sylw ar ardal bro morgannwg gwanwyn 2013

15
Goroesi’r newid i fudd-daliadau Mynd ar-lein, ffynnu ar-lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24 BRO MORGANNWG RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 SYLW AR ARDAL

Upload: wales-west-housing

Post on 09-Mar-2016

224 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

Goroesi’r newid ifudd­daliadau

Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein

Ein datblygiadau diweddaraf yn eichardal

Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24

BRO MORGANNWGRHIFYN 5 | GWANWYN 2013

SYLW AR ARDAL

Page 2: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

2 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf oFodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn oddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedidweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH.Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg awnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7%ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf oSylw ar ardal Bro Morgannwg yw ein buddsoddiadmewn saith swydd arloesol, sef y SwyddogionCefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogionnewydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu einpreswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau.

Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae einrhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, acyn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith ohelpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd arddod i fudd­daliadau.

Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedicael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefifforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledledCymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithassy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnesatoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedomwrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefinewydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn ypedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ondrhan yn unig o’r hynrydym yn ei wneud ywdatblygu cartrefinewydd, ac felly isicrhau ein bod ynparhau i ganolbwyntioar gwsmeriaid, ac ynatebol am yr hyn awnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyrwedi bod yn cynnal ein sioeau teithio blynyddol istaff, a hyd yn hyn rydym wedi siarad â thros drichwarter ein holl staff ledled Cymru, nifer ohonynnhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu bydac adborth ganddyn nhw.

Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthychfod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymruam yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fedsafle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nidyn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012,ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aurTair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fodhwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waithcaled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’ngobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd oroi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’ngwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal âdarlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyncysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadauynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywirAnne Hinchey, Prif Weithredwr.

CYFLWYNIAD ANNECroeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Bro Morgannwg,sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eichardal chi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol onewyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’rsir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan.

Page 3: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Bro Morgannwg, rydymwedi gallu nodi’r 37 o aelwydydd WWH yn y sira fydd yn cael eu heffeithio gan y newid.

Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyra gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau,trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydda gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy.

Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’npreswylwyr wedi dweud wrthym eu bodnhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol,er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’rarian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir.

Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyrangen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau,rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewndarparu cymorth parhaus drwy greu saith

swydd gwbl newydd – y Swyddogion CefnogiTenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gydani yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock aSharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn yCanolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey)yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddannhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpunhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwyscyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaithiddyn nhw allu goroesi’r storm.

Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhaio’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefiteuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaitheto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phobpartner priodol arall, i sicrhau fod y boblbriodol sydd angen tai yn cael mynediad at ycartrefi fforddiadwy hyn.

GOROESI’R NEWIDI FUDD-DALIADAU

Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwgar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill.

3 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Page 4: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

4 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn.Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bobdydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoeddhyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy.

Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTubewwhahomesforwales.

Page 5: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

5 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch iawno roi gwybod i chi fod 88% (pedwar o bob pumpreswyliwr) yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn ei ddarparu. Maehyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg awnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddolo 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriau argyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaid panoedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn. Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yr aelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni amnatur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Yn ogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70yn flaenorol).

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr ynfodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cy­fartalog pob nodwedd yn y cartref yr un fath(ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch) na’rsgoriau a nodwyd yn 2011.

Canlyniadau penodol i Fro Morgannwg Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaethfel arfer yn ffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord. Felly,mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr ymMro Morgannwg wedi rhoi sgôr gyfartalog o

7.9 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth. Mae hyn diolch i’r ffaith bodmwy na thraean (34%) wedi rhoi sgôr o 10.Roedd y rhesymau pennaf dros eu bodlonrwydd yn cynnwys: bron i draean yrymatebwyr (31%) yn nodi eu bod yn bywmewn man tawel, 14% yn nodi bod mynediadda at fwynderau, tra bod 11% ohonom wedidweud fod ganddyn nhw gymdogion da.

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eubarn ar ein blaenoriaethau er gwella amry­wiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd addaw. Mae’r canlyniadau yn dangos yn glir einbod yn bwriadu gwella’r modd rydym yndarparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’npreswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwydgan ein preswylwyr ym Mro Morgannwg yw:

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni

• adolygu’r gwasanaethau i gefnogi preswylwyr hŷn a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi

• adolygu sut rydym yn gosod cymhorthion ac addasiadau yng nghartrefi preswylwyr anabl

Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwiliocanlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gangraffu ar sylwadau penodol y preswylwyr. Byddy rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symud ymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.

AROLWG BODLONRWYDDPRESWYLWYR – BRO MORGANNWG

Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o FodlonrwyddPreswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bobblwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol,a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012.Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hynsy’n bwysig i’n preswylwyr ym Mro Morgannwg.

