ldag news 6 summer/autumn 2014 easy read (cymraeg)
DESCRIPTION
Learning Disability Advisory Group newsletter issue 6 summer/autumn 2014 Cymraeg/Welsh Easy Read versionTRANSCRIPT
Ad-drefnu cabinet Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Ar 11 Medi 2014 dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth bawb ar Trydar ei fod yn gwneud rhai newidiadau i’r Cabinet.
Mae’r gair Cabinet yn meddwl y bobl yn Llywodraeth Cymru sy’n gofalu am bolisïau – mae’r bobl sy’n gofalu am bolisïau’n cael eu galw’n Weinidogion a Dirprwy Weinidogion.
Mae ad-drefnu Cabinet yn digwydd pan fydd gwaith y Gweinidogion a’r Dirprwy Weinidogion yn newid er mwyn i wahanol bobl ofalu am wahanol bethau.
Penderfynodd Carwyn Jones ddod â Leighton Andrews yn ôl i’r Cabinet.
Mae Leighton Andrews yn Weinidog newydd sy’n gofalu am Wasanaethau Cyhoeddus.
Bydd yn gyfrifol am ailffurfio’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn meddwl newidiadau i wasanaethau cyhoeddus fel cynghorau lleol.
(Muy ar dudalen 2)
Newyddion GCADNewyddion GCADNewyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
Cyngor
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 2 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Bydd hefyd yn gofalu am y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg.
Er 2007 mae Gwenda Thomas wedi bod yn Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol ond yn awr mae hi wedi gadael y Cabinet.
Does dim Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cabinet newydd.
Mae Mark Drakeford yn dal i fod yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu yn awr yn rhoi cyngor i Mark Drakeford yn lle Gwenda Thomas.
Mae gan Vaughan Gething waith newydd fel Dirprwy Weinidog dros Iechyd. Mae hyn yn meddwl y bydd yn gyfrifol am y gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Mae Jeff Cuthbert a John Griffiths wedi gadael y Cabinet.
Mae Julie James wedi ymuno â’r Cabinet am y tro cyntaf fel Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg.
(O dudalen 1)
(Muy ar dudalen 3)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 3 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Mae Lesley Griffiths yn awr yn Weinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi.
Mae ganddi restr hir o gyfrifoldebau sy’n cynnwys llawer o feysydd pwysig:
Diwygio Lles – newidiadau i fudd-daliadau
Hawliau plant a phobl ifainc
Adfywio – gwneud rhai rhannau o Gymru’n well lleoedd i fwy a gweithio ynddyn nhw
Cartrefu
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Grantiau Addasiadau Ffisegol – arian i wneud eich cartref yn hawdd i symud o gwmpas
Cynhwysiant digidol – gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn medru defnyddio’r rhyngrwyd
Cydraddoldeb – hawliau pobl i gael eu trin yn deg
Y sector wirfoddol a gwirfoddoli.
Mae Jane Hutt yn dal i fod yn Weinidog Cyllid ond yn awr mae hi hefyd yn gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth.
(O dudalen 2)
(Muy ar dudalen 4)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 4 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Dywedodd Carwyn Jones y bydd y Cabinet newydd hwn yn medru helpu Cymru wneud newidiadau pwysig yn y dyfodol.
Dyma restr llawn o’r Cabinet newydd:
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau
Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Leighton Andrews, Gweinidog y Gwasanaethau Cyhoeddus
Lesley Griffiths, Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi
Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Iechyd
Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
(O dudalen 3)
(Muy ar dudalen 5)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 5 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Julie James, Dirprwy Weinidgol dros Sgiliau a Thechnoleg.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y Cabinet a’r hyn maen nhw’n wneud ar wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/about/cabinet/?lang=cy.
(O dudalen 4)
Beth y mae’r GCAD wedi bod yn ei wneud?
Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu neu GCAD gyfarfod ar 10 Medi yng Nghaerdydd.
