ldag news 5 spring 2014 easy read (cymraeg)

22
Deddf gwasanaethau cymdeithasol newydd i Gymru Rhif 5 Gwanwyn 2014 Ar 1 Mai 2014 llofnododd y Frenhines i ddweud y gallai deddf newydd gael ei gosod ar gyfer Cymru. Mae’r ddeddf yn cael ei galw’n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd yn newid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi pobl. Mae arni eisiau rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl yn eu bywydau a’u helpu i fod yn fwy annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y ddeddf newydd yn gwneud pethau’n fwy syml ac eglur i: bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Muy ar dudalen 2) Newyddion GCAD Newyddion GCAD Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall Y Frenhines Deddf

Upload: samantha-williams

Post on 07-Apr-2016

223 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

Learning Disability Advisory Group newsletter issue 5 Cymraeg/Welsh Easy Read version

TRANSCRIPT

Page 1: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

Deddf gwasanaethau cymdeithasol newydd i Gymru

Rhif 5 Gwanwyn 2014

Ar 1 Mai 2014 llofnododd y Frenhines i ddweud y gallai deddf newydd gael ei gosod ar gyfer Cymru.

Mae’r ddeddf yn cael ei galw’n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bydd yn newid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi pobl.

Mae arni eisiau rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl yn eu bywydau a’u helpu i fod yn fwy annibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y ddeddf newydd yn gwneud pethau’n fwy syml ac eglur i:

bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol

(Muy ar dudalen 2)

Newyddion GCADNewyddion GCADNewyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall

Y Frenhines

Deddf

Page 2: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 2 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

eu gofalwyr

pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau cymdeithasol a mudiadau eraill

y llysoedd

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Ddeddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(O dudalen 1)

Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu (GCAD) gyfarfod ar 29 Ebrill 2014.

Siaradodd y grŵp am lawer o wahanol bethau.

Gwybodaeth am bobl ag anabledd dysgu sy’n byw yng Nghymru

Daeth Andrew Stephens o Uned Ddata Cymru i’r cyfarfod i siarad am Set Ddata Ofynnol Anableddau Dysgu.

Yn 2009 gofynnodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol i Uned Ddata Cymru gasglu llawer o wybodaeth am bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

(Muy ar dudalen 3)

Beth mae’r GCAD wedi bod yn ei wneud?

Page 3: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 3 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Roedd hyn oherwydd bod yr hen grŵp cynghori wedi dweud wrthi bod angen yr wybodaeth hon i helpu gwasanaethau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cafodd yr wybodaeth hon ei galw’n Set Ddata Ofynnol Anableddau Dysgu.

Daeth yr wybodaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Roedd ar wefan InfoBase Cymru.

Roedd arian Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwybodaeth at ei gilydd wedi dod i ben beth amser yn ôl.

Penderfynodd Uned Ddata Cymru beidio â chasglu gwybodaeth ar gyfer 2012 i 2013 at ei gilydd a chafodd ei thynnu oddi ar y wefan.

Cafodd Samantha Williams Swyddog Gwybodaeth GCAD gyfarfod â phobl sy’n gweithio yn Uned Ddata Cymru i siarad am yr wybodaeth.

Dywedodd wrthyn nhw pa mor bwysig yr oedd a pham roedd hi’n meddwl y dylen nhw ei rhoi yn ôl ar y wefan.

(O dudalen 2)

(Muy ar dudalen 4)

Page 4: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 4 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Hefyd cafodd Llywodraeth Cymru gyfarfod ag Andrew Stephens o Uned Ddata Cymru.

Soniodd Andrew wrth y GCAD am yr wybodaeth a dangosodd iddyn nhw sut olwg oedd arno.

Dywedodd y dylai’r grŵp feddwl pa fath o wybodaeth sydd arnyn nhw eisiau a sut mae arnyn nhw eisiau ei weld.

Roger Banks yw is-gadeirydd y GCAD. Dywedodd y dylai grŵp bach o bobl o’r GCAD gyfarfod ag Andrew i siarad am yr wybodaeth.

