chwarae yng nghymru issue 21

14
Rhifyn 21 Rhifyn Pob Plentyn www.chwaraecymru.org.uk Newyddion chwarae a gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol ar gyfer chwarae Haf 2007 Chwarae dros Gymru

Upload: play-wales

Post on 14-Mar-2016

242 views

Category:

Documents


8 download

DESCRIPTION

hwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.

TRANSCRIPT

Page 1: Chwarae yng Nghymru issue 21

Rhifyn 21

Rhifyn Pob Plentyn

www.chwaraecymru.org.uk

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol ar gyfer chwarae Haf 2007

Chwarae dros Gymru

Page 2: Chwarae yng Nghymru issue 21

Golygyddol “Mae galluogi pob plentyn i chwarae, ac i gyd-chwarae, yn ymwneud â budd i’r gymuned gyfan.”i

Bu adroddiad diweddar Cymdeithasy Plant ii, yn amlygu’r diffyg cyfle i

blant chwarae allan a gwneudffrindiau, yn y newyddioncenedlaethol. Yn anffodus, nid oeddhyn yn newydd i’r rhai hynny ohonomsy’n gwbl ymwybodol o’r cwtogicynyddol sydd ar ryddid plant a phoblifanc ac sydd wedi ymgyrchu ar ymater hwn ers nifer o flynyddoedd.Roedd yn nodyn amserol i’n hatgoffana allwn orffwys a bod ein gwaith ofudd aruthrol i blant ac i gymdeithas.

Yn y rhifyn “Pob Plentyn” hwn o Chwaraedros Gymru, rydym yn dathlu amrywiaethplant Cymru ac yn archwilio sut y gallwnddarparu cyfleoedd chwarae o safon ibob un ohonynt. Dengys adroddiadCymdeithas y Plant nad dim ond mater ofyw gyda nam yw anabledd; gallwnanablu unrhyw blentyn trwy gynnigamgylchedd anghefnogol ac agweddnegyddol sy’n eu rhwystro rhag chwaraeunai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill.Rydym yn falch i gyflwyno yn y rhifyn hwn,brosiectau chwarae yng Nghymru sy’ngolygu y caiff plant, na fyddent fel arfer yncael cyfle i wneud defnydd o ddarpariaethchwarae, eu cynnwys a bod eu anghenionchwarae’n cael eu cwrdd fel mater ohawl. Pan fyddwn yn dweud ‘pob plentyn’rydym yn golygu pob plentyn.

Mae gan Gymru lywodraeth newydd aGweinidog newydd â chyfrifoldeb droschwarae plant - Carwyn Jones A.C. Trabo’r bobl fydd yn gwneud ypenderfyniadau’n ymgyfarwyddo â’u rôlnewydd, rydym yn awyddus i sicrhau ycaiff y momentwm gwleidyddol idrosglwyddo Cynllun Cyflawni PolisiChwarae y Cynulliad ei gynnal. Dywed

adroddiad Cymdeithas y Plant wrthymbod diffyg cyfleoedd i blant chwarae yndal yn fater o bryder mawr i’r plant euhunain, i’r bobl broffesiynol sy’n gweithiogyda a thros blant ac i’r cyhoedd yngyffredinol. Er y bu ein hymdrechion igefnogi darparu rhagor o gyfleoeddchwarae o safon uchel yn rhai sylweddola buddiol, ni chaiff pob un o’r 700,000 oblant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru iii

y rhyddid i chwarae allan yn eu cymunedneu i gael mynediad i ddarpariaethchwarae o safon fel bo angen. Lansiwyd‘Chwarae yng Nghymru’, Cynllun Cyflawni’rPolisi Chwarae, ddeunaw mis yn ôl gydadisgwyliadau mawr. Mae’r Cynulliad wedicreu amserlen i’w hun ar gyfer cyflawni’rtargedau strategaeth ond cafwydrhywfaint o lithro yn hyn o beth, a hoffemannog y Cynulliad i ddyblu euhymdrechion i drosglwyddo’r cynllun.

Edrychwn ymlaen at gefnogi’r Gweinidognewydd i gyflawni’r dyheadau uchelgeisiola osodwyd gan y ddau Lywodraethblaenorol a bydd Chwarae Cymru’nparhau i ymgymryd â’r rôl o “gyfaillbeirniadol” i Lywodraeth y Cynulliad, ganeiriol dros chwarae plant.

Mike GreenawayCyfarwyddwr

Gwefannau Defnyddiol

http://www.npfa.co.uk/content/protect/index.html

http://www.cabe.org.uk/default.aspx?contentitemid=41

http://www.playlink.org.uk

Cynnwys tudalen

Golygyddol 2

Gwobr 3

Gwasanaeth Newyddion y Wefan 3

Ymddiriedolwyr Newydd 3

Diwrnod Chwarae 3

Ofn Mynd Allan i Chwarae 4

Chwarae Cynhwysol ac Anabledd 4

Y Loteri FAWR 4

Chwarae, Pasteiod a Phomgranadau 4

Tîm Y Comisiynydd Plant 5

Plant Yng Nghymru yn Herio’rLlywodraeth 5

Rhagor o Arian ar gyfer Chwarae i Blant Anabl 5

Pob Plentyn 6

Stori Josie 6

Rhaglen ‘Bwdi’ 7

Stori Plentyn Teithwyr o Belfast 8

Prosiect Teithwyr Torfaen 8

Chwarae yn y Mosg 9

Canfod y Llwybr at Belydrau’r Haul 10

Dyddiadur Dan Rees-Jones 12

Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion Ar Waith 13

Digwyddiadau 14

Ariannu 14

Cyhoeddiad Newydd 14

Y Gymdeithas Chwarae Ryngwladol 14

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru bedair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:Chwarae Cymru, Ty^ Baltig,Sgwâr Mount Stuart,Caerdydd CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050E-bost: [email protected]

Rhif Elusen Gofrestredig. 1068926

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchlythyr hwn. Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyncyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw raio’r cynnyrch na’r digwyddiadau ahysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.Dyluniwyd ac argraffwyd gan Carrick Business Services Cyf.

Ffôn: 029 2074 1150E-bost: [email protected]

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007GOLYGYDDOL

2

i Alison John a Rob Wheway (2004) Can Play, Will Play: disabled children and access tooutdoor playgrounds. Llundain: National Playing Fields Association

ii Good Childhood Enquiry www.childrenssociety.org.uk

iii Rhian Croke a Anne Crowley (2006) Righting the Wrongs: The reality of children’s rightsin Wales. Caerdydd, Achub y Plant

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddimei wneud heboch chi.

Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnaublaenorol, ar gael i’w lwytho i lawr o adran newyddion ein gwefan arwww.chwaraecymru.org.uk

Page 3: Chwarae yng Nghymru issue 21

Ymddiriedolwyr Newydd

Mae Malcolm King, Rheolwr maes chwarae antur ‘TheVenture’ yn Wrecsam, sydd wedi gwasanaethu fel

ymddiriedolwr penodedig ers nifer o flynyddoedd, bellach ynymddiriedolwr etholedig hefyd.

Mae gennym un sedd wag yn dal ar ôl ar gyferymddiriedolwr/wraig i’w ethol gan yr aelodau. Os ydych ynaelod a bod gennych ddiddordeb cael eich enwebu ar gyfery swydd hon cofiwch gysylltu â ni.

Pleser o’r mwyaf yw croesawu Mary Davies,Cydlynydd Chwarae CynhwysolGwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd,yn ymddiriedolwraig etholedig i FwrddChwarae Cymru yn dilyn ei henwebu ganaelodau Chwarae Cymru.

Thema’r Diwrnod Chwarae eleni yw Ein Strydoedd NiHefyd! Mae’r ymgyrch yn amlygu’r angen am newid, fel

y gall plant, pobl ifanc a’u teuluoedd deimlo’n hyderusynghylch chwarae mewn strydoedd ger eu cartrefi trwygydol y flwyddyn.

Gall unrhyw un drefnu digwyddiad Diwrnod Chwarae neugymryd rhan yn y dathliadau. ’Does dim rhaid i’ch DiwrnodChwarae fod yn achlysur cyhoeddus anferth, efallai y byddai’nwell gennych drefnu parti stryd bychan ar gyfer trigolion ynunig neu ddathlu gyda grw^p o ffrindiau a theulu. Cafodd

gwefan Diwrnod Chwarae ei ail-lansio â llawer mwy owybodaeth, cyngor a sdwff hwyliog hefyd!

Gallwch lwytho taflenni cyngor ar drefnu digwyddiad (ynGymraeg a Saesneg) i lawr o dudalen Digwyddiadau gwefanChwarae Cymru neu ewch ihttp://www.playday.org.uk/playday_events.aspx

Os na allwch drefnu digwyddiad, ymwelwch â gwefanDiwrnod Chwarae ar www.playday.org.uk i weld sut y caiffDiwrnod Chwarae ei ddathlu yn eich hardal chi.

Amy Little, Swyddog Ymgyrchoedd, Play England

Ariannwyd Play England i arwain yr ymgyrch Diwrnod Chwarae mewn ymgynghoriad âsefydliadau chwarae cenedlaethol eraill y DU. Mae’n cynnal gwaith ymchwil i gefnogi’rymgyrch. Yn ogystal â pholau piniwn trwy’r DU, cynhelir rhai astudiaethau mwy trwyadl, yncynnwys ymgynghoriad gydag Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd.

