gwyl dylan thomas 2013

10
26 Hydref - 9 Tachwedd

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 15-Mar-2016

269 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Gwyl Dylan Thomas 2013

26 H

ydre

f -

9 T

achw

edd

Page 2: Gwyl Dylan Thomas 2013

Croeso i unfed W yl flynyddol ar bymtheg Dylan Thomas. Bydd Gwyl eleni’n llawn cyffro wrth baratoi ar gyfer canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014.

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys lansio comisiwn canmlwyddiant gan Gillian Clarke, a bydd diwrnod yn llawn sgyrsiau, gwesteion arbennig, gweithdai a Daleks pan fyddwn yn dathlu hanner canmlwyddiant rhaglen Doctor Who.

Bydd Roger McGough, sy’n fardd, yn ddarlledwr ac yn awdur i blant, yn darllen o’i gasgliad newydd o farddoniaeth i lansio’r wyl.

Byddwn yn cynnal noson sy’n seiliedig ar The Killing, drama Ddanaidd boblogaidd, sy’n cynnwys David Hewson, nofelydd llyfrau ditectif a dirgelwch, sydd wedi addasu cyfres un a dau fel nofelau ac Emma Kennedy, actor, ysgrifennydd a chyflwynydd teledu ac awdur The Killing Handbook.

Bydd newyddiadurwyr pêl-droed o The Guardian yn recordio’u podlediad Pêl-droed Wythnosol a fydd yn edrych ar gêm ddarbi De Cymru rhwng Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd, a bydd yr wyl hefyd yn mynd ar daith gyda noson o ddarlleniadau o waith Dylan yn ei dafarn leol, Uplands Tavern.

Bydd yr wyl a Bluestocking Lounge hefyd yn cyfuno i gyflwyno ‘Wordy Shapes of Women’ - noson lle bydd bwrlésg yn gwrthdaro â barddoniaeth Dylan Thomas.

Mae’n bleser mawr gennym groesawu ein hamrywiaeth sylweddol o westeion talentog i wyl 2013.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion cadw lle ar gael yn www.dylanthomas.com neu drwy ffonio 01792 463980.

CroesoCanolfan Dylan Thomas

Page 3: Gwyl Dylan Thomas 2013

3

Mae llyfr newydd o gerddi gan Roger McGough bob amser yn gyffrous ac mae As Far As I Know yn sicr yn rheswm i ddathlu. Ac yntau’n ddoniol iawn ac yn swrrealalaidd, mae’n fardd â nifer o leisiau. Efallai bod yma fygythiad a thristwch, ond cei yma ddigon o ffraethineb a chwarae ar eiriau nodweddiadol McGough. Mae Roger hefyd yn noddi dathliadau canmlwyddiant 2014 Dylan Thomas. Tocynnau S £12, C £9

The Killing

www.dylanthomas.com

Roger McGough

Mae ymwybyddiaeth empathig yn sylfaen i ffuglen realistig. Ond sut gallwn ni roi’r gorau i’n hagendâu ein hunain i weld trwy lygaid eraill sydd weithiau’n estron? Trwy drafod ac ymarfer, bydd ein gweithdy’n archwilio technegau cymeriadu a safbwynt.Tocynnau S £10, C £8

‘Empathy and Character’: Gweithdy gyda Stevie Davies

Dydd Sul 27 Hydref, 10am-12pm

S Safonol C Consesiynau PTL Pasbort i Hamdden

Canolfan Dylan Thomas Somerset Place, Abertawe SA1 1RR

(01792 463980

www.dylanthomas.com

Tocynnau

Nos Sadwrn 26 Hydref, 7.30pm

RogerMcGough

StevieDavies

Page 4: Gwyl Dylan Thomas 2013

Bydd awdur The Last Days of Dylan Thomas, a’r ddrama radio, Investigating Mr Thomas, yn trafod cyfnod Dylan yn Efrog Newydd. Mae Rob Gittins yn sgriptiwr ffilmiau toreithiog, sydd wedi ysgrifennu ar gyfer llawer o raglenni, gan gynnwys Casualty, The Bill, Pobol y Cwm, Stella, Eastenders, a thros gant o benodau o The Archers.Tocynnau S £5, C £3.50, PTL £1.60