Gallwch gael golwg ar yr wybodaeth yma: http://www.infobasecymru.net/IAS/themes/learningdisabilities(adults)minimumdataset?themeId=4311

Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu

Gweithiodd Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu gyda rhai cynghorau lleol yng Nghymru i edrych ar ffyrdd o newid gwasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Amcan y prosiect oedd gwneud gwasanaethau yn rhatach ac yn well.

(O dudalen 3)

(Muy ar dudalen 5)

?

Page 5: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 5 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Yn ystod cyfarfod diwethaf y GCAD, roedd ar y grŵp eisiau gwybod pa wahaniaeth mae’r newidiadau i’r gwasanaethau’n ei wneud i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd.

Daeth Steve Garland o Gastell Nedd Port Talbot a Mark Wilkinson o Ben-y-bont ar Ogwr draw i siarad am y ffordd yr oedd y prosiect wedi gweithio yn eu hardal hwy.

Dywedodd Steve Garland bod gwasanaethau cymdeithasol Castell Nedd Portalbot wedi newid y ffordd maen nhw’n asesu pobl. Mae hyn yn meddwl gweld pa gymorth a chefnogaeth sydd ei angen ar bobl.

Mae gwasanaethau cymdeithasol yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau maen nhw’n talu amdanyn nhw werth yr arian.

Mae hyn yn meddwl bod mwy o bobl yn cael yr union faint o gefnogaeth ac nad ydyn nhw’n cael gormod o gefnogaeth nad oes ei angen arnyn nhw.

(O dudalen 4)

(Muy ar dudalen 6)

?

Page 6: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 6 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Siaradodd Steve hefyd am rai pobl ag anabledd dysgu sydd wedi cael rhai newidiadau bach i’w bywydau oherwydd y prosiect.

Mae 24 o bobl wedi symud o gartrefi gofal at fyw gyda chymorth yn y 6 mis diwethaf.

Mae cyfanswm y gost o gadw pobl mewn cartrefi gofal wedi gostwng gan fwy na miliwn o bunnoedd.

Dywedodd Steve ei bod hi’n bwysig gweithio gyda phobl, eu teueluoedd a’u gofalwyr.

Dywedodd hefyd, os ydych chi’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gefnogaeth gywir, yna byddwch yn arbed arian yn y pen draw.

Siaradodd Mark Wilkinson am y newidiadau y mae gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn eu gwneud ers iddyn nhw ddechrau cymryd rhan yn y prosiect.

Gofynnodd Roger Banks sut byddwn ni’n gwybod a yw’r newidiadau yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anabledd dysgu.

(O dudalen 5)

(Muy ar dudalen 7)

?

Page 7: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 7 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Does dim mwy o arian ar gyfer y prosiect felly bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddod o hyd i’w ffyrdd eu hunain o weld pa wahaniaeth mae’r newidiadau yn eu gwneud.

Gallwch ddod o hyd i fwy am y prosiect ar wefan Asiantaeth Gwella Gwasanaethau y Gwasanaethau Cymdeithasol: http://www.ssiacymru.org.uk/home.php?page_id=8485&langSwitch=cym.

Is-grwpiau

Yna clywodd y grŵp beth yr oedd yr is-grwpiau wedi bod yn ei wneud.

Mae’r is-grwpiau yn grwpiau bach sy’n gweithio ar wahanol bethau fel iechyd ac eiriolaeth.

Mae un o’r is-grwpiau ynghylch gwneud gwasanaethau yn well ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol.

Fe gawson nhw gyfarfod i orffen eu hadroddiad ar gyfer Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.

(O dudalen 6)

(Muy ar dudalen 8)

Page 8: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 8 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Mae’r adroddiad ynghylch y pum prif beth maen nhw’n meddwl y dylen nhw wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru yn cael cefnogaeth dda.

Mae is-grŵp arall sy’n edrych sut a pham y mae gan bobl ag anabledd dysgu waeth iechyd na phobl eraill yng Nghymru.