Page 6: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

6 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDDYM MRO MORGANNWGRydym wrthi’n archwilio nifer o ddewisiadau gyda Chyngor yFro, ynghyd â gweithio’n agos â darparwyr tai lleol eraill isicrhau bod rhagor o dai fforddiadwy ar gael fel rhan o’rgwaith o adfywio Glannau’r Barri.

Bydd Stuart yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth achyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaetham gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn ylle cyntaf, bydd Stuart yn canolbwyntio ei ymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynny syddeisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd mewnperygl o wynebu caledi ariannol, neu fynd iddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau. Rheolwrllinell Stuart yw’r Rheolwr Tai Chris Walton.

CEFNOGAETH Â THENANTIAETHHELPU PRESWYLWYR I DDEALL NEWIDIADAU I

FUDD-DALIADAU A CHYLLIDEBU

Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno Stuart Lock, ein SwyddogCefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Bro Morgannwg.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd ynein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 ounedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ardraws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.

Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy osafon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys.Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’n

gallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion.Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn galluadeiladu rhagor o gartrefi newydd, ondrhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galwlleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau oddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaidcyfredol ac arfaethedig hefyd.

Stuart Lock, Swyddog Cefnogi Tenantiaeth dros Ben­y­bont ar Ogwr

Page 7: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

7 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

HELPU I DDATBLYGU YMATEBION I ASB

Rydym yn parhau i rannu ein harbenigeddmewn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) gyda swyddogiono’r Cyngor ynghyd â’r heddlu ac asiantaethaupartner eraill i helpu i roi mesurau effeithiol arwaith yn lleol i fynd i’r afael ag ymddygiadgwrthgymdeithasol. Mae canlyniadau cychwynnol ein cydweithio yn galonogoliawn, ac rydym yn edrych ymlaen at allugwneud rhagor yn yr ardal hon.

Ym mis Chwefror 2013, fe wnaeth Llys SirolCaerdydd roi meddiant llwyr ar unwaith i DaiWales & West o’u heiddo yng Nghlos TyniadGlo, Glannau’r Barri, yn dilyn ymddygiadgwrthgymdeithasol eithafol a pharhaus gan ydyn 30 oed oedd yn byw yno fel tenant. BuWales & West yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, ac o ganlyniad i’r cydweithio hwn, fe wnaethomnid yn unig sicrhau meddiant o’r eiddo, ond

cael Gwaharddiad gyda grym i arestio a gosodparth eithrio, fel na allai’r dyn ddod yn agos aty lleoliad eto.

Roedd y dioddefwyr, a oedd i gyd yn bobl hŷn,wedi dioddef misoedd o niwsans sŵn a bygythiadau i’w lladd, a defnyddiwyd yradeilad yn gysylltiedig â chyffuriau a phuteindra. Ni lwyddodd Wales & West â’rcais i gau’r adeilad, ac nid oedd modd i’r TîmIechyd Meddwl Cymunedol gynorthwyo, ganeu bod o’r farn mai dewis personol oedd yffordd hon o fyw, ac nad oedd yn gysylltiedigag afiechyd meddwl y preswyliwr.

Fe wnaeth y Barnwr Rhanbarth Rodgers nodimai hwn oedd un o’r achosion tristaf yr oeddwedi ei weld erioed, a chanmolodd Wales &West am eu hymdrechion i ganfod canlyniadau amgen, na lwyddodd y tro hwn,ac a’u gorfododd i geisio meddiannu’r lle.

Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’nCanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn einPrif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnodprawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym misChwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n atebgalwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.

MONEYLINE CYMRUNAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer oganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, ac maen nhw hefydeisiau cynnig gwasanaeth ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru,a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd.

Page 8: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

8 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CYNHWYSIANT DIGIDOL Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n galluogi Wi­Fi yn lolfeydd cymunoldau o’n cynlluniau er ymddeol – Hanover Court, y Barri, ac OakCourt, Penarth – i’n galluogi i gynnal dosbarthiadau a gynhelirgan brosiect AdvatAGE Canolfan Cymdeithasau Gwirfoddol yFro, sy’n rhan o brosiect mwy o faint ledled Cymru.

Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni eincartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae LlywodraethCymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr ynarbed arian, yn defnyddio llai o danwydd acyn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd.Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn ypum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn nibarhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’rsefyllfa.

Rydym wedi gosod gwres canolog nwy yn llegwres canolog trydan mewn 300 cartref ledled Cymru yn ystod 2012. Rydym wedigosod gwres canolog nwy glân ac effeithlonyn lle gwresogyddion storio dros nos trydan, aoedd yn ddrud, trwsgl ac yn anodd eu rheoli.Yn lleol, mae hyn wedi cynnwys uwchraddio’rsystemau gwres canolog yn ein cartrefi yn Havant Close, y Rhws ac yn St Donat’s Close,Llanilltud Fawr.

