1.dwn5wtkv5mp2x.cloudfront.net/ufiles/gweithgareddau...gyd-fynd ân cynllun gwers manwl i ategur...
TRANSCRIPT
--
Ariannwyd ar y cyd gan yr
Undeb Ewropeaidd
Rydych chi wedi dewis gweithgareddau ar gyfer disgyblion oedran uwchradd. Isod, cewch weithgareddau cyflym i
gyd-fynd â’n cynllun gwers manwl i ategu’r thema, ‘Gadewch i Ni Greu Rhyngrwyd Gwell Gyda’n Gilydd’.
1. Rysáit ar gyfer Rhyngrwyd Gwell
Pa bwyntiau allweddol fyddech chi’n eu defnyddio fel eich prif gynhwysion i greu eich rysáit “rhyngrwyd gwell”
perffaith? Ategwch eich rysáit gyda lluniau i’w wneud yn glir ac yn weledol. Gallwch ddefnyddio’r templedi yn
Atodiad 1 i helpu. Fe wnaeth un o gynigion buddugol Cystadleuaeth Ffilm Childnet eleni wneud hynny! Gwyliwch
“Cyber Chef” gan Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph i ennill syniadau ac ysbrydoliaeth!
www.childnet.com/resources/film-competition/2014/primary-category-winners
2. Canlyniadau Eich Chwiliad
Sut hoffech chi i’ch proffil ar-lein gael ei gofio? Dychmygwch eich hun ymhell yn y dyfodol... oeddech chi’n
barchus tuag at bobl eraill? Oeddech chi’n ofalus ynghylch beth yr oeddech yn ei bostio ar-lein? A wnaethoch chi
arddangos eich doniau a’ch sgiliau ar-lein? A wnaethoch chi addysgu pobl eraill ynghylch sut i ddefnyddio’r
rhyngrwyd yn briodol?
Gan ddefnyddio’r templed Yougle (Atodiad 2), dychmygwch eich bod chi’n chwilio amdanoch chi eich hun ar-lein
- ystyriwch sut hoffech i gyflogwr yn y dyfodol weld eich hanes ar-lein. Petaent yn chwilio eich enw deng mlynedd
o nawr, beth hoffech i’r 5 canlyniad cyntaf ddweud?
3. Gweithredoedd Digidol Da
Beth fyddai eich Gweithred Ddigidol Dda chi? – Argraffwch y templed gweithred dda yn Atodiad 3.
Amcan yr ymarfer hwn yw i ddisgyblion feddwl am dair gweithred ddigidol dda i’w cyflawni ar gyfer tri
unigolyn y maen nhw’n eu hadnabod.
Er enghraifft...
Byddaf yn ysgrifennu neges e-bost hyfryd at fy nghefnder iau.
Byddaf yn dangos i rywun mewn blwyddyn iau sut i flocio rhywbeth ar-lein a.y.y.b. (trafodwch yr heriau y
gall rhai pobl eu hwynebu ar-lein a sut gallan nhw helpu rhywun a gwneud gwahaniaeth)
Byddaf yn helpu fy mam-gu a thad-cu i ddefnyddio Skype i sgwrsio gydag aelodau eraill o’r teulu.
4. Fy Addewid Ar-lein
Gofynnwch i’ch disgyblion pa addewid y gallan nhw ei wneud i helpu i greu rhyngrwyd gwell:
‘I helpu i wneud y rhyngrwyd yn lle gwell, rwy’n addo y byddaf…’
Ar ôl i’ch disgyblion benderfynu ac ysgrifennu eu haddewid, tynnwch luniau ohonynt (neu eu ffilmio) yn dal eu
haddewid neu gyngor ar y templed a ddarparwyd (Atodiad 4). Crëwch lun digidol neu montage ffilm a’i osod ar
wefan eich ysgol.
Fel arall, gallwch eu trydaru nhw ar @Childnet gan ddefnyddio’r hashnod #SID2015 neu #up2us.
Yougle Gwe Delweddau Fideos Newyddion Siopa Mwy
Am ______________________________ canlyniadau (0.15 eiliadau)
Delweddau ar gyfer ______________________________