actif mon - medi 2013
DESCRIPTION
Bwletin Misol (Fersiwn Gymraeg)TRANSCRIPT
Hwyl Chwaraeon yr Haf Fe gymerodd dros 120 o blant ran mewn ystod o weithgareddau am ddim mewn Diwrnod Amlchwaraeon. Yn y digwyddiad ar Awst 12 yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur a chyfleusterau chwaraeon Ysgol Gyfun Llangefni fe gafodd plant Ynys Môn gyfle i gymryd rhan mewn 6 camp wahanol. Roedd Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol yn cynrychioli eu chwaraeon ar y diwrnod a chafwyd blas ar athletau, criced, hoci, rygbi’r undeb, rygbi’r gynghrair, pêl-rwyd a thenis. Bu nifer o Lysgenhadon Ifanc Ynys Môn a gwirfoddolwyr ifanc yn helpu ar y diwrnod, yn darparu gwahanol sesiynau. Dywedodd Lucy Bracegirdle, Llysgennad Ifanc yn Ysgol Syr Thomas Jones; “Roedd yn ddiwrnod gwych gyda llawer o wahanol chwaraeon gyda’r holl blant yn eu mwynhau’n fawr ac fel Llysgennad Ifanc roedd yn gyfle gwych i ni gael gweithio ochr yn ochr â’r gwahanol Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol”. Dywedodd yr Uwch Swyddog Pobl Ifanc Egnïol, Owain Jones: “Bu’r diwrnod yn llwyddiant mawr gyda nifer dda yn bresennol a sesiynau o ansawdd uchel yn cael eu darparu diolch i gydweithrediad pawb oedd ynglŷn â’r diwrnod.” Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad eleni gobeithir y bydd y diwrnod amlchwaraeon am ddim yn dod yn
ddigwyddiad blynyddol ym Môn.
* Digwyddiadau chwaraeon ar yr Ynys * Newyddion Clwb Chwaraeon * Cynlluniau ar gyfer Gemau’r Ynysoedd Jersey 2015
Mwynhaodd pobl ifanc sydd â diddordeb mewn chwaraeon nifer o wahanol weithgareddau oedd ar gael yn Sioe Amaethyddol Ynys Môn ym Mona eleni, yn cael eu darparu gan yr Uned Datblygu Chwaraeon. Ar ddiwrnod cyntaf y sioe, gwelwyd nifer fawr yn dod i geisio dringo’r wal ddringo (yn y llun mae Aron Jones o Bensarn) ac ar Diwrnod 2 roedd cwrs beicio. Ar bob diwrnod roedd yna gyfnodau ar gyfer chwaraeon fel golff, pêl-droed ac athletau. Mae Cynllun Chwarae Haf poblogaidd yn Llangefni hefyd wedi denu plant 5-12 oed
dros bedair wythnos o wyliau’r haf. Roedd y sesiynau’n cael eu darparu gan 5x60,
gwirfoddolwyr ac mewn partneriaeth â gwahanol sefydliadau a darparwyr chwaraeon.
Actif Môn
Newyddlen Hamdden a Datblygu Chwaraeon Medi 2013 - Bwletin Misol
Grant i glybiau chwaraeon a sefydliadau
Yr amser cau nesaf Medi 10 2013
Karen (01248) 752046 / [email protected]
Mae merch frwdfrydig yn ei harddegau o Ynys Môn wedi cyrraedd bron iawn at 40 awr o wirfoddoli mewn ychydig wythnosau ar ôl cysylltu â gwefan Gwirfoddoli Chwaraeon Ynys Môn. Disgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern yw Lauren Richardson 16 ac mae ganddi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn diwydiant chwaraeon ac fe arwyddodd i fyny i’r wefan i weld sut y gallai gael profiad trwy wirfoddoli. Dros wyliau’r Haf mae wedi helpu mewn nifer o Gynlluniau Chwaraeon Haf, Diwrnod Aml-chwaraeon a Chwrs Pêl Droed i blant yn Llangefni. Bu hefyd yn farsial mewn Ras Redeg Deuluol yn y digwyddiad Seiclo Tour De Môn cyntaf. Y mis hwn bydd yn helpu i roi cefnogaeth hyfforddi i glwb pêl droed Llewod Amlwch, tîm pêl droed pan-anabledd. Dywedodd Lauren: “Fe wnes i gofrestru fy manylion ar www.volunteerangleseysports.com oher-wydd roeddwn i eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon ar Ynys Môn a helpu fel y gallwn i gael pro-fiad. Mae gen i ddiddordeb mewn dod yn Llysgennad Ifanc y tymor nesaf ac i gael i mewn i hyfforddi. Mae’r wefan yn un hawdd i’w defnyddio a byddaf yn cael gwybod am lefydd gwag newydd i wirfoddoli ynddynt a gallaf arwyddo i fyny os byddaf eisiau. Rwy’n edrych ymlaen i wneud mwy yn ystod y tymor ysgol newydd hwn”.