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007NEWYDDION

3

Yn ddiweddar, enilloddGwasanaethau Chwarae

Plant Caerdydd ‘Wobr Newid aDyfeisgarwch’ am eu gwaith yndarparu offer chwarae pren‘flatpack’. Ar hyn o bryd maentyn cynorthwyo’r plant yn YsgolKitchener i adeiladu walddringo siâp-t, rhwydi, llwyfan abarrau mwnci.

Am ragor o wybodaeth galwchAndrew Burrow ar 07976 056112

Diwrnod Chwarae – Dydd Mercher 1 Awst

Mae’r gwasanaeth newyddion dwyieithogar ein gwefan yn ffynhonnell wybodaethddefnyddiol i bob un sydd â diddordebmewn chwarae yng Nghymru.

Caiff y newyddion ei ddiweddaru fel y bydd ein TîmGwybodaeth yn ei dderbyn, ac mae’n cynnwys dolennau iffynonellau gwybodaeth pellach perthnasol. Byddwn hefydyn cynnwys hysbysiadau am ymgynghoriadau, cyfleoeddariannu, digwyddiadau a swyddi. Mae ein gwefan yn prysurdyfu’n adnodd ‘cwbl hanfodol’ i ddarparwyr chwarae yngNghymru.

www.chwaraecymru.org.uk

Gwasanaeth Newyddion y Wefan

Gwobr

Page 4: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007NEWYDDION

4

Ofn Mynd Allan I Chwarae

Chwarae, Pasteiod a Phomgranadau

Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd ganMencap dywedodd wyth deg y cant o’rplant a’r bobl ifanc ag anableddau dysgu aholwyd, fod ganddynt ofn gadael eu cartrefrhag ofn iddynt gael eu bwlio.

Bwyd – ry’n ni gyd yn ei hoffi, yn enwedig plant (mae’n nhw’n flasus iawn gyda sôscoch!) ond mae cymaint o agendâu anghyson a chymaint o wahanol gyngor argael fel y gall fod yn anodd ar brydiau i wybod beth sydd orau i’w wneud.

Cyhoeddwyd taflen briffio ChwaraeCymru – Chwarae Cynhwysol acAnabledd, yn gynharach eleni.

Yn eu profiad hwy roeddent yn cael eu bwlio os oeddentyn mynd i’w parc lleol, i’r ysgol neu i’r clwb ar ôl ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Mencap “Golyga hyn bod plantsydd ag anableddau dysgu’n colli cyfleoedd i ddysgu agwneud ffrindiau, i gymdeithasu ac i chwarae.”

Dysgwch ragor am ymgyrch ‘Don’t Stick It’ Mencap arwww.dontstickit.org.uk

Rydym yn teimlo ei bod yn bryd cynnig cefnogaeth iweithwyr chwarae a darparwyr chwarae trwy ddarparu

gwybodaeth ac arweiniad o safbwynt chwarae a gwaithchwarae.

Mae Chwarae Cymru wedi comisiynu Brian Cheeseman, cyn-Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol y Leeds Metropolitan, mewncydweithrediad â’r maethegydd Avril Aslett-Bentley, i ysgrifennupapur briffio ar gyfer gweithwyr chwarae, rheolwyr gwaithchwarae, swyddogion datblygu chwarae, arianwyr, a’r boblsy’n gwneud penderfyniadau i egluro ein rôl fel darparwyrchwarae a gweithwyr chwarae parthed bwyd a bwyta. Maecryn bosibilrwydd y bydd yn ‘chwalu’ ambell i fyth ac yn heriorhai canfyddiadau a bydd yn siw^r o’n helpu i bledio achoschwarae.

Rydym yn disgwyl derbyn y drafft cyntaf yng nghanol misMehefin a bydd ar gael i’w lwytho i lawr o’n gwefan neu felcopi caled o’n swyddfeydd yn ystod yr haf.

Briffiad ChwaraeCynhwysol acAnabledd

Mae’n archwilio’r rhwystrau sy’n rhwystro plant anabl rhagarfer eu hawl i chwarae a sut y gallwn eu goresgyn, yn

ogystal â briffio ynghylch y cyd-destun cyfreithiol a pholisicenedlaethol.

Gallwch lwytho’r daflen briffio i lawr o adran Chwarae ein gwefanwww.chwaraecymru.org.uk neu anfonwch amlen fawr â’chcyfeiriad a stamp arni atom er mwyn derbyn copi papur o faint A4.

Caiff y Fenter Teuluoedd Iach £20miliwn ei rannu’n ddau, gyda £13miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer yRhaglen Chwarae Plant a’r £7 miliwnarall ar gyfer y Rhaglen Ffordd o Fyw.

Y Loteri FAWR

Derbyniodd Chwarae Cymru gytundeb i ddarparucefnogaeth i MAWR i drosglwyddo’r Rhaglen Chwarae Plant,a derbyniodd Hall Aitken y cytundeb i gyflawni gwaith gyda’rRhaglen Ffordd o Fyw. Mae Ffordd o Fyw yn rhaglen strategolfydd yn profi ffyrdd newydd o hyrwyddo bwyta’n iach agweithgarwch ymysg plant trwy brosiectau sy’n cynnwys yteulu cyfan. Mae’r rhaglen hon bellach yn derbyn ceisiadau.

Am ragor o wybodaeth ymwelwch âwww.cronfaloterifawr.org.uk

Page 5: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007NEWYDDION

5

Plant Yng Nghymruyn herio’r Llywodraeth

I ddysgu rhagor am waith Comisiynydd Plant Cymru ymwelwch â www.complantcymru.org.ukRhif rhadffon Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yw

0808 8011000Er mwyn cysylltu â’r gwasanaeth trwy rad-destun galwch 80800 a dechrau eich neges gyda COM.

Bob blwyddyn caiff dros bum cant o blant a phobl ifanceu cynorthwyo gan wasanaeth Cyngor a Chefnogaeth y

Comisiynydd Plant. Trwy gyflwyno’r gwasanaethau rhadffona rhad-destun yn arbennig ar eu cyfer – yn ogystal âchyfeiriad ebost [email protected] – hyderir y bydd rhagor oblant a phobl ifanc yn cysylltu â’r tîm yn uniongyrchol.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth a chyngor ynghylch derbyny gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt, mae tîm yComisiynydd hefyd wedi galluogi a chefnogi pobl ifanc sy’npryderu am ystod o wahanol faterion, yn cynnwyspenderfyniadau cynllunio a chyfleoedd chwarae rhad yn eucymunedau lleol. Mae’r gwasanaeth rhadffon ar agor yn ystodyr wythnos yn ystod oriau swyddfa ac mae ar gael yn yGymraeg a’r Saesneg (gellir gwneud trefniadau hefyd i gaelmynediad iddo mewn ieithoedd eraill).

Lansiwyd y rhif newydd ar y 23ain o Fai ac, fel rhan o’r gwaithhyrwyddo, cynhyrchwyd DVD. Fe ddaw’r DVD gyda phecyn ihwyluswyr, gaiff ei anfon i bob ysgol uwchradd yng Nghymrua’i ddarparu ar gyfer grwpiau a phrosiectau pobl ifanc eraill ynyr hydref. Mae un o’r senarios a geir ar y DVD yn ymwneud âchyfyngiadau ar chwarae.

Bob blwyddyn caiff plant a phobl ifanc leisio eu barn arddylanwadu cynllun gwaith y tîm a chlustnodwyd dau‘brosiect Comisiynydd’. Eleni, roedd y plant a’r bobl ifanc am idîm y Comisiynydd edrych ar ffyrdd o ‘wneud dysgu’n well’. Odan y pennawd chwarae a hamdden, roedd plant a phoblifanc am wella mynediad a chyfleoedd i blant a phobl ifancanabl i chwarae. Derbyniodd yr opsiwn hwn 30% o’r bleidlais acheir rhagor o fanylion am hyn yn y rhifyn nesaf o Chwaraedros Gymru.

Dywed Plant Yng Nghymru “Mae’r ddogfen yn herio’rgwleidyddion i fynd i’r afael â’r prif faterion y cred ein

haelodau sydd angen sylw, er mwyn gwella bywydau plant aphobl ifanc sy’n byw yng Nghymru.”

Gellir llwytho’r ddogfen hon i lawr ar:www.plantyngnghymru.org.uk/policy/news/7260.html

Y newyddion diweddaraf gandîm y Comisiynydd PlantMae gwaith tîm Comisiynydd Plant Cymru’n parhau yn dilyn marwolaethPeter Clarke. Ymysg y datblygiadau diweddaraf mae lansiad rhif rhadffon newydd a phrosiectar chwarae i blant a phobl ifanc anabl.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Plant YngNghymru, y sefydliad ymbarélcenedlaethol ar gyfer mudiadau plant,‘Cymru Addas ar gyfer Plant a Phobl Ifanc2007’ sy’n amlinellu argymhellion ar gyfercamau allweddol i’r Llywodraeth yncynnwys gweithredu Strategaeth ChwaraeLlywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn dilyn cyhoeddi £1miliwn yn ychwanegol, addyfarnwyd fel rhan o gronfa Cymorth ar gyfer2007-2008, ar gyfer cyfleusterau chwarae argyfer plant anabl, ysgrifennodd LlywodraethCynulliad Cymru at bob un o’r PartneriaethauPlant a Phobl Ifanc ym mis Chwefror i ofyn ameu cynigion ar sut y byddent yn dymuno i’rcyllid ychwanegol gael ei ddefnyddio. Caiff yrarian ychwanegol yma ei rannu felychwanegiad i Cymorth.

