amrywiaeth systemau ffermio
DESCRIPTION
Amrywiaeth systemau ffermio. Amcanion dysgu. Nodi bod gwahaniaeth rhwng systemau ffermio. Deall pwysigrwydd iechyd a lles gwartheg, beth bynnag yw’r system ffermio a ddefnyddir. Maint ffermydd. Mae 17,000 o ffermydd llaeth ar draws y DU. Mae’r mwyafrif o ffermydd wedi eu lleoli yn - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
© British Nutrition Foundation 2011
Amrywiaeth systemau ffermio
© British Nutrition Foundation 2011
Amcanion dysgu
•Nodi bod gwahaniaeth rhwng systemau ffermio.
•Deall pwysigrwydd iechyd a lles gwartheg, beth bynnag yw’r system ffermio a ddefnyddir.
© British Nutrition Foundation 2011
Maint ffermydd
Mae 17,000 o ffermydd llaeth ar draws y DU. Mae’r mwyafrif o ffermydd wedi eu lleoli yn rhannau gorllewinol Ynysoedd Prydain lle mae’r hinsawdd gynnes a gwlyb yn cynnig amodau delfrydol i borfa dyfu.
Mae gan y fferm laeth gyffredin tua 113 o wartheg.
Mae ffermydd ym Mhrydain yn amrywio mewn maint ac arddull.
© British Nutrition Foundation 2011
Ffermydd mawr
Bydd gan rai ffermydd llaeth dros 1,000 o wartheg godro ar
un adeg.
Defnyddir dulliau ffermio tebyg, ond ar raddfa fwy.
Mae’n bwysig cofio, beth bynnag yw maint y fferm, iechyd a lles y gwartheg yw prif flaenoriaeth y ffermwr.
© British Nutrition Foundation 2011
Dan doYn y gaeaf ac yn ystod tywydd garw, mae’r mwyafrif o’r gwartheg godro o dan do.
Cynlluniwyd siedau i fod yn hynod eang ac awyrog, gan adael i’r gwartheg orffwys, sefyll a symud o gwmpas yn rhydd er mwyn ymarfer eu cyrff a chymdeithasu.
Mae siedau wedi cael eu cynllunio’n ofalus er mwyn sicrhau bod y ‘Pum rhyddid’ yn cael eu bodloni, ac i gynnal iechyd a lles y gwartheg.
© British Nutrition Foundation 2011
Dan do gydol y flwyddyn
Mae hyn yn golygu bod y gwartheg odro yn aros dan do drwy’r flwyddyn.
Rhaid i bob system dan do gael ei chymeradwyo gan y cynllun Gwarant Ffermydd Llaeth (ADF) er mwyn sicrhau
bod y gwartheg yn mwynhau’r pum rhyddid
Sef:• rhyddid rhag newyn a syched;• rhyddid rhag anghysur;• rhyddid rhag poen, niwed neu afiechyd;• rhyddid i ymddwyn yn arferol;• rhyddid rhag ofn a thrallod.
© British Nutrition Foundation 2011
Deiet
Mae’r mwyafrif o’r gwartheg godro ym Mhrydain yn pori ar laswellt yn ystod yr haf a silwair (porfa neu india corn wedi eu cadw) dros y gaeaf.
Mae hwn fel rheol yn cael ei gefnogi gan fwydydd sych fel grawnfwyd a bwydydd protein gyda fitaminau a mwynau ychwanegol.
© British Nutrition Foundation 2011
Deiet
Mae pob un o’r gwartheg godro yn bwyta rhwng 25 a 50 kg ofwyd y dydd.
Mae angen o leiaf 60 litr o ddŵr bob dydd ar fuwch odro, a hyd yn oed 100 litr neu fwy yn ddibynnol ar faint o laeth sy’n cael ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod cynhyrchu llaeth.
Mae maint y bwyd a’r dŵr mae’r gwartheg godro yn eu bwyta ac yfed yn dibynnu ar ffactorau fel brîd, oedran, maint a’r cyfnod cynhyrchu llaeth. Dyma pam mae ffermwyr yn defnyddio cyngor arbenigwr i ddatblygu’r deiet cywir.