Dywedodd y Cydlynydd Gwirfoddoli Chwaraeon, Rachel Argyle: “Mae’r wefan Gwirfoddoli Chwaraeon Ynys Môn yn ffordd newydd o gysylltu clybiau chwaraeon / digwyddiadau gyda gwir-foddolwyr tebygol. Mae am ddim ac yn hawdd iawn i’w def-nyddio a gallwch gael eich cadw yn y pictiwr gyda chwaraeon ar yr ynys ac arwyddo i fyny i unrhyw beth sydd o ddiddordeb i chi. Rydym wedi cael gwirfoddolwyr o 16 i 60 oed yn cofrestru eu manylion gyda nifer o glybiau yn cynnig cyfleon ac rydym yn go-beithio cael llawer mwy i ymuno”.
rfoddoli cefnogaeth neu i gael mwy o wybodaeth am y wefan, cysylltwch â Rachel ar [email protected] neu ffoniwch (01248) 752026. I gofrestru fel gwirfod-dolwr neu ddarparwr ar y wefan, ewch i www.volunteerangleseysports.com.
I gael gwybod mwy am Ddigwyddiadau Always aim High ar Ynys Môn, yn cynnwys Triathlon Llanc y Tywod Ynys Môn a Ras Llwybr yr Ynys yn Niwbwrch y mis hwn, ewch i www.alwaysaimhighevents.com. Mae’r digwyddiadau yn cynnwys rasus i blant wedi eu trefnu gan Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Ynys Môn.
PROFFIL Y CLWB
Clwb Canŵio Amlwch
Yn Cyfarfod : Dydd Mawrth a phenwythnosau
I ymuno, cysylltwch â
Claire ar ôl 6pm ar
01248 450496,
cyfyngiad oed 8, ac mae
amodau’n berthnasol i rai
o dan 16 oed.
Mae Clwb Canŵio Amlwch yn adlewyrchu ar bethau ar ôl haf prysur iawn. Eglurodd Cadeirydd y Clwb, Phil Edwards :
“Fe ymunodd rhai aelodau o’r clwb â Phwyllgor Gala Amlwch, gafodd ei ail sefydlu ar ôl absenoldeb o nifer o flynyddoedd, a buont yn rhoi sesiynau blasu am ddim i bobl yn yr harbwr gan ddefnyddio tri chanŵ Agored (Canadaidd) ac ychydig o gaiacau. Bu 39 o blant a 6 o oedolion yn ceisio eu gorau ar ddiwrnod poeth hyfryd ac fe ddaeth ychydig ohonynt yn ôl i gael ail flas! Mewn ymdrech i wella eu sgiliau eu hunain a’u cymwysterau ac i fynd a’r clwb yn ei flaen, fe aeth 4 aelod i’r Hyfforddiant ar Asesu Caiac Môr 3 Seren am ddau ddiwrnod. Roedd hyn yn golygu bod eu sgiliau padlo’n cael eu rhoi o dan y chwydd wydr ac yn gorffen gydag asesiad oedd yn cynnwys achub mewn dŵr dyfn gyda’r 4 yn pasio! Trwy ein bod yn aelodau o’r bartneriaeth awyr agored, gallwn wneud cais am gyllid i fynychu’r cyrsiau hyn. Eu nod, fel ein nod ninnau, yw cael cymaint ag sy’n bosibl o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr awyr agored, ac sy’n bosibl.