Mae’r cynigion yn cael eu hasesu ar hyn o bryd ganLywodraeth Cynulliad Cymru a gwneir datganiad

maes o law.

Mae pob un o’r partneriaethau wedi ymateb mewn moddcadarnhaol ynghylch y cyllid hwn ac mae’r cynigion yncyfeirio at ddefnydd amrywiol a llawn dychymyg o’r arian.

Rhagor o Arian ar gyferChwarae i Blant Anabl

Page 6: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007CYNHWYSIAD

6

Yn ei swydd blaenorol roedd ein Swyddog Datblygu, Sarah Southern, yn gyfrifolam ddatblygu darpariaeth chwarae wedi ei staffio ym Mlaenau Gwent. Yma,mae’n adrodd stori Josie. Cafodd yr enwau eu newid:

Ym mis Medi y llynedd dechreuoddCanolfan Integredig Plant ‘Heart

of the Valleys’ redeg sesiynauchwarae mynediad agored ar ôlysgol.

Yn ystod yr wythnosau cyntaf fegwrddom â theulu Josie oedd yn nawoed – roedd ei Mam wedi bod ynmynychu cwrs magu plant yn yGanolfan ac fe ddaeth â’i dwy ferchdraw. Roedd y ferch ieuengaf, Sue, ynmynychu’r ysgol gynradd prif ffrwd leolac roedd yr hynaf, Josie, yn mynychu’rysgol “arbennig” agosaf.

Er bod ei Mam wedi dod draw igofrestru Sue, fe wnaethom egluro einbod yn hapus i Josie fynychu. Wnaeth

hi ddim derbyn y cynnig ar y cychwyn,er yn fuan wedi iddi adael feddychwelodd gyda Josie, oedd wedigwneud stw^ r gan ei bod am aros ichwarae gyda’i chwaer a’i ffrindiau.Wedi inni dawelu meddwl ei Mam ybyddem yn gallu “ymdopi” â Josie, feadawodd ei dwy ferch yn y sesiwnchwarae. Yn fuan iawn roedd Josie a’ichwaer yn mynychu’n rheolaidd.

Ar y dechrau, roedd Sue yn warchodoliawn o Josie a threuliodd lawer oamser yn edrych ar ei hôl. Wrth innidyfu’n fwy cyfarwydd â’r chwiorydddaethom yn fwy abl i gefnogi euchwarae – a golygodd hynny y gallaiSue chwarae gyda’i ffrindiau a’r plant

eraill heb y cyfrifoldeb o ofalu amJosie. Roedd Josie angen cefnogaethgan y gweithwyr chwarae i hwylusocyfathrebu â’i chyfoedion oedd ddimyn anabl. Wedi rhai wythnosau (agwyliau hanner tymor) dywedodd eiMam wrthym gymaint o "achubiaeth"oedd y sesiynau chwarae i’r teulu, ganeu bod yn darparu man diogel i’rmerched chwarae allan gyda’ucyfeillion lleol, ac yn cynnig rhywfaint oseibiant ar ôl ysgol ac yn ystod ygwyliau.

Nid oedd gennym unrhyw weithwyrchwarae cynhwysiad arbenigol ar ysafle. Mae Josie yn dal i fynychu chwemis yn ddiweddarach.

Stori Josie

Pob PlentynMae gan bob plentyn yr hawl i chwarae;mae’n hanfodol i bob un ohonom wrth innidyfu i fyny. Pe na baem yn gwybod hyneisoes o’n profiad personol, mae wedi eigorffori yng Nghytundeb y CenhedloeddUnedig ar Hawliau’r Plentyn a’i gynnal ganBolisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Fel darparwyr chwarae a gweithwyr chwarae maegennym ddyletswydd i ddarparu profiadau chwarae

cynhwysol a chyfoethog i bob plentyn.

Pan fyddwn yn meddwl am chwarae cynhwysol, yn amliawn byddwn yn meddwl yn gyntaf am blant sydd â namau– sy’n cael eu anablu gan gynllun yr amgylchedd y maentyn byw ynddo ac agweddau rhai o’r bobl o’u hamgylch.Ond golyga chwarae cynhwysol ddarparu ar gyfer pobplentyn all gael ei eithrio oherwydd ei ffydd, nam, diwylliant,cefndir cymdeithasol, iaith, ymddygiad neu angen. Ymarydym yn dathlu amrywiaeth plant Cymru.

Page 7: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007CYNHWYSIAD

7

“Rydym wedi dysgu dros y tair blynedd diwethaf bod darparu gwasanaethgwirioneddol gynhwysol yn gofyn am ymdrech, brwdfrydedd, dealltwriaeth,amynedd a stamina.”

Soniodd Janet Roberts wrthym am fenter ChwaraeCynhwysol yn Sir y Fflint mewn rhifyn blaenorol o

Chwarae dros Gymru. Yma mae’n adrodd yn ôl am ygwersi a ddysgwyd o safbwynt Swyddog DatblyguChwarae:

Hon fydd y drydedd blwyddyn i’n ‘Cynllun Bwdi’ weithredu ardraws y sir – hynny yw, Cynllun Bwdi Sir Y Fflint a ariannwydgan CYMORTH mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol achynghorau tref a chymunedau lleol, sydd wedi darparutystiolaeth o ‘arfer da’ yng nghyd-destun gweithiopartneriaeth effeithiol a gwir gydlyniad cymunedol achynhwysiad cymdeithasol.

Yn ystod dyddiau cynnar ariannu CYMORTH, codwyd ymater o ddiffyg cyfleoedd chwarae ar gyfer plant aganableddau yn y cyfarfod cychwynnol o Fforwm ChwaraeSir Y Fflint. Mewn ymateb i hyn, ffurfiodd yr Uned Chwarae a’rgweithwyr chwarae berthynas gyda phlant, teuluoedd aphobl broffesiynol eraill a daeth yn hanfodol i gynydduhyder a dealltwriaeth yn y gwasanaeth y gallem ei gynnig.Yn dilyn llawer o drafod rhwng y partneriaid, ffurfiwyd clwbchwarae ar ôl oriau gwaith. Mae’n amlwg i’r clwb hwn fodyn fan cychwyn amhrisiadwy ar gyfer darparugwasanaethau chwarae i blant anabl.

Golygodd llwyddiant y cynllun peilot cychwynnol hwn ygallai’r Uned Chwarae gynllunio’r Cynllun Bwdi i’wdrosglwyddo fel rhan o’r rhaglen Cynllun Chwarae Haf sirolmewn partneriaeth â chynghorau tref a chymunedol lleol.Anfonwyd gweithwyr chwarae o’n Tîm Chwarae i weithredufel Bwdis i grw^p bychan o blant anabl. Arweinioddllwyddiant y prosiect peilot hwn at gyflogi deg o BwdisCynllun Chwarae yn ystod Haf 2006 i weithio gyda dauddeg tri o blant oedd yn mynychu cynlluniau chwarae yneu hardal eu hunain yn ystod yr haf.

Cyflogir Bwdis fel rhan o dîm chwarae ehangach ar y saflemewn cynlluniau chwarae haf a byddant yn darparucefnogaeth un-i-un (ble fo angen) i blant anabl. Agweddbwysig o’r rôl yw cynnal cysylltiad rhwng rhieni/gofalwyr a’rUned Chwarae. Bydd Bwdis yn cwrdd â theuluoedd unigolcyn i’r cynllun ddechrau ac yn parhau i weithio â hwy trwygydol oes y cynllun chwarae.

Mae hanner cant a phump o blant wedi cofrestru gyda’rCynllun Bwdi ar gyfer Haf 2007 ac rydym wedi recriwtiougain o Bwdis Cynllun Chwarae.

Mae gwerthuso’r cynlluniau wedi rhoi llawer o dystiolaeth inniynghylch yr angen am yn ogystal â llwyddiant pob cynllunac mae’n dangos effaith bychan ond arwyddocaol.

Allen ni ddim bod wedi cyflawni hyn oni bai amgymorth: Y plant a’r bobl ifanc; y rhieni a’r gofalwyr;PPPI Sir Y Fflint; GAIP Sir y Fflint (Gwasanaeth Anabledd Integredig Plant); Ysgol y Bryn, Shotton; Cynghorau Tref a Chymuned Lleol Sir Y Fflint.

Rydym wedi dysgu, er mwyn sicrhau newid, y bu angeni’n gwasanaeth addasu. Yn fyr, bu angen inni:

• Drefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â theuluoedd ermwyn siarad ‘yn agored’ ac yn onest

• Bod yn barod i wrando ar feirniadaeth gan deuluoedd aphlant – yn seiliedig ar brofiadau negyddol blaenorol!Roedd yn rhaid inni fod yn barod i’w ‘chymryd hi’n ddi-gw^ yn’ a ‘symud ymlaen’

• Bod yn barod i dderbyn bod angen i’r gwasanaeth newid• Bod yn onest, yn agored, yn hyblyg yn ein hagwedd ac yn

realistig• Bod yn barod i symud ‘dau gam ymlaen a thri cham yn ôl’• Bod yn barod i fynd y tu hwnt i’n ‘cylch cyfforddusrwydd’.