Siaradon nhw am lawer o wahanol bethau.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Rhoddodd Anthony Jordan o Lywodraeth Cymru gyflwyniad ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
(Muy ar dudalen 6)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 6 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Ar 1 Mai 2014 llofnododd y Frenhines i ddweud y gallai Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ddod yn rhan o’r gyfraith yng Nghymru.
Ni fydd yn dod yn rhan o’r gyfraith yn llwyr tan Ebrill 2016 pan fydd pob rheol a chanllaw fydd yn mynd gyda’r Ddeddf wedi cael eu hysgrifennu.
Bwriad y Ddeddf fydd:
rhoi mwy o ddewis i bobl a mwy o reolaeth dros eu bywydau
helpu pobl i aros yn iach ac yn dda
helpu pobl i fod yn annibynnol yn hirach
helpu a chefnogi pobl mor fuan ag sy’n bosibl cyn i’w hanghenion fynd yn waeth
cael gwasanaethau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl yn eu cymunedau lleol.
Mae’r Ddeddf hefyd ynghylch gwneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy.
(O dudalen 5)
(Muy ar dudalen 7)
2016
Ebrill
Deddf
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 7 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Mae hyn yn meddwl y gall gwasanaethau cymdeithasol ddal i helpu pobl yn y dyfodol hyd yn oed os oes mwy o bobl sydd angen help a llai o arian i wario ar wasanaethau.
Bydd llawer o reolau newydd a chanllawiau i fynd gyda’r Ddeddf.
Bydd y rheolau a’r canllawiau hyn yn cael eu galw’n reoliadau a chodau ymarfer.
Byddan nhw’n egluro sut y mae’n rhaid i bobl a mudiadau weithio er mwyn iddyn nhw ddilyn y ddeddf newydd.
Mae’n rhaid i cynghorau lleol ddilyn y rheolau a’r canllawiau newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn helpu gwasanaethau i baratoi ar gyfer y newidiadau.
Maen nhw’n rhoi arian i awdurdodau lleol sy’n cael ei alw’n ‘Grant Cyflwyno Trawsnewid’.
Byddan nhw hefyd yn helpu i hyfforddi staff ynghylch y newidiadau.
(O dudalen 6)
(Muy ar dudalen 8)
Canllawiau
Deddf
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 8 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Pryd bydd y newidiadau’n digwydd?
Bydd ymgynghoriadau ym mis Tachwedd 2014 a haf 2015.
Bydd yr ymgynghoriadau yn rhoi cyfle i bobl ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth maen nhw’n feddwl o’r holl reolau newydd a’r canllawiau.
Ar ôl yr ymgynghoriadau, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y rheolau a’r canllawiau i benderfynu a ydyn nhw’n hapus â nhw.
Unwaith y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn hapus â nhw, byddan nhw’n gallu mynd yn rhan o’r gyfraith.
Bydd hyfforddiant i staff ar y newidiadau yn 2015 a 2016.
Yna bydd y Ddeddf a’r holl reolau a’r canllawiau yn mynd yn rhan o’r gyfraith yn Ebrill 2016.
(O dudalen 7)
(Muy ar dudalen 9)
Tachwedd
Haf
? Canllawiau
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 9 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y ddeddf ar wefan Llywodraeth Cymru a gwefan y Cynulliad Cenedlaethol:
Llywodraeth Cymru http://wales.gov.uk/topics/health/socialcare/act/?lang=cy
Cynulliad Cenedlaethol Cymru http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5664
Adolygiadau Ymarfer ar gyfer Oedolion
Rhoddodd Richard Chivers o Lywodraeth Cymru gyflwyniad ar yr Adolygiadau Ymarfer newydd ar gyfer Oedolion.
Roedd Adolygiadau Ymarfer ar gyfer Oedolion yn arfer cael eu galw’n Adolygiadau Achos Difrifol.
Maen nhw’n edrych ar achosion ble mae rhywbeth wedi mynd o chwith yn gyfan gwbl er mwyn ceisio gwneud yn siŵr ei fod o ddim yn digwydd eto.