Maen nhw’n ysgrifennu cynllun gwaith i ddangos beth maen nhw’n fwriadu ei wneud ac erbyn pryd maen nhw’n bwriadu gwneud hynny.

Fe fyddan nhw’n gwneud rhestr o ffyrdd o wneud gwasanaethau iechyd yn well i bobl ag anabledd dysgu.

Fe fyddan nhw’n rhoi’r rhestr hwn mewn adroddiad a’i anfon at y Gweinidog Iechyd a Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae is-grŵp ar eiriolaeth ar gael hefyd.

Maen nhw wedi gwneud rhestr o’r pethau mae arnyn nhw eisiau eu gwneud fel:

Gweld pa wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer pobl ag anabledd dysgu

(O dudalen 7)

(Muy ar dudalen 9)

1. ________

2. ________

3. ________

4. ________

5. ________

1. ________

2. ________

3. ________

4. ________

5. ________

?

Page 9: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 9 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Dod o hyd i wahanol ffyrdd o gael arian i dalu am wasanaethau eiriolaeth

Cael storïau go iawn ynghylch y ffordd y mae eiriolaeth wedi helpu pobl.

Siaradodd y GCAD am ddechrau is-grŵpiau newydd i edrych ble mae pobl ag anabledd dysgu yn byw.

Yn aml y mae’n rhaid i bobl aros gyda’u teuluoedd hyd yn oed os oes arnyn nhw eisiau symud allan gan nad oes digon o dai gyda chymorth da.

Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl

Y peth diwethaf y siaradodd y GCAD amdano oedd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl.

Mae hwn yn grŵp o bobl sydd yn edrych a yw gwasanaethau iechyd meddwl yn dilyn cynllun ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’.

Ysgrifennwyd y cynllun hwn i wneud gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn well.

(O dudalen 8)

(Muy ar dudalen 10)

Page 10: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 10 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Gallwch chi ddarllen y cynllun yma: http://wales.gov.uk/topics/health/nhswales/healthservice/mental-health-services/strategy/?lang=cy.

Mae Ray Jacques yn poeni nad yw’r grŵp yn edrych sut y mae pobl ag anabledd dysgu yn cael help gan wasanaethau iechyd meddwl.

Mae pobl ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o fod angen gwasanaethau iechyd meddwl na rhai pobl eraill.

Bydd Penny Hall o Lywodraeth Cymru yn ceisio gweld sut y gall y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol wneud yn siŵr eu bod yn meddwl am bobl ag anabledd dysgu.

(O dudalen 9)

Cael help oddi wrth wasanaethau iechyd meddwl

Mae’r ‘Foundation for People with a Learning Disability’ yn Lloegr wedi ysgrifennu adroddiad ynghylch gwneud iechyd meddwl yn well ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Mae pobl ag anabledd dysgu dair gwaith yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl, fel teimlo’n isel neu’n drist, na phobl eraill.

(Muy ar dudalen 11)

Page 11: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 11 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Mae pobl ag anabledd dysgu yn aml yn ei chael hi’n anodd cael help a chefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl.

Dyma rai o’r problemau y mae pobl ag anabledd dysgu’n ei gael wrth geisio cael help:

Dim ond eu hanabledd dysgu y mae pobl yn ei weld – dydyn nhw ddim yn eu gweld fel person

Nid yw gwybodaeth yn hawdd ei deall

Nid yw pobl yn eu credu, yn gwrando arnyn nhw na’u cefnogi pan fyddan nhw’n teimlo’n isel neu’n drist.

Mae’r adroddiad yn rhestru ffyrdd o helpu pobl ag anabledd dysgu gael gwell iechyd meddwl.

Gallwch ddarllen yr adroddiad a’r canllaw hawdd ei ddeall (yn saesneg un unig) ar wefan y ‘Foundation’: http://www.learningdisabilities.org.uk/our-news/14-05-12-feeling-down/.

(O dudalen 10)

Page 12: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 12 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Cafodd y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol gyfarfod ar 30 Ebrill 2014.