(Doedden ni ddim yn sylweddoli bod gennym ni un hyd ynoed – ond mae’n debyg bod!) Yn fy mhrofiad i, bu’n rhaidinni oresgyn yr ofn o gael rhywbeth yn anghywir i’r plentyn apheidio â chwrdd â disgwyliadau pobl broffesiynol eraill

• Cadw’r neges yn syml! – mae gan bob plentyn hawl ichwarae’n lleol

• Mabwysiadu agwedd bartneriaeth a bod yn barod amdrafodaethau’n llawn angerdd. Rydym yn siarad am newidagweddau, am gael ‘dwyrain i gwrdd â’r gorllewin’, fellybu’n rhaid symud yn araf a gweithio gyda phobl a phoblbroffesiynol eraill ar eu cyflymdra hwy

• Gwaredu’r model meddygol ac annog nerth rhieni. Gwaredu’rrhwystrau ar gyfer pob plentyn, er enghraifft os nad oeddtoiledau ar gael, yna nid oedd toiledau ar gael ar gyfer unrhywblant yn lleol, yr unig ateb oedd gweithio o amgylch y broblem apheidio ag edrych arno fel rhwystr i lwyddiant

• Fel rhieni neu ofalwyr, mae pob un ohonom ar yr un‘continwwm paranoia’ ble y mae ein plant dan sylw a’namharodrwydd i roi rhyddid a hawl iddynt chwarae. Roeddyn bwysig inni fabwysiadu agwedd empathig, i gydnabodbod gennym fel rhieni i gyd ofnau, ond i wthio’n araf deg achadarn am gyfleoedd chwarae o safon

• Mae gan bob plentyn yr hawl, ond efallai nid y rhyddid, ichwarae. Mae sut y byddwn yn galluogi’r broses chwarae,yn enwedig ar gyfer y plant hynny sydd â’r anableddaumwyaf dwys a lluosog, yn ddibynnol ar agwedd,dyfeisgarwch a chreadigrwydd yr oedolion o’u hamgylch

• Cadw’n gryf wrth drosglwyddo’r neges! Gallwn fod ynhyblyg yn y modd y byddwn yn trosglwyddo chwarae, ondmae’r neges yn aros yr un fath

• Rydym unai’n credu yn hawliau’r plentyn neu ddim – maemor syml â hynny. Ni allwn ‘lastwreiddio’r neges’ i gynnwysrhai a dim rhai eraill, yr unig wahaniaeth i rai plant anablyw’r lefel o gefnogaeth all fod ei hangen. Nid oes lle, yn fymarn i, i ‘griteria’ ar gyfer chwarae plant, dim ond angenam gefnogaeth, dyfeisgarwch a gweithio partneriaeth llawnac ymroddedig.

Fu’r datganiad ‘Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth’erioed yn fwy gwir!

Janet RobertsSwyddog Datblygu Chwarae Sir Y Fflint, 01352 702456

Cynllun Bwdi

Page 8: Chwarae yng Nghymru issue 21

Persbectif Rhyngwladol

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007CYNHWYSIAD

8

Stori plentyn teithwyro BelfastRwyf wrth fy modd yn bod yn Deithiwr. Rwy’n cael

chwarae allan trwy’r dydd, heblaw pan fydd raid i mifynd i’r ysgol. Mae’r mynydd yn well na maes chwarae.Rydw i a fy ffrindiau’n cael lot o ryddid.

Rydw i wedi bod i lawer o wahanol ysgolion, dros Iwerddon i gyd,ond ’dyw’r un yr ydw i ynddi nawr yn Belfast ddim yn ddrwg.Roedd yna un ysgol yn Nulyn, yr aeth fy chwaer fawr iddi, gydachawod yn y dosbarth! Wel, mewn gwirionedd caban oedd oyng nghanol yr ysgol fawr ble roedd plant eraill yr ardal i gyd ynmynd iddi. Roedd plant y Teithwyr i gyd yn mynd gyda’i gilydd i’rcaban, ar wahân i fy nghyfnither, oedd yn alluog iawn medde’nhw; fe gafodd hi ei symud i’r adeilad mawr. Ond ’doedd oddim yn llawer o hwyl iddi hi oherwydd fe ddywedon nhw wrthibeidio â chymysgu gyda ni gan y bydde’ ni’n ddylanwad drwg.

Ni oedd plant glana’r ardal, byddai Ma’n ein sgwrio nes bod einwynebau’n sgleinio ... ac yna fe fyddai’r athrawon yn ein golchi.Roeddet ti’n sylweddoli dy fod yn wahanol pan fyddet yn caeldy ginio ar blatiau gwahanol i’r plant eraill; rhai plastig oedd einrhai ni, ti’n gwybod, y math y byddi’n eu taflu i’r fasged sbwrielwedi i ti fwyta.

Fyddwn ni ddim yn symud o amgylch gymaint y dyddiau hyn,’does dim llawer o safleoedd inni barcio’r trelar ynddyn nhw. Mae’rbobl sefydlog am inni fyw mewn tai, ond fe glywais i Deithwyreraill sy’n byw mewn tai yn dweud nad ydyn nhw’n cael euderbyn. Ar y ffordd i’r ysgol y bore yma fe waeddodd grw^ p oferched bychain, fy oed i, i mewn trwy ffenest y car, “Teithwyrbudr, budr”. Mae Ma yn dweud, “Waeth beth y bydd Teithiwr yn eiwneud, gawn nhw ddim eu derbyn” ac rwy’n ei chredu.

FFEITHIAU• Mae Teithwyr Gwyddelig yn bobl frodorol sy’n gallu olrhain

eu gwreiddiau’n ôl dros gannoedd o flynyddoedd.

• Mae disgwyliad einioes Teithwyr tua 20 mlynedd yn llai naphobl sefydlog.

• Mae’r gyfradd marwolaethau babanod dair gwaith yn uwchna’r boblogaeth gyffredin.

• Mae 92% o Deithwyr heb unrhyw raddau TGAU a cheir lefeluchel o anllythrennedd. Mae llai o gyfleoedd ar gyfercyflawni safonau addysgol ac mae lle i astudio gartref ynbrin, os oes lle o gwbl.

“Waeth beth y bydd Teithiwr yn ei wneud, gawn nhw ddim eu derbyn”

Yn darparu cyfleoedd chwarae ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ynamgylchedd eu cymuned eu hunain.

Fel pobl broffesiynol ym maeschwarae, credwn fod gan bob

plentyn a pherson ifanc yr hawl i broficyfleoedd chwarae ysgogol a diogel ynamgylchedd eu cymuned eu hunain.

O gofio hyn, dros y flwyddyn diwethaf maeGwasanaeth Chwarae Torfaen wedi ffurfiocysylltiadau cadarnhaol gyda’r safleteithwyr ar Shepherds Hill, Pont-y-pw^l. Yn ycychwyn, fe ddechreuom trwy ddarparu achefnogi dau weithiwr chwarae i weithiodros sesiynau o awr ar y tro yn ystodgwyliau’r hanner tymor, i roi blas i’r plant a’rbobl ifanc o’r hyn yr ydym yn ei wneud.Trwy gyflwyno’r sesiynau chwarae mewnmodd araf a chyson, caniataodd hyn inniadeiladu ymddiriedaeth gyda’r gymuneda chyfleu ein bod yno i ddarparucyfleoedd chwarae’n unig, ac nad oeddgennym yr un agenda gudd arall.

Arweiniodd yr ymateb cadarnhaol atgyfleoedd gwaith maes wythnosol ar ysafle. Yn ogystal, mae’r gweithwyr chwaraewedi annog dau o aelodau’r safle i ddodyn wirfoddolwyr ac i helpu gyda rhedeg ysesiynau chwarae. Arweiniodd hyn at ffurfiocynllun chwarae haf yn neuadd Pont-y-moel sydd gerllaw safle’r teithwyr. Rydymyn cynnig cyfleoedd hyfforddiant er mwynrhoi cyfle i aelodau o’r safle sydd dros unar bymtheg oed i redeg eu darpariaethchwarae eu hunain gyda chefnogaethein gwasanaeth chwarae ni.

Mae’r niferoedd dyddiol o blant a phoblifanc sy’n cymryd rhan yn y cyfleoeddchwarae wedi tyfu i bump ar hugain ar raidyddiau. Lleolir y safle mewn amgylcheddnaturiol, sy’n caniatáu ystod eang obrofiadau chwarae amrywiol achyfoethog – sy’n rhoi cyfle i’r plant a’r

bobl ifanc i gofleidio’r amgylchedd naturioltrwy gyfrwng chwarae. Mae cyfleoeddchwarae poblogaidd a ddarparwyd ar ysafle’n cynnwys gemau parasiwt,ymladdfeydd dw^r ac adeiladucuddfannau. Mae hyn wedi caniatáu acysbrydoli’r plant a’r bobl ifanc i brofiamrywiol fathau o chwarae ac i ymwneuda’r elfennau naturiol.

Andrea Sysum, GwasanaethChwarae Torfaen, 01495 740924

Prosiect Teithwyr Torfaen

Page 9: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007CYNHWYSIAD

9

Trwy gydol y flwyddyn diwethaf rwyf wedibod wrthi’n sefydlu fy rôl fel Gweithwraig

Datblygu Chwarae Lleiafrifoedd Ethniggyda’r Tîm Chwarae Plant yn Abertawe.