(O dudalen 8)
(Muy ar dudalen 10)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 10 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Ysgrifennodd Lywodraeth Cymru ganllawiau newydd i ddweud pryd y dylai Adolygiadau Ymarfer ar gyfer Oedolion ddigwydd a sut y dylen nhw ddigwydd.
Fe ofynnon nhw i bobl beth roedden nhw’n ei feddwl o’r canllawiau newydd.
Fe ddechreuon nhw roi yr adolygiadau newydd ar brawf rhwng Ionawr a Gorffennaf 2014.
Bydd y fersiwn terfynol o’r canllawiau newydd yn cael eu hanfon allan cyn bo hir.
Bydd hyfforddiant ar gyfer staff hefyd ynghylch sut i roi’r adolygiadau newydd ar waith.
Mae’r Adolygiadau Ymarfer i Oedolion ynglŷn â dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd er mwyn gwneud gwasanaethau yn well a chadw pobl yn ddiogel.
Mae Byrddau Diogelu Oedolion yn gyfrifol am Adolygiadau Ymarfer i Oedolion.
(O dudalen 9)
(Muy ar dudalen 11)
Canllawiau
Ionawr Gorffenaf
Diogelu
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 11 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Mae grŵp o bobl sy’n cael eu galw’n banel yn cael eu dewis i roi pob Adolygiad Ymarfer ar gyfer Oedolion ar waith.
Maen nhw’n ysgrifennu adroddiad am beth wnaethon nhw ddysgu o’r adolygiad a beth maen nhw’n feddwl ddylai pobl ei wneud yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad hwn yn helpu pobl i ddysgu o’u camgymeriadau a newid y ffordd maen nhw’n gwneud pethau.
Mae achosion yn cael eu hadolygu pan fydd pobl wedi bod yn pryderu llawer ynghylch rhywbeth sydd wedi digwydd i rywun.
Mae rheolau yn y canllawiau ynghylch pryd y mae adolygiad i fod i gael ei roi ar waith.
Mae’r rheolau hyn ar gyfer oedolion mewn perygl.
Mae oedolyn mewn perygl yn berson sydd:
yn cael ei gam-drin neu efallai y bydd yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac
(O dudalen 10)
(Muy ar dudalen 12)
Rheolau
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 12 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
mae ganddo anghenion ar gyfer gofal a chefnogaeth ac
oherwydd yr anghenion hynny, dydy o ddim yn gallu ei amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso.
Mae’n rhaid i Adolygiad Ymarfer ar gyfer Oedolion gael ei roi ar waith os bydd oedolyn sydd mewn perygl:
yn marw neu
yn brifo ei hun yn ddrwg iawn neu
yn cael ei gam-drin yn rhywiol
ac
mae pobl yn meddwl neu’n gwybod bod y person wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd y canllaw hwnnw yn cael ei anfon allan yn fuan.
(O dudalen 11)
(Muy ar dudalen 13)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 13 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Pan fydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym yn Ebrill 2016 yna bydd y canllawiau hefyd yn dod i rym.
Bydd Llywodraeth Cymru yn hyfforddi pobl ynghylch y canllawiau newydd.
(O dudalen 12)
Beth mae’r is-grwpiau wedi bod yn ei wneud?
Gwneud gwasanaethau yn well i bobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol
Ysgrifennodd yr is-grŵp hwn adroddiad ar gyfer Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Roedd yr adroddiad ynghylch y pum prif beth sydd angen eu gwneud i wneud gwasanaethau’n well i bobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru.
(Muy ar dudalen 14)
1. ________
2. ________
3. ________
4. ________
5. ________
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 14 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn cytuno â’r adroddiad.
Gofynnodd y Dirprwy Weinidog i’r is-grŵp ddal ati i weithio ar y pum syniad yn yr adroddiad.
Gofynnodd i’r is-grŵp hefyd ysgrifennu cynlluniau gweithredu ar gyfer sut y bydd popeth yn yr adroddiad yn cael ei wneud ac erbyn pryd y bydd yn cael ei wneud.
