn�CornCafodd y dosbarth Derbyn drip i’w gofio wrth fynd i ymweld â Siôn Corn ynLlanberis. Roedd gan Siôn Corn sach fawr yn llawn o anrhegion i’r plant da syddyn y dosbarth. Diolch Siôn Corn.
Sioe�Nadolig�CywAr ddiwrnod olaf y tymor aeth y Dosbarth Meithrin i Langefni i wylio sioe‘Nadolig Llawen Cyw’. Cafodd pob un fodd i fyw yn mwynhau perfformiadau rmôr-leidr enwog, Ben Dant, y ferch fach ddireidus Igam Ogam, Tara Tan Toc,Radli Migins o gyfres Llan-ar-Gollen, ac wrth gwrs, eu hoff gymeriad, Cyw eihun!
Ffilm�AffricanaiddA dyma ni, unwaith yn rhagor, yn bachu ar y cyfle i fynd draw i Neuadd Ogwen.Roedd hi n brynhawn Gwener rhynllyd ym Mis Rhagfyr pan aeth disgyblionMrs Bethan Jones yno i wylio ffilm oedd a neges gyfoes iddi. Roedd y ffilm,‘Khumba,’ yn rhan o Wyl ffilmiau Affricanaidd Cymru, ac yn olrhain hanes sebrao’r un enw. Roedd Khumba druan yn cael ei erlid gan ei gyfoedion ofergoelusoherwydd ei fod yn hanner streipiog. Negeseuon amlwg y ffilm oedd dewrder,gobaith, dathlu a pharchu unigolion sy`n wahanol. Negeseuon pwysig sy`nclymu`n berffaith a`n rhaglenni Addysg Byd.
Ysgol Rhiwlas
Sioe�Nadolig.Cafodd y pentrefwyr fodd i’r llygad a’r clyw pan berfformiodd plant yrysgol eu sioe Nadolig dros dri diwrnod. Enw sioe'r plant bach oeddGroto Siôn Corn gydag addasiad o stori’r geni draddodiadol a hwylNoswyl Nadolig eleni wedi ei gyfuno yn wych gan y plant. Roedd plantyr adran iau yn perfformio addasiad Mr Davies o’r pantomeim PeterPan. Roedd ôl llawer o waith caled i weld yn y ddau berfformiad achofiwch fod llawer o wynebau disglair ac enwog wedi dechrau eugyrfa yn sioeau Nadolig Ysgol Rhiwlas, felly gwyliwch allan am fwyyn y dyfodol. Diolch i holl staff yr ysgol am roi o’u hamser i wneud yperfformiadau mor wych a hwyliog.
Parhad dros y dudalen
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 17
Llais Ogwan 18
YmweliadauDaeth Mr Setatree i mewn i wneud gwasanaeth Cristdingl gyda’r plant,a chawsant i gyd ddod â’u haddurn adref gyda hwy.
Aeth plant blwyddyn 6 am ddiwrnod i Ysgol Dyffryn Ogwen i flasugweithgareddau a gwaith ysgol y byddant yn ei wneud flwyddyn nesaf.Cawsant ddiwrnod wrth eu bodd.
Aeth plant adran y babanod ar ymweliad â Chapel y Ffynnon cyn yNadolig i ddathlu’r ŵyl yno.
Dathlu’r�Nadolig�yn�yr�ysgolCafwyd cinio Nadolig gwerth chweil wedi ei baratoi gan Anti Siân etoeleni a phawb wedi bwyta gormod. Cafwyd hefyd barti Nadolig yrwythnos olaf gyda phawb wedi gwisgo i fyny mewn dillad parti achael dawnsio drwy’r pnawn.
Aeth y plant i gyd am dro i Landudno yr wythnos olaf i fwynhauperfformiad o Cinderella yn Venue Cymru. Cafwyd llawer o hwyl aphawb wedi mwynhau’n fawr.
LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Gwen Williams a Cassie Dodd. Roedd y ddwy ynrhan o dîm dan 11 merched traws gwlad ‘Menai Track and Field’ addaeth yn gyntaf yng nghystadlaethau traws gwlad Gogledd Cymru ynddiweddar. Er mai newydd ddechrau mae’r ddwy, maent yn barodwedi gwella ar eu hamser a’u safleoedd yn y gystadleuaeth. Da iawnchi, ferched, a daliwch ati.