Mae nifer cynyddol o deuluoedd lleiafrifoeddethnig a cheiswyr lloches yn byw yn Abertawear hyn o bryd, ond mae’r nifer o blant o’rcymunedau hyn sy’n cymryd rhan mewndarpariaeth leol ar ôl ysgol a gwyliau yn isel o’igymharu â grwpiau eraill o’r boblogaeth. Fynod fel Gweithwraig Datblygu fu ceisio unioni’rfantol ac annog rhagor o blant i elwa o’ramrywiaeth o gyfleoedd chwarae o safonsydd ar gael yn eu hardal leol.

Cynhaliwyd un prosiect, ble yr oedd ynamlwg bod plant du a lleiafrifoedd ethniglleol yn absennol, yn ardal ethnig amrywiol aphoblog Sain Helen. Yn dilyn monitro ffigyraumynychu daeth yn amlwg, er i’r prosiect fodyn llwyddiannus ar y dechrau wrth ddenunifer fechan o blant o’r boblogaeth amrywiolleol, ei fod wedi methu cynnal diddordeb ygrw^ p penodol hwn tra bo eu cyfoedion ynparhau i fynychu.

Pam oedd niferoedd y plant hyn wediedwino?

Beth allwn i ei wneud i geisio gwneudclybiau chwarae y dyfodol yn fwycynhwysol a’u cael i apelio at gymunedamrywiol?

Sut allwn i gyfleu’r neges i’r gymuned hon,bod y cyfleoedd chwarae oedd ar gaelyn lleol o fudd mawr i ddatblygiad euplant, i’w cymunedau hwy, ac i gydlyniady gymuned yn gyffredinol?

Arweiniodd y cwestiynau hyn at lansio prosiectchwarae ac ymgynghori ym Mosg Abertawe,ble y buom yn archwilio ffyrdd i ymwneud â’rplant. Trefnais gyflwyniad byr ar gyfer yr Imam,arweinyddion y gymuned a phlantmoslemaidd lleol yn ystod eu cwrdd gweddihwyrol. Cefais gyfle i gyflwyno fy hun, egluro fyrôl a hyrwyddo buddiannau chwarae iunigolion ac i’r gymuned yn gyffredinol.

Lansiwyd prosiect pum wythnos ble ytrosglwyddwyd sesiynau ‘profi chwarae’ yn yMosg, gan ddenu pedwar ugain o blant. Ynogystal â hyn, cynhaliwyd gwaith ymgynghoriyn ystod y sesiynau. Cydweithiais â GweithiwrDatblygu Cymunedau’n Gyntaf oedd ogefndir moslemaidd. Llwyddom i gasgluymatebion gan saith deg pump o blantoedd yn byw yn nifer o gymdogaethauamrywiol Abertawe, gan ein galluogi i greudarlun ynghylch eu presenoldeb mewncynlluniau a chlybiau chwarae.

Dim ond un rhan o dair o’r 75 o blant aholwyd ddywedodd eu bod yn mynychu

clybiau ar ôl ysgol, a nododd 13% bodamserau clybiau gyda’r nos yn gwrthdarogydag amser mynd i’r mosg, a dywedodd11% nad oedd eu rhieni’n caniatáu iddyntfynychu.

Dim ond 35% o’r rhai a holwyd oedd ynmynychu cynlluniau chwarae yn ystod ygwyliau, gyda 28% ohonynt yn nodi amrywiolresymau megis diffyg amser, bod yn rhybrysur, neu ddim yn gallu trafferthu mynd i’rclwb.

Yn ystod y sesiynau profi, daeth y plant yngyfarwydd â mi a’m cydweithwyr yn y TîmChwarae – gan greu ymdeimlad oymddiried. I lawer o’r plant roedd hwn efallai’ngyfle prin i chwarae’n rhydd ac archwiliodeunyddiau chwarae a rhannau rhyddmewn nifer o wahanol ffyrdd creadigol. I eraill,roedd yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewnchwarae rôl, neu chwarae gwyllt mwycorfforol heb gyfyngiadau rhieni. Roedd yprosiect hwn yn cynnig cipolwg i bob plentyno’r hyn allai fod ar gael mewn cynlluniauchwarae lleol sydd ar riniog y drws. Trwybrofiad uniongyrchol roedd modd iddyntddatblygu gwell ymwybyddiaeth o werth amwynhad chwarae. Roedd plant hy^n, oeddwedi dweud wrthym ar y dechrau eu bod yn‘rhy hen’ i ddefnyddio rhai o’r pethau oeddgennym gyda ni, yn ymdaflu eu hunain i’rchwarae ac yn amharod iawn i’r sesiwn ddodi ben.

Roedd ein hymweliadau â’r mosg yn creucyffro enfawr ymysg y plant, a byddai rhieniMoslemaidd yn taro eu pen trwy ddrws ein‘man chwarae’ i gwrdd â ni a dysgu rhagoram ein gwaith. Bu’r Imam yn ein helpu i roicyhoeddusrwydd i gynlluniau a chlybiauchwarae yn y dyfodol, ymysg plantmoslemaidd lleol yn ogystal â’u rhieni. Rhaio’n strategaethau eraill i gynyddu

ymddiriedaeth oedd: mynychugwasanaethau ysgol; hyrwyddo’r neges bodcynlluniau chwarae’n ‘gynhwysol’; a gwneudyn siw^ r bod rhieni lleol yn fy adnabod i a fy rôl.

Yn dilyn y sesiynau chwarae yn y mosg,hyrwyddwyd y cynllun chwarae dilynol ynardal Sain Helen fel ‘Cynllun Cymunedol’ adrosglwyddwyd gan bartneriaeth rhwngMEWN (Minority Ethnic Women’s Network), tîmgweithwyr chwarae Tardis Abertawe aminnau. Dyluniwyd posteri hysbysebu yndangos plant yn chwarae, oedd yn cynnwysystod ehangach o ddelweddau ‘clip art’lleiafrifoedd ethnig er mwyn atgyfnerthuneges gynhwysol. Roedd gweithio mewnpartneriaeth â Gweithwraig Datblygu MEWNa’r gweithwyr chwarae’n golygu bod yraelodau hyn o’r tîm yn adnabyddus i’r planta’r teuluoedd moslemaidd, yn ogystal â bodo gefndir diwylliannol tebyg.

Roedd y nifer o blant DLlE a fynychodd ycynllun hwn yn uwch na’r nifer a fynychodd yprosiect chwarae blaenorol, gyda dau ddegtri o blant Asiaidd neu foslemaidd yn cymrydrhan dros ddau ddiwrnod allan o gyfanswm osaith deg naw o fynychwyr.

Felly beth yn digwydd yn y dyfodol?

Yn ddiweddar cyflwynais gais ariannu i MAWR,ac rwy’n hyderu y bydd llawer mwy o blant ogymunedau amrywiol Abertawe’n cael cyfle’nfuan i brofi’r oll sydd gan ein sesiynau profichwarae i’w cynnig.

Fy mreuddwyd a’m gobaith yw y byddant yneu cael eu hunain yn cymryd rhan yn eindarpariaeth chwarae prif ffrwd, ble y gallantgymysgu gydag eraill a chreu cysylltiadau achyfeillgarwch fydd yn parhau y tu allan a’r tuhwnt i’r hyn y byddwn yn ei ddarparu.

Carmen Thompson01792 635156

Yma mae Carmen Thompson, Gweithwraig Datblygu Chwarae Lleiafrifoedd EthnigDinas a Sir Abertawe’n sôn wrthym am brosiect diweddar:

Chwarae yn y Mosg

Page 10: Chwarae yng Nghymru issue 21

Trefnodd y bachgen naw mlwyddoed a’r gweithiwr chwarae bob un

o’r teganau meddal o amgylch yml ypwll sych. Beth bynnag oeddentwrthi’n ei wneud, roedd y ddauohonynt wedi ymgolli’n llwyr yn ydasg.

I berson sydd ddim yn weithiwr chwarae,fyddai dim rheswm amlwg pam fod ybachgen hwn yn defnyddio maeschwarae cynhwysol ac angencefnogaeth gweithiwr chwarae i wneudhynny. Ond, gwyddai’r gweithiwrchwarae na allai’r bachgen ymdopi ifod yma heb gefnogaeth. Maent wedidod i adnabod ‘diwylliant’ y plentyn;maent yn gwybod bod ganddoddiddordeb hollysol am bob math ochwedloniaeth ac nad yw’n galludarllen. Fe all fod yn danllyd ac yn llawncreadigedd ac ar brydiau’nhunanladdol o isel ei ysbryd. Ambellddiwrnod gall fod mor ddig fel y byddyn troi’n dreisgar a thro arall gall ganfodyr awen i ddisgrifio awyr gymylog felenfys llwyd. Weithiau bydd yn creugweithiau celf anhygoel o sbwriel a throarall bydd yn gwrthod bwyta unrhywfwyd nad yw’n grwn. Heb alluymroddedig a dychmygus ymyrraethgweithwyr chwarae da, ni allai’rbachgen hwn hyd yn oed ddioddef ifod yma, yn y maes chwarae anturmwyaf hynaws hwn, ar ddiwrnod tawel.

Ai dyma’r hyn y byddwn ynmeddwl amdano pan fyddwn ynsiarad am chwarae cynhwysol?

Nage mae’n debyg. Fe fyddwn i’n tybiomai’r ddelwedd ddaw i’r meddwl yw uno blentyn sy’n defnyddio cadair olwyn yntroi i fyny ar safle ac am chwarae gyda’iffrindiau a’i fod yn methu mynd i mewngan fod neb wedi cofio lledu’r drysau.

Rwy’n cofio plentyn ifanc chwaraeoddran flaenllaw ar y maes chwarae ble yroeddwn yn gweithio. Dyma oedd ei

ddiwylliant: roedd yn gymeriad cryf acyn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod. Roeddyn gwbl ddall. Roedd yn ffraeth ac ynalluog iawn yn gorfforol. Roedd ynmeddu ar draw perffaith a byddai’ncreu cerddoriaeth byrfyfyr anhygoel arein piano hynafol. Roedd yn aelod odrydedd cenhedlaeth o deulu addaeth o Jamaica. Un diwrnod, daethoedolyn oedd yn ymwelydd rheolaiddâ’r safle a phlethu ei freichiau o dangeseiliau’r bachgen a’i sgubo i'r awyr.Roedd y plentyn yn gandryll gyda’rsymudiad sydyn, dychrynllyd acannisgwyl yma a bloeddiodd “Oi! Dwi’nddall chi’n gwybod!” Un gwirionedd symlwnaeth fy mwrw pan waeddodd ygeiriau hynny oedd ei fod yn galludweud wrthym sut i ymdrin â’ianabledd. Efallai nad oedd ganddosyniad sut beth oedd gweld ond yn sicrroedd yn deall yr hyn oedd angen i ni, ybobl oedd yn gweld, ei wybod am eifyd e’.

Ni allai’r bachgen oedd yn eistedd aryml y pwll yn trefnu teganau meddalddisgrifio’r hyn yr oedd ei angen innimewn modd mor eglur. Roedd eianghenion yn rhai niferus a chymhleth abyddai wedi cymryd naid anferth ahaniaethol mewn dealltwriaeth iddoddeall digon ar ei gymhlethdod ei hun iroi unrhyw wybodaeth ddefnyddiol inni.Doedd dim modd o gwbl iddoddychmygu sut beth yw byw heb eianabledd e’, felly allen ni ddim disgwyliddo egluro ei anabledd inni. Ond feallai ddefnyddio geiriau i roi blas inni arei fyd e’.

Roeddwn wrth fy modd nad oeddEgwyddorion Gwaith Chwarae (2005) yncynnwys y gair ‘anabledd’. Yn hytrach,maent yn sôn am ‘bob plentyn apherson ifanc’, am ‘fframwaithproffesiynol a moesegol’ ac yn ‘disgrifio’rhyn sy’n unigryw am chwarae a gwaithchwarae’. Mae hynny’n ddigon.

Sut allwn ni fel gweithwyr chwarae

ganfod byd mewnol plentyn sydd ddimyn siarad? Yn yr un modd y byddgweithwyr chwarae’n canfod bydmewnol pob plentyn sy’n chwarae.Byddwn yn arsylwi, yn dadansoddi, ynmyfyrio. Byddwn yn defnyddio sgiliau eincrefft. Ein gwaith ni yw canfoddealltwriaeth a chwrdd ag anghenionpob plentyn i chwarae.

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007PERSBECTIF RHYNGWLADOL – CYNHWYSIAD

10

Penny Wilson, Gweithwraig Cynhwysiad gydaChymdeithas Chwarae Tower Hamlets, sy’n sôn am eiphrofiad o weithio gyda phlant anabl. Mae’n aelod o’rGrw^p Archwilio a gynorthwyodd y broses o lunio’rEgwyddorion Gwaith Chwarae

Canfod y llwybr at Belydrau’r Haul

Page 11: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007PERSBECTIF RHYNGWLADOL – CYNHWYSIAD

11

Felly at chwarae’r plentyn y dylem droiein sylw. Ar un adeg, pan ddechreuaisyn y gwaith yma, dywedwyd wrthyf maiun o’r disgrifiadau diffiniol o blentyn agawtistiaeth oedd nad oeddent ynchwarae. Sut ar wyneb y ddaearddaeth hynny’n ddoethineb cyffredin?Rwyf wastad wedi teimlo’n dwpsyn llwyr,wedi fy narostwng wrth draed plant ag

awtistiaeth wrth iddynt greu eu chwaraegwyllt a gwych. Fyddwn i fyth wedidysgu i siglo yn ôl a blaen ger boncyffcoeden er mwyn profi ac ail-brofi’rllawenydd o weld pelydrau’r haul trwy’rcangau, pe na bawn wedi gweldplentyn ag awtistiaeth yn gwneud hynny.Byddai wedi bod yn ddigon hawddcamgymryd hyn am siglo defodol a’iddiystyru, ond rwy’n weithiwr chwarae,ac fe fyddwn yn gwneud pethau mewnmodd gwahanol.

Mae fy nghrefft fel gweithwraigchwarae’n gofyn i mi gadw llygad ar ytheorïau diweddaraf. I mi, golyga hynhysbysu fy hun am wahanolanableddau. Os ydw i am ddeallpersbectif byd plentyn ag awtistiaeth,yna gallaf ddarllen Dona Williams(Somebody Somewhere, 2004) allddweud wrthyf yn ddigon eglur am ymodd y mae hi’n gweld y byd a sut ymae ei synhwyrau wedi eu tiwnio’nwahanol. Trwy ei chyfathrebu hi, gallafddeall yr ysgogiad cynhenid i weldprydferthwch pelydrau’r haul drosodd athrosodd.

Trwy hysbysu fy hun am anghenioncorfforol plentyn sydd ag epilepsi sy’neffeithio ar ei atblygiad llyncu, gallafwneud yn siw^ r – pan fydd yn dechrauboddi ar ei fwyd, fy mod yn gwybodbeth sydd angen i mi ei wneud er mwynachub ei fywyd, fel a ddigwyddoddgydag Ibrahim. Yn ogystal, dysgoddIbrahim i mi am barch a gofalIslamaidd trwy ymyrraeth cariadus eifam. Dysgais yr hyn oedd yn gyfforddusa chyfarwydd iddo a sut i barchu ffyddei deulu. Dysgais hefyd sut i weithiogyda phlentyn sy’n ddall a byddar acsydd â fawr ddim defnydd o’i ddwyloac sy’n methu siarad, ac sydd ond yngallu dal ei bwysau ei hun amgyfnodau byr iawn a hynny gydachymorth oedolyn. Mae’r plentyn hwnyn gwlychu a baeddu ei hun a byddangen cymorth dau weithiwr chwarae inewid pad brwnt. A yw hyn yn golyguein bod mewn gwirionedd yn weithwyrgofal? Ddim o gwbl. DangosoddIbrahim inni, ar yr adegau preifat ahwyliog hyn, y gallai godi ei gefn panoedd angen inni lithro ei ddillad neubad glân o dan ei ben ôl. Trwy hyn feddysgom ei fod yn deall cyffyrddiadcorfforol a bod ganddo nerth yng

nghyhyrau ei gefn. O sylwi ar ffyrfdercyhyrau ei gefn fe ddysgom i fesur, wrthinni ei gynnal i gerdded, pan oedd âdiddordeb, pan oedd wedi diflasu neuwedi blino. Fe ddysgom i ddarllen eiarwyddion chwarae hynod o benodol.O hynny ymlaen, datblygodd eichwarae gan ein bod wedi canfodffordd o gyfathrebu. Fe ddechreuodd yplentyn hwn oedd yn 10 oed, nad oedderioed wedi chwarae â bodiau ei draedpan yn fabi na gweld wyneb ei fam,ganfod ei natur chwareus gyda ni.

Ynghyd â llawer o blant eraill, fewnaethom sylweddoli pa mor bwysigoedd cael cornel ar y safle oedd yngyfforddus a distaw a thawel iddoorffwys ar ôl cyfnod chwareus. Fewelom y gallai plant eraill, unwaith iddoganfod ei chwarae, ymuno ag e’ acarchwilio eu profiadau gyda’ncefnogaeth ninnau. Roedd yn dasganodd, canfod chwarae person arall a’ideimlo’n gorfforol ac yn emosiynol ondeto heb orfodi ein chwarae ein hunainar y plentyn, ond fe ddaethom o hyd iffordd i’w wneud. Fe ddysgom fod ynrhaid i blentyn sy’n gwlychu a baedduei hun ac sydd angen cymorth gydabwyd ac sydd angen cymryd moddion,gael yr anghenion hyn wedi eu hatebfel rhan annatod o’u hamgylchedd. Osydynt wedi cael y diwrnod chwaraegorau erioed, ond eu bod yn frwnt acheb gael eu moddion, yna byddwn yncolli ymddiriedaeth y rhieni sy’nmentro’n arw wrth anfon eu plentyn ileoliad cynhwysol. Heb gael y plant ynoallwn ni ddim chwarae. Mae’n ofynnolinni gwrdd â’u anghenion sylfaenol ynunion fel y byddwn yn cwrdd â gofynioniechyd a diogelwch y safle.

Fe fyddaf bob amser yn efengylaiddynghylch chwarae cynhwysol – trwyhynodrwydd chwarae ar y cyd byddwnyn dysgu i ddeall a mwynhaugwahaniaeth.

Mae’r bachgen naw oed a’r dyn ynsymud oddi wrth y cylch o deganaumeddal ac ymlaen at ffrâm chwaraearall. Ond caiff y teganau eu cymrydgan blant eraill a theithio ar anturiaunewydd o amgylch y safle. Mae’rgêm wedi dal gafael ac mae’nymledu.

at Belydrau’r Haul

Page 12: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007DATBLYGU’R GWEITHLU

12

Enw: Daniel Rees-Jones

Pwysau: 126 pwys (ond ddim ar ôl y ’Dolig)

Swydd: Rhodiwr Chwarae, Cydlynydd & Ymchwilydd/Golygydd Cwrs

HanesYm mis Rhagfyr dechreuais ar fy rôl newydd gyda’rPartneriaethau Gwaith Chwarae i ymchwilio ysgrifennu cwrslefel dau wedi ei anelu at Rodwyr Chwarae o’r enw ‘ChwaraeMas yn eu Cynefin’ gyda’r bwriad allweddol o gefnogi agymestyn sgiliau a gwybodaeth y nifer cynyddol o weithwyrchwarae sy’n gweithio y tu allan mewn amgylcheddaumynediad agored. Yn fuan iawn sylweddolais nad oeddpawb yn gyfarwydd â’r term Rhodiwr Chwarae. Felly, yngyntaf, dewch inni chwalu’r myth sy’n perthyn i’r teitl.

Y diffiniad (hyd yma) yw:“Gweithwyr chwarae cymwysedig sy’n gweithio gyda phlant aphobl ifanc mewn parc lleol neu fan agored cyhoeddus ihwyluso chwarae plant.”

Maent yn ‘weithwyr annibynnol’ all ddod ag offer gyda hwy acannog plant i wneud rhagor o ddefnydd o barciau a mannauagored yn eu cymunedau eu hunain. Maent yn gweithredu aregwyddor ‘mynediad agored’, sy’n golygu bod plant yn rhydd ifynd â dod fel y dymunant; ni chodir tâl ac ni fydd angencofrestru. Annogir plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r sesiynau yneu modd eu hunain a chwarae hunan-gyfeiriedig a ddewisir ynrhydd yw un o elfennau allweddol darparu’r gwasanaeth hwn.

Mannau CychwynGyda chyfarwyddiadau gan Richard a Ben yn ChwaraeCymru, penderfynais fynd ar daith o amgylch prosiectaurhodwyr chwarae/mynediad agored sy’n bodoli eisoes ymmhob cwr o Gymru.

Dyddiad: 19eg Chwefror – Dechrau neilltuol o ddaLleoliad: Safle Chwarae Antur yn Nhredegar NewyddGallu dilyn cyfarwyddiadau’r map: 10% yn effeithiol …mynd ar goll yn llwyr wrth yrru yno, gan fynd 24 milltir allan o’rffordd! Cyswllt: Lisa Williams, Cydlynydd Chwarae GAVOTywydd: Glaw llorweddol gyda gwyntoedd cryfion Chwarae: Er gwaetha’r tywydd garw roedd plant ynmwynhau yr hyn ymddangosai i mi fel y gêm ‘Running TheGauntlet’ o’r rhaglen deledu ‘Gladiators’ gyda phadiauchwarae meddal, mwd a glaw. Canlyniad: gwlyb a mwdlyddros ben. Llawer o hwyl.

Dyddiad: 23ain Chwefror – Diwrnod twyllodrus o oer –camgymeriad oedd anghofio’r hetLleoliad: Ardal chwarae offer sefydlog ym Merthyr TudfulGallu dilyn cyfarwyddiadau’r map: 95% yn effeithiol,treulio dim ond hanner awr yn mynd ar goll ac mewnpenbleth ym maes parcio’r Tesco lleolCyswllt: Sarah Williams, Fforwm Chwarae Merthyr TudfulTywydd: Cymylog gydag ambell i gawod o law yn ogystal âgwyntoedd deifiol o oer Chwarae: Creu hamogau a chuddfannau, wnaeth droi’n ydiwedd yn un lefiathan anferthol gyda chymorth parasiwt ac20 rhaff sgipio. Yna cafwyd gemau llithro “chwarae dwfn”.

Dyddiad: 7ed Mawrth – Diwrnod ysbrydoledigLleoliad: Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig Y Barri Gallu dilyn cyfarwyddiadau’r map: 90% yn effeithiol, gydadim ond un tro bach o amgylch y dociauCyswllt: Joanne Jones, Swyddog Datblygu Chwarae, Y Barri Tywydd: Heulog a hyfrydChwarae: Gan fod y gwasanaeth chwarae’n un tymhorol ary pryd, cafwyd cyfarfod a sgwrs dda am ddarparu’rgwasanaeth gan ganolbwyntio ar ei bwysigrwydd a’i effaith arwahanol gymunedau. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Neuaddanarferol a hardd y Dref yn Y Barri.

Dyddiad: 12ed Mawrth – Diwrnod braf i fynd am dro trwy’rgoedwigLleoliad: Coedwig breifat, mewn cilfan ger Y Bontnewydd arWy, 40 cam oddi wrth y clawdd gyda’r hen deledu. Gallu dilyn cyfarwyddiadau’r map: 100%! Roeddcyfarwyddiadau ‘Helfa Drysor’ dyrys Nik yn rhy chwareus i’wcael yn anghywir!Cyswllt: Nik Waller, ‘Play Supply’Tywydd: Diwrnod heulog braf Chwarae: Adeiladu cuddfannau a thannau mewn coedwigbreifat hyfryd, gyda rhywfaint o nofio fferllyd o oer yn yr afonGwy! Uchafbwynt, yfed sudd bedwen arian.

• Dilyn y trywydd perffaith • Y bywydperffaith • Beth allai fynd o’i le?

Dyddiadur Dan Rees-Jones

‘Darllen Mapar y Dibyn’

Page 13: Chwarae yng Nghymru issue 21

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007DATBLYGU’R GWEITHLU

13

Pam fod darpariaethhyfforddiant Gwaith ChwaraeCymraeg yn bwysig?Dylai cyfleoedd chwarae fod ar gael ibawb, a golyga hynny yn y Gymraeg a’rSaesneg. Cyn belled ac y gwn i, nid oescyfle i bobl i ymgymryd â chwrs gwaithchwarae yn y Gymraeg. Yr unighyfforddiant sydd ar gael yw Gofal Plant yny Blynyddoedd Cynnar. Mae hwn yn gwrsda sydd wedi ei anelu at blant 0 i 5mlwydd oed, ond caiff gwaith chwarae eianelu at blant 5 i 16 mlwydd oed. Os nafydd digon o gyfleoedd ar gael yn yGymraeg, bydd pobl yn dewis i hyfforddiym maes gofal plant yn hytrach na gwaithchwarae ac ni fydd yr un cyfleoeddchwarae ar gael i blant trwy gyfrwng yGymraeg.

Ceir dadl bod chwarae yr un peth waethbeth fo natur yr hyfforddiant ond maegwahaniaeth anferth. Er enghraifft nid oesunrhyw nodau neu ganlyniadau ar wahâni gefnogi anghenion a hawl plant ichwarae mewn gwaith chwarae – maedeall hyn yn gamp yn ei hun!

Er mwyn datblygu gwaith chwarae felproffesiwn, mae’n hanfodol ein bod yncael mynediad i hyfforddiant gwaithchwarae gaiff ei drosglwyddo yn ein dewis

o iaith (a dewis y plant o iaith) ac i lawer obobl yma yng Nghymru, golyga hyn trwygyfrwng y Gymraeg.

Beth gredwch chi y mae hynyn ei olygu i waith chwarae adarpariaeth gwaith chwaraetrwy gyfrwng y Gymraeg?

Trwy ddarparu gwaith chwarae trwy gyfrwngy Gymraeg, rydym yn sicrhau bodcyfleoedd chwarae o safon ar gael i ragoro blant yng Nghymru. Yn fy marn i, bydddarpariaeth ble y mae gweithwyr chwaraewedi derbyn hyfforddiant gwaith chwarae osafon yn eu dewis o iaith yn sicrhau y caiffpob plentyn ddewis yr hyn y maent am eichwarae, pryd a pham eu bod amchwarae ac am eu rhesymau eu hunain.Bydd hyn yn sicrhau bod pob cynllunchwarae, boed yn Gymraeg neu Saesnegeu hiaith, yn gweithio tuag at yr un safonau,sef yr “Egwyddorion Gwaith Chwarae”.

Louisa Addiscott yw’r Swyddog DatblyguHyfforddiant Chwarae dros GymdeithasChwarae Rhondda Cynon Taf. Ei rôl hi ywdatblygu a throsglwyddo cyfleoeddhyfforddiant sy’n hyrwyddo chwarae ardraws y sir. Mae’n weithwraig chwaraebrofiadol, yn hyfforddwraig gwaith chwaraeac yn athrawes.

Dyddiad: 12ed Mawrth – trychineb darllen mapLleoliad: ‘Drop in and Play’, Wrecsam Gallu dilyn cyfarwyddiadau’r map: 2% yn effeithiol. Fegyrhaeddais Wrecsam ond bu raid i mi gael fy nghodi. Hen dro!Cyswllt: Diane Prydden, Cynlluniau Chwarae Wrecsam Tywydd: Diwrnod heulog hyfryd ond oerChwarae: Fe wnaeth chwarae pêl-droed, yn yr Ardal GemauAml-ddefnydd am ddwy awr, i mi sylweddoli pa mor ffit ydw imewn gwirionedd (dim canran ar gael ar hyn o bryd) a gêmddifyr yn cynnwys tri bachgen, ramp o dywod gyda berfa, offerbach a hyrddiau byr o egni.

CanfyddiadauAr Ddydd Sadwrn 5 Mai cynhaliwyd y Rowndiau Terfynol Cyfeiriadu

Cenedlaethol ym Mannau Brycheiniog; yn anffodus, allwn i ddimdod o hyd iddynt a threuliais y diwrnod ym Mryste! Er fyngwamalu, mae’r ymweliadau hyn yn hynod o bwysig wrthddatblygu canllaw arfer da, realistig. Mae’n hanfodol gweld yprosiectau wrth eu gwaith, a chwrdd â’r bobl sydd ynghlwm â’rprosiectau er mwyn dysgu a deall am y gwirioneddau ymarferol.Diolch i bawb a rannodd eu lleoliadau a’u profiadau ac awnaeth fy ymweliadau yn rhai mor bleserus. Bydd eichcyfraniadau gwerthfawr yn helpu i hysbysu maes llafur y cwrshyfforddi, cyhoeddiad arfer gorau yn ogystal ag ychwanegu atgronfa gynyddol o wybodaeth ar amrywiol ddulliau acagweddau tuag at ‘Chwarae Mas yn eu Cynefin’. Bydd ycyhoeddiad newydd ar gael yn fuan.

Gellir cysylltu â Dan Rees-Jones ar: 07967212151

Fel un sydd heb unrhyw fath obrofiad o waith chwarae, ’doeddwn

i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwylcyn dechrau ar yr hyfforddiant GwaithChwarae: Rhoi Egwyddorion Ar Waith.Heb os, mae’n gwrs hwyliog, amrywiola llawn gwybodaeth.

Gan fod y cwrs yn fywiog, byddpawb yn cael cymryd rhan mewngemau ac yn cael cyfle i gydweithiomewn grwpiau bychain gydaphawb yn y grw^ p, sy’n golygu nafydd yn ddiflas ac undonog. Hynnyyw, ’dyw hwn ddim yn gwrs ble y

byddwch chi’n eistedd i lawr trwy’rdydd yn gwrando ar yr hyfforddwyryn darlithio. Rwyf wedi mwynhau’rprofiad yn fawr iawn – ac rwy’nedrych ymlaen at weithio mewncynllun chwarae yn ystod gwyliau’rhaf.

Mae Angharad Wyn Jones, ein Cynorthwywraig Gwybodaeth, yn profi’r hyfforddiant gwaith chwarae.

Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion Ar WaithCyfweliad gyda Hyfforddwraig Gymraeg P3

Page 14: Chwarae yng Nghymru issue 21

Digwyddiadau5 – 7 Medi 2007 24ain Cynhadledd Byd-eang y CyngorRhyngwladol dros Chwarae PlantY Gyfadran Addysg, Prifysgol Masaryk, Brno, Y Weriniaeth TsiecAm ragor o wybodaeth ymwelwch â: www.ped.muni.cz/iccp/

7 – 9 Medi 2007 “The Beauty of Play: Creativity”Stone, Swydd StaffordFfurflenni archebu ar gael oddi ar: www.ludemos.co.uk

16 – 17 Hydref 2007“PlayEd – Play and Human Development Meeting”WolverhamptonAm ragor o fanylion ewch i: www.playeducation.com

16 Tachwedd 2007 “Free Range Childhood” – Cynhadledd gyntafRhodwyr Chwarae’r DUCanolfan Gynadledda Ryngwladol Y Riviera, TorquayAm ragor o wybodaeth e-bostiwch: [email protected] neu galwch 01242 714603

Ariannu• Lloyds TSB FoundationMae grantiau o rhwng £1000 a £10,000 ar gael ar gyfersefydliadau sy’n gweithio gyda phobl difreintiedig.Cewch ragor o fanylion ar www.lloydstsbfoundation.org.uk

• Cronfa Llwybrau at GyfranogaethMae bwrsariaethau o £200 ar gael gan Cyfranogaeth Cymruar gyfer ymweld â phrosiect arall mewn rhan arall o’r DU.Am ragor o fanylion ymwelwch â www.cymunedauyngyntaf.infoneu galwch y llinell gymorth ar 0800 587 8898

• The Hilden Charitable Fund Hyd at £1,000 ar gyfer cynlluniau chwarae haf sydd o fudd iblant o deuluoedd ffoaduriaid a lleiafrifoedd ethnig. Am ragor o fanylion ewch i www.hildencharitablefund.org.uk

Chwarae dros Gymru Rhifyn 21 HAF 2007ARIANNU A DIGWYDDIADAU

14

Beth yw’r IPA?Mae’r Gymdeithas Chwarae Ryngwladol yn fudiadbyd-eang, di-lywodraethol a sefydlwyd ym 1961,sydd ag aelodau mewn dros hanner cant owledydd. Mae’r IPA yn fudiad rhyngddisgyblaetholsy’n dod â phobl ynghyd o bob proffesiwn sy’ngweithio gyda neu dros blant.

Beth fyddwn yn ei wneud?Byddwn yn cyhoeddi cylchgrawn rhyngwladol,‘Playrights’, ddwywaith y flwyddyn; byddwn yntrefnu Cynhadledd Chwarae’r Byd bob tairblynedd; cynhelir cynadleddau rhanbarthol achenedlaethol; mae gennym statws

ymgynghorol gydag UNICEF; mae gennymgynrychiolwyr yn y Cenhedloedd Unedig yn EfrogNewydd a Genefa; cyhoeddir cylchlythyr‘NewsBrief’ ar gyfer aelodau’r IPA yng Nghymru,Lloegr a Gogledd Iwerddon (EWNI); lleolircanolfan adnoddau chwarae IPA World yn y DU;byddwn yn cefnogi ymgyrchoedd cenedlaetholdros hawliau’r plentyn i chwarae; a bydd IPAEWNI yn trefnu nifer o weithgareddau ar gyferaelodau, gan annog agwedd ryngwladol tuagat hawl y plentyn i chwarae.

Cynhadledd Chwarae’r BydCynhelir 17eg Cynhadledd Byd Y GymdeithasChwarae Ryngwladol yn Hong Kong yn y

Brifysgol Polytechnig rhwng 8 – 11 Ionawr 2008.

Ymunwch â IPA EWNIHoffai IPA eich croesawu chi, neu eich mudiad, iymuno â’n rhwydwaith rhyngwladol ac i gymrydrhan yn y gwaith o hyrwyddo chwarae plant oamgylch y byd!

Mae aelodaeth yn agored i unrhyw unigolyn, grw^pneu fudiad sy’n ardystio Cytundeb y CenhedloeddUnedig ar Hawliau’r Plentyn.

Am ragor o wybodaeth neu er mwyn ymunoâ’r IPA, ymwelwch â www.ipa-ewni.org.ukneu e-bostiwch David Yearley [email protected]

Cyhoeddiad Newydd“The Venture: a case study ofan adventure playground”Peidiwch â chael eich camarwain! ’Dyw’r llyfr hwnddim am feysydd chwarae antur yn unig, mae’ngyhoeddiad hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd amsicrhau y bydd eu darpariaeth chwarae neugymunedol yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae’nfychan ond yn berffaith ac yn llawn doethineb,profiadau, ffotograffau a straeon. Mae’n delio âmaterion megis gweithio o fewn cymuned,ariannu, gwleidyddiaeth, cyflogi staff a llawer mwy.

Nid yw hwn yn gronicl cyflawn o hanesThe Venture nac yn gofiant o’r bobl, ynhen ac ifanc, a gyfranodd at eilwyddiant. Mae hwn yn archwiliad o sut ybu i The Venture oroesi mewnamgylchiadau anodd am dros 30mlynedd. Mae’n ymwneud â’rbuddiannau y byddwn yn eu hennill felbodau dynol wrth allu llunio ein

hamgylchedd – fel plant a phobl ifanc, aelodau o gymuned,gweithwyr chwarae, gweithwyr cymunedol, rheolwyr, arianwyra gwleidyddion.

Siaradodd Fraser Brown, Darllenydd mewn Gwaith Chwarae ymMhrifysgol y Leeds Metropolitan, â dau berson allweddol ymmywyd y maes chwarae sef Malcolm King, Rheolwr The Venture, aBen Tawil, gweithiwr chwarae a fu’n Rheolwr Cynorthwyol am bummlynedd cyn iddo ddechrau gweithio gyda Chwarae Cymru.Mae Fraser wedi tynnu o’r sgyrsiau hyn bersbectif ar hanes yddarpariaeth yma a sut y mae wedi parhau i fod yn gynaliadwyyn ogystal â chipolwg ar yr arferion gwaith chwarae a wnaeth TheVenture yn fan ble y mae plant a phobl ifanc am fod.

“The Venture is a gem of a project.” The Guardian, 2002

“The Venture: a case study of an adventure playground”,cost £7.50 & pacio a phostio. Aiff yr holl elw o werthiant y llyfrhwn i’r elusen ‘Aid for Romanian Children’. Ymwelwch â’r siopar www.chwaraecymru.org.uk i brynu ar-lein neu i lwythoffurflen archebu i lawr, neu cysylltwch â Kate yn ChwaraeCymru ar 02920 486050.

IPA – Y Gymdeithas Chwarae Ryngwladol Mae’r hawl i chwarae’n fater llosg byd-eang. O amgylch y byd caiff cyfleoedd chwarae plant eu bygwth gan ofn,tlodi, rhyfel a’r bwlch cynyddol rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Mae mater byd-eang angen ymateb byd-eang.