Bydd yr ysgrifennydd, y bardd a’r dawnsiwr, Tishani Doshi, yn trafod ei nofel newydd, Fountainville, y teitl diweddaraf yng nghyfres Tales from the Mabinogion gan Seren. Bydd yng nghwmni Cynan Jones, awdur teitl Mabinogion blaenorol, Bird, Blood, Snow, a’r nofelau The Long Dry ac Everything I Found on the Beach. Tocynnau S £6, C £4.20, PTL £2.40

“No surprise in the writer, no surprise in the reader” (Robert Frost). Mae Mario’n defnyddio haenau dyfnach y prosesau ysgrifennu i lansio’r dychymyg i fyd newydd ar gefn iaith fywiacaol, dreiddgar.Tocynnau S £9, C £7, sy’n cynnwys tocyn i ddigwyddiad gyda’r hwyr.

Rob Gittins – ‘Investigating Mr Thomas’

Tishani Doshi a Cynan Jones - Tales from the Mabinogion

‘Elements of Surprise’: gweithdy gyda Mario Petrucci

RobGittins

Dydd Iau 31 Hydref 2pm

Nos Fawrth 29 Hydref, 7.30pm Nos Fercher 30 Hydref, 7.30pm

Louise Jameson

Emma Kennedy

Page 5: Gwyl Dylan Thomas 2013

I ddathlu hanner canmlwyddiant Doctor Who, bydd arbenigwyr a selogion y gyfres yn trafod ei hanes a’i dyfodol, gyda gweithdy celf, panel ysgrifenwyr ac ymweliad gan y Daleks. Bydd yn cynnwys Louise Jameson, Peter Miles, Mike Collins, Simon Guerrier, Alwyn Turner, Matthew Kilburn, Una McCormack, Phil Parsons, Phil Ford, Joe Lidster, David Llewellyn a James Moran. Tocynnau trwy’r dydd ar gael.

Noson ar The Killing, y ddrama Ddanaidd boblogaidd, sy’n cynnwys dau o’r enwau mwyaf sy’n ysgrifennu amdani: David Hewson, nofelydd ditectif a dirgelwch sydd wedi addasu’r gyfres gyntaf a’r ail fel nofelau ac Emma Kennedy, actor, ysgrifennydd, cyflwynydd teledu ac awdur The Killing Handbook.Tocynnau S £6, C £4.20, PTL £2.40

Diwrnod Doctor Who

The KillingNos Wener 1 Tachwedd, 7.30pm

Mae Mario Petrucci yn fardd o fri rhyngwladol sydd wedi ennill llawer o wobrau llenyddol pwysig. Enillodd ei gerdd am Chernobyl, Heavy Water Wobr Arvon. Mae barddoniaeth arobryn gyhoeddedig Charles Bennett wedi’i chymeradwyo’n fawr. Mae wedi cydweithio gyda llawer o artistiaid ac mae ei waith wedi’i gyfieithu i Almaeneg a Sbaeneg. Tocynnau S £6, C £4.20, PTL £2.40

Mario Petrucci a Charles Bennett

Nos Iau 31 Hydref, 7.30pm Dydd Sadwrn 2 Tachwedd

David Hewson

www.dylanthomas.com

5

Page 6: Gwyl Dylan Thomas 2013

Bydd Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno taith dywys fywiog a difyr sy’n seiliedig ar berfformiad o gwmpas canol Abertawe Dylan. Bydd yn dechrau o Ganolfan Dylan Thomas ac yn cynnwys Sgwâr Dylan Thomas, The Three Lamps, safle’r Kardomah, Sgwâr y Castell ac yn gorffen yn y No Sign Wine Bar. Tocynnau S £10, C £7