Yn ychwanegol, rydym yn cefnogi sawlprosiect amgylcheddol arall yn yr ardal hon,

o’r rhai bach iawn i rai mwy o faint. Un enghraifft yw Hanover Court, Dinas Powys, llemae ein preswylwyr wedi gwella’r llain fechanyng nghanol y cynllun drwy droi’r rhanlaswelltog a phlannu planhigion a llwyni iwella a denu bywyd gwyllt i’r ardal. Fewnaethom eu cefnogi drwy roi grant o £100o’n Cronfa Amgylcheddol.

Rydym hefyd wedi uwchraddio’r systemawyru fecanyddol a’r systemau adfer gwresyn Chapel Close Sain Tathan i awyru’r lle yndda, gan gadw’r cartrefi’n gynnes yr un pryd.

Am ragor o fanylion ynghylch ein RhaglenCynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwchâ’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock.

Ac am ragor o wybodaeth ynghylch eingwaith Amgylcheddol; gan gynnwys einCronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag OwenJones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YM MRO MORGANNWGMae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghydag effaith ein preswylwyr, hefyd.

Page 9: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

9 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyrsymud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’rdreth ar ystafelloedd gwely, rydym wediymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc igefnogi creu prosiect House Swap Wales arFacebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. HouseSwap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati –ac mae House Swap Wales wedi ei anelu atdenantiaid tai cymdeithasol sydd angensymud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth arystafelloedd wely, neu sydd eisiau symudam resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebueu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim,chwilio am gartrefi posibl y gallen nhwsymud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith osymud eu hunain.

Rhagor o wybodaethwww.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter@HouseSwapWales

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES

Page 10: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

10 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyri fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fodar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Ein bwriad yw:• helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a

delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol

• mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt

• cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein

• annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein.

Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediadfforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych ini ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnagy bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru.

Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant yMôr, ein cynllun gofal ychwanegol ymMhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifero’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a deCymru.

Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘TakeCtrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm GalluAriannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, maeTake Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr ifynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.

MYND AR-LEINFFYNNU AR-LEIN

Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Maemwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid ywmwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we.

Page 11: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

11 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24 GWASANAETHAUFFÔN A THELEOFAL YN WWH

Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltupobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangeni’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eucartrefi.

A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparugwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydyddledled Cymru, ac mae gennym gontractaugyda:

• Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr

• Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru

• Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru

Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyferunigolion mewn llety ar rent ynghyd âpherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys ycyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwchmeddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed feleu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnolyn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennymgontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’ngolygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tuallan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledledCymru:

• Hafan Cymru ledled Cymru• Grŵp Gwalia ledled Cymru• Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24,ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neucysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neuCate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.

Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ersdros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaithfel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24.

Page 12: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

12 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartnerym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codidros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadauyn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl DyddGŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymionoddedig.

Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, DiBarnes, gwmni’r swyddog gweinyddol VerityKimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey ynyr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedduwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAUAr ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr£25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru.

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennola chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac arTwitter @wwha.

Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgilgwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a BanciauBwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd,Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg aPhen­y­bont ar Ogwr.

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Page 13: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

13 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilynei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor arArian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yny Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelodgweithgar o Fforwm Gallu Ariannol GogleddCymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac ynuchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaithgadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewncysylltiad ag ef.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr WesternCourt’ o’n cynllun er ymddeol Western Courtym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restrfer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr feryng nghategori hynod boblogaidd CydweithiwrYsbrydoledig.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn AdnoddauDynol:

Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedicael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwrsy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sectorElusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle arrestr fer y wobr hon.

CRYNODEB GWOBRAUPan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael llear restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys:

Les Cooper Helen Jones Anne Hinchey

Ecoryfelwyr Western Court

Page 14: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

14 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Pob ardal: O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid)Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal: Lynnette Glover, Pennaeth TaiNikki Cole, Pennaeth DatblyguAlex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Bro Morgannwg

Rheolwr Tai: Chris Walton (Anghenion cyffredinol)Rheolwr Tai: Jackie Bloxham (Tai er ymddeol)Rheolwr Masnachol: Robin Alldred (Atgyweiriadau)Rheolwr Masnachol: Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio)

Swyddogion Tai: Anghenion Cyffredinol Tai er ymddeolAlison Pearce Deborah Cadwallader

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget GarrodHerman Valentin (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau)Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr)

Swyddogion Rheoli Asedau: Andrew Lester

Yr Amgylchedd: Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth: Stuart Lock

Ffôn: 0800 052 2526E­bost: [email protected]: www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL

Page 15: Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013