Fe siaradon nhw am ffyrdd da o gefnogi pobl ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol.

Fe siaradon nhw hefyd am bolisïau newydd yng Nghymru a Lloegr a all fod o bwys i bobl ag ymddygiad heriol.

Siaradodd Louise Denne o Brifysgol Bangor am y gwaith mae hi’n wneud gyda grŵp o ymchwilwyr.

Mae ymchwilwyr yn ceisio cael gwybodaeth mewn llawer o wahanol ffyrdd, fel gofyn i bobl beth maen nhw’n feddwl, wneud profion neu ddod o hyd i wybodaeth.

Maen nhw’n edrych i mewn i’r mathau o bethau y dylai staff sy’n gweithio gyda phobl ag ymddygiad heriol wybod amdanyn nhw a medru eu gwneud.

Maen nhw eisiau gwneud yn siŵr bod staff yn medru cefnogi pobl ag ymddygiad heriol yn y ffyrdd gorau bosibl.

Edrychodd y grŵp ar rai o’r syniadau yr oedd Louise ac ymchwilwyr wedi eu hysgrifennu i lawr.

Wedyn, fe ysgrifennodd y grŵp beth roedden nhw’n ei feddwl am y syniadau gan ychwanegu rhai syniadau eu hunain.

Beth mae'r Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol wedi bod yn ei wneud?

Polisi

?

Page 13: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 13 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn brosiect sy’n helpu pobl ifainc i drawsnewid.

Mae trawsnewid yn digwydd pan fyddwch chi’n newid o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Mae arian ar gyfer prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r arian hwn yn dod i ben yn ddiweddarach y flwyddyn hon, felly fe fydd y prosiect yn gorffen os na fedran nhw ddod o hyd i fwy o arian i’w gynnal.

Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifainc rhwng 14 ac 19 mlwydd oed sydd ag anabledd dysgu, llawer o anghenion cefnogi neu awtistiaeth.

Mae’n eu helpu i fod mor annibynnol â phosibl.

Mae’r prosiect yn defnyddio llawer o wahanol ffyrdd i helpu’r bobl ifainc drwy’r trawsnewid.

(Muy ar dudalen 14)

‘Parti Gwirioneddol’ Cyfleoedd Gwirioneddol

Page 14: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 14 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Mae staff prosiect yn gweithio gyda’r pobl ifainc, eu teuluoedd a phobl eraill i ysgrifennu cynlluniau trawsnewid sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Maen nhw’n eu helpu i gyrraedd eu nodau mewn llawer o ffyrdd fel hyfforddiant, cymryd rhan mewn gweithgareddau a rhoi cefnogaeth.

Mae’r prosiect yn gweithio mewn naw ardal leol:

Caerffilli

Pen-y-bont ar Ogwr

Sir Gaerfyrddin

Rhondda Cynon Taf

Castell Nedd Port Talbot

Abertawe

Merthyr

Sir Benfro

Torfaen

Mae’r prosiect yn cefnogi pobl ifainc mewn llawer o wahanol ffyrdd:

Cynllunio ar gyfer trawsnewid

(O dudalen 13)

(Muy ar dudalen 15) Cynllun

Cynllun

Page 15: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 15 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Cynllunio o amgylch yr unigolyn

Paratoi ar gyfer gwaith a chefnogaeth yn y gwaith

Medrau ar gyfer byw’n annibynnol fel dal bws, siopa, golchi dillad neu agor cyfrif banc

Cael ffrindiau a dod yn fentor cyfoedion. Mae mentor cyfoedion yn rhywun o gwmpas yr un oed â chi sy’n gallu eich helpu i wneud ffrindiau neu fod yn rhywun i siarad â nhw.

Eu cefnogi â theimladau a sut i ymdopi pan fyddan nhw’n teimlo’n drist neu’n ddig.

Mae Dr Steve Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru Prifysgol Caerdydd wedi bod yn edrych i weld pa mor dda y mae’r prosiect wedi helpu pobl ifainc a’u teuluoedd.