Mae’r is-grŵp yn gweithio’n agos gyda Chymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol.
Mae’r is-grŵp yn gweithio mewn 4 grŵp bach i ysgrifennu’r cynlluniau gweithredu yngylch beth sydd angen ei wneud ac erbyn pryd mae angen gwneud hynny:
Mae Grŵp 1 ynglŷn â gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a thalu am wasanaethau.
Mae Grŵp 2 ynglŷn â chael gwybodaeth am faint o bobl sydd ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol sydd efallai angen gwasanaethau.
(O dudalen 13)
(Muy ar dudalen 15)
Adroddiad
4
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 15 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Mae Grŵp 3 ynglŷn â gwneud yn siŵr bod gan staff y medrau iawn a’u bod wedi cael yr hyfforddiant iawn i gefnogi pobl ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol.
Mae Grŵp 4 ynglŷn ag archwilio gwasanaethau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac o safon dda.
Mae rhif 5 ar y rhestr ynglŷn â symud pobl sy’n byw ymhell o’u cartref yn ôl i’w hardal leol.
Ond ddylen ni ddim symud pobl os nad oes gwasanaethau o safon i roi cefnogaeth iddyn nhw yn eu hardal leol.
Dyna pam mae’r is-grŵp yn gweithio ar y 4 syniad arall yn gyntaf er mwyn iddyn nhw fedru gwneud yn siŵr bod gwasanaethau lleol o safon yno cyn symud pobl yn ôl adref.
Mae’r is-grwpiau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod eu cynlluniau gweithredu yn gweithio’n dda gyda’r deddfau a’r polisïau newydd sy’n digwydd yng Nghymru.
(O dudalen 14)
(Muy ar dudalen 16)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 16 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Fe fyddan nhw’n gadael i Lywodraeth Cymru wybod bob chwe mis beth maen nhw’n wneud.
Bydd yr is-grŵp hefyd yn dweud wrth Lywodraeth Cymru beth maen nhw’n feddwl am y rheolau a’r canllawiau newydd y maen nhw’n eu hysgrifennu i fynd gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Iechyd
Mae’r is-grŵp hwn wedi ysgrifennu rhestr o 6 o bethau y mae arno eisiau gweithio arnyn nhw:
Pam mae gan bobl ag anabledd dysgu waeth iechyd na phobl eraill sy’n byw yng Ngymru?
Pa wahaniaeth mae archwiliadau iechyd blynyddol yn ei wneud i iechyd pobl ag anabledd dysgu?
Sut gall newidiadau i bolisi cymdeithasol wneud gwahaniaeth i anghenion iechyd a chefnogaeth pobl ag anabledd dysgu.
(O dudalen 15)
(Muy ar dudalen 17)
?
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 17 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Edrych ar bob math o wasanaethau y GIG a meddwl sut y gallan nhw eu gwneud yn well ar gyfer pobl ag anabledd dysgu
Pa ymchwil sydd ar gael yng Nghymru ynglŷn â iechyd pobl ag anabledd dysgu?
Dod o hyd i ffyrdd da o drin pobl ag anabledd dysgu a rhannu’r syniadau hyn ar draws Cymru.
Bydd yr is-grŵp yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer y GCAD am bopeth y daethon nhw i wybod erbyn dechrau 2015.
Eiriolaeth
Roedd Joe Powell, Cyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, yn arwain yr is-grŵp ar eiriolaeth.
Ond mae Joe wedi penderfynu peidio ag arwain yr is-grŵp bellach.
Mae’n meddwl y dylai gael ei arwain gan rywun sydd ddim yn gweithio ym maes eiriolaeth neu hunaneiriolaeth.
(O dudalen 16)
(Muy ar dudalen 18)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 18 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Ysgrifennodd Joe at gydgadeiryddion y GCAD i ddweud wrthyn nhw nad oedd yn mynd i arwain y grŵp bellach.