Ysgol Rhiwlas (parhad)
Ysgol Tregarth
Ffair�NadoligCynhaliwyd Ffair Nadolig yr ysgol ar Nos Iau, Tachwedd 27ain.Diolch i’r Gymdeithas Rhieni/Athrawon am ei gwaith yn trefnu’rstondinau a’r gweithgareddau lu, gan gynnwys ymweliad gan SiônCorn. Bu prysurdeb mawr yn ystod y noson a llwyddwyd i godioddeutu £800. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Ymweliad�Capel�y�FfynnonCafodd blynyddoedd 1 a 2 ymweld â Chapel y Ffynnon ym Mangor ynddiweddar. Yno cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddauNadoligaidd gan ddysgu am stori’r geni, a chymryd rhan mewn dramaa gwisgo gwisgoedd bendigedig. Roeddynt wrth eu boddau yn caelgwneud amrywiaeth o weithgareddau. Yn y llun gwelir Esther, Millieac Amy yn barod i gymryd rhan yn nrama stori’r geni.
Cyngerdd�NadoligAr ôl wythnosau o ymarfer a pharatoi gan y plant cynhaliwyd cyngerddNadolig llwyddiannus dros ben yng nghapel Shiloh. Roedd thema’rsioe yn seiliedig ar ddarganfod pa stori yw’r orau un erioed. Yn ôl ygymeradwyaeth a gafwyd ar ddiwedd y perfformiad roedd ygynulleidfa yn amlwg wedi mwynhau. Diolch i Jones and Whiteheadam eu cymorth gyda’r llwyfan ac i swyddogion Capel Shiloh am eucydweithrediad, yn ogystal i’r rhieni am ddarparu gwisgoedd gwerthchweil!
Dymuniadau�GorauHoffem ddymuno yn dda i Miss Debbie Williams, sydd wedi bod ynathrawes yn yr ysgol ac yn aelod gwerthfawr iawn o’r staff yma ynYsgol Tregarth. Fe fydd yr ysgol yn gweld colled fawr hebddi.Dymuniadau gorau i chi yn y dyfodol Miss Williams!Hoffai’r ysgol hefyd ddymuno yn dda iawn i Ms Mary Jones sydd wedibod yn gweithio gyda blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Rydym wedi mwynhaucael cwmni Mrs Jones yn ystod ei chyfnod o addysgu yma yn YsgolTregarth. Pob hwyl i chi yn y dyfodol!
Ymweld�â�Siôn�Corn�Oherwydd eu bod wedi gweithio mor galed yn ystod y tymor, cafodddisgyblion Dosbarth Idwal brynhawn hyfryd ym Mhili Palas yncyfarfod y gwahanol greaduriaid ond yn bwysicach, cyfarfod SiônCorn ei hun wrth gwrs! Cafodd pawb gyfle i ddweud wrtho bethfydden nhw’n hoffi ei dderbyn ar fore Nadolig. Prynhawn braf iawn aphawb wedi mwynhau sgwrsio gyda Siôn Corn!
Pantomeim�Gan eu bod wedi ymddwyn mor dda yn ystod y tymor, bu disgyblionyr holl ysgol yn Neuadd Ogwen yn gwylio pantomeim Patagoniaddiwedd y tymor. Roedd hi’n bantomeim hwylus iawn, gyda llawer odynnu coes y gynulleidfa, digon o jôcs gwirion a chanu a dawnsiogwerth chweil. Cafodd y disgyblion andros o amser da a phawb wedimwynhau.
Ysgol Abercaseg
Cyngerdd�NadoligRoedd yr amser wedi dod eto i holl ddisgyblion yr ysgol arddangos euhymrwymiad a’u gwaith caled ar lwyfan Ysgol Dyffryn Ogwen. Ar ynoson, gydag Ysgol Dyffryn Ogwen yn llawn Coed Nadolig,Anifeiliaid y Llety, ceirw a llawer iawn mwy o gymeriadau roeddymrwymiad y rhieni hefyd yn amlwg iawn a hoffem ddiolch iddyn nhwam yr holl wisgoedd bendigedig. Roedd y cyngerdd yn seiliedig arddathliad y Nadolig o bersbectif yr anifeiliaid, o’r Asyn a oedd yn carioMair i Rwdolff sydd yn arwain y Ceirw ar Noswyl Nadolig. Roedd ycymeradwyaeth ar y diwedd yn gadarnhad amlwg o fwynhad yr hollgynulleidfa. Hoffem ddiolch i Brifathro a staff Ysgol Dyffryn Ogwenam y croeso a’r gefnogaeth a gawsom yn ystod yr ymarfer ac ar ynoson.