Parti Gwirioneddol

Ar 25 Ebrill 2014 cafodd Cyfleoedd Gwirioneddol ddigwyddiad o’r enw ‘Parti Gwirioneddol’.

(O dudalen 14)

(Muy ar dudalen 16)

Page 16: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 16 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Roedd ‘Parti Gwirioneddol’ ynghylch dathlu yr holl bethau y mae’r bobl ifainc sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect wedi ei wneud.

Roedd o hefyd ynghylch cael diwrnod llawn hwyl gyda’u teuluoedd a’r staff sydd wedi eu cefnogi.

Siaradodd pobl ifainc am y ffordd yr oedd y prosiect wedi eu helpu.

Roedd pawb wedi mwynhau’r dydd yn fawr.

Roedd llawer o weithgareddau fel dawnsio, crefftau, drama a hyd yn oed anifeiliaid!

Roedd cacan a disgo ar gael hefyd.

Y rhan bwysicaf o’r dydd oedd dweud ‘diolch’ a ‘da iawn’ i’r holl bobl ifainc sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect.

Rhoddodd Claire Williams dystysgrifau a bagiau’n llawn pethau da i’r bobl ifainc.

Enillodd Claire fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain.

Gallwch ddod o hyd i ragor am brosiect Cyfleoedd Gwirioneddol ar eu gwefan www.cyfleoeddgwirioneddol.org.uk.

(O dudalen 15)

Page 17: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 17 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Mae Cymorth Canser Macmillan yn helpu pobl pan fyddan nhw’n cael gwybod bod canser arnyn nhw neu bod canser ar rywun maen nhw’n ei garu.

Maen nhw’n rhedeg prosiect yng Nghymru i wneud pethau’n well i bobl ag anabledd dysgu sy’n cael eu heffeithio gan ganser.

Mae Tracey Lloyd yn nyrs sydd wedi gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.

Tracey sydd yn arwain y prosiect hwn.

Mae ar y prosiect eisiau helpu gwasanaethau canser wella’r ffordd maen nhw’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu.

Mae grŵp o bobl sy’n cael ei alw’n grŵp llywio sy’n helpu Tracey i redeg y prosiect.

Mae’r bobl yn y grŵp llywio yn gweithio mewn mudiadau iechyd, gofal cymdeithasol a mudiadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.

Mae Ruth Northway o Brifysgol De Cymru yn aelod o’r GCAD ac mae hi’n rhan o’r grŵp llywio.

(Muy ar dudalen 18)

Prosiect Anabledd Dysgu Macmillan

Page 18: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 18 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Mae nhw hefyd wedi gofyn i Samantha Williams, Swyddog Gwybodaeth GCAD, i ymuno â’r grŵp llywio i helpu i wneud gwybodaeth yn hawdd i’w darllen a’i deall.

Mae’r prosiect yn bwriadu:

Gweld beth sydd ei angen ar staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal canser i’w helpu i gefnogi pobl ag anabledd dysgu

Rhoi hyfforddiant i staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal canser

Gweld pa newidiadau y gellir eu gwneud er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ag anabledd dysgu gael gwybodaeth a chefnogaeth gan wasanaethau gofal canser

Gweld pa wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael yn barod ar gyfer pobl ag anabledd dysgu

Gweld pa wybodaeth neu gefnogaeth sydd ar goll a beth y mae’n bosibl ei wneud i sicrhau bod y rhain ar gael

(O dudalen 17)

(Muy ar dudalen 19)

?

Page 19: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 19 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Trwy wneud y pethau hyn i gyd rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl ag anabledd dysgu sy’n cael eu heffeithio gan ganser yn:

1. Cael diagnosis cynnar. Mae hyn yn meddwl dod i wybod cyn gynted â phosibl bod canser arnyn nhw er mwyn iddyn nhw ddechrau cael help yn syth.