Dywedodd wrthyn nhw ei fod yn meddwl y byddai’n beth da gofyn i rywun sy’n gweithio ym maes ymcwhil i arwain y grŵp yn ei le.
Cyn iddo ysgrifennu at y cydgadeiryddion, cafodd Joe gyfarfod gyda Mike Shooter ynglŷn ag eiriolaeth.
Roedd Mike yn arwain grŵp oedd yn edrych ar wasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant yng Nghymru.
Ysgrifennodd y grŵp adroddiad ar gyfer Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr wybodaeth a gawsant.
Roedd Joe a Mike yn meddwl nad oes digon o arian ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth.
Efallai y bydd rhaid i lawer o wasanaethau eiriolaeth gau oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i gefnogi pobl o hyd.
(O dudalen 17)
(Muy ar dudalen 19)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 19 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Dywedodd aelodau y GCAD y buasai’n dda gwybod pa wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr.
Dywedodd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan y gallen nhw ddweud wrth y GCAD am grwpiau hunaneiriolaeth Pobl yn Gyntaf yng Nghymru.
Dywedodd Wayne Crocker y gallai Mencap Cymru geisio dod o hyd i wasanaethau eiriolaeth eraill ar draws Cymru.
Mae Sefydliad Prydeinig Anableddau Dysgu (BILD) wedi ysgrifennu adroddiad.
Mae’r adroddiad yn sôn am beth roedden nhw’n feddwl allai ddigwydd i wasanaethau eiriolaeth pan fyddai’r arian gan Grant Eiriolaeth Cymru yn dod i ben ym Mawrth 2014.
Bydd yr adroddiad allan cyn bo hir.
Mae ar y GCAD eisiau gweithio gyda grŵp Mike Shooter ar eiriolaeth.
(O dudalen 18)
(Muy ar dudalen 20)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 20 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Maen arnyn nhw hefyd eisiau gweithio gyda grŵp Llywodraeth Cymru i edrych ar bolisi eiriolaeth yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
(O dudalen 19)
Beth mae'r Gymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol wedi bod
yn ei wneud? Cafodd Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol gyfarfod ar y 4 Gorffennaf a’r 24 Medi 2014.
Yng nghyfarfod mis Gorffennaf, siaradodd y grŵp am adroddiad y GCAD a anfonwyd at Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Roedd yr adroddaid ynghylch gwneud gwasanaethau’n well ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cytuno â’r adroddiad.
Un o’r syniadau yn yr adroddiad oedd cael cofrestr anabledd dysgu ar gyfer Cymru.
(Muy ar dudalen 21)
Adroddiad
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 21 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Bydd gan gofrestr anabledd dysgu lawer o wybodaeth am bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Bydd yn helpu gwasanaethau gynllunio ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gwybod faint o bobl fydd angen gwahanol fathau o gefnogaeth.
Cynigiodd y Gymuned Ymarfer restr o wahanol fathau o wybodaeth a ddylai fod ar y gofrestr.
Dyma rai o’r cyflwyniadau eraill o’r 2 gyfarfod.
‘Touch Trust’ a dementia
Mae ‘Touch Trust’ yn gweithio gyda phlant ac oedolion anabl gan ddefnyddio celfyddyd, cerddoriaeth a symud.
Siaradodd Karen Woodley am waith newydd ‘Touch Trust’ gyda phobl sydd â dementia.
Mae dementia yn salwch sy’n ei gwneud hi’n anodd cofio pethau.
(O dudalen 20)
(Muy ar dudalen 22)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 22 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Gall pobl sydd â dementia fynd yn ddryslyd iawn a’i chael hi’n anodd edrych ar ôl eu hunain.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ‘Touch Trust’ ar eu gwefan: www.cymraeg.touchtrust.co.uk.
‘Driving Up Quality’
Cafodd cod ‘Driving Up Quality’ ei ysgrifennu gan grŵp o fudiadau yn Lloegr.