Sioe�Nadolig�CywRoedd yr ysgol llawn cynnwrf ar ddiwrnod olaf y tymor gan fodymweliad i Langefni i weld Sioe Nadolig Cyw wedi’i drefnu. Wedisiwrne ddiddorol ar y bws cafwyd y plant eu diddanu’n llwyr gan ygoleuadau, y gerddoriaeth a’r holl gymeriadau cyfarwydd yn fyw o’ublaen. Roedd dawnsio, chwifio breichiau a llawer o chwerthin aphawb wedi mwynhau.
Achub�y�Plant
Anghofio wnaeth pawb am ein gwisg ysgol arferol ar ddydd GwenerRhagfyr 12fed wrth i holl blant yr ysgol gefnogi diwrnod GwisgoSiwmper Nadolig, Achub y Plant. Roedd llond y lle o geirw, dynioneira ac wrth gwrs mwy nag un Siôn Corn, heb anghofio am ambell iSiân Corn hefyd! Ymunodd pawb yn yr hwyl gan godi arian at achosda ar yr un pryd. Mae plant a rhieni Ysgol Abercaseg wedi codi i’r brigunwaith eto wrth feddwl am bobol eraill llai ffodus na hwy ar yr adegprysur hon o’r flwyddyn.
Ffarwelio�
Roedd diwedd y tymor yn gyfnod o ffarwelio yn yr ysgol. Yn dilyndros ugain mlynedd fel gofalwraig Ysgol Abercaseg mae Mrs JeanThomas yn ymddeol. Hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith yn yr ysgoldros yr holl flynyddoedd a dymuno’n dda iddi yn ei ymddeoliad.
LlwyddiantYn Ysgol Abercaseg yr ydym eisioes yn gwybod am holl waith caled ySgwad Syniadau a sut mae disgyblion yr ysgol yn cael bod yn rhanallweddol o’r broses o wneud penderfyniadau sy’n newid ac yn gwellabywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Ond mae hi’n wir fraint i ni gyd weld yrarfer dda hyn yn cael ei gydnabod a’i gymeradwyo fel Astudiaeth Achosyn “Adroddiad Blynyddol 2014 Cyfarwyddwr Gweithredol IechydCyhoeddus – Plant a Phobl Ifanc yw Ein Dyfodol”. Ardderchog, blant.
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 18
Llais Ogwan 19
Siop Trin Gwallt a Harddwch
Bethesda 600094Yn arbenigo mewn trin gwallt
merched, dynion a phlant.Cynghori, gosod a thorri wigiau
Rhai gwasanaethau harddwch a shafio (rasal “cut throat”)
Hefyd�ymgymryd�â�gwaith�cerrig�beddi:
adnewyddu�neu�o’r�newydd
Gweithdy Pen-y-brynCefn-y-bryn, Bethesda
Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001
Gwasanaeth�personol�ddydd�a�nos
STEPHEN JONES
†TREFNYDD
ANGLADDAU
Gareth�WilliamsTrefnydd�Angladdau
Crud�yr�Awel1�Ffordd�Garneddwen
Bethesda
ffôn: (01248)�600763�a�602707
GWASANAETH�DYDD�A�NOS
01248 605566Archfarchnad hwylus Gwasanaeth personol
gyda’r pwyslais ar y cwsmerTocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy
Ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr7 diwrnod yr wythnos
LONDISBETHESDA
JOHN ROBERTS
Teilsiwr
Symudol: 07747 628650
Paentiwr
Papurwr
Ffôn: 01248 600995
Pob math o waith trydanol
Huw JonesYmgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda
phrofiad diwydiannol
Y Wern, Gerlan, BethesdaGwynedd LL57 3ST
ffôn: 01248 602480
Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon
Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle
Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol
Ffôn / Ffacs 01286 870882
RICHARD S. HUMPHREYS
Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *
* Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau�Agor
Llun�–�Gwener:�6.00�-�11.00Sadwrn:�3.30�–�12.00
Sul:�Pnawn�1.00�-�4.00,�Hwyr�8.00�-11.0001248�600219�
www.douglas-arms-bethesdaCewch groeso cynnes gan
Gwyn, Christine a Geoffrey
CAFFI�COED�Y�BRENIN1�Rhes�Buddug,�Bethesda
Ffôn:�01248�[email protected]
Bwyd�cartref�blasus(mewn awyrgylch cyfeillgar)
Cinio�arbennig�bob�dydd�Iau
Bwyd�i’w�gario�allan
Gwasanaeth�arlwyo�ar�gyfer�partïon�o�bob�math�-�
plant,�pen-blwydd�ac�ati(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)
Cacennau�ar�gyfer�pob�achlysur�e.e.�priodas�neu�ben-blwydd
Prisiau�rhesymol
BISTRO’R�BRENIN(Bwyty�Trwyddedig)
Rydym yn croesawu partïon o bob math – dathlu pen-blwydd
ac achlysuron arbennig eraill.Beth am eich Parti Nadolig?