2. Deall beth sy’n digwydd iddyn nhw er mwyn iddyn nhw fedru gwneud penderfyniadau da.

3. Cael y driniaeth a’r gofal gorau ar gyfer eu canser ac ar gyfer eu bywyd.

4. Gwybod beth y gallan nhw wneud i helpu eu hunain a phwy arall sy’n medru eu helpu.

5. Cael eu trin ag urddas a pharch.

6. Teimlo bod y bobl sydd o’u cwmpas yn cael cefnogaeth dda hefyd.

7. Medru mwynhau bywyd.

8. Teimlo fel rhan o gymuned.

9. Medru marw mewn ffordd dda.

(O dudalen 18)

Page 20: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 20 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Cafodd Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd ddigwyddiad ar y 14 Mai yng Nghaerdydd.

Roedd y digwyddiad ynghylch pa mor anodd y gall hi fod i bobl ifainc sydd â phroblemau cyfathrebu pan fyddan nhw’n mynd i helynt gyda’r heddlu.

Croesawodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru, bawb i’r digwyddiad.

Roedd hi’n dweud pa mor bwysig yr oedd i bobl ifainc gael help gyda chyfathrebu pan fyddan nhw’n torri’r gyfraith er mwyn iddyn nhw ddeall beth maen nhw wedi ei wneud a beth fydd yn digwydd iddyn nhw.

Roedd sgyrsiau gan bobl sy’n gweithio gyda phobl sy’n torri’r gyfraith a phobl sydd â phroblemau cyfathrebu.

Mae Christine Griffiths yn aelod o’r Grŵp Cynghori ac yn Bennaeth Therapi Iaith a Lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

(Muy ar dudalen 21)

Pobl ifainc sy’n torri’r gyfraith ac sy’n cael trafferth i gyfathrebu

Page 21: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

“To catch the reader's a en on, place an

interes ng sentence or quote from the story

here.”

Tudalen 21 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Mae therapi iaith a lleferydd yn helpu pobl sydd â phroblemau cyfathrebu fel methu siarad, darllen neu ddeall beth y mae pobl yn ei ddweud.

Roedd Christine yn dweud mor anodd yr oedd hi i bobl ifainc ag anabledd dysgu os ydyn nhw’n torri’r gyfraith neu’n gorfod mynd at yr heddlu neu i’r llys.

Yn aml mae pobl ifainc ag anabledd dysgu angen help arbennig a chefnogaeth â chyfathrebu.

Roedd sgwrs hefyd ynghylch rhaglen hyfforddi ar gyfer staff sy’n gweithio gyda phobl sy’n torri’r gyfraith.

Mae’r hyfforddiant yn cael ei alw’n ‘The Box’.

Mae’n helpu staff i wybod pa bobl sydd angen help i gyfathrebu a sut i’w cefnogi.

Cafodd pawb yn y digwyddiad gyfle i roi cynnig ar rannau o raglen hyfforddi ‘The Box’ar y cyfrifiadur.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ‘The Box’ ar wefan Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd http://www.rcslt.org/news/events/2014/wales_box_launch.

(O dudalen 20)

Page 22: LDAG News 5 Spring 2014 Easy Read (Cymraeg)

Mae gan y GCAD wefan newydd: www.ldag.info.

Ar y wefan gallwch weld beth mae’r grŵp yn ei wneud a phwy yw ei aelodau.

Gallwch hefyd ddod o hyd i bolisïau sy’n bwysig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Gallwch ddarllen cylchlythyrau’r GCAD mewn ffordd Hawdd ei Deall.

Mae mwy o waith i’w wneud eto ar rai rhannau o’r wefan.

Yn y dyfodol fe fydd gwefan Gymraeg, www.gcad.info, gyda thudalennau Hawdd eu Deall.

Gallwch edrych ar y wefan a gadael i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl trwy anfon e-bost at Sam Williams: [email protected].

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y GCAD ar Facebook a Twitter.

Tudalen 22 Rhif 5 Gwanwyn 2014

Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Sam Williams ar 029 20681177 neu e-bostiwch: [email protected]. Ewch i’r wefan www.gcad.info neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup

Gwefan newydd y GCAD

Polisi

?