Mae Christine Kinsey wedi datblygu grwp o gymeriadau benywaidd sy’n byw yn ei phaentiadau a’i darluniau, sy’n dilyn llinell naratif taith a ddechreuodd yn ystod ei phlentyndod ym Mhont-y-moel. Bydd yn dangos ac yn trafod ei gwaith a’i ffilm a gefnogwyd gan ACW a Queen’s Hall, sef Taith/A Journey. Cyfeillion y Glynn Vivian yn Cyflwyno.Tocynnau S £6, C £4.20, PTL £2.40

Mae podlediad Pêl-droed Wythnosol The Guardian yn mynd ar daith! Dewch i ymuno â James Richardson, Barry Glendenning, Raphael Honigstein a James Horncastle wrth iddynt recordio’u sioe yng Nghanolfan Dylan Thomas. Bydd y panel yn chwarae ar eiriau ac yn doethinebu wrth drin a thrafod Darbi gyntaf de Cymru yn Uwch-gynghrair Barclays.Pob tocyn £3.50

Taith Dywys - Abertawe Dylan

Christine Kinsey - Truth, Lies and Alibis: A Journey

Pêl-droed Wythnosol The Guardian – Darbi De Cymru

ChristineKinsey

Dydd Sul 3 Tachwedd, 11am-1pm

Dydd Sul 3 Tachwedd, 2pm Dydd Llun 4 Tachwedd, 12.30pm

Page 7: Gwyl Dylan Thomas 2013

Bydd Kirpal Singh, bardd pennaf Singapôr, yn darllen o’i waith wrth ochr Ivy Alvarez. Mae Singh yn fardd, yn ysgrifennwr ffuglen ac yn feirniad diwylliannol, a oedd y cyntaf o Asia i fod yn Gyfarwyddwr Gwobr Ysgrifenwyr y Gymanwlad. Bydd Alvarez, y mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi a’i gyfieithu’n helaeth, heno’n dathlu cyhoeddi ei chasgliad diweddaraf, Disturbance, gan Seren. Tocynnau S £6, C £4.20, PTL £2.40

Bydd yr Athro John Goodby, ysgolhaig a bardd Dylan Thomas ym Mhrifysgol Abertawe, yn trafod ei astudiaeth feirniadol bwysig newydd o farddoniaeth Dylan Thomas, The Poetry of Dylan Thomas: Under the Spelling Wall, a gyhoeddwyd eleni gan Wasg Prifysgol Lerpwl. Tocynnau S £5, C £3.50, PTL £1.60

Noson o ddarlleniadau Dylan Thomas yn ei hen dafarn leol, wedi’i chyflwyno gan ensemble Abertawe, The Garage Players. Bydd yn cynnwys rhai o straeon byrion a cherddi llai adnabyddus Dylan. Tocynnau am ddim

Kirpal Singh ac Ivy Alvarez Yr Athro John Goodby: The Poetry of Dylan Thomas: Under the Spelling Wall

Canolfan Dylan Thomas yn Uplands Tavern: The Garage Players

ChristineKinsey

Nos Fercher 6 Tachwedd,7.30pmNos Lun 4 Tachwedd, 7pm

Nos Iau 7 Tachwedd, 8pm

Mae Fluellen yn cyflwyno gwaith ar droed o’u cynhyrchiad llwyfan newydd o Rebecca’s Daughters gan Dylan Thomas. Antur delynegol a ffraeth sy’n seiliedig ar Derfysgoedd Beca. Ac yntau wedi’i addasu gan Francis Hardy, caiff ei gynnal yn Theatr y Grand yn 2015, ac rydym yn croesawu adborth cynulleidfa ar berfformiad y noson i helpu i’w ddatblygu ymhellach. Tocynnau S £6, C £4.20, PTL £2.40

Rebecca’s Daughters Nos Fawrth 5 Tachwedd, 7.30pm

www.dylanthomas.com

7Ivy Alvarez

Page 8: Gwyl Dylan Thomas 2013

Bydd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn darllen o A Child’s Christmas in Wales, cerdd hudol Dylan, ac yn trafod ei hymateb iddi. Mae’r gwaith newydd wedi’i gomisiynu gan Ganolfan Dylan Thomas ar gyfer darlleniadau a pherfformiadau trwy gydol blwyddyn canmlwyddiant Dylan a’r tu hwnt. Tocynnau S £6, C £4.20, PTL £2.40