© British Nutrition Foundation 2011
O dan reolaeth
Er yr amrywiaeth mewn maint y fferm a’r dulliau ffermio, mae pob ffermwr llaeth yn cyfarfod milfeddygon a maethwyr anifeiliaid er mwyn sicrhau safon iechyd a lles da ar gyfer eu gwartheg.
Mae pob fferm yn cael ‘gwiriad iechyd gyr’ rheolaidd ac mae gan bob buwch ei phasbort ei hun.
© British Nutrition Foundation 2011
Lloi gwrywaidd
Mae cydbwysedd natur yn pennu bod nifer cyfartal o loi gwrywaidd a benywaidd yn cael eu geni fel rheol i’r fuches odro. Mae’r mwyafrif o ffermwyr llaeth yn cael y dewis i naill ai magu’r lloi gwrywaidd ar gyfer cig eidion, os yn briodol, neu eu gwerthu ar gyfer cig llo.
Mae amcangyfrifon swyddogol yn dangos bod mwy na thri chwarter o’r holl loi gwrywaidd sy’n cael eu geni i’r gwartheg godro yn y DU yn cael eu magu ar gyfer cig eidion.
© British Nutrition Foundation 2011
Godro
Mae amlder y godro yn amrywio o fferm i fferm ac yn dibynnu ar y math o barlwr a ddefnyddir, y cyfnod cynhyrchu llaeth a’r cynnyrch llaeth.
Nid yw godro’n amlach yn golygu cynnyrch llaeth uwch, ac nid yw’n anghysurus i’r gwartheg.
Byddai’r fuches odro yn bwydo ei lloi yn naturiol bob pedair i chwe awr.
© British Nutrition Foundation 2011
Godro dull ‘saethben’
Mewn parlwr ar ffurf saethben, mae’r
gwartheg yn sefyll mewn rhes ochr yn ochr ar ongl, fel gall y ffermwr fynd at eu cadeiriau o’i le yn pydew.
Mewn rhai o’r parlyrau mae’r gwartheg yn cael eu bwydo tra’n cael eu godro.
© British Nutrition Foundation 2011
Parlwr trogylchMewn parlwr trogylch mae’r fuwch yn sefyll ar lwyfan crwn wedi ei godi, gan alluogi’r ffermwr i gysylltu’r peiriant godro oddi tano. Mae’r llwyfan yn troi’n araf, gan ganiatáu i’r gwartheg ddod i’r llwyfan fesul un a’i adael ar ôl cael eu godro.
© British Nutrition Foundation 2011
Godro robotig
System odro hollol awtomataidd yw hwn, sy’n gadael y gwartheg i benderfynu pryd maent am eu godro. Mae’r peiriant godro yn cysylltu â thethau’r fuwch yn awtomataidd ac yn troi i ffwrdd pan mae’r godro ar ben. Mae mecanwaith diogelwch yn rhwystro’r gwartheg rhag cael eu godro fwy na nifer penodol yn ystod y dydd.
© British Nutrition Foundation 2011
Ffermydd llaeth organig
Mae iechyd a lles anifeiliaid yn hanfodol i bob ffermwr, osydynt yn ffermio’n gonfensiynol neu yn organig. Mae gwartheg ar fferm organig ar ddeiet sy’n seiliedig ar borthiant naturiol. Fel gwartheg ar ffermydd eraill, maent
yn pori allan yn yr haf ac yn cael eu bwydo mewn siedau yn y gaeaf. Mae’r borfa a bwyd sych maent yn eu bwyta yn cael eu tyfu gan ddefnyddio gwrtaith organig yn unig. Gall hyn fod yn her i’r ffermwr, gan fod tywydd gwael a chwyn yn gallu difa’r cnwd. Maent yn tyfu planhigion llesol, fel meillion,
sy’nrhoi nitradau hanfodol yn ôl yn y pridd.
© British Nutrition Foundation 2011
Crynodeb
Bydd technegau ffermio a maint ffermydd llaeth yn amrywio ar draws y DU.
Er bod gwahanol fwydydd, systemau dan do a pharlyrau llaeth gwahanol yn cael eu defnyddio, y brif flaenoriaeth i ffermwyr yw iechyd a lles y gwartheg godro.
© British Nutrition Foundation 2011
Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.foodafactoflife.org.uk