Cafodd ei ysgrifennu ar ôl beth ddigwyddodd yn ‘Winterbourne View’, cartref gofal yn Lloegr ble cafodd pobl ag anabledd dysgu eu cam-drin.
Mae dros 100 o fudiadau wedi ymuno â’r cod.
Mae’r cod wedi’i seilio ar 5 safon:
1. Mae cefnogaeth yn cael ei ganolbwyntio ar yr unigolyn.
2. Mae’r unigolyn yn cael ei gefnogi i gael bywyd cyffredin ac ystyrlon.
(O dudalen 21)
(Muy ar dudalen 23)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 23 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
3. Mae gofal a chefnogaeth yn canolbwyntio ar gael pobl yn hapus a chael ansawdd dda i’w bywyd.
4. Mae diwylliant da yn bwysig i’r mudiad.
5. Mae rheolwyr ac aelodau o’r bwrdd yn rhedeg ac arwain y mudiad yn dda.
Gall mudiadau ymuno â’r cod a dod o hyd i’r wybodaeth i gyd ar y wefan: www.drivingupquality.org.uk
Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)
Daeth Richard Griffith o Brifysgol Abertawe i’r cyfarfod ym mis Medi i siarad am Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).
Mae Colli Rhyddid yn meddwl cymryd rhyddid rhywun oddi arno fel nad ydy o’n gallu mynd i ble mae arno eisiau.
Mae’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn rhan o ddarn cymhleth iawn o ddeddf yng Nghymru a Lloegr.
(O dudalen 22)
(Muy ar dudalen 24)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 24 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Dywedodd Richard wrth y grŵp am hanes y ddeddf hon.
Cafodd y Cod Ymarfer a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid eu hysgrifennu ar ôl achos cyfreithiol pwysig iawn ym 1998 yn y Llys Iawnderau Dynol Ewropeaidd.
Dywedodd y llys ei bod yn erbyn hawliau dynol unigolyn i feddyg gadw rhywun yn yr ysbyty pan nad yw ei deulu a’i ofalwr am iddo wneud.
Mae hawliau dynol yr un fath i bawb.
Mae’r hawl i ryddid yr un fath i bobl anabl ag y mae i bobl sydd ddim yn anabl.
Daeth Cod Ymarfer a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i rym yng Nhgymru a Lloegr yn Ebrill 2009.
Mae’r Trefniadau Diogelu yn helpu i amddiffyn hawliau dynol pobl sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniadau pwysig drostyn nhw eu hunain.
(O dudalen 23)
(Muy ar dudalen 25)
Deddf
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 25 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Gallai hyn feddwl:
pobl ag anabledd dysgu
pobl â phroblemau iechyd meddwl
pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.
Mae’r Trefniadau Diogelu yn meddwl bod yn rhaid i wasanaethau brofi mai tynnu rhyddid rhywun oddi arno yw’r peth gorau ar gyfer y person hwnnw.
Yna siaradodd Richard Griffith am rai achosion eraill a aeth i’r Goruchaf Lys i benderfynu a oedd rhyddid pobl wedi’i dynnu oddi arnyn nhw.
Penderfynodd y Goruchaf Lys bod rhyddid wedi’i dynnu oddi ar bob un ohonyn nhw gan nad oedden nhw’n gallu dewis gadael y lle yr oedden nhw’n byw.
Dywedodd y llys nad oedd o’n ddim i’w wneud â pha mor dda oedd y gefnogaeth na pa mor braf oedd y lle yr oedden nhw’n byw.
(O dudalen 24)
(Muy ar dudalen 26)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 26 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Ambell dro, tynnu rhyddid rhywun oddi arno pan na all wneud ei benderfyniadau pwysig ei hun yw’r peth gorau ar gyfer y person hwnnw.
Yn yr achosion hyn mae’n rhaid i’r person gael ei amddiffyn gan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
Dywedodd y llys fod yn rhaid i berson gael ei amddiffyn dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddi os:
ydyn nhw’n cael gofal a’u rheoli drwy’r amser.