Gadewch i Londri�Coed�y�Brenin
wneud eich golchi
DAfYDD CADWALADRDAfYDD CADWALADR
Cynhyrchion Coedlannol
Coed Tân - Llwythi bach a mawrYsglodion pren i’r arddFfensio a thorri coed
Asiant system gwresogi trwylosgi coed
01248 605207
Londis Bethesda
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 19
Llais Ogwan 20
Canolfan CefnfaesBETHESDA
GYRfA CHWiST
27 Ionawr10 a 24 Chwefror
am 7.00 o’r gloch
Dewch i fwynhaunosweithiau difyr
Beth sy’n digwydd yn y Dyffryn?
Marchnad Ogwen
Yr ail ddydd Sadwrn yn fisol
14 ChwefrorNeuadd Ogwen, 9.30am - 1.30pm
14 MawrthNeuadd Ogwen, 9.30am - 1.30pm
Bwydydd, Crefftau, Caffi
www.marchnadogwen.co.ukTwitter #marchnadogwen
Llais Ogwan 20
Cymdeithas HanesDyffryn Ogwen
Nos Lun 9 Chwefror 2015am 7.00 o’r gloch
James Griffiths
Cysylltiadau Cerddorol
£1.50 wrth y drws neu amddim i aelodau
Rhag-hysbysiad
Plaid CymruCangen Dyffryn Ogwen
Cynhelir
Cyfarfod Blynyddolam 7.00 o’r g;och
CYfARfOD AGOREDam 7.30
Siaradwr Gwadd
RHUN AP iORWERTH
Nos Wener, 27 Chwefror
yng Nghanolfan Cefnfaes
DYDDIADUR�BOREAU�COFFI2015
24�Ionawr CefnfaesCronfa Apêl Tracy Smith.28�Chwefror Neuadd OgwenPlaid Cymru.21�Mawrth Neuadd OgwenEisteddfod D. Ogwen.28�Mawrth Neuadd OgwenPlaid Lafur.18�Ebrill CefnfaesCymdeithas Capel Jerusalem.09�Mai Neuadd Ogwen Cymorth Cristnogol.27�Mehefin Neuadd OgwenEisteddfod D. Ogwen.26�Medi Neuadd OgwenPlaid Cymru.31�Hydref Neuadd OgwenEisteddfod D. Ogwen.
PwysigOs yn trefnu Bore Coffi yn ardalBethesda, bydd y rhestr uchod yngymorth i chi ddewis dyddiad gwag.Gallwch wedyn gynnwys eich dyddiadchi ar y rhestr hon. Bydd yn cael ei diweddaru ac ynymddangos pob mis.Anfonwch y manylion at NevilleHughes (600853).
EGLWYS UNEDIGBETHESDA
‘LLENWI’RCWPAN’
Dewch am sgwrs a phaned
Bob bore dydd Iau rhwng 10.00 o’r gloch a
hanner dydd
PESDA ROCDwy noson wych yn
Neuadd Ogwen
Nos Sadwrn, 31 Ionawram 7.30
DAfYDD iWANa gwestai arbennig
Nos Sadwrn28 Chwefror
am 7.30STEVE EAVES
a LLEUWEN STEffAN
Sesiynau Siarad i Ddysgwyr11-12, 2il Ddydd Sadwrn bob mis ym Marchnad Ogwen,
Neuadd Ogwen11-12, 4ydd Dydd Sadwrn bob mis yng Nghaffi Fitzpatrick's
Cyrsiau iaith yn Neuadd OgwenRydym yn casglu enwau i gynnal cyrsiau WLPAN yn Neuadd
Ogwen i ddechrau diwedd Ionawr 2015. Os ydych ynadnabod unrhyw ddarpar ddysgwyr, mae cyfle iddynt
gofrestru yn Siop Ogwen neu yn Neuadd Ogwen.
Am fwy o wybodaeth neu i wirfoddoli yn y sesiynau siarad,cysylltwch â Meleri ar 01248 602131
Ionawr 2015_Llais Ogwan 12/01/2015 13:25 Page 20