film catalogue formatted 14
DESCRIPTION
ÂTRANSCRIPT
season fourteen the box Pedwar ar ddeg y blwch
guillaume blanchet | richard & judith lang | michael langan & terah maher | tess martin | sarah wood
Guillaume Blanchet The Man Who Lived On His Bike
Artist Guillaume Blanchet finds himself eating, sleeping, washing clothes and even falling in love – all while at the handlebars of a bicycle and riding
around Montreal for 382 days. Blanchet can be seen on his bike frying eggs, shaving, changing his clothes, ironing, brushing his teeth and more.
He dedicated this tongue in cheek film to his bike-loving father, who has ridden more than 120,000 kilometres - and counting.
Guillaume Blanchet is a French copywriter and artist who has lived in Montreal for the past seven years.
Mae'r artist Guillaume Blanchet yn ffeindio ei hun yn bwyta, yn cysgu, yn golchi dillad ac hyd yn oed yn syrthio mewn cariad –tra ar gefn ei feic yn
teithio o gwmpas Montreal am 382 o ddyddiau. Gellir gweld Blanchet ar ei feic yn ffrio wyau, yn siafio, yn newid ei ddillad, yn smwddio, yn brwsio'i
ddannedd a rhagor. Cysegrodd y ffilm ddychanol hon i'w dad sydd wrth ei fodd ar gefn beic ac sydd wedi reidio mwy 'na 120,000 cilomedir - ac yn
dal i gyfrif.
Artist a sgriptiwr Ffrengig yw Guillaume Blanchet sydd wedi byw ym Montreal am y saith mlynedd diwethaf.
Richard & Judith Lang One Plastic Beach
With increasing quantities of plastic discarded every day, plastic pollution is a growing environmental concern. Vast amounts of disposable plastics end up in
marine environments, with much of this waste washing up on beaches around the world. Since 1999 artists Richard Lang and Judith Selby Lang have been
visiting 1000 yards of remote Kehoe Beach in the Point Reyes National Sea Shore, gathering plastic debris washing out of the Pacific Ocean. The plastic is
cleaned, categorized and stored. By carefully collecting and "curating" the bits of plastic, they fashion it into works of art which reflect our creative yet throw-away
culture in ways both inspiring and horrifying :—sculptures and abstract works that feature 1949-vintage toys, Korean lighters, Astroturf (a common find), bubble
blowers and hair curlers that may have last adorned a human head thirty or forty years ago.
Gyda meintiau cynyddol o blastig yn cael eu taflu i ffwrdd bob dydd, mae llygredd plastig yn fater sy’n achosi pryder o safbwynt amgylcheddol. Mae llwythi
enfawr o blastig tafladwy yn dod i’r amlwg mewn amgylcheddau morwrol, gyda llawer o’r gwastraff hwn yn golchi i fyny ar draethau ledled y byd. Ers 1999 bu’r
artistiaid Richard Lang a Judith Selby Lang yn ymweld â miloedd o lathenni o’r Traeth Kehoe anghysbell yn Nhraeth Cenedlaethol Point Reyes, yn casglu
gwastraff plastig sy’n cael ei olchi i fyny o fôr y Pasiffig. Mae’r plastig yn cael ei lanhau, ei gategoreiddio a’i storio. Trwy gasglu a “churadu” y darnau plastig yn
ofalus, maent yn eu trawsnewid yn weithiau celf sy’n adlewyrchu ein diwylliant creadigol ond gwastraffus, mewn ffyrdd sy’n ysbrydoledig ac eto’n frawychus:
cerflunweithiau a gwaith haniaethol sy’n nodweddu hen deganau o 1949, goleuwyr Coreaidd, Astroturf (rhywbeth a ganfyddir yn aml), chwythwyr swigod a
chyrlwyr gwallt a fu efallai yn addurno pen rhywun rhyw ddeg ar hugain neu ddeugain mlynedd yn ôl.
Choros Directed by Michael Langan & Terah Maher
"Choros" is an experimental film which updates a visual echo technique, "chronophotography", developed for scientific study in the 1880s and made famous by
Eadweard Muybridge.and later Etienne-Jules Marey. The film shows a chorus of women born from the movements of a single dancer in a dreamlike pas de
trente-deux; Michael Langan and Terah Maher combine music, dance, and image multiplication to create a lyrical film that enhances our perception of motion;
featuring music from Steve Reich's "Music for 18 Musicians."
“’Choros' contributes to cinematic innovation and marks a new milestone. This spellbinding narrative and visual experience paves the way for further attempts to
bring life to the body on-screen." Format Court
2011 13 min HD Stereo
Ffilm arbrofol yw "Choros" sy’n diweddaru techneg atsain weledol, "cronoffotograffiaeth", a ddatblygwyd ar gyfer astudiaeth wyddonol yn y 1880au ac a
wnaethpwyd yn enwog gan Eadweard Muybridge.ac yn ddiweddarach Etienne-Jules Marey. Mae’r ffilm yn dangos corws o fenywod yn deillio o symudiadau un
ddawnswraig mewn pas de trente-deux breuddwydiol; mae Michael Langan aTerah Maher yn cyfuno cerddoriaeth, dawns, a lluosiad delwedd i greu ffilm
delynegol sy’n cynyddu ein dealltwriaeth o symudiad; yn nodweddu cerddoriaeth o "Music for 18 Musicians" gan Steve Reich.
Mae “’Choros' yn cyfrannu at ddyfeisiad sinematig ac yn dynodi carreg filltir newydd. Mae’r naratif cyfareddol a’r profiad gweledol hwn yn arloesi’r ffordd ar gyfer
rhagor o ymdrechion i ddod â bywyd i’r corff ar-sgrîn." Format Court
2011 13 munud Stereo HD
Tess Martin Hula Hoop
Tess Martin is an animator from Seattle who works with back-lit paper cut-outs, ink, paint and –as in this film - sand. In this fluidly drawn short film a
young girl with a hula hoop becomes a goldfish, becomes the Earth itself. The ordinary and the extraordinary loop and transform in this playful take
on the circle of life, told in grains of sand.
Tess Martin is a member of SEAT, Seattle Experimental Animation Team, a collective of independent animators, and has curated two programs of
SEAT films: Inter-Action, which screened in Seattle, Portland, New York City and toured Europe in October 2011, and Strange Creatures,
which is currently touring.
Bywddarlunydd o Seattle ywTess Martin sy’n gweithio gyda phapur wedi’i dorri, inc, paent a - fel yn y ffilm hon - tywod. Yn y ffilm fer hyfryd hon
portreadir merch ifanc gyda chylch hwla fel pysgodyn aur, fel y Ddaear ei hun. Mae’r cyffredin a’r eithriadol yn dolennu ac yn trawsffurfio yn y
cyflwyniad chwareus hwn o gylch bywyd, yn cael ei adrodd mewn gronynnau o dywod.
Mae Tess yn aelod o SEAT, cymdeithas animeiddwyr annibynnol yn Seattle, ac mae wedi curadu dwy gyfres o ffilmiau SEAT: Inter-Action,
a ddangosodd yn Seattle, Portland, Dinas Efrog Newydd ac a aeth ar daith yn Ewrop ym mis Hydref 2011, a Strange Creatures, sydd
ar daith ar hyn o bryd.
Sarah Wood I want to be a Secretary
The ladies in the typing pool have always believed in recycling... The footage for “I Want to Be a Secretary” has been reclaimed and reworked
from a selection of all-but-forgotten post-war recruitment films encouraging the modern girl to pursue a secretarial career. What other path is
open to an independent-minded young lady after all? What are the secrets of the boardroom? And what is the meaning of the firm-but-fair Miss
Ingall's mysterious smile? Our plucky young career gal heroine is about to find out. Sarah Wood explores depictions of the working woman in
her award-winning short film.
Sarah Wood has been working for the last ten years as a curator and artist filmmaker.Her latest film project is all about spying.
Bu merched y pwll teipio bob amser yn credu mewn ailgylchu. Mae’r deunydd ar gyfer “I Want to Be a Secretary” wedi’i ail-hawlio a’i ail-weithio
allan o ddetholiad o hen ffilmiau recriwtio o’r cyfnod yn dilyn y rhyfel, yn annog y ferch fodern i ddilyn gyrfa fel ysgrifenyddes.
Pa lwybr arall sy’n agored i ferch ifanc annibynnol wedi’r cyfan? Beth yw cyfrinachau’r ystafell bwrdd? A beth yw ystyr gwên ddirgel y Miss
Ingall benderfynol-ond-teg? Mae ein merch broffesiynol ddewr ar fin ffeindio allan. Mae Sarah Wood yn archwilio portreadau o’r fenyw
broffesiynol yn ei ffilm fer a enillodd sawl wobr.
Mae Sarah Wood wedi gweithio ers deng mlynedd fel curadur a gwneuthurwraig ffilmiau. Mae ei phrosiect ffilm diweddaraf yn ymwneud ag ysbïo.
.
cano l fan y ce l fyddydau aberystwyth a r ts cent re www.aberystwythar tscent re .co .uk
ISBN 978-1-908992-10-9 Design Stephen Paul Dale Design [email protected]