Gallai hyn feddwl bod ar rywun angen gwybod ble mae’r person yn mynd a beth maen nhw’n wneud drwy’r amser.
a
dydyn nhw ddim yn gallu gadael.
Gallai hyn feddwl bod y staff ddim am i’r person adael gan eu bod yn meddwl y gallai fod yn beryglus.
(O dudalen 25)
(Muy ar dudalen 27)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 27 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Does dim gwahaniaeth os yw’r person yn hapus i dderbyn gofal a chael ei reoli drwy’r amser.
Does dim gwahaniaeth os nad ydyn nhw’n dweud bod arnyn nhw eisiau gadael.
Mae rhyddid y person wedi cael ei dynnu oddi arnyn nhw ac mae’n rhaid iddyn nhw gael eu hamddiffyn i wneud yn siŵr mai dyma yw’r peth gorau iddo ef.
Mae’n rhaid i gartrefi gofal ac ysbytai ofyn i awdurdod lleol neu fwrdd iechyd a allan nhw dynnu rhyddid rhywun i ffwrdd oddi arno.
Ar gyfer pobl sy’n byw gyda chymorth, yn eu cartrefi eu hunain neu mewn ysgolion preswyl, mae’n rhaid i’r Llys Gwarchod benderfynu a ellir tynnu rhyddid rhywun oddi arno.
Mae’r Trefnidadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ar gyfer pobl sy’n 16 neu’n hŷn yn unig.
Mae plant sydd dan 16 yn cael eu hamddiffyn gan Ddeddf Plant.
(O dudalen 26)
(Muy ar dudalen 28)
?
16+
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 28 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddal ati i gadw golwg ar bobl sydd wedi cael eu rhyddid wedi ei dynnu oddi arnyn nhw.
Mae’n rhaid iddyn nhw brofi mai hyn sy’n dal i fod orau ar gyfer y bobl hynny.
Ni all gwasanaethau ddefnyddio’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i rwystro rhywun rhag gweld ei deulu neu ei ffrindiau.
Ni allan nhw ei ddefnyddio chwaith i rwystro person rhag symud i gartref newydd neu wasanaeth arall.
Dim ond trwy fynd i’r llys a defnyddio Deddf Galluedd Meddyliol a Deddf Iechyd Meddwl y gallan nhw wneud y pethau hyn.
Defnyddio storïau fideo
Mae Sarah Day yn gweithio i gwmni cyngor a hyfforddiant o’r enw ‘Practice Solutions’.
Siaradodd am ffyrdd y gall mudiadau ddefnyddio storïau fideo.
(O dudalen 27)
(Muy ar dudalen 29)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 29 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Gall storïau fideo fod yn bwerus iawn.
Gallan nhw roi cyfle i bobl ddangos beth maen nhw wedi’i wneud neu sut maen nhw’n teimlo.
Gallan nhw helpu pobl i gael dweud eu dweud a chael mwy o reolaeth dros eu bywydau.
Mae storïau fideo yn gallu cael eu defnyddio hefyd i ddangos sut mae bywydau pobl wedi cael eu newid.
Gall hyn helpu i ddangos i bobl sy’n talu am wasanaethau y gwahaniaeth y gall cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ei wneud i fywydau pobl.
Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer pobl ag anabledd dysgu
Rhoddodd Jenny Jagus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gyflwyniad ynglŷn â Gofal Iechyd Parhaus.
(O dudalen 28)
(Muy ar dudalen 30)
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 30 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Mae Gofal Iechyd Parhaus yn meddwl bod y GIG yn talu am eich holl ofal a’ch cefnogaeth.
Mae canllawiau newydd ynghylch Gofal Iechyd Parhaus ac offer newydd i helpu staff benderfynu pwy ddylai ei gael.
Dywedodd Jenny bod llawer o bobl wedi gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar eu cais am Ofal Iechyd Parhaus i weld a ddylai’r GIG fod wedi talu am eu gofal a’u hiechyd.