Byddwn yn ymuno â Bluestocking Lounge, prif noson fwrlésg De Cymru, i gyflwyno sioe lle bydd gwaith un o grefftwyr geiriau mwyaf y byd yn gwrthdaro â bwrlésg. Cyn y sioe, bydd gweithdy ysgrifennu barddoniaeth am ddim wedi’i ysbrydoli gan fwrlésg gyda Primrose Proper. Pob tocyn: £7, yn cynnwys mynediad i’r gweithdy am 6pm (lleoedd yn gyfyngedig – cadwch le ymlaen llaw)

Gillian Clarke yn lansio The Christmas Box

Bluestocking Lounge a Gwyl Dylan Thomas yn Cyflwyno “Wordy Shapes of Women”

Nos Sadwrn 9 Tachwedd, 7.30pm Nos Wener 8 Tachwedd, 8pm

Credyd lluniau: © Ivy Alvarez by Rachael Duncan, David Hewson © Mark Bothwell, Roger McGough © Norman McBeath.

Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion y rhaglen hon yn gywir, mae Dinas a Sir Abertawe’n cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen heb rybudd.

Cefnogir gan

BluestockingLounge

Page 9: Gwyl Dylan Thomas 2013

Dylan Thomas 2014

Bydd 2014 yn nodi canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas yn Abertawe, ac mae cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu i goffáu un o feirdd mwyaf y byd. Bydd dathliad mawr blwyddyn o hyd a’r canolbwynt fydd G wyl sefydledig Dylan Thomas, a gynhelir rhwng 27 Hydref a 9 Tachwedd.

Bydd y dathliadau canmlwyddiant yn digwydd ar draws Abertawe a byddant yn cynnwys llenyddiaeth, digwyddiadau arbennig a ffurfiau celf eraill. Bydd y rhan fwyaf o bethau’n digwydd yng Nghanolfan Dylan Thomas, yn enwedig pan fydd yn cynnal arddangosfa arbennig sy’n dod â llyfrau nodiadau Dylan Thomas yn ôl i’r DU am y tro cyntaf ers iddynt gael eu gwerthu yn y 1940au. I gael mwy o wybodaeth am Dylan Thomas, ewch i www.dylanthomas.com

Gillian Clarke

www.dylanthomas.com

9

Page 10: Gwyl Dylan Thomas 2013

26 Hydref: Roger McGough

27 Hydref: Gweithdy Stevie Davies: ‘Empathy and Character’

29 Hydref: Tishani Doshi a Cynan Jones: Tales from the Mabinogion

30 Hydref: Rob Gittins: Investigating Mr Thomas

31 Hydref: Gweithdy Mario Petrucci: ‘Elements of Surprise.’

31 Hydref: Mario Petrucci a Charles Bennett

1 Tachwedd: The Killing: David Hewson ac Emma Kennedy

2 Tachwedd: Diwrnod Doctor Who

3 Tachwedd: Taith Dywys: Abertawe Dylan

3 Tachwedd: Christine Kinsey: Truth, Lies and Alibis: A Journey

4 Tachwedd: Pêl-droed Wythnosol The Guardian: Darbi De Cymru

4 Tachwedd: Yr Athro John Goodby: Barddoniaeth Dylan Thomas

5 Tachwedd: Rebecca’s Daughters (Merched Beca)

6 Tachwedd: Kirpal Singh ac Ivy Alvarez

7 Tachwedd: The Garage Players yn Uplands Tavern

8 Tachwedd: Gweithdy Bwrlésg a Barddoniaeth gyda Primrose Proper

8 Tachwedd: “Wordy Shapes of Women” Perfformiad Bwrlésg

9 Tachwedd: Gillian Clarke yn lansio A Christmas Box

Crynodeb o ddigwyddiadau

Tishani Doshi

www.dylanthomas.com