Pe bai unrhyw un ohonoch yn dymuno cymryd rhan mewn canŵio, mae’r clwb yn cynnig
tair sesiwn flasu am £5 y sesiwn. Mae hyn yn cynnwys offer ond bydd rhaid i gyfranogwyr
ddarparu dillad eu hunain ar gyfer y canŵio yn y disgwyl y byddant yn wlyb domen yn y
diwedd (dewch a dillad sbâr).
Cynhaliwyd Diwrnod o Hwyl i’r teulu cyfan i gynorthwyo gyda lansio clwb newydd ar gyfer pobl gydag anabledd a’u teuluoedd. Bydd Cylch Teulu / Family Circle yn cychwyn ym mis Medi ac roedd y Diwrnod o Hwyl yng Nghanolfan Hamdden Amlwch yn gyfle i roi gwybodaeth am y clwb cynhwysiad
cymdeithasol a rhagflas o’r gwahanol weithgareddau a fydd ar gael yn y sesiynau a gynhelir ddwywaith y mis. Mwynhaodd pobl o bob oed amrywiaeth o stondinau a lluniaeth, celf a chrefft, peintio wynebau, castell bownsio a llawer mwy. Arweiniwyd y sesiynau chwaraeon gan Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Ynys Môn ac fe’u darparwyd gan Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru Karen Wil-liams a’r Swyddog Cymunedau Oed-Gyfeillgar John Pritchard. Darparwyd y sesiynau chwarae gan Meirion Owen o Dewis Chwarae. Cafwyd cymorth gan nifer o wirfoddolwyr fel bod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn.
Mae cynlluniau eisoes yn cael eu rhoi yn eu lle ar gyfer timau Ynys Môn yng Ngemau’r Ynysoedd yn Jersey 2015. Cynhaliwyd noson lwyddian-nus yn y Fali Hotel i ddathlu’r llwyddiannau yn Bermuda ac i edrych ymlaen i’r digwyddiad nesaf. Mae’r amseroedd cymhwyso ar gyfer digwyddiadau athletaidd wedi eu rhyddhau ac i’w cael ar y wefan – www.ymiga.co.uk. Mae pêl droed i ferched yn gobeithio mynd â sgwad i’r gemau. Gofynnir i chwaraewyr sydd â diddordeb gysylltu â Karen Williams ar [email protected] neu 07810530326.
C a n o l f a n H a m d d e n Biwmares a’r Cylch - Clwb Ffitrwydd bore Sadwrn, o 11am - 12pm i rai 14-16 oed. Yn dechrau Medi 17. Menter Ffit am Oes. £3 y sesiwn gyda hyfforddwr ar y safle yn cynnig cyngor. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Hamdden ar (01248) 811200. Bydd Clwb Trac a Maes Menai yn cynnal dwy Noson Anwytho Dechreuwyr Newydd nos Lun, Medi 30 a nos Fercher Hydref 2 o 6.30 i 8pm. Yn ystod y sesiynau bydd hyfforddwyr yno i ateb unrhyw gwestiynau fydd gan athletwyr a rhieni ac i’w cyflwyno hwy i’r clwb. Rhaid bod yn 9 oed i ymuno. Cost y sesiwn £2. Mae cyrsiau Caiacio Môr wedi eu diweddaru yn ddiweddar ar www.b-active-rhosco lyn .co.uk gyda sesiynau blasu i blant a t h e u l u o e d d a r kayakanglesey.co.uk Mae sesiynau Nof io
Anabledd am Ddim ar fore
Sadwrn ym Mhlas Arthur yn
mynd o nerth i nerth, gyda’r
rhai sy’n mynychu yn elwa o
gyngor yr athro nofio Roy
Wolliscroft sydd wedi helpu
dau sydd wedi mynychu o’r
cychwyn, George Page i
gael ei fathodyn nofio 50
metr a’i frawd Sid Page i
gael ei fathodyn nofio 25
metr yn ddiweddar. Mae’r
sesiynau yn cael eu cynnal
o 3-5pm i bobl o dan 25 oed
sydd ag anabledd, a’u
teuluoedd. Am fwy o
wybodaeth ffoniwch (01248)
722966.