Mae llawer o bobl wedi cwyno i’r Ombwdsman hefyd ynghylch Gofal Iechyd Parhaus.
Mae’r Ombwdsman yn edrych ar gwynion difrifol pan na fydd pobl yn hapus ynghylch y ffordd maen nhw wedi cael eu trin.
Mae’n amlwg bod problemau wedi bod gyda’r ffordd y mae staff yn penderfynu pwy ddylai gael Gofal Iechyd Parhaus.
(O dudalen 29)
(Muy ar dudalen 31)
?
?
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 31 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Mae’r cwynion at yr Ombwdsman wedi dangos bod rhai problemau allweddol:
Dydy staff ddim yn deall y broses asesu yn iawn nac yn deall sut i benderfynu a ddylai rhywun gael Gofal Iechyd Parhaus.
Dydyn nhw ddim yn gwneud yr asesiadau’n iawn nac yn edrych ar yr holl ffeithiau pwysig.
Dydyn nhw ddim yn cynnwys teuluoedd na gofalwyr yn y broses asesu.
Dydyn nhw ddim yn dilyn y rheolau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yn iawn.
Dydyn nhw ddim yn egluro pam maen nhw wedi gwneud eu penderfyniad.
Mae rhai pobl yn meddwl bod Gofal Iechyd Parhaus yn meddwl unrhyw fath o nawdd iechyd.
Ond yr unig beth mae Gofal Iechyd Parhaus yn ei feddwl yw gofal a chefnogaeth sy’n cael ei dalu amdano’n llawn gan y GIG.
(O dudalen 30)
(Muy ar dudalen 32)
?
Rheolau
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 32 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Dywedodd Jenny ei bod hi’n bwysig egluro i bobl beth allai ddigwydd i’w budd-daliadau eraill neu eu Taliadau Uniongyrchol os ydyn nhw’n dechrau cael Gofal Iechyd Parhaus.
Mae ar bobl angen gwybod hefyd bod ganddyn nhw’r hawl i ddweud ‘na’ i asesiad Gofal Iechyd Parhaus neu ddod â’r broses asesu i ben pryd bynnag mae arnyn nhw eisiau.
Dywedodd Jenny bod staff yn aml yn gwneud camgymeriadau wrth ddefnyddio’r offer i benderfynu pwy ddylai gael Gofal Iechyd Parhaus.
Symud ymlaen
Mae’r canllawiau newydd wedi cael eu hysgrifennu i wneud yn siŵr bod pawb yn deall sut i benderfynu a ddylai rhywun gael Gofal Iechyd Parhaus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu hyfforddiant ar gyfer pobl ar y ffordd o ddefnyddio’r canllawiau newydd a’r offer.
Bydd yr hyfforddiant yn digwydd ar draws Cymru.
(O dudalen 31)
(Muy ar dudalen 33)
Na!
“To catch the reader's a en on, place an
interes ng sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 33 Rhif 6 Haf-Hydref 2014
Yn y dyfodol bydd hyfforddiant hefyd ar y ffordd o ddefnyddio’r offer ar gyfer pobl ag anabledd dysgu neu bobl â phroblemau iechyd meddwl.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth Hawdd ei Ddeall ynglŷn â Gofal Iechyd Parhaus ar wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/topics/health/nhswales/healthservice/chc-framework/?skip=1&lang=cy.
Os oes gennych chi unrhyw enghreifftiau o ffyrdd da i helpu pobl ag anabledd dysgu gael asesiad Gofal Iechyd Parhaus, anfonwch nhw at [email protected].
Gallwch ddod o hyd i bob cyflwyniad o gyfarfodydd Cod Ymarfer Ymddygiad Heriol ar wefan y Grŵp Cynghori: http://www.ldag.info/cb-cop/meetings/presentations-and-papers.aspx.
(O dudalen 32)
Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Sam Williams ar 029 20681177 neu e-bostiwch: [email protected]. Ewch i’r wefan www.gcad.info neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup